Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG.

News
Cite
Share

CYMRU, CYMRO a CHYMRAEG. FY ANWYL FAM FY HUNAN. PWY a'n-i hymddygodd yn ddi-lys O'dan ei gwregys mwynlan ? Pwy ro'es i'm faeth a lluniaeth lion () laeth ei bron ber anian ? A phwy a'm eadwai rhag pob cam '? Fy anwyl Fam fy hunan. Pwy im' a suai uwch fy nghryd, Pan oeddwn wanllyd faban ? A phwy fu'n effro lawer gwaith, Drwy'r hirnos faith anniddan ? Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam ? Fy anwyl Fam fy hunan. Pwy a'm dilladai er fy llwydd Bryd diniweidrwydd oedran ? Rhag i mi fawr berygl f'oes, Ysigo einioes egwan ? .A phwy a'm noddai rhag drwg nam ? Fy anwyl Fam fy hunan. Er blino mam garuaidd iawn, A digio-na chawn degan, Hi'l1 fynych wedi i'm syrthio'n groes lachaes fy loes a chusan Pwy ni chwenychai imi gam ? Fy anwyl Fam fy hunan. A phwy a'm gwyliai ddydd a nos Rhag syrthio dros y geulan ? Neu gwympo ar yr aelwyd boeth, Mewn evflwr noeth a thrwstan ? Pwy a'm golygai rhag drwg lam ? Fy anwyl Fain fy hunan. Pwy, ond fy man, dirionaf merch, 0 eithaf tra serch gwiwlan, A wylai droswyf, waelaf drych, Pan oeddwn wrthddrych truan ? A pheth ond llaw Rhagluniaeth Ion A ddaliai hon ei hunan ? Pwy a'm cynghorai bob rhyw bryd, Rhag arwain bywyd aflan ? Ond parchu enw Duw trwy ffydd, A chadw ei ddydd sancteiddlan, Heb wneuthur unrhyw dwyll na cham^,? Fy anwyl Fam fy hunan. Er mwyu i'm hawddgar fam, heb groes, Ddiweddu oes yn ddiddan, Wrth iddi blygu bob yn bwyth Dan ddirfawr lwyth o oedran Rhag suddo i'r bedd dan ofal bwn, Cymmeraf hwn fy hunan Pan fyddo'angau llym gerllaw, Ei phen a'm dwylaw daliaf; A thrwyddi gras dy fendith gref Fy Ion o'r nef erfyniaf ? A'm serch yn rhaffau heilltion rhed, Wrth dalu'r ddyled olaf. Oblegyd credu'r wyf fod Duw A wel, a. glyw y cyfan Ei lid o entrych wybreu fawr Melltenai i lawr trwy f'anian, Pe meiddiwn oddef cynnyg cam I'm hanwyl Fam fy hunan. DAFYDD DD1; ERYRI. t

[No title]

». Sisial Godreu'r Ferwyn.…

[No title]

[No title]

4 Capel ac Eglwys,

4 GOHEBIAETH. ---

Advertising