Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

DADWADDOLIAD YR EGLWYS.

News
Cite
Share

DADWADDOLIAD YR EGLWYS. Cyrhaoddwyd y drydedd adran o Fesur yr Eglwys Gymreig yn Mhwyllgor Ty y Cyffredin nos Lun, ao o bosibl pasiodd sefyllfa dra cbyfyng oherwydd agwedd y blaid Eglwysig. Egyr yr adran hon y rban hono o'r mesur sydd yn ymwneyd a dadwaddoliad; 9C o dan yr adran hon cynygia Mr Asquith d.usglwyddo i dri o Ddirprwywyr Eglwysig yr oil o eiddo yr Eglwys yn Nghymru, ac eithrio gwaddoliadau preifat a roddwyd ar ol y flwyddyn 1703. Dymuna Mr Lloyd George newid y swyddogion hyn am Gyngor Cymreig cyfansoddedig o gyn- rychiolwyr o'r gwahanol Gynghorau Sirol yn y Dywysogaetb, ac y mae ei awgrymiad yn cyf- arfod a chydymdeimlad y rhelyw o'r aelodan, Cymreig. Ni wyddys pa gwrs a gymer Mr Asquith gyda golwg ar y gwelliant. Dichon y bydd ei gydymdeimlad i jraddau pell o'i blaid, canys os gellir ei wneyd yn gynllun dyogel a gweithiadwy y mae iddo y fantais o fod yn fwy democtrataidd na'r trefniant yn y mesur, ac o ganlyniad yn fwy tebygol o weithredu mewn cydgordiad a dymnniadau a dyheuiadan y Cymry. Byddai yn rhan o waith y Ddir- prwyaeth i drefnu cynlluniao i wneyd y def- nydd goreu o'r gronfa a osodir dan ea gofal, gvda'r eithriad o'r degwm. Rhaid i ddwy ran o dair o'r arian hyny o leiaf gael eu defnyddio i hyrwyddo addysg gelfyddydol ac uwchraddol, yn eynwys sefydliad darlleufa, amgueddfa, neu ysgol geifyddydol. Ac y mae yn ddiaheu y cerir yr ameanion hyny allan yn fwy trwyadl gan gynghor oynrychioliadol Oymreig na chan y tri dirprwywr a enwir gan Mr AsquitbJ 'Does genym ddim i'w ddywedyd am Syr Algernon West, yr Anrhydeddus H. W. N. Bruce, na'r Milwriad Hughes, Ystrad. Wyddom ni ddim am y boneddwr blaenaf a enwyd; cacamyrail ond ei fod yn fab i Arglwydd Aberdare. Am y trydydd gwyddom ei fod yn foneddwr parchus o Ddyffryn Clwyd, yn byw yn Ystrad, Dinbych. ac yn brif oruchwyliwr i Syr Watkin W. Wynn, o Wynnstay. At hyny gwyddom ei fod yn wr o allu meddyliol cryf, ac yn foneddwr egwyddorol a chyfiawn.' Ond ar yr un pryd nis gallwn yn ein byw I gredu y gall y tri wyr hyn, yn ol anian pethan, gyflawai ygoruchwylion a fwriedir iddyntdan y Mesur gystal a chan gorfE etholedig Bydd mewn cysyiltiad agos a'r farn gyhoeddus. Addefir hyny, yn ymarferol, yn y Mesur ei huo, pan y darpara allu i'r Dirprwywyr gyflwyoo un- rhyw ran o'r arian at ddjbenion y Brifysgol Gymreig, neu i "bwyllgor unol o Gynghorau Sirol Cymru a Sir Fynwy." Felly os ydyw rhagoriaethau y corff etholedig yn y wedd hon yn amiwg pan y penodir y Ddirprwyaeth gan Lywodraeth gyfeillgar i hawliadau cenedlaeth- ol Cymru, beth tybed ellir ddysgwyl pan y daw i ran Llywodraeth Doriaidd i lanw gwagle yn eu mysg ? Rhaid, modd bynag, cofio mai nid rhano yr adau a ddeidiaw oddiwrth ddad- waddcliad yr Eglwys ydyw yr unig orchwyl fydd gan y Ddirprwyaetb i'w chyfiawni. Rhaid iddynt hefyd weithredu i raddau yn farnol, gwaith ag yr ymddengys corff ethol- edig ar un wedd yn anghytnwys i'w drin. Un o'u goi ucbwylion cyntaf fydd penderfynu j pa faint o'r gronfa drosglwyddir iddynt a ¡ gynwysa waddoliadau preifat. Bydd ganddynt y gallu i benderfyou pob cweatiwn, pa an < bynag ai o gyfraith neu o ffaith, a gyfyd o dan weinyddiad y ddeddf. 0 dan yr amgylchiadau y mae yn anhawdd credu fod y blaid eglwysig yn gywir eu hamcan i gefnogi Mr Lloyd George pan y cynygiai fod gorQchwy'ion o'r natur hyn yn cael eu trosglwyddo i gorff etholedig. Ond os ydynt yn gywir yn yr arddangosiad hwn o ymddiried yn y Cymry, diau y gellir trefnu ar gyd-ddealltwriaeth rydd iddynt yr arolygiaeth boblogaidd yr ymddang- osant mor awyddus i'w chael; ae hefyd sicr- hau y gofalwch y mae Mr Asqaith, fel gwiad- weinydd cyfrifol, yn rhwym o'i hawlio. Diau na fydd gan yr Ysgrifenydd Cartrefol unrhyw wrthwynebiad i drosglwyddo goruchwylion gweinyddiadol syml y Ddirprwyaeth Gymreig i Gyngor Cymreig, gan neillduo cwestiynan o natur farnol i'r Dirprwywyr Rhoddodd Mr Asquith, yn wir, ar ddeall y rhoddid ystyriaeth i deimladaoj yr aelodan Cymreig pan ddelai y nawfed adran o'r mesur dan ymdriniaeth, ac ar hyny awgrymodd Mr Lloyd George dynu ei welliant yn ol. Gwrthodai yr wrth- blaidi i'r cwre hwnw a gwasgant am ymraoiad. Gwnaed hyny, ond cariodd y Llywodraeth y dydd gyda mwyafrif o ddeg.

n_'____,.....-..--.----NODION…

RHYL.

SEFYLLFA CAPELAU TALAETH GOGLEDD…

DR. MACGREGOR, A.S., A'R LLYW.…

. BORTH.

[No title]

HEALTH, STRENGTH, ENERGY.

A BEAUTIFUL COMPLEXION.