Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Y WASG. -
Y WASG. A Popular Handbook to the Microscope J|jr Lewis Wright. Cyboeddedig gan y Jteligious Tract Society, 56 Paternoster Row, LondoD. I'r sawl sydd a'i fryd ar astudio y e&wydd-wydr, Did oes llyfr cyffelyb i'r ngfeod wedi ei gyhoeddi. Dangosa ugein- iau Jawer o bob math o greaduriaid a welir drwy y chwydd-wydr-yn mysg y Thai sydd yn yu y mor, a'r gwahanol ani- feiliaid ar y tir, a'r ymlusgiaid, heblaw y thai sydd yn nosbarth y Ilysiau. Y mae'n I cynwys ugeiniau o bob matllo ddarhmiau a cyfarwyddiadau i ddeall y chwydd-wydr. Ymddengys nad yw clyn yp gallu atngyff- red doethineb Duw mewn natur, heb iddo allu gweled ei ryfeddodau trwy y chwydd-wydr." Gwna astudwyr yn y ganghen hon o wybodaeth yn ddoeth i bwrcasu y Ilytr uchol Liyfraucyhoeddedig gan A. Bourner, 1, TcoJcs Gmirfy Cursitor st,, London, E C. The Direction of Giuhzattof,. By A. J. Cooper. Pris Is, a 2s mewn cloth. Mae liwn eynwys 181 o dudalenau, ac yn cynwys penodau ar Grefydd, Tlodi, Y rhai allan o waith, Rbyddid y Fenyw, Rhyddid y Dyn, &c. I The Impeachment of the Mouse of Bruns- wick. By e. Bradlaugh. Price 2s. I Cynwysa hanes o amser Sior i. hyd deyrnasiad ei Mawrhydi, a chynwysa I gyhuddiadau pwysig, y gwaddoliadau a gyfenid, a'r arian delir i fawrion y wlad o bocedi y cyhoedd. Cynwysa ddangos- adau sydd wedi peri i ni synu at yr holl arian wastreffir gan y gwahanol lywodr- aethau. Myner gweled y llyfr hwn, a darllener ef. Theological Essays. By C. Bradlaugh. Nifer o bamphledau yw yr uchod wedi eu casglu at eu gilydd, a'u gwneud yn un llyfr trwchus ar faterion, megvs,A oes gan ddyn enaid, Ychydig eiriau o berthynas i'r diafol, Ai Adda ac Efa oedd ein rhieni cyntaf? a degau o fateriou cyffelyb; Gobeithio os bydd i'n darllenwyr ei dar- Ilen, na byddant yn gwyrdroi oddiwrth y ffydd roddwyd rnwaith i'r saint. Gwyddom y bydd rbai yn awyddus am gael darllen pethau fel yr uchod a'i gyffelyb. Gminm CJivyl Dewi. Daeth allan yn brydlon eieni etofel arfer, ac yn Hawn o arhwon breision, gan rai o wyr blaenaf ein cenea), nid amgen Watcyn Wyn, Cad van, Gwalchmai, Griffith Ellis. M.A., Anthropos, Elfyn, Gwyllt y Mynydd, Tudur Clwyd, E. Foulkes, Llanberis, &c. Mae'r ysorif ar Athan Fordd yn (Ida, difyr, a byw. Yr ym- gom a Chlwydfardd yn ddyddorol iawn, a nodweddiadol c'r Hen Batriarch, a'r ysgrif ar yr Archddeiwydd, yn dangos 61 llaw bcirniad a bywgraffydd medrus. Mae'r ysgrif ar Dafydd Ab Gwilym yn wir feistrol- gar, a'r ysgrif ar Edward Richard a'i Fugeil- gerddi gan D. Samuel, M.A. yn gaffaeliad hapas i'n llenyddiaeth. Dwy ysgrif dda, a theilwDg o'u hawdwyr, yw yr ysgrifau ar Dr. Cefni Parry a Dr. J. Parry, f ala. Am yr ysgrifau ar Dewi Havesp a Fferyllfardd, maent yn nodedig ddyddorol a hapus. Y n ych wanegol at yr uchod, ceir yn y rhifyn hwn doraeth o englynion gan wyr o safle, a medr yn nghylch cvgegredig barddas. Y sawl a fyno Geninen Gwyl Dewi—ni cha ei siomi am arlwyon breision.
CYHUDDO YNAD 0 GAEL ARIACf…
CYHUDDO YNAD 0 GAEL ARIACf 1 TRWY DWYLL. J Yn Llys Ynadol Pontypridd, dydd Mercher, gwrandawyd achos yn yr hwn y cymerwyd dyddordeb anaiferol, gerbron II yr ynad taledig ac ynadon eraill. Y diffynydd ydoedd Mr William Merchant, U.H., gynt oruchwyliwr y Metropolitan Bank yn Mhontypridd. Cyhuddid ef o dderbyn 130p trwy ymhoniad ffugiol, a chyda'r amcan o dwyllo, oddiar y Super- intendent Evan Jones, Pontypridd, is- brif-gwnstabl sir Forganwg. Cynrychiolid y diffynydi gan Mr Arthur Lewis, B.A., ac ymddangosai Mr Kenshole, Aberdar, i erlyu. Wrth anerch y fainc, laaoylodd Mr Kenshole yr amgychiadau a arweiniaseut ii gweitbifodiadau cyfreithiol. Oddeutu chwech o'r gloch nos Sul, yr 28ain c Orpheuaf diweddaf, tra yr oedd y Super- intendeot Jones ar ei ffordd i'r gwasacaeth crefyddol, ac yn myned heibio preswylfa y diffynydd, daeth Mr Merchant allan, a galwodd arno at y llidiart, ac wed'yn gwahoddodd ef i'r ty. Yna awgrymodi Mr Merchant ei fod wedi cael < tip" dda part-hed cyfranau neillduol; a dvwedodd pegallaigael digon o arian rwprynu y buaaai yn enill 200p aroynt. Ynagofyn- odd i Mr Jones am fenthyg 200p, ond gan ei fod yn petruso awgrymodd Mr Merchant y bnasai 130p yii gwneud y jtro. Pan y goiynodd Mr Jones am security, darllenodd y diffynydd gyfres o gyfranau y dyweda1 y meddianau niewn gwahanol gwmniau, a sicrhaodd Jones y oyddai ei arian Vn ddyogeL Yna rhodd- qdd iddo ch. que am 130p, a derbyniodd addaweb am y swm. Gan fod Jones yn methu cael ei arian yn ol, gwnaeth ym- chwiliad, a chafodd allan nad oedd ystori'r cyfrauau yn ddim ond twylJ. Gohiriwyd yr achos am bythefros. I A ARTHUR FORWOOD, A.S
THRODI ARTHUR FORWOOD, A.S
Dydd Gwener, terfynwyd y cynghaws a ddygid gan Mr Arthur Forwood, A. S., un o benaethiaid y Toriaid yn Lerpwl, yn erbyn perchenogion y "Railway Times" am athrod. Gwrandawyd yr achos gan Arglwydd Russell a rlJeithwyr arbenig, a pharhaodd am naw diwrnod. Honai y 'Railway Times' fod Mr Forwood wedi bod yn euog o gamymddygiad gwarthus fel cyfarwyddwr amryw o gwmniau mawrion, a cheisid cyfiawnhau yr haeriadau a wnaed. Cafodd yr hawlydd lOOp o iawn, tra y gofynai am 5,000p. Ystyr hyn, meddir, ydyw fod Mr Forwood wedi bod yn dra an- ochelgar, ond nid yn dwyllodrus.
ANFADWAITH AR Y CAMBRIAN.
ANFADWAITH AR Y CAMBRIAN. Credir fod cais wedi ei wneud yn hwyr nos lau i ddryllio llythyr-gerbydres ar reilffordd y Cambrian, ar ei ffordd o Aberystwyth i Groesoswallt. Credir fod rhywun wedi gosod sleeper yn groes i'r rheiliau rhwng Machynlleth a Cemaes-roadv Yn ffodus, tarawodd y peiriant yn erbyn y pran, a chariodd ef yn mlaen am ddau gan'llath. Ysgubwyd y ballast i bob cyfeiriad, a chafodd y gyrwr ei daraw, yr hwn a ataliodd y gerbydres yn y fan. Mae'r heddgeidwaid yn edrych i'r mater.
i . DYGWYDDIAD RHYFEDD.
DYGWYDDIAD RHYFEDD. Prydnawn ddydd Mawrth, pan yr oedd cwn Ystrad Rhondda yn hela ar Gefn On, ger Caerffili, rhedasant yn erbyn gwedd o geffylau, 15 mewn rhif,y rhai oedd yn tynu gwagen yn cynwys 11 tunell o ddynameit oedd yn dael ei gario i'r yatordv ar y myn- ydd uchod 1 Dychrynwyd y ceffylau gymaint fel y rhuthrasantymaithgandori y shafft oddiwrth y wagen, a dymchwel- wyd y wagen. Yn ffodus ni ffrwydrodd y dynameit, neu buasai'r holl gwmni oedd gyda'r ewn hela wedi eu chwythu yn ys- gyrion, a buasai'r wlad am bellder o ugain milldir wedi ei siglo.
TRAUL Y LLYNGES.
TRAUL Y LLYNGES. Yn Nhy'r Cyffredin nos Lun, dywedodd Mr Goschen, with gyflwyno yr amcangyfrifon OY disgwyjiedig o draulyllynges,nad oedd y cynygion hyn yn cael eu dwyn yn mlaen o dan deimladau o ddychryo. Gofynai am ychwanegiad o 4,900 o forwyr, peirianwyr, a mor-filwyr. Anfonid ua llong hyffordd- iadol ychvanegol i Queensfcown, a cbodid coleg ar y lan yn lie y 'Brittania.' Drwg gandda ei bod yn anghenrheidiol gofyn am ychwaneg o 850,000p. ar gyfer arfau rhyfel.
ETHOLIAD LI OH FIELD.
ETHOLIAD LI OH FIELD. BTJDDUGOLIAETH RYDDFRYDIG, Cymerodd yr etholiad yn Lichfield, i lenwi y sedd a waghawyd drwy ddi-seddiad Mr H« C. Fulford (R) ar ddeiseb, ddydd Mercher diweddaf. Cyfrifv/yd y pleidleisiau ddydd lau, a chyhoeddwyd y ffigyrau fel y canlyn:- Mr T. C. Warner (R) 4483 Uwchgaiben L. Darwin (U) 3,955 znl M wyaf Rhyddfrydig 528 Yn 1895 dewiswyd Mr Fulford (R), gyda mwyafrif o 44; ac yn 1892, Uwchgadben Darwin (U), gyda mwyafrif o 4. z' Wedi cyhoeddiad y ffigyran, dilynodd golygfa hynod frwdfrydig. Cariwyd Mr Warner i ystafelloedd y Rhyddfrydwyr, lie yr anerchodd efe y dorf. Llongyf arch odd ei gefnogwyr ar y fuddugoliaeth a eniilasant, a diolchodd iddynt am y gefnogaeth a roddasant iddo. Byddai i'r fuddugoliaeth chwanegu at rym Montrose a Southampton (cymeradwy- aeth.)
PARSON MEWN CAPEL.
PARSON MEWN CAPEL. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd person o Gwmrhondda yn cael ei gladdu yn mynwent Capel yr Annibynwyr, Groesw3n Pontypridd. Yr oedd yr ymadawelig yn awyddus am i barson yr Eglwys Sefydted- ig wasanaethu ar yr amgylchiad, ac yn llawen caniataodd Mr Tawelfryn Thomas, y gweinidog, i'r cais, ac ar yr amser priod- 01 ymddangosodd y parson yn ei wisg 0 won i dderbyn y corff a myned i'r capel, a gwasanaethodd hefyd wrth y bedd. Onid yw hyn yn ysbryd yn ei Ie? Yn sicr, byddai talu y caredigrwydd yn ol i weinidog Ymneillduol yn beth yn ei le.
Advertising
COUNTRY Gentlemen should not fail obtain a copy of the COUNTRY GENTLE- MEN'S CATALOGUE.' It is the handiest and most se ul book published, Everything you want is here. Cloth, 3s. 6d. Paper boards, 2s. 6d. post free. EDEN FISHER & Co., 6, 7 & 8, Clement Lane, E C., and all booksellers and bo kstalls