Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
YR YSTORM.
YR YSTORM. Mae y rhuthrwynt wedi gwneud galanastra mawr y dyddiau diweddaf. Yr oedd yr agerlong Teutonic ar ei ffordd o'r America. Ysgubwyd pob peth oedd ar y dec i'r eigion, ac ofnai y cadben mai suddo fuasai y canlyniad, ond tawel- odd a Ilwyddwyd i ddyfod yn mlaen. Yr oedd y mor yn dyfod dros y waliau i'r ffordd -haiarn rhwag Conwy a Penmaenmawr. Yr oedd llong fawr mewn peryg1, ac yr oedd yr arwyddion yn dyfod o gyfeiriad yr Abermaw pan t yr aeth y bywydfad allan o Aberystwyth. v Newyddion tebyg sydd yn dyfod o Gaerdydd, Abertawe, Castellnedd, &c.
Family Notices
PRIODAS. Mawrth 2fed, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Dolgellau, yn mhresenoldeb Mr Thomas Parry, Cofrestrydd, Mr Richard Jones, Llwyngrug, Mallwyd, a Miss Catherine Hughes, Pennant, Llanymawddwy. i MARWOLAETHAU. Chwefror 28ain, yn 63 mlwydd oed, Mrs Elizabeth Pugh, gweddw y diweddar Mr David Pugb, Railway, Platelayer, Llyndu, Barmouth. Mawrth 2fed, yn 18 mlwydd oed, Evan mab Mrs Elizabeth Jones, Vale View, Dol- gellau, (gynt Blue Lion Inn) a Mr E. Jones, Bragwr a ffermwr yn Nolgellan, yr hwn a ragflaenodd ei fab ddeng mlynedd yn ol i dy ei hir gartref. Cleddir ef yfory, dydd Gwener am 2 o'r gloch, yn hen fynwent Dolgellau, yn ymyl ei anwyl dad a'i frodyr bach. Claddedigaeth gyhoeddus ydyw. Cydymdeimlir yn fawr a'i fam, a'i frodyr, a'i chwiorydd, yn eu trallod. Chwefror 27ain, yn 9 mis oed, Louisa Lewis, plentyn bychan Mr a Mrs David Peters, No 2, Doctor's Buildings, Abermaw. Chwefror 27ain, yn 7 mis oed, William, plentyn bychain Mr a Mrs Edmund Humphreys, No 6, Tygwyn Buildings, Abermaw. Mawrth 3ydd, yn 4 mis oed, Catherine Mary, merch Mr a Mrs Edward Williams, St Anne's Tea Stores, Abermaw. Chwefror 28, yn 8 mlwydd oed, Horace, unig fab Mr a Mrs A. G. Castle, Arthog, a chladdwyd ef ddydd Mawrth yn Llwyngwril, ac y mae y cydymdeimlad yn fawr a'r rhieni o golli dymun- iant eu llygaid. Mawrth 3. yn 72 mlwydd oed, Edward Taylor Ysw. Penbryn o'r dref hon. Bu yn lletya yn hir x yn Brynbella, ac wedi hyny yn Penbryn House. Mawrth_3. yn 81 mlwydd oed, Mrs Hughes, pnod Mr R. Hughes,Felin-newydd, Rhydymain Dolgellau, deddir hi ddydd Sadwrn yn Llan- fachreth. Drwy genym am y golled mae y teulu yn ei ga«l o briod a mam rinweddoh
[No title]
Deallwn fod y Machine wnio a gynygiwyd gan Mr W. S. Williams, Commerce House, Dolgellau, i'r prynwr mwyaf yn ystod yr arwethiant wedi ei henill gan Mr Thomas Roberts, Cross Foxes Hotel, ger Dolgellau. Oherwydd prinder lie yn y masnachdy uchod i gyfarfod &'r cynydd masnachol yn y lie, mae Mr VV-. S. Williams yn bresenol yn cario allan well- iantau mawrion, pryd y bydd y siop bresenol yn cael ei helaethu ddwbl y maint ydyw ar hyn o :l:>ryd. Mewn ychydig ddyddiau, dangosa Fargein- ion Mawrion.—ADVT,
ABERMAW.
ABERMAW. Da genym ddeall fod tua phedwar ugain o bobl ieuainc yn presenoli eu hunain yn ysgolion v nos yn y lie uchod, a'r wvthnos ddiweddaf cawsant wledi o de a bara brith gyda'u gilydd a chyfarfod adlon- iadol yn yr hwyr.
-1BORTHWNOG.
-1 BORTHWNOG. Yn unol a'r gweithgarwch a'r ymröad sydd wedi ei nodweddu yn y blynyddoedd diwedd- af, deallwn fod eglwys y Borth a'i gweinidog llafurus wedi gwahodd Cyfarfod Chwarteroi Mawrth i dalu ymweliad a hwy, yr hwn a gynelir dydd Mercher a dydd Iau nesaf. Am ddau dydd Mercher cyferfydd y Gynadledd. Nos Fercher, fel y clywsom, bydd pregethu mewn amryw o'r eglwysi cylchynol heblaw yn y Borth, a Llanelltyd. Trwy y dydd dranoeth, pregethir yn y Borth yn unig; yn ystod y dydd pregethir* ar y pwnc rhoddedig, sef "Adfywiad Crefyddol," gan y Parch W. 0. Davies, Abergynolwyn. Llongyfarchwn eglwys y Borth ar ei gwaith yn derbyn y Cyfarfod Chwarteroi, ac dddunwn iddi gy- farfod llwyddianus yn mhob ystyr. Diau ei bod yn un o'r eglwysi mwyaf gweithgar a llewyrchus yn y Sir. Mae enw y Parch I. Jones, y gweinidog, bellach yn hollol adna- yddus i'r cylchoedd byn, fel gwr ymroddgar ac egniol gyda'i eglwys, ac fel un yn meddu galla eithriadol i ddwyn pobl i weithio, yn neillduol felly yr ieuainc. Daw yn rhwydd iddo eto, am lawer blwyddyn, i adeiladu y saint, magu y bobl ieuainc, a chyda'i gor melusber i ganu dyledion addoldai i'r llawr. Eiddunwn wenau yr Arglwydd ar eu cyfarfod agoshaol. PHILO.
TRWSIO YR EGLWYS.
TRWSIO YR EGLWYS. Cynaliwyd cyfarfod o Eglwyswyr, yn cyn- rychioli yr amrywiol eglwysydd o fewn dinas Bangor, nos Lun, dan lywyddiaeth l)r Grey Edwards, i gychwyn symudiad i ddiwgio yr Eglwys. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch W. A: Edwards, ysgrifenydd mygedol Cynghrair Di- wygio yr Eglwys yn Nghymru, a hysbysodd y ;n gwr parchedig y cyhoeddid amlinelliadymesur a gyflwynir i'r Senedd rai o'r dyddiau nesaf. Caiiwyd y penderfyniad canlynol yn un- frydol:— Fod y cyfarfod hwn o Eglwyswyr o'r farn fod vr amser presenol yn amser cyfleus i sicihau diwygiad Eglwysig, a'n bod yma yn ymrwymo i wneyd yr oil yn ein galla drwy fabwysiadu cwrs mwy cynyddol ac ymosodol i hyrwyddo yr amcan hwn yn ystod y senedd bresenol. Dewisiwyd pwyllgor, o dan lywyddiaeth Dr Grey EJ wards, i drefnu arddangosiad a gynbelir yo Mangor, ar yr 20fed o Ebrill, ac i agor rhyfelawd yn Nghymru. Wrtb ateb llythyr a anfonwvd ar y pwnc hwn, cyfeiria Esgob Bangor ei gefnogwyr at y golygiadau a ddadganodd efe ar ddiwyglad Eglwysig yn ughynadledd Porthmadog y lljnedd, a chwanega:— 'Pa gynllun bynag o ddiwygiad Eglwysig yr ymgymerir ag ef gyda'r amean o gryfhau yr Eglwys, a'i gosod ar sail lydan boblogaidd, fe gaiff bob amser fy ystyriaeth gyntsaf.'
|DEWI SANT.
DEWI SANT. Dewi (neu Daf ydd) oedd fab Sandde, yr hwn fel ti fab ar ei ol, ydoedd enwog yn hanesion eglwysis* ei genedl, yn gystal ag oherwydd dichlynder ei fuchedd. A'r Sandde hwn oedd fab neu *yr (pa un nid yw sicr, am fod awdwyr yn amrywio yn ? mater) i Ceredig, penaeth ag oedd a'i darddiad o Cumbria, ac oddiwrth ei enw ef y galwyd swydd Aberteifi, yn Geredig- ion. A thftd Ceredig oedd Canedda, i'r hwn gynt yr ydoedd awdurdod brenbinol yn Ngogledd Lloegr, eithr oblegid ter- fysgoedd y dyddiau hyny, a fu orfod iddo gilio oddiyno; ac yn y canlyniad efe a'i epil luosog a ymsefydlasant yn Nghymru lie yr cedd iddo et dreftadaeth drwy hawl ei fam, Gwawl ferch Coel G-odebog: ac ychwanegwyd at ei etifeddiaetli fel gwobr am y cynorthwy a roddodd efe a'i feibion i wrthsefyll y Gwyddelod oeddynt yn gormesu ar dueddou Cymru. Mam Dewi ydoedd Non, merch Gynyr, o Gaer Gawch, yn Mynyw, penaeth gall- nog yn y parth hwnw, ac us mor enwog am ei dduwiolder fel y dywedir ddarfod iddo yntau, fel Cunedda, gyflwyno ei etifedd- iaeth i wasanaeth crefydd. Ei wraig ef ydoedd Anna, merch Gwrthefyr, 83ain brenin Prydaiu; oddiwrth yr hyn y can- fyddir fod Dewi o'r gwaedoliaeth ar- dderchocaf o ran ucheledd bydol, achefyd o ran dyhewyd crefyddol. Am le ac amser genedigaeth Dewi nid oes hysbysrwydd manwl na sicr. Yr hyn sydd fwyaf tebygol yw mai lle ei enedig- aeth ydoedd rhyw fan gyfagos i sefyllfayr Esgoble a adnabyddir hyd heddyw wrth II ei enw, sef Ty Ddewi, yn swydd Benfro, a elwid y pryd hwnw Mynyw. Ac amser ei enedigaeth a ellir ei osod tua chanol y 5ed panrif. A phe bai hanesion yr am- gylchiad o sicrwydd digonol i'w credu, gellid casglu ddarfod i'r dwthwn gael ei hynodi ag amryw ddygwydiadnu cyd- fynedol tra nodedig. Yn ol yr hanesion hyny rhoddir ar ddeall iddo, pan yn ieu- tanc iawn, gael ei fwriadu i wasanaeth crefydd, ac i'r dyben hwnw ei ddodi dan ofal dysgedigol y clodwych Pawl Hen, un o beDaethiad eglwysig arbenicaf y dyddiau hyny, a sylfaenwr athrofa Ty Gwyn ar Dai, yn swydd Gaerfyrddin. Dan addysg- iad y gwr hwn y dywedir i Ddewi barhau dros ddeng mlynedd, gau gyn- nyddu yn gyflym mewn dysgeidiaeth ac mewn ymarferiad manylaidd o ddyled. swyddau crefyddol; yr hyn a'i darparodd yn rhagorol i'r cyfenwad o'r sefyllfaoedd goruchelybuynddyntarolhyny Wedi i Ddewi adael Pawl Hen, dych- welodd i'w le genedigol, ac yno, fel yr ymddengys y bwriadai, dros ryw ysbaid o leiaf, fyw yn ddidoledig oddiwrth y byd; gan gymeryd ei drigfod yn nyffryn Rhos, gerllaw Ty Ddewi; ac yno y sefydl- odd gymdeithas grefyddol, o'r hon y daeth amryw o'i gydwladwyr yn aelodau, y rhai wedi hyny a fuont enwog am eu brwdfrydedd a'i defoyddioldeb yn achos y grefydd Gristionogol, aC6 yn eu plith yr ydoedd Teilo a Phadarn, gwyr hyglod mewn hanesion eglwysig, ac i ba rai y mae amryw o eglwysi Cymru wedi eu cysegru. Rheolau dysgyblaethol y gym- deithas hon oeddynt bynod o ddichlynaidd a hunan-ymwadol; yr oedd yr holl aelod- au yn ddyfal mewn gweddiau, gwyliadwr- iaethau, llafur, a dirwest; eithr er eu bod hwy eu hunain yn ymatal felly oddi- wrth gysuron bywyd, cyfranent yr unrhyw yn haelionus i ereill; diwallu yr anghen- og a chynorthwyo y cyfyngderus oedd eu prif hyfrydwch; a hyny nid yn unig mewn pethau daearol, eithr yn fwy fyth mewn addysgiadau ysbrydol. Gyda golwg ar y rhinweddau hyn o eiddo Dewi a'i gyd-lafurwyr, Teilo a Phadarn, y mae y Trioedd yn eu galw yn "dri ymwelwyr hynaws Ynys Prydain."
CYNGHERDD YN Y TLOTY.
eu cyfarfod, a chafwyd addewid am uncyffelyb 1 cyn hir eto Teimlwn yn ddyledswydd arnom gydnabod parodrwydd Mrs Evans i gymeryd rhan mewn nnrhyw gyfarfod y gofynir iddi wneud, ac nid ydym yn gwybod am neb sydd wedi gwasan- aethu y dref mor ffyddlon, ac eto, inor ddi- ddiolch a didal yn ystod y deng mlynedd jiweddaf; Deallwn fod Mr John Evans, gynt o'r dref hon wedi ei benodi yn ysgol-feistr yn Aber- llefenni.