Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

CYMRU, CYMRO, a CHYMRAEG.

News
Cite
Share

CYMRU, CYMRO, a CHYMRAEG. ELEN RHYS. Án fore Sul yn fawr fy serch, Meddyliaf am y fwynaf ferch Yr awen a'i dychymyg chwardd, Gan feddwl am yr eneth hardd. 0 tyred adref gyda brys- Ni charaf neb fel Elen Rhys. Ei llaw a'i chalon hi a ges, Carasom mewn angerddol wres Ond fe ddaeth gelyn ffals, difri, A llwyddodd i'n gwahanu ni. Ond doed rhyw angen gyda brys I'm huno gydag Elen Rhys. Yn fynyoh iawn mae dynion call Yn fy nghynghori yn ddiball, Yn cynyg i mi hon a hon, Fel geneth ddenol, hardd a lion Pe cawn i un o'r breiniol lys, Mil gwell f'ai genyf Elen Rhys. Er gwg ei thenlu yn barhaus, A chael celwyddau tra sarhaus, Ac er im' gael rhybuddion ffol I beidio dilyn ar eu hoi Ac er im' gael cyfreithiol wys, Yr wyf yn caru Elen Rhys. Pa beth i mi yw golud byd ? Cael cysur yw fy mhwnc o hyd Os ydyw Elen yn dylawd, A llu yn gwneud ohoni wawd- Pe byddai rhaid, mi brynwn grys A phob peth rown i Elen Rhys. Mor unig yw yn gweini'ii awr, Heb ganddi le i roi' phen i lawr, Tra minau mewn digonedd gwych, A moddion bydol, hardd fy nrych. Pan ddaw hi'n ol, modrwyaf fvs A charaf fyw ag Elen Rhys. Bu'n ngwlad v Sais, bu'n gweini'n ffol, Ond wedi hyny dod yn ol A myn'd i Fon a'i hawyr glir, Ond methu aros yno'n hir; Nid oes gorphwysdra mewn un Ilys Nes deui attaf, Elen Rhys. Yr wyf yn edrych heibio'r coed, Rwy'n disgwyl elywed swn dy droed, Dy wel'd fel buost, ensth dlos, Yn dod i'm bwthyn gyda'r nos. Tyr'd eto ataf gyda brys, Cydfyw hyd angau, Elen Rhys.

» LLANGOLLEN.

■—+ CEFN A'R CYMMYDOGAETHAU.

.. ^— J. RHOS A'R CYFFINIAU.

♦ AMRYWIAETH.

. GOHEBIAETH.

Sisial Godreu'r Ferwyn.!

[No title]

THE REV. W. 0. JONES'S CASE.

.— MARRIAGE OF THE VICAR OF…

A THE ARCHDEACON OF ST. ASAPH'S…

CORWEN BOARD OF GUARDIANS.

» CHURCH AND CHAPEL.

Advertising