Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

NODIADAU CYFUNDEBOL.

News
Cite
Share

NODIADAU CYFUNDEBOL. *:j(:* "Wythncs i nos Sabboth diweddaf, preg- ethodd yr enwog Mr R. W. Dale, M.A., yn nghapel y Wesleyald, Bristol Road, Birmingham i gynulleid fa a orlenwai yr addoldy. Gwnaed casgliad o 48p. Y mae Mr Dale yn coleddu syniadau uchel am ein Cyfundeb, ao nid oes arno OfD na cbywilydd eu llefaru. Gwelwn fod y Conference Office, Llundain, wedi cyhoeddi y Fernley Lecture ddiweddaf, sef eiddo y Parch Frederick W. McDonald. Testyn y ddarlith rhagorol hon ydyw The Dogmatic Principles in Relation to Christian BeliefY mae y Reviewers yn rhoddi canmol- iaeth uchel iddi. Y mae i'w chael am swllt— mewn Ilian deuswllfc. Nos Wener diweddaf cynaliwyd Conven- tion bwysig iawn yn gynwysedig o weiaidogion, awyddogion a Christian Worlters perthynol i'r «* First London District" o dan arweiniad y cyn-lywydd Jenkins. Yr oedd y cynulliad yn lluosog iawn, achafwyd cyfarfodydd bendigedig Yn y cyfarfod prydnawnol cafwyd anerchiadau gan ddwy foneddiges, sef Mrs P. W. Bunting, a Mrs W, L. Williams dilynwyd hwy ag anerch- iad gan y Parch R. Culley, ar Circuit Tem- perance Work; siaradodd Mr S. D. Waddy, Q.C., ar"How to improve our ordinary Religious Services;" a'r Parch W. H. Booth, ar Open air and Mission Services. Hyderwn y cyhoeddir yr anerchiadau dyddorol ac amserol hyn fel ag y ca miloedd Wesleyaid y deyrnas gyfleusdra i'w darllen, a gweithredu yn ol eu hawgrymiad- au. »I: »I: Gyda llaw, yr oedd yn hyfryd genym weled oddiwrth circular a anfonwyd i ni, y cynelir yn Nghapel St. Paul's, Aberystwyth, yr wythnos hon, (ar y dyddiau Mawrth a Mercher) Gynadledd (Convention) er Hyrwyddo Adfyw- iad Crefyddol;" ac y mae y materion dewisedig i bregethu a siarad arnynt yn rhai o ddyddordeb a-phwysigrwydd arbenig: "Tywalltiad yr Ys- bryd Glan" (pregeth gan y Parch D. Degar Evans); Portread y Testament Newydd o Grist- ion Gweithgarwch Crefyddol yn rhwymedig ar bob Aelod Eglwysig;" "Y Ddyledswydd o Ddarllen y Beibl yn Gyson a Meddylgar;" a Mawredd Cyfrifoldeb gwrandawyr Anufudd yr Efengyl yn yr oes hon." Llywyddir y cyfar- fodydd gan Gadeirydd y Dalaeth Ddeheuol (Parch David Young), ac heblaw amryw wein- idogion o gylchdeithiau eraill, bydd nifer o leygwyr parchus yn cymeryd rhan yn y cyfar- fodydd. Mawr lwyddiant fyddo i'r Gynadledd hon, medd ein calon. Yr ydym yn llongvfarch gweinidogion cylchdaith Aberystwyth (y Parchn John Griffiths a John Davies) ar eu gwaith yn trefnu cynadledd mor bwysig i s.m.canion mor deilwng. Yn y rhifyn diweddaf o'r Edinburgh Quarterly ymddangosodd erthygl feistrolgar ar "Methodism," yr hon sydd wedi atdynu cryn lawer o sylw fel darn o feirniad-vraith annibynol. Dywodir gan awdurdod y gellir dibynu arno mai awdwr yr erthygl ydyw y Parch Frederick E. Toyne, yr hwn sydd, neu ydoedd hyd yn ddi. weddar iawn yn gurad yn Mudeford, yn esgob- aeth Winchester. llwyrach fod rhai o'n dar- llenwyr yn cofio ddarfod i Mr Toyne (yr hwn sydd fab i weinidog Wesleyaidd) ymadael a'r weinidogaeth Wesleyaidd ryw bedair blynedd yn ol, ag ymuno ag Eglwys Loegr ac er nad oedd efe ar y pryd yn bregethwr poblogaidd," fel y dywedir, cydnabyddid a pherchid ef fel dyn o chwaethau ysgoleigawl ac o gymeriad uchel; a diameu ped arosasai yn y weinidogaeth Wesleyaidd, y cyraeddasai i'r gadair lywyddol mewn oedran cynarach nag ambell un. «< Y Parch Charles Garrett ydoedd y prif siaradwr ar ddirwest yn un o gyfarfodydd yr "Evangelical Alliance," yr hon a gynaliodd ei gwyl flynyddol yu Liverpool yn ddiweddar, ac ar brogram swyddogol yr hon, am y tro cyntaf erioed, yr ymddangosodd y cwestiwn dirwestol. Gwnaeth Mr Garrett argraff ddofn yn ystod y ddwy araeth a draddodwyd ganddo, yn enwedig yn nghyfarfod y boreu, yr hwn nid anghofir yn futin gan y rhai oeddenc bresenol. Dywedodd Mr Garrett ei fod bellach yn llwyrymwrthodwr er ys dros ddeugain mlynedd, a thystiai i ddir- fawr lesoldeb llwyrymataliad. Uddiwrth yr hyn a ddywedodd Mr Garrett, ymddengys fod Liverpool ei hun, yn gwario am ddiodydd meddwol mewn chwech wythnos, tua thri chan mil o bunau, sef gymaint a chyfanswm y Drys- orfa. Ddiolchiadol, ar ol tair mlynedd o lafur mawr i'w casglu! Y mae y syniad yn un difrifol tu hwnt desgrifiad Ar yr ail dydd o'r mis hwn, yr agorwyd n yn ifurfiol y New Theological College," Bir. mingham, meini coffadwriaethol pa un a rodd- wyd Mehefin 9, 1880. Y mae y coleg hwn yn adeilad mawr a hardd, a'i hull ddat,pariaethau a'i gyfleusderau yn gyflawn. Y mae ynddo eisoes ddeugain o efrydwyr, ond y mae yno le i ddeg a. thriugain, heblaw preswylfod i'r Head Governor, pedwar o dai gwahanedig i'r tutors, gyda'r ceginau, a'r ystafelloedd angenrheidiol i'r gwasanaethyddion. Yn gysylltiedig a'r coleg drwy dramwyfa orchuddiedig, y mae infirmary ar gyfer achosion o aflechyd a ofynent am neillduad. Trwy yr oil y mae agos i ddau cant o ystafelloedd, yn cymeryd i fyny tua o phum acer, ac y mae y site tua. dwy acer ar bymtheg o hyd. Y mae'r gost tua 40,000p, acy mae y modd y cwblhawyd y gwaith yn ad- lewyrchu credit mawr ar yr archadeiladwyr, yr adeiladwyr, a'r arolygwyr. Agorwyd y coleg hwn yn ddi-ddyled. Y gweinidogion canlynol sydd wedi eu hapwyntio yn swyddogion trigian. ol:—y Parch John Hartley, Governor; y Parch Robert Newton Young, Classical Tutor; Parch F. W. Macdonald, Theological Tutor a'r Parch W. Erster, Mathematical Tutor. Ar ddydd yr agoriad crybwylledig, traddodwyd yr anerchiad (inaugural) gan y Parch George Osborn, D.D., Llywydd y Gynadledd. Yn-ystod y luncheon, traddodwyd anerchiadau dyddorol iawn gan amryw weinidogion a lleygwyr enwog ond arwr yr anerchiadau hyn ydoedd Mr R. W. Dale, Birmingham, yr hwn a siaradodd yn hyawdl a dyddorol angbyfEredin. < Da genym weled yn mhlith y "Seleä Literary Notices" sydd yn y IVesleyan Method- ist Mayazine," am y mis hwa adolygiad cymer- adwyol i'r gyfrol o eiddo ein cydwladwr enwog y Parch John Evans (Eglwysbach), Llundain, ar John Wesley Ei fywyd a'i Lafur." Fel hyn y dywed yr adolygydd :— This is the first complete biography of Wesley in the Welsh language. We congratulate Mr Evans upon his successful effort to supply the want, and we congratulate the Welsh people upon possessing in their own tongue so concise and so comprehensive a history of the Founder of Methodism The book is nicely printed on toned paper, and oontains several portraits and illustrations which are, on the whole, tolerably well executed." Y LLYRFBRYF WESLEYAIDD.

- PETHAU 0 BELL AC AGOS.

FFYNONGROEW,

LLANDILO.

TOWYN.

BAGILLT.

bootle.

DECHREUAD ADFYWIAD.I