Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CENHADAETH LANCASHIRE.

News
Cite
Share

CENHADAETH LANCASHIRE. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH LLOYD WILLIAM HUGHES. "Erys, er i'r gweithiwr farw, Ei lafurwaith ef Son am dano mae pob erw Wrth y nef."—ELFED. Prydnawn Sadwrn, Mai 4ydd, oddentn 5 o'r gloch, tra yn dilyn ei orchwyl yn an o'r glo- feydd, cyfarfyddodd Mr Lloyd W. Hughes, 212, Ramford St. eet, St. Helens, a damwain echryslawn. Estynodd ei gydweithwyr iddo ar unwaith bob cynorthwy a allasent hwy roddi i esmwythau ei ddoluriau, a ohludasant ef yn uniongyrchol i'w gartref i fod yn ngofal ei berthYDtlsan a'i gyfaillion ond yr oedd y tar- awiad a gafodd yn ei ben wedi ei niweidio mor .fawr fel ag yr oedd yn hollol anymwybodol o'i aefylifa, ac yn gwbl annheimladwy o ddim a wnelai neb iddo. Ac er iddo fod yn ei dy am chwech neu saith awr yn cael ei wylio gan Wraig serchus a chyfeillion ffydd!on, yr oedd wedi ei dafla yn rhy bell i ffordd marwolaeth, fel nad allodd cyn gadael yr anial yn lan ddyweyd cymaint a "goodbye" wrth yr un o honynt. Yr un diwrnod. oddeuta 11 o'r glooh y nos, yn mhresenoldeb ei briod a dau nen dri o'i gyfeillion a'i frodyr crefyddol, daeth ei ddaearol daith i derfyniad, yn yr wyth- fed flwydd ar hugain (28) o'i oedran, ac u ehedodd ei ysbryd at Ddaw, yr Hwn a'i rhoes." Collodd Cenhadaeth Lancashire trwy farwol- aeth Lloyd William Hughes un o'i dychweled- igion cyntaf a hynotaf, ac amddifadwyd yr •eglwys genhadol yn St. Helens o un o'i hael- odao ffyddlonaf. Ymunodd a'r achos yr adeg .Y cynhelid y moddion yn ysgoldy y Wesleyaid Saesonig yn Park Road, yn mhen yebydig o wythnosan ar ol ei gychwyniad. Yr oedd ei -droedigaeth yn syndod i bawb a'i hadwaenai, a daeth y cjfnewidiad a gymerodd le yn ei fywyd a'i arferion mewn canlyniad yn destyn siarad eyffredinol yn eu mysg, ac yn un o'r engreifftian godidocaf iddynt o allu gras Duw i arbed yn belaeth." Wedi i Lloyd (fel ei gelwid gan ei Rifeilliori) gael "trugaredd," ni llodd neb ei hado mwyach i droi yn ol i ymofyn pleser gau"; ond dangosodd yn eglur i bawb mai teytnas Ddow ydoedd prif nod ei ymgais, sc mai ar "hyfryd wleddoedd Seion" yr oedd ei fryd. Gan ei fod er yn fachgen yn ddyeithr 1 ddylanwadau Uesol a dyrchafol moddion gras, ac wedi treulio tymor haa ei fywyd i *edeg ar ol oferedd, nid eedd yn gymhwya pan wiodd at grefydd i ymgymeryd a dim gwaith a ofynai am ddawn ymadrodd a helaethrwydd gwybodaeth er ei gyflawni, a gwyddai ef ei hunan yn ogystal a neb fod arno eisiau dysgu iddo beth ydoedd egwyddorion dechreuad ym- adroddion Duw ond er hyny ni fynai fod yn segur yn y winllan, a dysgwyliai yo barhaus am rywbeth a allai efe ei wneuthur er mwyn yr achos. Gwyddai fod IIawer o swyddi yn yr eglwys nad allai ef mo'u eyflawni; ond credai y gallai yntau hefyd fod o rhyw wasanaeth, a pha waith bynag a ymddiriedid iddo efe a'i cyflawnai o wir ewyllys ei galon ac a'i holl egni. Nid oedd dim yn ei olwg yn rhy isel ao anoghyhoedd i'w cyflawni ganddo er mwyn Achos yr Arglwydd; ond ystyriai ei bod yn fraint iddo i gael glanhau y capel a chadw y drws yn Nhy Ddnw." Y gwaith olaf ydoedd yr un a gyflawnai ar ddiwrnod bythgofiadwy agoriad y capel newydd yn Ramford Street, pan y dygwyddodd i un o heddgeidwaid y dref fyned heibio, yr hwn yn yr olwg ar Lloyd yn ei iawn bwyll a'i ddillad, a'i olwg mor barchus a neb yn y fro, ac yn ymddangos wrth ei fodd yn cadw drws Ty yr Arglwydd, a alwodd ato un a adwaenai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ym- ofynodd yn fanwl ag ef yn nghylch y cyfnew- idiad oedd wedi cymeryd lie ynddo. Synai yr heddgeidwad glywed am y gwellhad yn ei fywyd a'i arferion, ac wedi datgan ei lawenydd a'i ddiolchgarwch, efe a ychwanegodd ei fod ef a'i gydswyddogion wedi cael llawer o drafferth gydag ef yr adeg yr oedd yn byw yn afradlon, ala bod. ar ol ei gareharn yn gorfod troi i'w cartrefi yn ami o dan en cleisian He would not be controlled. Tystiolaeth yr un gwr am dano ar ol ei farwolaeth, wedi gwyliadwriaeth fanwl o'i symudiai yn barhaus, ydoedd ei fod ar ol ei droedigaeth mor bynod am ei ddaioni, ag ydoedd yn flaenorol am ei ddrygioni, a phriod. olai y cyfnewidiad bendithiol a gymerodd le ynddo yn gyfangwbl i waith y Genhadaeth Gymreig. Yr un modd y tystiolaetha eraill a diau fod eu tystiolaeth oil yn wir. Gailaf fi yn awr, ebai ei wraig, gadw oartref cysurus, wedi i Lloyd droi. Yr oedd Mr Lloyd W. Hughes, ar gyfrif gwirioneddolrwydd ei droedigaeth, a tbrwy ei gynydd graddol, ond gwitioneddol, a sicr, mewn gras a gwybod- aeth o'r Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, yn cael ei gyfaddasu i gylchoedd uwch o wasanaeth yn yr eglwys. Yr oedd er's tro cyn ei farwolaeth wedi cael un o ddosbarth- iadau pwysicaf yr Ysgol Sabbothol o dan ei ofal. Yr oedd hefyd yn uu o ymddiriedol- wyr y capel newydd. Llanwai y safleoedd hyn yn deilwng o un yn ngwasanaeth y gwir a'r bywiol Dduw. Dichon y bydd yn ddyddorol i lawer i gael gwybod un o ba barth o Gymra ydoedd Lloyd W. Hnghes. Ganwyd ef, yn ol a glywais, yn rhywle yn nghymydogaeth Ffeatiniog. Mae ei dadyn trigianu yn awr yn 40, Church St., Blaenau Ffestiniog. Mae brodyr iddo hefyd yn byw yn Lord Street, Blaenan, yn Cwm Penmachno, a Llysfaen. Gadawodd Lloyd ei gartref yn bur ieuanc, a bu yn trigianu am rai blynyddoedd yn Nehendir Cymru. Yr oedd wedi ymsefydlu yn St. Helens er's rhyw gymaint o amser cyn sefydliad y Genhadaeth Wesleyaidd Gymreig yn Lancashire, ae wedi hynodi ei hunan yma fel yn Neheudir Cymru trwy ei fywyd afradlon a dilywodraeth. Yr oedd yn an o'r dynion cryfaf o ran ei gyfan- soddiad corfforolag y gallesid ea cyfarfod yn unman, a phan o dan ddylanwad y diodydd meddwol cai pwy bynag a ymosodai arno deimlo pwysau ei ddyrnau mawrion yn diagyn arno fel bariau heyrn, a theimlai yr oil mai mewn dianc o'i afaeliou mor faan fyth ag y byddai yn bosibl, yn nnig, yr oedd eu diogelwch. Mewn claddedigaeth Oymro yn mynwent Parr, St. Helens, y gwelaia i ef gyntaf, ac yn ystod yr ymddiddan a gefais gydag ef yr adeg hono, wedi parotoi fy flordd i son wrtho am angen ei enaid, gofynais iddo a fyddai efe yu arfer myned i foddion gras, &c. Na fyddaf," meddai yntau, yr wyf yn gweithio bob Sabboth." Pa fodd bynag cyn ei adael, wedi dyweyd wrtho fy mod yn adwaen ei frawd yn Nghwm Penmachno, a fy mod yn meddwl ei fod yn beth posibi fy mod i ac yntau yu berthynasau, gan ein bod i'n dau yn dyfod o Sir Gaernarfon, ae yn hiliogaeth yr Huwsiaid, addawodd geisio cael rhywon i gymeryd ei Ie yn y gwaith y Sul dilynol, fel y gallai fyned yn 01 fy nghais i'r moddion Cymreig yn ysgol- dy Park Road. Cyflawnodd ei addewid, a phenderfynodd fyned i'r mo idion drachefn y Sabboth dilynol, pryd yr arosodd yn y seiat yn ymofynydd pryderus am iachawdwriaeth. Glynodd wrth yr achos byth er hyny. Cost- iodd yn ddrad iddo i orchfygu y cbwant am ddiod feddwol oedd wedi ei magu yn ei gyfan- soddiad, ao i dori ei gysylltiad a hen gym- deitbion ei fywyd afradlon; ond Uwyddodd yn nghymhorth gras Duw i wneyd hyny yn hollol. Yr oedd Lloyd wedi iddo gael ei ddwyn gan Ysbryd Duw i weled drwg pechod yn gwerth- fawrogi yn fawr bob cyfarwydd|d iddo i fyw yn well, a bu ei waith yn ddiymdroi yn IIwyr. ymwrtbod a diodydd meddwol, yn rhoddi heibio yn hollol ddilya ei hen gwmni, ei arferiad gyson a rheo!aidd yn gweddio yn y dirgel, ao yn darllen y Beibl, a'i ffyddlondeb diball yn mhob moddion crefyddol, yn gynorthwyon digonol iddo i ddal ei dir yn ngwyneb pob caledi, ac er gwaethaf pob ymosodiad oddi- wrth y byd, y onawd, a'r diafol Un Sabbotb, pan gyda mi a brawd ffyddlon arall yn myned o dy i dy i geisio deffro esgeulnswyr moddion gras, mewu un o'r tai, yr oedd nifer o ddynion ieuainc o "Sir Gaer- narfon wedi cydgyfarfod, a cbyn i ni eu gadael, gyda'r amean o'u dwyn i weithredu fel y ceisiwn i ganddynt, Ie," meddai Lloyd yn sydyn, ond gyda'r difrifoldeb mwyaf— Ie," meddai, gwrandewch arno fo hogiau, mi ddarfu i mi wrando arno, a gwyddooh i gyd fel yr wyf fi wedi gwella." I ddangos mor llwyr oedd y gwellhad a gafodd, mor drwyadl ydoedd ei droedigaeth, ac mor sier ydoedd ei gynydd mewn gwir fywyd ysbrydol, oyfeiriaf at ei ymdrech egniol i dalu dyledion dyddiau ei fywyd afradloa. Yr oedd yn talu cyfran yn wythnosol tuag at hyn er adeg ei droedig- aeth. Ac wythnos eyn ei farwolaetb, yn nhy an o'i frodyr crefyddol, dywedai nad oedd ganddo ond ychydig syllfcau eto na byddai wedi cwblhau y gwaith anymuool hwnw o dalu ei hen scores! Cafwyd yn mhlith ei bapyran ysgrifenedig yn mhen yohydig o ddyddiau ar ol ei farwo'aeth y penill canlynol o emyn y Parch H. Bonar, wedi ei ddifyna a'i ysgrifenu yn ei gof-lyfr ganddo ef ei hun :— I was a wandering sheep, I would not be controlled But now I love my Shepherd's voice, I love, I love the fold. I was a. wayward child, I once preferred to roam; But now I love my father's voice, I love, I love his home." Mae yn amlwg ei fod yn canfod yn y penill ddesgirfiad o hono ei hunan, cyn, ac ar ol ei droedigaeth, ac yr wyf yn sicr fod y rhai a'i hadwaena5 yn cydsynio ei fod yn un hoUol gywir, ao fod yn anmhosibl cael ei welt. Claddwydef yn| eglwys Parr, dydd Mer- cher, Mai 8fed. Galwyd fi at y gorchwyl pruddaidd hwn o Golwyn Bay, ar nn o brif ddyddiaw y Cyfarfod Talaethol. Yr oedd ei ddosbarth yn yr Ysgol Sal yn cydge dded yn yn y cynbebrwng, ac yn tynn sylw cyff. redinol. Cludwyd ei weddillioa marwol i dy ei hir gartref ar ysgwyddau deaddog o aelodau eglwys a ohynnlleidfa y Capel Cen- hadoJ:Wesleyaidd Cymreig yn St." Heleen Cafodd glsddedigaeth barchus yn mhresn.- oldeb tyrfa fawr o'i gydwladwyr, a dywedir eu bod wedi oario dylanwad mawr, nid ar y Cymry yn nnig, ond hefyd ar Saesoo a Gwydd- elod mwyaf anuwiol y He. Cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol iddo yn nghapel Ramford Street, nos Sabbotb, Mai 19. Yn ystod y gwasanaeth oanodd y cor y rhangan gysegredig, Enaid on, mae dyfroedd oerion," gan Isalaw, a chanodd Mrs Williams, Parr, hefyd yr emyn," I was a wandering sheep," gyda dylanwad mawr. Testyn y breg- eth ydoedd Luc xv. 5 "Ac wedi iddo ei chael efe a'i dyd hi ar ei ysgwyddau e? hun yn llaweo," a Datguddiad xiv. 5 u Canys difai ydyntgerbron goraeddfaino Do w." Llawen- hawyd y pi-agethwr a'r eglwys yn fawr ar y terfyn wrth ganfod "¡lib afradIon" araU yn troi ynol i" dy ei Dad." Mae nifer y gwir ddychweledigion yn ystod yr wythnosan di. weddaf ar faes y Genhadaeth Gymreig wedi bod mor iiuosog ag y bnont yn yr an eyfnod er cychwyniad y symadiad. Sicrhawyd fi y Sab- both diweddaf gan un oedd yn y fantais oreu i ffarfio barn ar hyny, fod y gwellhad mwyaf dymunol yn ymddygiadau y Cymry yn St. Helens yn gyfilredinol, er adeg sefydliad y Genhadaeth Wesleyaidd yn eu mysg a Bicrhai un arall, gyda'r difrifoldeb mwyaf wrth ddiolch j'r Arglwydd am droedigaeth Lloyd W.Hughes, fod Cenhadaeth Lancashire wedi gwneyd eisoes lawer mwy o ddaioni na gwerth yr arian sydd wedi eu gwario ami! Ni a wyddom yn wir fod yr Arglwydd gyda ni, ao yn -arddel ein gwaith. Ond 0, paham y goddefa Wesleyaid Cymru i ni gael cyfyngu arnom oherwydd diffyg cymorth arianol yn ein hymdrech i'w gario yn rnlaen ? Pa bryd y gallwn ddysgwyl cymorth teilwng oddiwrth y rhai hyny o'n oydwladwyr ag y mae yr Ar- glwydd wedi eu llwyddo ? OWEN HUGHES. 17 Deacon Road, Widues.

Advertising

-------'---------.---NODIADAU…