Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG.I…
CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG. Mae yr Archdderwvdd (Hwfa MOn) wedi penderfyim symmud ei breswylfodo lan v Ddyfr- dwy yn Llangollen i lan y mor yn Rhyl. Mewn cy^sylitiad a chymdeifchas lenyddol Penllyn, nos Luo, traddododd y Parch. T. E. Williams, B.D., ddarlith ar y gwaith ceuhadol, yn fwy neillduol felly y genhadaeth yn Mryniau Caasia, yn cael ei hegluro gau liaws o ddarlnniau trwy gyfwng y magic lantern. Llywyddwyd gan Mr. David Griffiths, Berwyn-street, ac yr oedd y llnsern dan ofal v Mri. Edward Lettsome ac Allen Lettsome. Aeth tas geirch i IMr. H. Dennis ar dan yn Mhlas Newydd, ger Khiwabon, nos Fawrth. Arbedwydy teisi eraill gan frigad Wynnstay. .+-- Foreu Mercher, yn N ghlofa VauxbaU, codid twpaau o fawn i'r lan. Dadfachodd y rhaff oddi- wrth y cludydd, a syrthiodd i waelod y paladr gyda thrwst arawydus. Trwy drngaredd, nid oedd undyn ynddo ar y pryd. --+-- Nos Sadwrn yn Froncysvllte, bu cwest ar gorph William Williams, 37 oad, a laddwyd fore Gwener yn Xgwaith Glo Brynkinalit, drwy i bum' tunell o lo syrthio aruo. Caed mai dam- wain fu. Dadl fu gan Gymdeithas y Ford Gron (Capel Mawr Rhos), nos Wener, ar Ayw cerddoriaeth yn Maelor yn goresgryn ar draul canghenau eraill o wybodaeth." Agorwyd ar yr ochor gadarnhaol gan Mr. T. Jones, Princess-road, yn cael eu ategu gan Mri. T. Banks, Sam. Evans, A.C., W. Hughes, Church-street; Eden Pritchard, Sam. Williams, John Davies, Llew. Phillips a J. Williams. Agorwyd y nacaol gan Mr. John J. Daniels, yn cael en ategu gan Mri. Joseph Ellis, T. Sauvage, Willie Phillips, Jos. Davies, T. Phillips a D. Evans. Y cadarohaol a orfu. Cynnaliodd y Rhos a'r cylch eu carnival flyn- yddol yr wythnos ddiweddaf. Cerddodd yr orymdaith o Bare Llanerchrugog trwy y Rhos, Ponciau a Thref loan yn swn melodedd seirndyrf arian y Rhos, Penycae a Rhostyllen. Cynnigid S26 o wobrwyon am wahanol tryciadau, ac ennill- wyd y rhan fwyaf gan rai o Acrfair, Cefn a Gwrecsam, a chyfiwynwyd y gwobrwyon iddynt yn y Nenadd Gyhoeddus gan Mr. Williams, llyfrfa, Rhos. Casglwyd y swm o S22 yn y blychau. Mae tair blynedd er pan ddechreuodd y Parch Ellis Jones, Stryt Issaf, ddihoeni yn Ngholeg Didsbary. Ar annogaeth ei feddygon y cych- wynodd o'r Stryt i Dde Affrig, foreu Mercher. Yn y cyfarfod ymadawol yn Soar (Stryt Issaf), nos Fawrth, llywyddai Mr. R. Jones. Gwedi anerchiadau gan Mri D. Roberts, W. Lloyd, a'r Parch E. W. Jones, Rhos, rhoes Mr. E. Gough (ysgrifenydd) gyfrif o'r casgliad a wnaed er cyn- northwyo Mr. Jones i fyned i'r wlad bell. Yr oedd y swm yn agos i £ 30, a chyfiwynwyd hwy iddo gan Mr. T. Evans (trysorydd). Diolchodd Mr. Jones yn wylaidd i bawb am bob tiriondeb iuagato. Canodd Cor Plant v Stryt yn ystod y cyfarfod, o'dan arweiniad Mr. Gough.
CANT A THAIR BLYNEDD YN OL.
CANT A THAIR BLYNEDD YN OL. Y moe y rhestr isod yn ddyddorol fel yn dangos y modd y gwarid arian y vestries dros gan mlynedd yn ol :— Cyfrif yr hyn a dalwyd genym ni i dylodion Plwy Llanrychwyn. ger Llanrwst. a setlwyd mewn featri'a gynnaliwyd Mawrth 27th, 1799 £ s. d. Cerdod i Owen Dafydd „ ..010 Talwyd i John Hughes y Dr ar gownt Gwen Owen. 1 18 0 Am bwys o wlan i Elin Rolant .046 Talwyd am ddau bren gwely a chortyn i Dort Wms a Ellen Morris .070 I Wm. Roberts am ladd Cigfran .000 I Thos. Pierce am ladd llwynog 0 4 6 I Wm. Griffiths am fyn'd i'r Bettws ar gownt y gyfraith M. Owen .010 Am gwrw ar yr un achos 0 14 Am gwrw yn y festry, Awst y 10ed .040 Am gwrw yn festri ptto Hydref yr 20th 0 50 Talwyd tros Pierce Thomas yn y Gorlan ..026 Am a fu Pierce Thomas yn y Bwlch ..016 Talwyd ar gownt Pierce Thomas yn esgidiau ac yn amdo -.060 Am arch i Pierce Thomas 0 12 0 Yr oedd arian am bethau Pierce Thomas yn cyrhaedd 4 5 10 Am gwrw yn y festri yn amser gwethu eiddo P.Jones 0 16 0 Talwyd am ladd Cwb llwynog, Richd. Wms 0 16 Siwrnai i Gonwy ar gownt Jaae Jones 0 2 6 Am geffyl i Jane Jones.010 Siwrnai i Lanrwst ar gownt Jane Jones ..006 Am ddiod yn Lanrwst ar gownt Jane Jones 0 16 Am olchi dillad yr Eglwys .030 Am ddiod mewn 4 Vestry 0 13 7 Talwvd i'r attwrnai rhag Ifinio ffordd y Capel,Ebrill, 1801 .0 3 6 Am 3 phioled o haidd a phioled o flawd ceirch i Richard Wms 0 7 11 Am Het a 3 pheinto ddiod i Richard 0 1 R Am Esgidiau II. san an i Richard 0 q n Arian yn mhoced Richard i fyn'd i Gaer 0 10 0 Amser a goUodd y Warden i gaelllythyr i fyn d i Gaer.. 0 2 0 Am <idiod yn Llanmst yn achos y piwyf I" 0 16 Am wneyd Cloks Elin [Thomas 0 n q Am hoelion a.chortyn at yr Eglwys.! 0 2 q Talwyd am Mcms a fu yn Ngoed Gwydir.. 220 Pottel o win i'r Capel 0 t I Marged Williams am gario 4 hobed'o galch 020 Am arch ac amdo a dwy ganwyll i feroh Lowry 9 m 062 Talwyd o arian yn iws y Brenin 20 0 0 Am oppmion attwrnai yn achos gwraisr o Sir Fon ..020 Am dderbyn llythyr ac ysgrifenu llythyr ac am ddiod yn achos gwraig o Sir Fon 1 2 11 Am lythyr o Garnarvon .0 0 7 Am ddiod yn flair Trefriw n 1 n List y Milisia. 0 4 6 Am bapyr i wneyd llvfr 1 0 0 4 I Richard Owen at ddyn o Filisia ar dreth 7 0 0 Y gost yn Mhen y Bryn oi achos o ar dreth 1 11 6 Talwyd at y dyn aeth dros y 3 plwy ..282 Talwyd at y dyn aeth dros Wm. Jones,. 9 9 0 Y gost yn Ngonwy o'i achos o 1 5li Y gost yn Mhen y Bryn o'i achos o 0 3 0 I William Davies am fyn'd i Gonwy i gyflogi dyn o flilisia 0 2 0 Am ddiod yn achos y wraig aeth clros y 3 phlwy 008 Am stamp papyr ac ysgrifenu i Thos. Evans 0 3 4 Am wneyd Clocs i Thomas Evans .013 I Thomas Price am ladd llwynogod a chig- franod 0 13 6 Am 10 punt Elspeth Poulkes 0.2 0 At wragedd y Milisia aeth dros y 5 plwy 0 5 6 Am idiod ar fan achosion y plwy „ ..030 I fab Robert Thomas am ysgrifenu.10 0 9 Am ddiod ar gownt yr eneth Llanberis ..016 Am lythyr oddi wrth Griffiths Humphreys 0 0 9 Am lythyr o Lunden ac atteb yn ol. 0 2 7* Am bais a Bedgown i Gwen Daniel. 0 13 6 Talwyd treth y Cwn ar Ceffylau 1 12 q Am Glocs i Selina 0 1 6 Am gwrw yn y Festry Chwefror 3rd ..030
GOHEBIAETH.
GOHEBIAETH. CYMDEITHAS TEMLWYR DA VIWN- CYSSYLLTAU. At Olygyiid y Llangollen Advertiser." Syr,—Y mae Cymro yn «i lythyr diweddaf yn ceisio gwneyd allan fy mod yn raddol gydolygu ag of. Mor anwir. Mor anhawdd ydyw rheaymu ag un sydd ya methu neu yn gwrthod gwynebu ffeithiau fel y maent, ac wedi syrthio i'r arferiad hvll hwnw o gamliwio pethau. Os darllena fy llythyr etto, gwel fy mod. wedi nodi y ffeithiau noeth. yn gofyn Pwy a, wrthodndd. y gymdeithas neu yr ymgeisydd V Ateba pawb diragfarn mae yr ymgeisydd. Derbynia y oyfaill groesaw os daw. ac yn foddlon gwneyd fel pawb arall o'i flaen. Y dirmygn Cymro am ei fod yn tybied fy mod yn raddol gydolygu ag ef ar y peth hwn, ond camgymera unwaith eto-" os oes y fath bpth yn bod," ddywedais i. Y mae yn ymddangos fod Cymro yn gwybod y cwbl am hyny. Pwy wvr nad efe ei hun a'i gwnaeth. Hefyd, sonia am rywrai yn gweithredu oddiar fympwy. Pa beth sydd yn cadw "Cymro" o'r gyfrinfa ar hyd yr wythnosau hyn onid mympwy? Nid oes angen i'r neb sydd a'r mwyafrif yn cyd. olygn ag ef weithredu oddiar fympwy. Ond beth am yr hwn nas gall gael gwrandawiad na cbefnog- wyr yn unman 1 Onid yw yn naturiol i'r rhai hyny roddi ffordd i fympwy? Onid hyny y mae Cymro wedi wneyd I Cwyna" hefyd. fod "Oarwr y Gwir" yn ar- glwyddiaethu ar ba,wb." Ond siglir yr haeriad pan jfofir fod pobpeth yn cael ei beoderfynu gan bleid- lais yr oli sydd yn bresennol. Deall na oddefir hyny a ddarfu "Cymro" i beri yr ymfflamychiad hwn o'i falais a'i d'digter. Hefyd, noda fod brawd wedi dweyd os byddai i frawd dori ei ardysti»d nad oedd yn (rood Templar. We] y mae yn debyg mae dyna barn yr aelod hwnw, ac yn y gymdeithas hon. fel yn Nghymru benbaladr, y mae yn rbydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar." Ond nid teg cyhuddo y gyfrinfa, fel pe byddai y mwyafrif wedi nenderfynu felly, mwy na fuasai yn deg ei cyhuddo am y pethau ffol a gwag a disail a ddywed Cymro." Ond cyn terfynu, carwn nodi na ddarfu i Cymro atteb yr oil o'r gofyniadau oedd yn fy llythyr diweddaf. Ni ddywedodd air am yr her i sefydlu cymdeithas yn ol ei galon ei han. Onid teg yw dweyd ei fod wedi ofni, ai fod wedi dyfod i'r casgliad rnai hawddach dweyd na gwneyd. Na, y mae wedi gwneyd yr oil yr oedd yn geisio, sef creu cynbwrf a pheri drwgdeimlad, ond yn ngoleu y coeleerth gwelir pa mor gul a mor annynol yw ef ei hun. Feallai fod ganddo ddymuniadau da, ond llywodraethir ef gan y^pryd mor gwerylgar ac annoefch, fel y blinir arno yn mhob cylch y ceisia droi ynddo. Gresyn yw hyn. Nid oes genym ond dymuniadau da iddo, a gobeithio y daw yn fwy doeth, ao y blina yn fuan ar y gwaith annymunol hwnw, sef creu terfysg. Y mae yr ohebiaeth hon ar ben, a pha un bynag a sefydla "Cymro" gym- deithas arall ai peidio, a y Temlwyr Da ymlaen yn ei dull eu hunain i "godi y ddynoliaeth.Yr eiddoch, CARWR Y G-WIR. At Olygyiid y "Llangollen Advertiser." Syr,-Fel un sydd yn edmygu y gymdeithas uchod ar gyfrif yr hyn mae wedi ei wneyd yn ystod y blynyddoedd di weddaf,erfyniaf am ychydig o ofod. yn benaf. i ddyweyd gair neu ddau wrth Cymro drnan. Yn gyntaf oil gofynaf iddo paham y mae yn darostwng ei gyfaill, sef yr un, fel y dywed ef, a wrthodwyd, trwy ei osod allan fel gwrthrych | eiuhriadau ?'■ Meddai lawn cymmaint o'r pefch hwnw a elwir yn synwyr eyffredin, ac fe allai fel mae ei ddiatawrwydd yn dangos fod ganddo fwy o hono na fedd ei amddiffynwr "Cymro;" a phe buasai y Temlwyr Da" wedi ei gymmeryd i mewn, oredaf mai gwaith "Cymro" fuasai gwaeddi am gadw at y rheolau cyn pen pythefnos. Mae yr hyn sydd yn corddi Cymro yn gorwedd yn yr un man a rcUr^ ffôs y codwyd y gwestiwn hwnw gynt, Ai cyrreithlawn rhoddi teyrnged i Cæsar. a'i nad yw ?" Y mae Cymro yn ceisio. yn ol ei holl allu bach. bardduo "Carwr y gwir" a'r '-brodyr teuluol." Wei, Mr. Golygydd, nid oes dafn o waed perthyn- asol am a wn i rhyngof a Carwr y gwir na'i deulu yntau, ond gresya mawr mewn difrif na buasai Cymro yn cofio am gsudod y ffôs" y cloddiwyd ef o honi. Nid yw a dyweyd y lleiaf yn lie iddo ymffrostio. Credaf os eir i gj'tnharu yn y modd yma y daw Carwr y gwir o'r ffwrn llawn tebycach i aur yo nghyd a'i frodyr teuluol," na "Cymro" a'i "frodyr teuluol" yntau." Os ydyw Cymro" am wneyd lies, y peth cyntaf tuag at iddo wneyd hyny fydaai troiffroen y "gwn," neu yn fwy cywir, y pistol bach a'i ffroen yn union ato ei hunan ag yna tanio ar yr hunan, ac os caria y faril hyd at goppa yr hunan hwnw bydd wedi gorffen ei bowdwr neu ei beleni bob un. Mae" Cymro" yn cyfeirio hefyd at rai yn tori y rheolau. ac yn myned allan cyn diwedd y cyfarfodydd. Mae weithiau amgylchiadau yn galw ar rai i adael y cyfarfod cyn y diwedd, ond chwareu teg i Garwr y gwir a'i ^euJu°l n'd wyf yn cre&u am un o honynt eu bod mor isel a gwneyd fel y gwnaeth Cymro," sef tori o rheolau trwy dd'od i'r Anti-room a llechu mewn lie tywyll, a.'i glust ar y rhig-ol yn y pared i wrandaw yn fradwrus am rbyw ddiffygyn ngweith- rediadan y gyfrinfa, beth oedd yr achos o hyn ? a'i prin o ddefnyddiau i'w diradddo o dan fantell ffug enw, ond cofied Cymro ei fod wedi brad- yebu ei hun trwy ddyweyd beth oedd yn y papyr cyn i'r papyr dd'od allan, a hyny pan ya disgwyl am y papyr o'r Llan gyda mab tafarnwr! Wel, Mr. Golygydd, mae'n debyg eich bod wedi blino ar y fath yma. Mae y gauaf a'i hir nosweithiau a'i wyneb arnom, da iawn fyddai eto cael gan "Cymro," Abstainer"Carwr y gwir," a Minan," i roddi heibio bob budreddi a ehochl malais," a rhoddi cwbl ddiwydrwydd o blaid rhinwedd a sobrwydd, ftc er mwyn, nid darostwng, ond er codi y ddynol- iaeth." Mae y Creawdwr da wedi ein cofio ag amseran da, ond waeth faint enillir tra bo' lluaws mawr o'r byd, ie, o'r eglwysi hefyd, yn gwario en barian am yr hyn nid yw fara, a'u llafur am yr hyn nid yw yn digoni." TEMLWR DA. ♦
Advertising
MEMOKIAL CARDS ofthe newest patterns, printed on the shortest notice, in beautiful typography, at most reasonable charges at the "ADVERTISER" OFFICE. MONEY. THE old-established Provincial Union Bank continues to Lend immense sums daily, from £ 10 to £ 5,000, on Note of Hand alone or other security, at a few hours' notice, to all classes in any part of England or Wales, repayable by easy instal- ments. No good application is ever refused All communications strictly private. No office enquiry charges whatever. Moderate Interest. Special rates for short periods. The largest, best known and most honourably conducted business in the Kingdom Thousands' of our regular customers have expressed their entire satisfaction in repeated transactions with us. If desired, one of our Officials will attend at your residence at once with Cash, and carry out the advance there and then. Call, or write (in confidence) to the Manager, MR G. K. HOWE 54, London Road, (19027) Leicester. Specimen Books of PRIVATE XMAS CABDS for trans- Specimen Books of PRIVATE XMAS CABDS far trans- mission abroad now on view at HV«H Adv.rti.er Oftm, Llaagollw.
IIEISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BANGOR, 1902. (WAN 1>1. YN Y CEltDDOll.") Siornedlg fu y cystadleuon cerddorol i'r Cymry uuwiiith yn rhagor. Yr oedd y Corau Meibion wedi cadw ein anrhydedd yn Lerpwl. a Merthyr. oud eleni dyena hwytbau i lawr. G-obeithio ein bod wedi cyrhaedd y gwaelod bellach, ac nad oes ond codi i fod mwy yn ein hanes, Yr unig lygedyn gafwyd yn ystod wythnos dywell, oedd goruch- afiaeth y Waenfawr ar Blackpool. Yr ydym wedi cyfeirio lawer gwaith at ardaloedd Waenfawr, Llanbjris, Penygroes, a Bethesda fel lleoedd ddylent ymysgwyd o'u difaterweh yn nglyn a chaau corawl; a gwneyd enw iddynt eu hunain fel y gwnaethant ugain a deng mlynedd-ar-hugain yn ol. Llongyfarchiadau cynes i'r Waenfawr ar eu llwyddiant, Ar 01 cyfres o anffodion. ceir digon o gynghor- wyr ar y dull a'r modd i wneyd ar gyfer y dyfodol, a llecha rhai arweinyddion dan y dybiaeth nad oedd y corau goreu yn cystadlu eleni, ac nad oeddent hwy na'u corau ya yr ymgyreh. Credwn fod un o'r corau goreu feddwn ya Ngogledd Cyinuu i fewn yn y brif gystadleuasth, a bod pedwar neu bump o'r Coreu Meibion goreu sydd genym yn yr ymgyrch yr ail ddiwrnod. Er eu bod ar ol eleni nid oes eisieu iddynt ddi- galoni, gan nad ystyriwn y darnaa ddewiswyd yn adran y corau meibion a digon o waith ynddynt i ddangos galluoedd y corau goreu. Cafwyd byny yn Merthyr, a cheir hyny eto yn Llanelli; traeni fod y darnau mor afresymol o faith yn yr olaf, ond y maent yn gyfansoddiadau rhagorol. Yn nglyn a'r gyststdienaeth hon, credwn y dylasai y beirniaid roddi enwau y pump cor goreu yn oi safle eu teilyngdod, fel y gwnaethpwyd gyda'r tri goreu yn y brif gystadleuaeth. Ni fuasai hyn yn ymyraeth a'r dyfarniad, a da genym fod y corau Cymreig wedi cymmeryd eu curo mewn ysbryd boneddigaidd, yn esiatapl felly i gor Blackpool y diwrnod olaf. Er's blynyddau bellach, mae un darn gan Gymro yn cael ei ddewis yn y brif, yr ail, a'r drydedd gystadleuaeth ond ni welodd pwyllgor Bangor ddim na neb yn deilwng i'w osod ya y safle hono, ond gwaith rhai o honynt hwy eu hunain. Gwyddom hefyd oddiwrth un o aelodau mwyaf blaenllaw y pwyllgor cerddorol, nad oedd bwriad i berlrormio nn gwaith Cymreig yn un o'r Cyng- herddau. Diolch fod digon o dan gwladgarol yn yr aelodau eraill i fynu cymaint a hyny beth bynag o deyrnged i gerddoriaeth Cymreig, a chlywsom fod yr awdwr leuangc wedi arwain ei waith yn rhagorol, a hyny heb golli ei dymher. Saif Eisteddfod 1902 yn enwog am dri pheth, ei Seisnigeiddiweh. amlder ei beirniad lleol, a'i hannghof, neu ei diystyrwch o gyfansoddiadau Cymreig. Dywedodd un aelod o'r pwyllgor yn ddig-on diniwed, Nad oedd gan y cerddorion Cymreig yr un darn gwerth i'w ganu." Nid oedd y brawd hwn yn llawer o gsrddor, ond yr oedd yn medru adsain yr hyn oedd wedi glywed oddiar wefusau rhai o'r gwrth-G-ymreigwyr oedd ar y pwyllgor. Nid rhyfedd i un o'r Beirniaid Cymreig ddweyd yn nglya a'r gystadleuaeth i gorau o un gynull- eidfa, ei bod yn amheuthyn i weled cyfansoddiad Cymreig ar y rhaglen," ac nid rhyfedd chwaith i'r .v L dorf gymeradwyo y pylw. Mae yn werth cydmharu testyoau cerddorol Merthyr a Llanelli, a rhai Bangor ar y pen hwn. Mae yn ormod o'r dydd i ymddiheuro ar ran cyfan- soddiadau Cymreig, o herwydd bob tro y maent yn cael cydredeg a darnau Saesneg neu Dramor, maent wedi dal y prawf, ac wedi derbyn teyrnged uchel o glod oddiwrth ddynion fei Macfarren, Ouseley, Mackenzie, Barnby, a Randes-ger. Chwith g'weled mewn cynulliad Cymreig dri Sais, a dim un Cymro, yn beirniadu'r Corau Merched, a hyn mewn. dinas sydd yn disg-wyl i'r Cymry gynorthwyo ei sefydliaaau. Dywedwn eto, em bod yn falch fod y Cymry wedi vmddwyn mor foneddigaidd yn ngwyneb siomedigaethau mor fawr, ac y mae hyn yn arwydd o gryfder: Lliwer o awgrymiadau sydd wedi cael eu rhoddi eisoes pa sut i adenill yr hyn sydd wedi ei golli. Dywed rhai y dylai y veterans ymgymeryd ag arwain, ond y mae hyn yn ymddibynu pwy veterans teddylir. Dylid cofio fod yr ymdrechfa lawer yn fwy caled yn awr, na phan oeddent hwy yn cystadlu. Er hyn, credwn fod genym arwein- yddion yu y De a'r Gogledd fedr arwain i faddn- goliaeth, os bydd y cantorion yn foddlon iddynt. Ai ma oes cyfle braf i'n harweinyddion ieuaingc wneyd enw iddynt eu hunain yn y cvfwno- hwn? Dywed g-ohebydd yn y Manchester Guardian "The Welsh choirs were hopelessly beaten." Nid ydyaa wedi credu hyny o'r dechreu ond yr ydym o'r un farn a'r gohebydd hwn pan y dywed The one lesson which above all, the Welsh choirs have to learn from these repeated defeats is that victory will never be theirs, until they emulate the constant application and the discipline of the English choirs. The Bangor Eisteddfod, from a musical point of view, will not have been held in vain if it have the result of leading the choirs of Wales back to habits of steadiness, of method, of study, and of discipline." A'r uchod yr ydym yn "unfryd unfarn," ao wedi traethu yr un gwirion- edd mewn rhyw fEurf neu gilydd am yr ugain mlynedd diweddaf. Beiddiwn ddweyd eto, fod llai o gymdeithasau corawl parhaus yn Nghymru nag mewn un wlad. Scratch choirs ar gyfer cystadleuaeth ydynt bron i gyd, ac y maent yn nychu eu hunain wrth ganu yr un darnau o hyd. Mae yna ysbryd anniolchgar hefyd yn bodoli yn yr aelodau at yr arweinyddion sydd yn llafurio yn galed at eu dysgu. O'r braidd y maent yn foddlon eu cydnabod ar ol enill, a rhyw gardod o dal ydyw hwnw, ao os collant, ciciant hwy pan ar lawr. Mae'r man urweinyddion sydd yn ein gwlad yn ddrain pigog yn ystlys ambelf i arweinydd galluog sydd genym. yn rhwystr iddo wneyd ei waith, ae i roi tal iddo. Er yr holl dystysgrifau gyfrenir yn y Sol-ffa (ac yn yr Hen Nodiant erbyn hyn), ychydig o ddar- llenwyr da sydd genym. Pe buasent yn ymarfer a dysgu gweithian cyflawn, dysgent ddarllen yn ddi- arwybod iddynt; ond fel y mae yn awr, dysgant y ewbl wrth y glust. Gobeithiwn na wnaiff unrhyw gor ddechreu dysgu y darnau cystadleuol ar gyfer Llanelli cyn Mawrth neu Ebrill; ond yr ymaflant mewn gweithiau cyflawn ar unwaith, er mwyn cadw mewn ymarferiad a diagyblaeth. Am y cyfansoddiadau eleni, ein cyd-olygydd *yr eu gwerth ond darllenasom fod Dr. Parry yn dweyd nad oeddynt ddim tebyg i'r amser yr oedd Gwilym Gwent ac yntau yn eyatadlu Tybed nad ydyw John Thomas, ein oyd-olygydd, Alaw Dda, J. T. Rees, D. C. Williams, Broome, Wm. Davies, a David Evans wedi anfon darnau teilwng o'r Eis- teddfod ? Un o'r siomedigaethau mwyaf ar ol un y corau oedd na chafwyd un o'r Baritons yn deilwng o'r wobr Pa le mae'r bechgyn sydd wedi enill yr holl her unawdau wedi myned ? A ydyw y teganau hyn wedi gwneyd cystadleawyr yn fwy o blantos nag oeddynt ? J Neu ai cynyreh canu yr un caneuon sydd wedi eu darostwng mor isel? Pe buasai hyn wedi digwydd gyda'r Tenors, ni fuasem yn synu ond mae y ffaith ei fod wedi cymmeryd lie gyda'r Baritons, syddj i'w rhifo wrth y canoedd yn ein gwlad, ya beth i'w ryfeddu ato. Gobeithio y bydd hyn yn wers i bawb i beidio rhoddi cymamt o bwys ar gystadleuaeth yn ail, y ffurnant gymdeithasau cryfion, ac y cydnabyidant yr arweinydd, pa un a fydd yn fuddugol ai peidio ae yn drydydd, fel y eorau Seisnig, na threnliant ragor na dan fis at unrhyw gystadleuaeth. Treulir y gauaf nesaf mewn gwaith cyson a disgyblaeth fanwl, yna fe godir canu corawl a phob canu arall yn uwch nag erioed. Am dyngu anudon cafodd yr Heddgeidwad Rolls, o Hackney, ei ddedfrydu i bum mlynedd o KOllb.
AMRYWIAETH.
AMRYWIAETH. Hysbysir am farwolaeth y Oyaarhorwr T. It. Rile Cuerlleon, an aelod blaenllaw o Gymdeithas Masnachwyr Gogledd Cymrn. Dydd Sidwrn, bu farw Dr. Yaughan. Esgob Pabaidd Plymouth, ac ewythr y Cardinal Vaughan, yn 88 ml wydd oed. Mae Mr. Owen M. Edwards, Rhydychain, wedi agor trysorfa at osod col of n ar fedd Glasynys yn Mynwent Llanfwrog. Yr oedd 188 odyfarnwyr yn gofyn arn adnewyddu trwyddedan i ganiatau canu yn eu tai yn Man- chester. Ni chaniatawyd ond 22. Mae y Proffeswr Samuel Owen, un o athrawon Coleg Duwinyddiol y Bala, wedi derbyn gorchymyn oddiwrth ei feddyg, i orphwys am chwe' mis. Mae Mr. Henry Verney. mab Syr E. H. Yerney, Barwnig, wedi eu wahodd yn vmgeisydd Rhydd- frydol dros adran Aylesbury o sir Buckingham. Ddydd Llun, esgynodd Mr. Stanley Spencer mewn llong awyr yn Blackpool. Teithiodd tuo 30 milldir, a disgynodd yn y wlad tu draw i Preston. Torodd y frech wen allan yn y Drefnewydd, a pharodd ddychryn nid bychan. Yn anffodus nid oes ganddynt ysbytu neillduedig at bwrpas cleifion felly. Rhoddes Iarlles Dundonald £ 1,000 i Esgob Llanelwy at Drysorfa Clerigwyr yr esgobaeth, er cof am ei mam, y diweddar Mrs. Bamford Hesketh. Mae Mr. Asquith wedi derbyn. gwahoddiad i siarad mewn cyfarfod mawr sydd wedi ei drefnu gan Gymdeithas Cymru Fydd Llundain er gwrth- wynebu y Mesur Addysg. Gwneir ymgais deg i agor chwarel lechi yn mynydd Llanllechid. Credir fod yno wythien ragorol. Ofnir y gall Arglwydd Penrhyn atal v dram wyfa i'r lie er hyny. Cynnaliwyd Cynnadledd Ddirwestol yn Ngwrec- sam ddydd Gwener. Yn yr adroddiad. dangosid y bn lleihad o 374 yn nifer y trwyddedau yn ystod y deng mlynedd diweddaf yn siroedd Gogledd Cymru. Mae y Parch R. Morris, Amwyfchig, wedi graddio yn M.A., gydago anrhydedd,: mewn athroniaeth yn Mhrifysgol Edinburgh. Dwy flynedd yn ol y dycbwelodd efe i'r Alban, ar ol bod am wyth neu naw mlynedd yn weinidog ar eglwys. Y mae cwmni Siarter Dirol De Affrig ar fedr trosglwyddo 750.000 o filldiroedd ysgwar o dir i'r Llywodraeth Brydeinig. Hyn sydd am fod Mr. Cecil Rhodes wedi marw a'r c-,winni heb ben i weithio allan ei fwriadau ef Derbyniwyd y swm o wyth gant o bunau tan- ysgrifiadau cyhoeddus a erasglwyd yn Nharcfedi- gaeth yr Afon Orange yn Maerdy Llundain, tuagat y drysorfa er codi coffadwriaeth genedlaethol i'r Frenhines Victoria, yr hon sydd yn cryhaedd yn awr £ 210,000. Dau gan mil fydd traul Colegdn newydd Bangor, a bydd yn rhaid i awdurdodan y Coleg eu casglu. Disgwyliant rhodd dda gan y Llywodraeth, ond bydd yn rhaid i Ogledd Cymru gyfranu corff y swm er cymmaint ydyw. Dywedodd Syr George Newnes, y cyhoeddwr llyfrau, Linndain. na bydd iddo dalu treth newydd Mesur Addysg. Gwrthododd ei dad dalu yr hen dreth eglwys cymmerodd werthu ei eiddo, ac y mae ei fab am ddilyn di esiampl. Dydd Sadwrn diweddaf aethy Brenin a'r osgordd frenhinol yn cynwys 30,000 o filwyr fel g'warchodlu drwy y rhanbarth tlotaf o Lundain. Yr oedd yn wyl gyffredinol yn y ddinas. Yn dra charedig y mae yr Esgob Boyd Carpenter wedi cynnyg benthyg ei dy yn Cornwall i Dr. Joseph Parker dros y geuaf. A ymaith am chwe mis. Bydd i'r Parch. R. J. Campbell, M.A., Brighton, gymmeryd edfa nawn lau y Doctor tra y bydd efe ymaith. Y mae y tollau newyddion yn dechreu dwvn eu railiyEau i mewn i drysorfa y Wladwriaeth. Caf- wyd £ 1.183.337 oddiwrth doll yr yd £ 1,991.852 oddiwrth doll y siwgwr a £ 1)63,865 oddiwrth doll ar lo. Nis gwyr Esgob newydd Durham pa beth i wneud yn vr olwg ar v meddwi erchyll sydd yn ei esgob- aeth. Cospwyd 1 allan o bob 78 o drigolion y sir am feddwdod, new 15,308 o bersonau. Wrth gwrs y mae degau o filoedd yn meddwi yn y sir er heb dori y gyfraith. Wedi methu'o'r meddygon estyn bywyd dau faban egwan yn Iowa, America, dododd eu nain hwy yn y pobty cynes yn y goegin cadwodd y gwres yn un- ffurf a dechreuodd eu porthi. Y mae y ddau yn magu nerth. A llu o feddygon i weled gwaith yr hen wraig. Bu Mabon yr wythnos diweddaf yn Oakengates, Mwythyg, yn arerch y mwnwyr-y rhai gawsant ddydd o wyl ar y achlysur. Canodd Mabon "Ymgyrch Gwyr Harlech yn Gymraeg, ac ymunai y dorf fawr yn y cydgan Saesneg. Agorwyd ysbytty darfodedigaeth yn Berlin, gwerth £ 450,000. Bydd y draul o'i chynnal yn £ 60,000. Y mae ynddi le i 600 o gleifion o'r ddau ryw. Efe ydyw yr adeilad perffeithiaf yn y byd at y pwrpas. Credir fod gobaith am hoedl ami i druan yn yr adeilad. Y mae Mr. John Morley, A.S., wedi rhoddi i Brifysgol Gaergrawnt lyfrau y diweddar Arglwydd Actoa. Nid ydynt nemor lai na 80,000 o rifedi ac yn gasgliad o werth mawr. Anrheg oeddynt iddo ef. Bu unwaith yn meddwl eu cadw, ond wedi ail ystyried teimla ei fod wedi myned yn rhy hen i roddi nemor amser at y gwaith. Aeth y Parch. David Price (A.) Blackheath, i letya at nn John Woodward o'r un dref. Cyn hir lledaenodd 'chwedl fod Mr. Price wedi godinebu gyda'i wraig. Ymholwyd i'r achos a chaed mai chwedl hollol gelwyddog oedd y cyfan. Gorfu Woodward dalu can punt o iawn. Goresgynodd Rwsia Manchura bum mlynedd yn ol. Cytunodd ar gais Galluoedd Ewrop a China i ymadael y flwyddyn hon. Er syndod i bawb cafwyd fod Rwsia wedi adeiladau dinasoedd mawr- ion a gwneud ffordd haiarn ardderchog trwy ganol y wlad. Tybiwn mai Cynghor Dinesig Llandudno yw y cyntaf yn Ngwynedd i anturio codi tai ar gyfer gweithwyr. Adeiladwyd 28 yn amrywio o 5s. i 12s. 6d. o ardreth yn yr wythnos. Y mae clod mawr yn ddyledus iddynt am ea hysbryd synwyrel. Arglwydd Mostyn oedd un o brif gefnogwyr yr anturiaeth. Tra yn teithio mewn cerbyd y Sul o Prysor i bregethu v prydnawn yn nghapel Edan, Traw fynydd. cyfarfu y Parch David James, gweinidog gyda'r Methodistiaid yn Llanegryn, ger Towyn, a damwain ddifrifol. Trwy i'r ceffyl frawychu taflwyd ef o'r cerbyd i lawr i lan yr afon Prysor, a phan y ddaithpwyd o hyd iddo yr oedd yn anym- wybyddol. Dydd Sadwrn, mewn cyfarfod mawr o Gymry Manchester, y Barnwr Bowen Rowlands yn y gadair. cyflwynwyd darlun harddi Dr. EmrysJoaes fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth fel cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol Cymru Manchester, am bymtheg mlynedd, ac am ei waith gyda syraudiadau addysgol a llenyddol Cymreig. Derbyniwyd amryw arweinwyr Cymreig, ac yn ystod y eyfarfod, traddodwyd anerchiadau yn delio a Chymru a materion Cymreig gan y cadeirydd, Mr. Gwenogfryn Evans, ac ereill. Dyma fel yr ysgrifena Ellis o'r Nant ynghylch dwfr Bettwsycoed-Estynwyd y fendith, ond yn ddistaw y felldith, o Gynghor Dinesig i'r dref yma er's mwy na phym mlynedd. Aflonydd iawn ydynt ac eiaiau cael dwfr o Ffynon Lugwr. Ceid ef a cheir ef. hyd yn hyn o ryw gorbwll yn Rhaiadr y Wenol lie y mae ysbryd Syr Sion Wyn yn trwblo ac yn llwydo y dwfr fel scuttle fish. Maent yn tyrfu p1"s dyddiau yn ynghylch hwylio i gael dwfr o Ffynon Lugwy, 811d Arglwydd Pearhyn pia hono. Gwell i'r Bettwsiaid y drwg a wyddant na ruthro a boddi yn Fynon Lugwy. Nid yw y dwfr a lwydir gan Sion, wrth wingo ac ymystwyrian i ddyfod i fynu o'r eigion y cafodd eu offryaau iddo, wedi ladd neb nae yn debyg o wneud hyd y gwyddis.
Advertising
I rr TRUEK I Thousands of SuftVrnrs from Blood and Skin Disorders give gratefu- testimony that in reapeet of actual I WiRIT; AS A USEFUL, AND POWERFUL RE1\IEDY, Hughes's Blood Pills Leave nothing to be desirod.™ ™ They to correct those abnormal condi- tions of the Blood which giv- rise to •-•o many distress- ing ailments amongst all classes, and THEY DO tTTI They remove all pffete nfttter and humenc; from the Blood They Tnne and Brace up the System I Tfl«y. invigorate each Organ, and stimulate its functional energies, and Universal emierK-nce has demonstrated this great cosmopolitan Blood Remedy to be possessed of UNPARALLELED EFFICACY In ail cases of INDIGESTION, HEADACHE, BILIOUS-'? NESS, SLUGGISH LIVER, C0NSTIPA7 TION, FLATULENCY. DYSPERSIAr SKIN DISEASES. SCURVY, BOILS, SKIN RASH, ECZEMA, SCROFULA, PILES, FITS, WEAK NERVES, DES- PONDENCY, ERYSIPELAS, SLUGGISH KIDNEYS, LUMBAGO or BACKACHE, RHEUMATISM, &c. Fflj. These Pills are most efficacious in f removing c&n&s of complaint Females Pee,u1ia1- > the sex. young and old, J and can always be relied on. Read What the People say— Sir,—I have been a great snfferer Headache and frna-. P.. !u in the Heart and Back with Indigestion. Indisrenion. I WPS induced to try T>T nrm PTr T „ „ '•'alwable Pills, "HUGHES'S BLOOD PILLS, and they <h<, mean extraordinary amount of ffood, and I am keeping a bns always in the house. 12, Elm Street, Ferndale. SARAH PHILIPSs « -rT • Sir'—1 have derived arear, beuefi A Voice from trorn yoUr HUGHES'S BLOOD Lancasiiire. PILi^S, ,>u(I sh ill always reccmiEeiicl „ th?m wherever I go. I consider %em to De a, hrsu-class medicine have also «een their effeote upon others m curing Skin Hasb, Blotches, Headache, Bjlhousness, Indigestion, Constipation and Rheumatism They deserve every confidence. 50 Chapel Lane, Wigan." J. WORSWICK. -r,, — Sir,—Allow me,as a female, to thank Women's Friend, y.-u for the ?ood I have received PtTmn PTrra » v 'rom, .Tonr valuable HTTGHBS'S ,X0U r'rnl7 deserve to be termed the r« for a better remedy for all complaints that female suffer from it would be impossible to obtain. I S»flr1ered acutely from Heart Palpitation and f Vi Kidneys and other ailments. You" Pills have 'hl"^ Lawrence Hill, Bristol. A. GREGORY. TRY THEM- THEY ALWAYS DO GOOD, NEVER DO HARM. ASK FOR HUGHES'S BLOOD PILLS. They presold by every Chemist and Denier in Patent Medicmea at 1 jU, 2/9, 4/6, or send value in P O or Stamps to maker — JACOB HUGHES, Manufacturmo; Chemist, Penarth, Cardiff, who will send them by return. This TRADE M-ASK, "a Heart," is on each Genuine Box, and DON'T DEC- EIYED AND TAKE ANY- THING ELSE INSTEAD. ^8^ 60NIERS BALM. SURPRISING HEALER Of Wounds,Scores,Ulcers on Feet, Legs,Neck.Head, Erysipelas, Cuts, Burns, Excoriations, Abrasion of the Skin, Sore Nipples and Breasts, Skin Erup- tions. Bed Soros. Aa fili- ngs on Fingers, Eczema, &o. A POSITIVE CURE For Skin Diseases, Scab or Breakings out in Children's Head, Neck, Face, Ears, &c., Tender Feet, Galling in Children, Piles, Sun Burns, Freckles, Pimples, Blotohos. Rough skin on Face, Hands, &c. Chapped Hands. Ohilbkins, Sore Eyes and Eyelids, Scurvy, Itch, Rheumatism, Stiff Jointp, Swellings, Swollen Glands. Sprains. Bruises, Scorbutic Sores, Discs*sed Bone, Ringworm, Inflamed Bunions and Corns, Gout, Bad Legs, &c., This BALl is most singular and prompt in its action. Every external disease that the Human Body is subject to at once gives way to its great ourative virtues. It is NOTED in relieving all pain and soreness when applied to Wounds, Sores, Ulcers, Erysipelas, Gout, or any inflammatory parts of the body, Cooling and Allaying all Irritation, Softening and ttedticine hard Swellings, Relieving Rheumatic Pains, ami making pliable Stiff Joints, &c., Very essential t.o Mothers, Mill Hands, Engineers, Plumbers. Ironworker*, Tinwork^rs, Colliers, Sailora, Mechanics, Farmers. There is nothing like Gomer'a Balm to allay, heal aDd cure every affection or injury to the Skin and Flesh. Sold by all Chemists or Patent Medicine Vendors at lIlt, or send value im stamps to proprietor aud discovery, JACOB HUGHES, "^ETS'OAID^P.