Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
L CYNGFOR DINESIG DOLGELLAU-…
L CYNGFOR DINESIG DOLGELLAU- j i Cynaii wvd cjfarfod rheolaidd o'r Cynghor uchod, nos Fawrth, yn y Neuadd Sirol, odan lywyddiaeth Dr John Jones (cadeirydd). Yr oedd hefyd yn bres-n^, Md Richard Rich. ards (Is-gadeirydd), Richard Edwards, John Edwards, E W ynLo Williams, William R Williams, ynghyda Richard Barnett (clerc). Pnsio y Dufr Pasiwj d i anfon at yr Engineer i ofyn iddo ddod i edrych y gwaith dwfr, a gwoeud ei adroddiad i'r Cynghor rhag biaeo. Y Crusher. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr David g Davies, A1 irmaw, yn dweyd ei fjd yn barod i dalu haner y gost ogludo y Crusher i'r dr(f, a byddai iddi gael ei chyflwvno i'r Oynghor yn y dref ar yr 20fed. Pasiwyd i nfon yn gofyn am dani yn y drd erbyn ddiwedd yr wythnos; a dewiswyd y cadeirydd, Is-gadeirydd, Mri J Edwards, a William Hughes i fod yn bvvyllgor i edrych am le i gadw y crusher. Adroddihd y Surveyor. Galwodd y Surveyor sylw at gyflwr pont Ysgol Dr Williams, darn o'r hon sydd wedi cwympo i lawr. Dywedai fod hyn yn wir- foddol wedi ei wneud gan rhywun; tie aw- grymai tm i'r Cynghor gynyg ihcdd i bwy bynag a rcddai hysbysiwyud a arweiniai i gosbedigaeth y gweithredwyr. Mr R Edwards a ddywedodd mai wedi cwympo o honi ei hun yr oedd y bont wedi wneud; nid oedd yn werth gwneud dim iddi. Dywedodd Mr Richards ei fod ef yn erbyn i un ddimai o arian y dref i gael eu gwario y tu allan i derfynan y Oynghor. Yr John Edwards-Mae y rhodfa dros y bont yn un o'r rhai mwyaf dymunol yn y dref; to yr oedd cwyn gyflredinol nad oedd y Oynghor yn gwneud digon o'r rhodfeydd sydd yn perthyn i'r dref, a chredai y dylid gwneyd rhywbeth i geisio cadw y rhocfa. Credai y cadeirydd y byddai-yn golled fawr i'r dH f pe coliid y rhodfa yma. Mr Ricbards-Pobl y wlad sydd yn man- teisio fwyaf arni, ae nid yw yn iawn i wario arian y dref er mantais pobl y wlad. Wedi ymdriniaeth bellach ar y mater, pas- iwyd fod Mr John Edwards alw sylw y Cyng- or Gwledig at gyflwr y bont, gan mai yn eu terfynaa hwy y mae y rhan sydd wedi cwympo. Dywedodd Mr Edwards mae nid amhriod- ol fyddai iddynt fabwysiadu awgrymiad y Surveyor yn ei adroddiad. Yr oedd amryw [ o bethau perthynol i'r cynghor wedi en niw- eidio yn ddiweddar, a chynygiodd fod gwobr hardd i bwy bynag a roddo wybodaeth a ar- weinia i gosbi y rhai a geir yn dyfetha eiddo y cynghor, a bod llythyr yn cael ei anfon i Supt Jones.—Pasiwyd y cynygiad. Paintio, Darllenwyd y specftcations a dynwyd allan gan y Sutveyor mewn perthynas i baintio yr Uiinals, enwau yr heolydd, &c. Derbyniwyd dan dender am wneud y gwaith, sef Richrad Jones am Xi:2, a Richard Evans am 99 10s. —Pasiwyd i dderbyn yr isaf, Darllenwyd llythyr oddiwrth Miss Yaughan Narman, yn gofyn am drwydded i ddelio mewn game.-Dywedodd y clerc fod yn rhaid tynu allan y trwyddedan yn mis Gorbhenaf, ac nis gellid eu rhoddi ar ol hyny. Se/yllfa y Cynghor. Darllenwyd adroddiad yr archwiliwr ar •efylifa y cynghor. Dywedodd y c!erc fod y Cynghor mewn dyled i'r bane 0 X278 8s 2c; yr oedd dros £600yn ddyledus gan y Cynghor ,*Sirol i'r Cynghor, yn ol eu hawliau hwy; a phe telid y rbai hyny, ni byyddai y Cynghor .mewd dylid, ond byddai ganddynt yn agos i JE400 wttb eu cefnau.
[ CYNHADLEDD ARWEINWYR Y I…
[ CYNHADLEDD ARWEINWYR Y I 'BOERIAID. a Aeth tri chadfridog byddinoedd y Boeriaid i Holland i gladdu cymrawd ac. i gydym- gynghori a Mr Krager. Y mae y gynhad- :edd drosodd. Yr oedd y drafodaeth yn ddirgel. Ond deallir fod y tri chadfridog wedi cael schos i newid eu cynlluniadau. Argyhoeddwyd hwy na ddaeth yr adeg eto i fyned allan i ddarlithio ar ran eu cydwladwyr. Fel dyaioa call penderfynasant wneyd eu rhan a'u mater yn dda gyda Mr Chamberlain yn m'aenaf cyn agor eu geneu i draethu am galedi rhyfel. Rhoddodd Mr Kruger ei swydd i fyny f d penaeth.y Boeriaid, a chym- erwyd y cyfryw gan y Cadfridog Botha, El- rychir ar Dr Leyds, prif gynghorwr Mr Kruger, fel Ahitophel yn y wlad. Am nad. oedd angen ei wasanaeth mwyach dywedir iddo tf gael ei dala allan. Ychydig os dim goleuni a gafwyd ar gronfa arianol Mr Kruger. Gwrthododd Dr Leyds roddi y manylion hyd yn oed i'r tri chadfridog-, gan y byddai hyny yn fradychu cyf inach. Yr wythnos ddiweddaf ymollyngodd Mr Reitz i draethu llawer 0 ynfydrwydd. Ni bydd iddo ef byth ddychwelyd i'r Transvaal na chymer- yd llw teyrngarweh. Deisyfiad ei galon fyddai gweled y Saeson a'r Boeriaid yn elynion am dros byth. Dinesydd Americanaidd fydd efe mwyach. Yn y cyfamser y mae hanes bywyd Mr Kruger ar fedr myned i'r wasg. Bwriedir ei gyhoeddi mewn amryw ieithoedd. Gall roddi llawer 0 oleuni ar fwriadau cyntefig y Boeriaid. De Wet hefyd sydd yn brysur gyda ei. gyfrol yntauar y rhyfel. Oydrhwng y ddau ond odid na cheir yr ochr Foeriaid i'r helyct gwaodlyd yn Jled lwyr.
TORI AMOD PKIODAS.I
TORI AMOD PKIODAS. 0 flaen yr Ie-Sirydd, Mr Lloyd Carter, yn Nghaernarfon, ddydd Sadwrn, gwrandawyd ar achos 0 dori amod priodas. Y partion oeddynt Kate Hughes, Mount Pleasant, Morfa Nefyo, a Charles Edward Wareing, masnachydd anifeiliaid, Southport. Ar ran yr achwynyddes ymddangosai Mr W George, ond ni wnaeth yr amdefiffynydd ei ymddan- gosiad. Agorodd Mr George drwy ddweyd mai cynghaws i geisio iawn am dori amod priodas oedd, Yr oedd Miss Hughes yn byw'n Morfa Nefyn; ac oddeutu tair blynedd yn ol aeth i weini i Southport, a thra yno daeth yn gyd- nabyddus a'r diffynydd, mab i fasnachwr mewn anifeiliaid. Yr oedd y dyn ieuane yma, yn nghydag aelodau eraill y teulo, yn helpu yn y fdsnacb; ae arferai alw yn y ty He yr oedd Miss Hughes yn gwasanaethu. Deanaw mis yn ol aethent i garu; ac arferai hi ei weled yn fynych, ac elai am dro gydag ef. Elent i gyrddau te gyda'u gilydd. Aeth y dyn ieuane o'r lie, ac i Hooley Ffarm, :ger Preston, a thra yno arferent anfon llythyrau at:eu gilydd. Oddeutu y Nadolig diweddaf gefynodd iddi a ddeuai hi yn wraig iddo ef. Cytunodd a hi. Prynodd iddi fodrwy a huner dwsin 0 lwyau. Cadwodd ef y fodrwy ei hunan. Yna gwnaed trefniadau am y briodas yn Ionawr; ond gohiriwyd hyn hyd ar ol y Coroniad Ar gyfer y briodas hi a brynodd werth ugain pant 0 wisgoedd a dodrtfa Ar ol hyn dychwelodd adref, gan na theimlai yn dda ei iechyd. Y diwrnod wedi iddi dych- weiyd adref anfonwyd ei phetbau yn ol gyda nodyn 0 eiddo brawd yr amddiffynydd. Yr oedd hi wedi dychryn gweled y pethao, ac ysgrifenodd am eglurhad. Derbyniodd gerdyn drwy'r post yn gof/n iddi ddilyn eynghor ei I frawd. Heb dderbyn eglnrhad. rhoddodd yr achwynyddes y mater yn llaw Mr George. Yagrifenodd Mr W George at yr amddiffyn- 1 ydd, yr hwn a dllywedai ci fod mewn sefyllfa I ddrwg 0 ran ei iechyd. Y cwestiwn 0 flaen y Llys ydoedJ faint a iawn a ddylid dalu i'r achwynyddes. l Ar ol i'r achwynyddes roddi ei thystiolaeth, anerchodd Mr Lloyd Carter y rheithwyr. Dychwelwyd rheithfarn 0 gan' punt a'r cobtau.
TRYCHINEB YN NGLOFA BODRIN-GALLT,…
TRYCHINEB YN NGLOFA BODRIN- GALLT, YSTRAD, RHON'D^A. Caw ell yn syrth;o i lawr y siafft. Fel yr oedd y personau a weithiant y dydd yn myned i lawr Glofa Bodringalifc, Ystra^, Rhondda, ddydd GwemF, cafodd y p^irianly ei lwyr losgi gan dan. Torodd nn o'r gwiail gwifr oedd wedi cael eu cylytnu wrihygawel1, gan mor angerddol oedd y gwreg. a syrthiodd n C, y gawell i lawr y siafft pan y cafodd dyn o'r enw Thomas ei niweidio. Yn ngwyneb yr anhawsder hwn ar y siaffb, nid oadd yo bosibl ei symud yn ddioed, a ba raid i'r gweifchvvyr fyned i'r pwll yn Ferndale, a cherdded gyda ambulance am ddwy filldir 0 din y ddasar cyn cyrhaedd Thomas. Pan gymerodd y trychineb le, yr oedd y peirianwr, Evau Lloyd, yn y weithred o ollwng uu ar ddeg o'r dynion i lawr. Er iddo gael ei amgylchyau gan fflamau, glyaold yn wrolfrydig wrth y lefel. Llosgwyd ei wyneb yn drwm, ond darfu i'w wroldeb osgoi trych- ineb dychrynllyd. Ct fodd pump cant 0 ddynion eu tynu o'r pwll ar hyd ff)rdd Ferndale. Y mae y tan wedi taflu 800 0 ddynion ailaa 0 waith am dymor.
DYOHWELIAD MH. HOWELL IDRIS,…
DYOHWELIAD MH. HOWELL IDRIS, I'R CYNGHOR SIROL. Y mae'r Cymro, pybyr a phobiogaidd Mr. T. Howell Wiiliams-Idris, uawaith eto yn aelod 0 Gynghor Sirol Llundain. Bu yn aelod am lawer o fly-nyddoedd o'r blaen; ac nid oes ar y cofnodion well record na'r un a dorwyd ganddo ef. Cafodd frwydr boeth yn Sant Pancras, ollegid yr oedd ei wrthwyneb- ydd, maer y rhantartb, yn un 0 ddynion goren y Moderates, fel y gelwir Oeidwadwyr y Cynghor Siro). Ond fe ennillodd gyda mwy- afrif anrhydeddus; a diau y gwnaiif eto waith ardderchog ar y cynghor ac ar ei bwyllgorau, Nid ydyw yn annhebygol y gelwir arno i ym.. ladd brwydr seneddol yn yr un gynrychiok aeth, Gwnelai aelod rhagorol yn mhob ystyr.
- DYCHWELIAD LLOYD GEORGE.
DYCHWELIAD LLOYD GEORGE. Da genym weled Mr. Lloyd George wedi dyfod i lawr o'r Alpau, ac wedi dychwelyd i fynwes ei bobl ei hun. Y mae wedi- cael llawer o adnewyddiad i'w gorph a'i feddwl yn yr Yswissdir; ac yn wir, yr oedd arno ei angen, oblegid yn y senedd-dymor diweddaf ni weithiodd neb gyda mwy 0 s6l llosgawl na'r aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Arfon. Y mae rhagor o waith yn ei aros pan gyfer- fydd y senedd; ac os gwir a ddywed Mr John Redmoud (ac y roaa ef yn gwybod rhywbeth am y safle) bydd raid iddo ddal ati 0 leiaf hyd y Nadolig.
Advertising
Atal Peswch mown un Noswaith. TYSTIOLAETH MEDDYG. YMAE Veno's Lightning Cough Cure yn fedd- yginiaeth gelfyddydol, yn neillduol am wella Peswch, Bronchitis, Asliina, Catarrh, Iufluenza, a phob Peswch. Mae yn llawer uwchraddol ns dim arall a gynygir i wella peswch. Dywed George Knox, M.D., 256 Second Avenne,' Pittsburgh, Pa., "Fod Veno's Lightning Coughs Cure yn rjiagori ar ddim i beswch parhaol a bronchitis, ac y mae yn ddiogel i blant. Pris, Is. isc. a 2s. 9c. Yn cael ei werthu yn mhobt man gan fferyllwyr.