Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ADGOFION WESLEYAIDD.

News
Cite
Share

ADGOFION WESLEYAIDD. ITEITHIATJ A DYGWYDDIADAU. VI.-1804-5. Yn Llundain y cynaliwyd Cynadlcdd 1804. Y Llywydd oedd Henry Moore, a Dr Coke yn Ysgrifenydd. Gadawyd Talaeth Gogledd Cymru fel o'r blaen. ond fod dwy gylchdaith Gymreig o'r newydd ynddi, sef Dinbych, wedi ei chymeryd o'r hyn oedd yn ffurfio cylchdaith Bhuthyn, y flwyddyn flaenorol; a Beaumaris, trwy fod sir Fon wedi ei chymeryd oddiwrth Gylchdaith Caernarfon. Fel y canlyn yr oedd y stations yn y Dalaeth y flwyddyn hono, wedi gadael allan gylchdeithiau Seisnig Trallwm a Gwrecsam Rhuthyn,—John Bryan, William Jones. Dinbych,—Owen Davies, Stephen Games, Robert Roberts. Caernarfon. —Edward Jones, hynaf, John Morris, Beaumaris,—John Jones, Edward Jones, ieu. Owen Davies oedd Cadeirydd y Dalaeth, ac yr oedd ei awdurdod chwanegol fel Arolygydd Cyffredinol yn parhau. γ [D.S. Gwelir fod naw o Weinidogion Cymreig wedi eu penodi i'r Dalaeth yn y Gynadledd hon, yr hyn sydd ddan yn chwanegol at rif y flwyddyn flaenorol, sef (1) STEPHEN GAMES. Yr oedd efe yn enedigol o Lanfairmuallt. Dechreuodd deithio yn y gwaith Seisnig. Daeth i'r gwaith Cymreig y flwyddyn bon, ac felly y parhaodd hyd 1807, pryd yr ymneillduodd o'r weinidogaeth ac yr ymsefydlodd yn Ninbych. Samuel Davies laf, a ddywed am dano fel hyn: Er i Mr Games roddi i fyny i bregethn yn deithiol, yn fuan wedi iddo briodi y tro cyntaf, eto nid oedd efe yn llai ffyddlon a defnyddiol o hyd yn Eglwys Dduw, fel pregethwr cynorthwyol, blaenor, &c, yn Ninbych. Nid oedd neb yn fwy parod nag efe at bob peth y deuai gal wad am dano mewn ffordd o gynorthwyo achos Dnw, yn mhell neu agos." Ac am dano fel pregethwr dywed- Nis gvm am neb a gafodd ei hofii yn fwy gan y rhan fwyaf deallus o'r gynulleidfa na Mr Games." Cymerwyd ef yn glaf pan yn dych- welyd adrcf o Landyrnog, wedi bod yn cadw ei blan yno am ddau o'r gloch Sabboth, Hyd. 17, 1814; a chafodd gystudd caled am fis. Bu farw Tach. 14, pryd, meddai Mr Davies, yr ehedodd ei ysbryd ardderchog i wlad yr hedd." Cladd- wyd ef yn mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych, ac efe ond 3D mlwydd oed a phregethodd Owen Davies ei bregeth angladdol, ar Actau viii 2— A gwyr bucheddol a ddvgasant Stephan i'w gladdu," &c. (2) EDWARD JONES, ieu., sef Edward Jones, o Gorwen. Mr Jones, 'Bathafarn, oedd Edward Jones, hyn. Ar ol hyn y daethpwyd i roddi laf ac 2il &c., ar ol gweinidogion o'r un enwau yr oedd yn rhaid cymeryd rhyw drefn heblaw rhoddi hynaf ac ieu wedi i fwy na dau o'r un enwau dd'od i'r weinidogaeth. Ar- gyhoeddwyd Edward Jones, o Gorwen, o dan weinidogaeth John Bryan yn 1802. Bu raid iddo, o herwydd gwaeledd iechyd, fyned yn nwchrif yn 1815, heb lafurio ondun flynedd ar ddeg. Bu farw, gan ymorphwys ar y Ceidwad, yn Wyddgrug, Ebrill 15, 1838. Ymddengys ei fod yn bregethwr da; a bu yn dra Ilwyddianus, cyn i'w iechyd dori i lawr. Yr oedd o duedd enciliedig ac hynod o anymhongar. Methasom a chael fod cofiant iddo wedi ei ysgrifenu. Gwelir nad yw enw John Hughes yn y stations uchod. Yr oedd efe wedi ei benodi yn genadwr Cymreig yn Liverpool, a John Bryan- wedi dyfod i Gymru. Ar ol y Gynadledd, ond cyn diwedd y flwydd- yn 1804, galwyd dau arall allan, sef William Batton a Griffith Owen.] Rhif yr aelodau ar y cofnodau am y flwyddyn hon sydd fel hyn :-Rhuthyn, 991; Caernarfon, 718 yn gwneyd cydrif, o 1709-cynydd o 365. Ar ol y Gynadledd y flwyddyn hon aeth Owen Davies a John Bryan ar daith tua'r Deheu, er mwyn agor lleoedd newyddion. Cychwynasant i'r daith hon Hyd. 25, ac wedi myned trwy dymhestl fawr cyraeddasant i Lau- silin, lie y pregethodd Mr Bryan i eneidiau tlodion oeddynt yn ymdroi mewn ty wyllwch," ond er hyny yr oedd ganddynt duedd i wran- daw. Aethant yn mlaen i Lanrfyaiadr, Llan- fyllin, Llansantffraid-yn-Mechain, Meifod, Caersws, Llanidloes, a Threfeglwys ac aethant oddi yno i Aberystwyth. Z- [D.S. Nis gellir bod yn sicr iddynt bregethu yn Llansantffraid. Tybiwn na wnaethant. Yn Meifod, pan bron iawn wedi digaloni, daethant i wvbod fod yn y dreflan hono dri oeddynt yn aelodan gyda'r Wesleyaid yn y Deheudir; ac mewn canlyniad cafwyd lie i bregethu, a phregethodd Mr Bryan "i bobl astud iawn." Credwn mai Seison oedd y tri hyn, sef yr excise- man, a'i wraig. a'i dad. Cafwyd odfa neillduol iawn yn Nghaersws ac amser dedwydd iawn yn Llanidloes a Threfeglwys. Nid ydym yn deall i Mr Davies bregethu ond yn y ddan le diweddaf. Gwnaeth hyny yn y lleoedd hyn deir- gwaith yn Saesneg,] Yr oedd Edward Jones (Bathafarn), a William Parry wedi cyraedd Aberystwyth o iflaen Owen Davies a Bryan; ac yr oedd un o honynt yn pregethu yn yr ystafell fawr berthynol i'r lluesty a elwir Talbot, yr hon:oedd yn llawn o wrandawyr." Pregethwyd yno dranoeth dra- chefn am ddeg, dau, a, chwech. Cafwyd cyfar- fod mawr yno felly hob ei ddisgwyl. Nyni- a bregethasom saith o bregethau yno," ebai Mr Bryan, Felly y bu ymweliad cyntaf y preg- ethwyr Wesleyaidd a thref Aberystwyth. Cafodd Jones, Bathafarn, a William Parry daith lwyddianus o Gaernarfon trwy Feirionydd j Aberystwyth Ni chanfyddais," ebai Mr Jones," yn fy mywyd gymaint o ffafr Duw tuag I ataf ag yn y daith hon." Cawsant odfa fyth- gofiadwy yn Nolgellau. [D.S. Yr oedd William Parry yn enedigol o Landegai. Yr oedd yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd cyn dyfod y Wesleyaid i'r ardal hono. Mabwysiadodd olygiadau ath- rawiaethol y Wesleyaid a chredwn iddo gael ei alw i gyfrif am hyny, ac iddo mewn can- lyniad ymuno a'r Wesleyaid. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd ac effeithiol. Ni bu yn y weinidogaeth o gwbl. Cafodd ei erlid allan o'r hen ardal mewn canlyniad i anghydfod a fu rhwng gweithwyr chwarel Caebraichycafn a'r goruchwylwyr; ac felly bu am flynyddau ar grwydr yn yr Iwerddon, a manau ereill. Ond cafodd ryw flwyddyn a haner yn niwedd ei oes yn ei hen ardal drachefn ac yno, yn y flwydd- yn 1841, y bu farw, gan roddi tystiolaeth ei fod, ar ol y tywydd garw i gyd, yn cyraedd glanau yr hyfryd wlad.] Wrth ddychwelwyd o'r daith hon bu Owen Davies a John Bryan yn agor capel Llangynog. Ymwelsant hefyd a rhai o'r manau y buont ynddynt o'r blaen; ac agorasant rai lleoedd newyddion. [D.S. Adeiladwyd cryn nifer o gapelau y flwyddyn hon. Ceir y capelau canlynol yn y daflen a wnaeth John Williams (2il)—Llan- gollen, LIanelidan, Mwnglawdd, Brymbo, Llandrillo (Edeyrnion), Llanrwst, LlysEaen, Abergele, Llaneurgain, Niwbwrch, Capel Tyddyn, ac Aberdaron, heblaw Llangynog.]

SEFYDLIAD BEIBL GYMDEITHAS…

ANEFFEITHIOJiRWYDD Y GALLU…

(!1:yffrtbiuD1.

----Lladrad Beiddgar o JLiythyrgod.

Tan arswydus ar Agerlong.

HEN ADGOFION.