Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BONTDDU.

News
Cite
Share

BONTDDU. Nos Lun diweddaf, dan nawdd y Gym- deithas Ddiwylliadol, traddodwyd darlith yn nghapel y Borth gan Mr. Edwin Evans, Dolgellau, Y testyn ydoedd—"Hanes bywyd ei gydymaith boreuol, sef y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George." Lly- wvddwyd mewn dull ffraeth a hynod bwr- pasol, gan Mr. W. Evans, Aelybryn. Fe'n harweiniwyd gan y darlithydd ar hyd ris- iau esgynawl bywyd ein gwron anrhydedd- us o ysgol fechan Llanystumdwy i fyny ar hyd binacl anrhydedd nes y cyrhaeddasom o'r diwedd hyd at sedd euraidd "Canghell- ydd Trysorlys" y deyrnas gyfoethocaf ar wyneb daear Duw. Mae y ddarlith drwyddi draw yn wir ddyddorol, ac yn cynwys awgrymiadau tarawiadol o berth- ynas i'r elfenau gwerthfawr hynyoedd mor gryf yn nghymeriad y bachgen yn yr ysgol, ag sydd erbyn hyn wedi dadblygu i'r fath berffeithrwydd ac i'r fath fantais yn myw- yd a chymeriad ein gwladweinydd enwog, sef y gwroldeb didroi-yn-ol oedd yn ei nod- weddu mor fawr pan yn arwain i'r gad yn ngwahanol ymgyrchoedd plant yr ysgol yn y Llan. Yn sicr, bydd cynwys y ddarlith ragorol hon yn drysor amhrisiadwy yn hanes bywyd ein harwr yn yr oesau a ddel. Mae yn llawn o elfenau symbylol i blant a phobl ieuainc. Myner ei chlywed ar bob cyfrif. Diolchwy d yn gynes i r Darlithydd gan Mr. Evans, Aelybryn, ac eiliwyd mewn anerch wresog gan Mr. Lewis Davies, Muriau Cochion, fel un oedd yn adnabydd- us ag ardal Llanystumdwy ac a rhai o'r digwyddiadau y cyfeiriwyd atynt yn y ddarlith. Mae ein diolch fel Cymdeithas yn bur a phoeth i Mr. Edwin Evans am ei ymweliad caredig.—I.C.J.

SAER MAEN I BRIF WEINIDOG.…

DAMWAIN ARSWYDUS YN Y RHONDDA.

Advertising

DAMWAIN ARSWYDUS YN Y RHONDDA.