Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

1'I■"-::ill ABERMAW. !

News
Cite
Share

'I ■ "ill ABERMAW. Gweinidogaethol. — Traddododd y Parch. Robert Thomas ei bregeth ymadaw- ol i eglwys a chynulleidfa Siloam (A.), nos Sabbath diweddaf. Cynelir cyfarfod ym- adawol Mr. Thomas ar y 29ain cyfisol. Ymadawa i gymeryd gofal eglwys yn Nghaergybi. Yr Eglwysi Rhyddion.—Cynaliwyd cyf- arfod o'r Cynghor yr Eglwysi uchod yn nghapel y Bedyddwyr nos Fawrth, dan lywyddiaeth y Parch. Owen Hughes (W.), Cafwyd anerchiad ar "Ein dyledswydd ag esgeuluswyr moddion gras" gan y Parch. Glandwr Morgan (A.). Penodwyd y Parch Gwynfryn Jones (W.) yn gynrychiolydd i Gynghor yr Eglwysi Rhyddion a gynelir yn Bethesda, Ebrill y 5ed a'r 6ed. Yr Ynadlys.-Cynaliwyd ddydd Gwen- er.—Tynwyd yn ol y cyhuddiad a ddygid yn erbyn Hugh Jones, porthmon, Machyn- lleth, o drafaelio ar Reilffordd y Cambrian heb docyn. Erlynai Rees Thomas, Pen- ybryn, Friog, a Wm. Jones, New Inn, Friog, Evan Reese, Mount Pleasant, Mach- ynlleth, am gyflog a honent oedd ddyledus iddynt. Gohiriwyd yr achos am fis.- Trosglwyddwyd trwydded Half Way Hotel Bontddu, oddiwrth A. E. Rose i Griffith Roberts. Ysgol Sirol.—Cynaliwyd cyfarfod misol lly wodraethwyr yr ysgol uchod ddydd Llun dan lywyddiaeth Mr. Hugh Evans, U.H., cadeirydd.—Pasiwyd pleidlais o gydym- deimlad a'r Parch. Gwynoro Davies yn ei waeledd, gan ddymuno iddo adferiad buan. Yn ol adroddiad y Pwyllgor Arianol yr oedd y swm o 46p 18s. 5c. yn weddill yn y gronfa gynaliaethol. Hysbyswyd fod y Prif athraw Harris, Bangor, wedi addaw anerch yn nghyfarfod blynyddol yr ysgol, a gynelir yn y Pavilion, ar yr 16eg cyfisol- Rhoddwyd caniatad i eglwys y Bedyddwyr gynnal eu harholiad Ysgrythyrol blynydd- ol yn yr ysgoldy, ac hefyd rhoddwyd yr ysgoldy at wasanaeth Llys Llywodraeth- wyr Coleg Aberystwyth, y rhai a fwriadent gynal eu cyfarfod .nesaf yn yr Abermaw.— Derbyniwyd gyda gofid.ymddiswyddiad M. E. R. Thomas, B.Sc., athraw mewn gwydd- oniaeth yn yr ysgol, a phasiwyd i hysbys- ebu am athraw yn ei Ie.—Pasiwyd i ofyn i j Mr. Edwin Blakey archwilio cyfrifon yr ysgol. I

CYNADLEDD YR EGLWYSI RHYDDION.

ARGLWYDD ROSEBERY A THY YR…

LLYS SIROL DOLGELLAU.

Advertising