Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYMRU, CYMRO, a CHYMRAEG.

News
Cite
Share

CYMRU, CYMRO, a CHYMRAEG. RHYFEL Y TRANSVAAL. (I'w charm ar yr hen don "Twr Gwyn.") MAE byddin enwog Prydain Drwy y byd, Yn gwneyd gorchesion cywrain Drwy y byd. Er i'r magnelan danio, A'n dynion uwchaf gwympo Mae'r faner eto'n chwifio Drwy y byd, A'n byddin drwyddi 'n llwyddo Drwy y byd. Mae'r teimlad yn angherddol Yn ein gwlad, 0 blaid y gwyr-llynghesol, Yn ein gwlad; Dibrisiant eu bywydau Wrth danio y magnelau, A dringaut serthog greigiau, Dros ein gwlad, Trwy lu o anhawsderau, Dros ein gwlad. Os ehwerthin ddarfu Kruger, Yn ei wlad, Yn methiant cynllun Bnller, Yn ei wlad; Daw dydd y rhaid ef ildio, A'n milwyr gyraedd ato Ac yntau dry i wylo Yn ei wlad, Wrth wel'd Pretoria'n cwympo, Yn ei wlad. Ein hardd Frenhines fyddo Eto'a hir, A'i hiechyd heb ddiffygio Eto'n hir, Yn eistedd ar ei gorsedd, A mil-myrdd o anrhydedd O'i chwmpas mewn gwirionedd Eto'n hir, A'n teyrnas fo' mewn mawredd Eto'n hir. Transvaal gaiff ei meddianu Cyn bo' hir, A Kruger ei orchfygn Cyn bo' hir, Os ydyw Ffraingc a Russia, Yn ceisio gwneyd eu gwaetha, Ein baner fawr a chwifia Cyn bo' hir, Yn amlwg yn Pretoria Cyn bo' hir. Criccieth. GLAN EIFION.

0 NODION Y DYFFRYN.

Y PETH YMA A'R PETH ACW.

■ CEFN MAWR A'R CYLCH.

^ AMRYWIAETH.

THE LOCAL MARKET.

I GET WHAT YOU WANT.

Advertising