Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR. DAVID EVANS, GARTH. Bu farw Mr. David Evans (gynt o'r Garth, ger Llangollen) yn nhy ei fab a'iferch-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. John Evans, Mile End, Aerfair, foreu ddydd Iau, yn 81 mlwydd oed. Brodor o Bont- newydd, Caernarfon, oedd yr ymadawedig, a dilledydd wrth ei alwedigaeth. Nodweddid ef a hynodion neillduol. Archodd gael ei gladdu yn ei ddillad goreu, gyda choler am ei wddf, hosan- au ac esgidiau am ei draed, a'i gap sealskin am ei ben; yr oedd ei getyn a'i lawffoa hefyd i gyd- fyned ag ef i'r bedd. Yr oeddynt i'w gladdu yn agos i'w enedigol fro, a rhoddwyd siars ar gyfaill i ofalu na adewid yr arch ar ol ar blatfform Caer wrth newid y tren. Hebryngwyd y corph i orsaf Aerfair gan y perthynasau a nifer o gyfeillion. Yn mynwent Llanbeblig gweinyddwyd gan y Parch. Lewis Williams (A.), Bontnewydd. Yr oedd Mr. Evans yn adnabyddus iawn yn ardal- oedd Llangollen a'r Cefn. Gadawodd ar ol mewn galar ddwy ferch a phamp o feibion. BWRDD UNDEB CORWEN. Ya ngbyfarfod dydd Gwener, o dan lywydd- iaeth Mr. Joseph Nanson, darllenwyd llythyr yn cydnabod etholiad Dr. Horatio E. Walker yn llywodraethwr Ysgolion Sirol Bala yn lie y diweddar Dr. Jones, Corwen. Ysgrifenodd Arolygydd Cwmni y Great Western i ddweyd y bydd o hyn allan docynau rkd o Orsafoedd Trevor a Berwyn i Gorwen bob dydd Gwener. Gwnaed sylw o adroddiad cyfarfod a gynhaliwyd jgn^JSghaer yn ddi w ed dar mewn jpertbynas a'r crwydriaia, a phexioilwyd pWyllgor i yr • awgrymiadau a roddwyd, a dyfod ag adroddiad pellach i'r Bwrdd. Mabwysiadwyd peuderfyniad oedd wedi ei basio gan WarcheidwaidUndeb Madeley yn ffafr gorfodi merched sengl a ddelo i'r tlottai i roddi genedigaeth i blant anghyfreith- len i aros yno am dymhor heb fod dros ddeuddeg mis 0 ddyddiad genedigaeth y plentyn. Pasiwyd yn unfrydol ofyn i Gwmni Ffordd Haiarn y Great Western redeg motor rhwng Corwen a Bettwsy- coed, fel y gwneir ganddynt mewn manau erail) o'r wlad, a gofyn i Warcheidwaid Llanrwst basio cyffelyb benderfyniad. Derbyniwyd cynygion y masnaebwyr canlynol i gyflenwi'r ty a nwyddau un yr haner blwyddyn nesaf :-Nwyddau chweg, Mri. J. Parry a'i Gwmni, Corwea cig a bara, Mrs. Humphreys, Corwen; glo, Mri. E. Jones a'i Fab, Corwen. Gadawyd y llaeth a'r ymenyn a'r dilladan byd y cyfarfod nesaf. YSBRYD PORTHMADOG 0 "FLAEN EI WELL." Achos ydoedd hwn a ddygwyd gan Mr. D Thomas, cigydd, High-street, yn erbyn Mary Hughes, geneth ieuanc, yr hon oedd hyd yn ddi- weddar yn ei wasanaeth fel morwyn. Cyhuddid hi o wneyd niwaid maleisus i'w tiddo. Ymddan- J gosai Mr. W. George dros yr erlyniad. Sylwodd Mr. George fod crya ddirgelwch wedi bod yn nglyn a'r achos yma. Er y 22ain o lonawr yr oedd Mr. Thomas yn colli cig moch a phethau eraill o'i siop. Un boreu canfyddai Mr. Thomas fod darn o faewn a adawodd yn y siop wedi cael ei daflu i'r iard, ac hefyd grawn ac yd a phethau eraill wedi eu Iluchio o gwmpas. Yr oedd y modd yr oedd y pethau hyn yn cael eu colli yn ddirgelwch i Mr. Thomas, ac yr oedd y golied oddeutu 18. Ceisiwyd cael allan pwy oedd yn aflonyddu fel hyn, a ahafwyd cynorthwy cymyd- ogion, ac yn y diwedd bysbyswyd y peth i'r heddgeidwaid. Buwyd yn cadw gwyliadwriaeth ddydd a nos, ac er hyny i gyd methwyd a chael allan pwy ydoedd y drwg weithredwr. Un diwrnod collwyd Hestr tynn o'r ty, ac yn mhen rhai dyddiau wedi hyny canfyddwyd y llestr wedi ei luchio i gefn y ty. Yr oedd ysgrifen arno rhywbetfa i'r perwyl:—>4Wedidarfod eich trwblo heuo. Yr oedd i gyd am y D- o Nantmor." Wedi i'r Rhingyll Jones gymeryd yr achos mewn llaw, ceisiodd gael allan yr ysgrifen ar y llestr, a thra yn gofyn i forwyn arall a'r ddiffynyddes yggrifenu i lawr, addefodd y ddiffynyddes iddi hi ei wneyd, ac hefyd addefodd y cwbl yn nglyn a'r cig a phethau erailL Yr oedd y golled a dder- byniodd Thomas, heblaw yr aflonyddweh, oddeutu wyth bunt; ond ni ehyhuddid y ddiffyn- yddes ond o berthynas i'r niwaid ar un diwrnod yn unig, yr 20fed o loaawr, sef 368. 6c.-Rhodd- wyd tyatiolaeth gan Mr. Thomas a'r Rhingyll Jones. Addefodd yr eneth y cyhuddiad, ac nid oedd ganddl ddim i'w ddyweyd.—Penderfvnodd yr ynaaon edrych yn dyner ar yr achos, a dirwy- wyd hi i ddeg swllt a'r costau. Yr oedd y cwbl yn gwneyd y cyfanswm o £3 5s. 6c.

CHURCH AND CHAPEL.

ANGHEN YR OES.

CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG.

Advertising

CAPEL AC EGLWYS.

HYN A'R LLALL.

Advertising

TWNEL SIMPLON.

Advertising

CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG.