Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
AT OLYGYDD "Y DYDD."I
AT OLYGYDD "Y DYDD." I Syr,— Pasiwyd mewn cyfarfod cyhoeddus ar Brithdir i T. J. a minau gywiro cam- argtaff sydd yn y wlad gyda golwg ar y .gwrthwynebiad isod, a chan mai yr "Herald" oedd yr unig newyddiadur yr awgrymwyd y camgymeriad ynddo, gofyn- wyd i ni ddanfon eglurhad i'r papur hwnw. Ond erbyn iddo ymddangos yr oedd wedi ei lurginio fel nas gwyr neb wrth ei ddarllen beth yw ein cwyn; gadawyd allan-yn fwriadol ynte yn anfwriadol, nis gwyddom -brif achos ein gwrthwynebiad. Os yn bosibl, teimlem yn ddiolchgar i chwi am ganiatau iddo ymddangos fel yr ysgrifen- wyd ef yn "Y DYDD." Wele gopi o hono: YSGOL Y CYNGHOR, BRITHDIR. Gwrthwynebiad yr Ardalwyr i waith Pwyll- gor Addysg y Sir yn gostwng safon yr Ysgolfeistr. (At Olygydd yr "Herald.") Diolchaf am ofod o'ch newyddiadur i gywiro camargraph gyda golwg ar y gwrth- wynebiad uchod, a chamargraph awgrym- wyd yr wythnos o'r blaen ar un o golofnau yr "Herald." Er mwyn yr anghyfarwydd, goddefwch i mi egluro—yn llythyrenol gywir—-ychydig o hanes y drafodaeth. Y mae i'r ysgol uchod safle uchel yn mysg ysgolion y sir- llwydda y plant yn ardderchog trwyddi, a'r presenoldeb yn nodedig o uchel, yn arbenig pan gymerir i ystyriaeth y ffordd bell ac anhygyrch sydd gan fwyafrif y plant i ddod iddi trwy bob math o dywydd. Yn ngwyn- eb ymadawiad y prifathraw i Langollen, daeth yma angen ysgolfeistr newydd. Cyn hysbysebu y swydd daeth sibrwd i'r ardal .—o ba ffynonell, nis gwyddom-fod ysgol- fesitr arbenig i gael ei bennodi yma heb gystadleuaeth; ond daeth i'r amlwg yn fuan nad oedd sail i'r sibrwd, ac hysbys- wyd y swydd yn y "Schoolmaster." Daliai y syniad, fodd bynag, mai gwr arbenig fyddai y dewis-ddyn—oddiar ba sail, nis gwyddom. Ymgeisiodd deunaw am y swydd-y mwyafrif yn wyr dysgybledig. Gan fod "trained men" wedi bod yn brifathrawon yma er y flwyddyn 1872, disgwyliem yn gryf y cedwid y safon i fyny. Eithr yn y Pwyllgor i Amcanion Cyffredinol awgrym- wyd "untrained man" i ddod yma, er fod "trained men" yn cynnyg am y swydd; mwy, danfonwyd—yn swyddogol—at yr ymgeiswyr gwrthodedig i'w hysbysu fod ei hymgeisiaeth yn aflwyddiannus, a hyny cyn i'r Pwyllgor Addysg gyfarfod. Wedi deall hyn, galwyd cyfarfod o rieni a threthdalwyr yn nghyd i Ysgol y Cynghor, a danfonwyd deiseb gref i Bwyllgor Addysg y Sir yn apelio atynt gadw i fyny safon yr ysgol. Danfonwyd apel hefyd i'r un per- wyl gan lywiawdwyr addysg y dosbarth. Ond er cryfed yr apeliadau, cadarnhawyd dewisiad y pwyllgor blaenorol, a phennod- wyd "untrained man." Yr atebiad rodd- wyd yn y pwyllgor i gefnogwyr "cadw y safon i fyny" oedd, eu bod, pan wnawd y pennodiad blaenorol, yn gofyn am "un- trained man." Ond yr oedd y gwr hwnw wedi profi ei hun yn nodedig o lwyddianus fel ysgolfeistr; peth arall, ni ofynodd rhieni a threthdalwyr y Brithdir erioed am "un- trained"—Hywiawdwyr y dosbarth yn unig ofynodd am wr neillduol y tro hwnw— dyma eu hapel gyntaf hwy. Ac er i lyw- iawdwyr y dosbarth, rhieni a threthdalwr apelio y tro hwn, an\vybyddwyd eu cais- ni chafwyd cymaint ag atebiad i'n hapel heb ddanfon am dano. Yn awr y mae yr ardalwyr wedi penderfynu apelio at y Bwrdd Addysg i ofyn iddynt wneud ym- chwiliad i'r mater—paham y gostyngwyd y safon tra yr oedd amryw o wyr diwyllied- ig a phrofedig yn cynyg am y swydd. Y mae nifer fechan yn yr ardal wrthi yn ddiwyd yn ceisio gwanhau ein hachos; a'r cynllun fabwysiedir ganddynt ydyw cy- hoeddi-yn anwireddus-mai helynt en- wadol yn unig ydyw, ac mai gwrafdd y gwrthwynebiad yw fod y dewis-ddyn yn Fethodist-mai culni yr Annibynwyr sydd yn cyfrif am yr oil,. Nid oes angen eiliad o ystyriaeth cyn gweled mai ffrwyth dych- ymyg disail yw y bwgan yna: arwyddwyd y ddeiseb ddanfonwyd i Bwyllgor Addysg y Sir gan rai Methodistiaid, ac yn eu plith gan flaenor mwyaf blaenllaw yr enwad parchus hwnw yn yr ardal; eto, y cyntaf i symud ei blant i ysgol arall oherwydd y dewisiad oedd Eglwyswr rhyddfrydig. Yn bendifaddeu nid helynt enwadol sydd yma, ond gwrthwynebiad gonest rhieni a threthdalwyr ydynt yn ofni fod bywoliaeth un yn cael y flaenoriaeth ar addysg llawer. D. M. HARRIES. O.N.—Gwelaf yn "Yr Herald" yr wyth- nos hon mai trwy amryfusedd y dyryswyd cynwys fy ysgrif yr wythnos ddiweddaf. D. M. H.
GWENA AR Y CLAF.
GWENA AR Y CLAF. Awdwr bywyd, rhoddwr iechyd, Edrych arnom ger dy fron, Rho'n drugarog, iechyd hyfryd, Par i'r pruddaidd fod yn lion; Arglwydd Da, trugarha, Gwena'n siriol ar y cla'. Yn dy law mae nerth a bywyd, Angau ffy o'th olwg Di, Ysgafnha ei boen a'i ofid, Chwal ei ofnau, cly w ei gri. Un o'th blant yn ieuanc blentyn Sy'n blanhigyn yn Dy ardd, Lie mae sudd y peraidd wreiddyn I ddwyn addfed ffrwythau hardd. I Arbed ef, gad iddo dyfu A ffrwythloni yn y tir, Ti yn unig all ei ddysgu I gynyrchu ffrwythau gwir. Eiddo'r plant yw Teyrnas Nefoedd Na waherddwch iddynt hwy Ddyfod ato yn finteioedd Yn haeddianau'r Dwyfol glwy'. Dolgellau. E. Y. WILLIAMS.
CAN' PUNT AM ATHROD.
CAN' PUNT AM ATHROD. Cynghaws lwyddianus yn erbyn Mei sires. Yn Mrawdlys Caerdydd yr wythnos ddi- weddaf, gwrandawyd achos o athrod gan waitress yn erbyn rheolyddes gwesty yn Llandrindod Wells. Mary Elizabeth i Laventure oedd yr achwynyddes, a'r diff- ynyddion Mr. Jeffrey Jones, U.H., Gwesty Brynawel, a'i wraig. Dywedodd Mr. B. Francis Williams, K.C. dros yr achwynyddes, fod y diffyn- yddion hyd 1907 yn perchenogi Gwesty Brynawel. Ond yn 1907, cymerwyd y lie gan gwmni, ac yr oedd Mr. Jones yn un o'r cyfarwyddwyr. Yr oedd yr achwynyddes yn waitress yn y gwesty yn 1908, ac yn ystod y tymor 1909. Yr oedd yn aros yn y gwesty ddyn o'r enw Mr. Bowen, yr hwn oedd braidd yn afiach, ac elai yr achwyn- yddes a gwasanaethyddion ereill i'w ystaf- ell gydag ymborth a phethau ereill. Ar Gorphenaf 21, 1909, aeth yr achwynyddes i ystafell Mr. Bowen, ond gan nad oedd eisieu iddi wneud dim ni arosodd fwy nag ychydig fynudau. Yr oedd y drws yn agored tra yr oedd yr achwynyddes i mewn. Wedi gadael yr ystafell aeth am dro, a phan yn dychwelyd dywedodd Mrs. Jones, "Edith, dowch yn eich blaen. Peidiwch ceisio gwneud ymddangosiad eich bod yn dyfod o roi tro. Buoch yn ystafell Mr. Bowen. Dylai fod arnoch gywilydd o honoch eich hunan, y Caf weled yn nghylch hyn boreu yfory, a chewch chwith- au fyned yn y boreu." Atebodd yr achwynyddes, "Qs mai dyna ydych yn feddwl, gwell ydyw i mi fyned ar unwaith.'f Ymadawodd yr achwynyddes, ac yr oedd allan o waith byth er hyny. Dywedodd y cwnsel nad oeddis yn honi fod Mr. Jones wedi athrodi, ond yn ol y gyfraith yr oedd y gwr yn gyfrifol am yr hyn ddywedai ei wraig (chwerthin). Dros yr amddiffyniad, dywedodd Mr. Abel Thomas, K.C., ei fod yn amhriodol iawn os oedd yr achwynyddes a Mr. Bowen yn yr ystafell, er na fu ymddygiad anwedd- aidd, ac yr oedd Mrs. Jones, i'w chyfiawn- hau am yr hyn a ddywedodd. Dyfamwyd o blaid yr achwynyddes, a chafodd lOOp o iawn gyda'r costau.
PWYLLGOR ADDYSG DOSBARTH ABERMAW.
PWYLLGOR ADDYSG DOSBARTH ABERMAW. Cynhaliwyd ddydd Iau dan lywyddiaeth y Parch. David Davies, Harlech. Darllenwyd llythyr oddiwrth Miss Jennie Roberts, athrawes gynorthwyol yn Ysgol yr Abermaw, yn ymddiswyddo, Odarlleh- wyd cais oddiwrth Miss Maggie Thomas athrawes gynorthwyol yn ysgol Artfiog am le Miss Roberts. Penodwyd Miss Thomas. Pasiwyd i godi cyflog y gofalydd am ysgol Llanfair i 4p y flwyddyn. Cyflwynwyd adroddiad yr is-bwyllgor a benodwyd i gyd-ymgynghori a Dr. G. Prys Williams, un o Arolygwyr Si Fawrhydi, parthed gwelliantau yn Ysgol ^Pyffryn yn ol awgrymiadau swyddog meddygol Undeb Dolgellau. Mabwysiadwyd yr adroddiad' Cyflwynodd Swyddog y Presenoldeb ei adroddiad misol yn dangos fod v presenol- deb y cant yn ngwahanol ysgolion y dos- barth am y mis fel y canlyn:—Arthog 89.2; Abermaw 83.6; Bontddu 81.3; Cwmnantcol 99.; Dyffryn' 90.4; Fairbourne 96.3; Har- lech 84.7; Llanfair 92.8; Llanbedr 92.7; Llwyngwril 94.3; cyfanswm 87.8; o'i gyd- maru a 91.2 yr un adeg y flwyddyn diwedd- af. Babanod dros 5 oed: Arthog 87.6; Abermaw 87.9; Bontddu 51.5; Dyffryn I 91.7; Fairbourne 95; Harlech 90; Llanfair 93.3; Llanbedr 75.1; Llwyngwril 86.5; cyfanswm 85.5; o'i gydmaru ag 84.8 y j flwyddyn ddiweddaf.