Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. CYHOEDDIADAU SABBATHOL. Tabernacl(A.)- W. Jones o Goleg Bangor. Seisonig (J..)—Parch T. Llewelyn, Colchester to(ilk)-Parch J. Howell Hughe,, Ys- byttv. Bethel (M.C.)-Parch D. Jones, B-,tbesda. Seisonig (M.C.)-Parch T. J. Thomas, Mach- ynlleth. Menezer(W.)—Parch B. LI. Jones,Aberm tw. Judah (B.)-Parch T. Morris, gweinidog.
DR. J. LL. EDWARDS.
DR. J. LL. EDWARDS. Cymerwyd dyn i fyny yn Llantrisant, Morganwg, o'r enw Edwin Pugh, ar y eyhuddiad o saeth. Dr Lloyd Edwards yn Ynyshir ar y 23ain cyfhoJ.
LLYS YR YNADON.
LLYS YR YNADON. Gerbron Meistri Edwards, 0. Slanoy Wynne, Edward Jones, H, Ll. Williams, E. Griffith, M. Jones, a J. L. Taylor. Edwards, gwas diweddar yn Esgaigawr a gyhuddid gan yr Arolygydd Sankey,' Caer, o ymosod ar wraig a phlentyp, yr hyn a gymerodd le Ebrill 21 (diwrnod y ffair). Ni wnaeth y diffynydd eiymddang- osiad, ac felly gohiriwyd yr achos am bymtheg-ios.
ABERMAW.
ABERMAW. Dydd LInnd iwsddaf cynaliodd Wesley. aid cylchdaith Dolgellau ac Abermaw, eu Cymanfa Lenyddol a Cherddorol. Edrychai yr hin ychydig yn anffafriol cyn dechreu'i dydd, ond fe drodd yn ddiwrnod bafaidd a dymunol dros ben. Yr oedd dau gyfar- fod yn cael eu neillduo i'r adran lenyddol yn fwyaf arbenig, o dan arweinyddiaeth loan Glan Menai, yr hwn a wnaeth ei waith yn ardderchog, Nid amcanwn roddi i lawr restr gyflawn o'r buddugwyr gan na chymerasom eu henwau i lawr ar y pryd. Yn eu mysg enillodd Peter Williams, Dolgellau, ar Draethawd i rai dan 18 oed, 'Dyffrynoe Id y Beibl/ hefyd araeth ysgrif- enedig 'Gwarchaead Samaria'ac hefyd, bras linelliad goreu o bregethau.' Traethawd i ferched 'Cylch merch yn ngyrfa bywyd,' Miss Morgan Abermaw. Crynodeb o ym- resymiad yr Apostol yn y 6, 7, a'r 8fed benod o'r Rhufeiniaid,' Mr Griffith Edwards, Abermaw. Yn yr arholiadaeth ysgrifenedig, gwobrwywyd Mri. Thomas Roberts, Harlecb, J. R. Williams, N. & S. Walps Bank, Dolgellau, ac un o'r Abermaw. V n yr adran gerddorol gwobrwywyd Mri. John James, W. T. Lloyd, a David Jones a'i barti, yr oil o Ddolgellau. Neillduwyd cyfarfod yr hwyr yn gyfan- gwbl i ganu cynulleidfaol, o dan lywydd- iaeth Mr W. Williams, Maesyffynon. Dad- ganwyd y tonau canlynol:—Frevburg, Peniel, Hiraeth y Cymro, Ellacombe, Swabia, Muldwyn, St Paul, Aberystwyth, Gwinllan, Alma, Lingham, Dyffryn, a'r anthem "Gwyn ei fyd a ystyria wrth y Tlawd' (Owain A law). Cafwyd canu rhagor- ol yn mhob ystyr, a hyderwn y bydd dylanwad y cyfarfod ar y canu yn y gwa- hanol eglwysi yn y dyfodol. Yr arweinydd cerddorol ydoedd Mr John Lloyd, A.C., Dolgellau. Dylasvvn fod wedi nodi i'r plant hefyd, ddadganu yn swynol iawn o dan a weinitd John Williams, Harlech. Yn y cyfarfo ydd cafwyd anerchiadau gan y Parchedigion R. Lloyd Jones, Lewis Owen, a J. O. Parry, a Mr O. O. Roberts, Dolgellau. Ysgrifenydd yr undeb ydoedd Mr W. D. Pu^b, Dolgellau.
Family Notices
Marwolaethau. Mai 30ain, Mr John Williams, Ty Cape], Arthog, yn 92 mlwydd oed. Magwyd ef yn y Cflyn, Dolgellau, ac yr oedd yn un o deulu lluosog, a'r olaf o'r brodyr a'r chwiorydd. Bu yn byw yn hir yn y Bwlchgwyn, Arthog, a magodd deulll lluosog a pharchus. Mab iddo ef yw Dr Williams, Bethesda, Bangor. Efe oedd golofu gadarn dan arch Daw gyda'r Anaibynwyr yo Arthog a daliodd yn se'og gyda'r gwaith hyd y diwedJ. Cafodd iechy J da hyd o fewn pymthefnos i'w farwolaetb, a hunodd yn dawel fel y cyfyd ysgafn o yd yu ei amser. Mai 27, Mrs Roberts, ?wedd w y diweddar Mr Robert Robots, T/glas, Britbdit, a chwaer Mr Griffith Price, Corsygarnedd, Llanfachretb, yn ei 78 mlwydd oed. Yr oedd yn aelodparchus gyda'r Bedyddwyr yn Dol- gellau, a chladd wyd hi yn nghladdfa yr en- wad yn vmyl yr addoldy. Priodasau. Mai 28ain, yn swyddfa'r cofrestrydd, D o gellau, gan Mr Thomas Parry, cofrest.-y ld, Mr David Williams, a Miss Anne Davies, y ddau o 10, Water Street, LAbergynolwy«, Llanfihangel-y-penant,
Advertising
DYMUNA v- MR. R. P. ROBERTS, Glyndwr Buildings, Bridge Street, Dolgellau, Hysbysu ei luaws Cwsmeriaid yn y dref a'r amgylchoedd ei fod yn PARHAU ei fasnach fel WINE & SPIRIT MEROHANT yn y lie uchod. Diolcha am y gefnogaeth a gafodd yn y mynedol, ac erfynia am barhad o'r cyfryw yn y dyfodol. (Agent for N. Procopides & Co., Limited, High Class Cigars and Cigarettes.) D AXJI-SR S FLW—Dymnnir hysbysu fod Messrs Roberts & Griffith (y drws agosaf at yr T uchod) wedi prynu y JEWELLERY STOCK, au bod, er mwyn cael eu lie i bethau eraill, yr eu gwerthu am lai na'r COST PRICE. J
CYNGHERDD GYSEGREDIG.
CYNGHERDD GYSEGREDIG. Nos Wener diweddaf cynaliwyd cyng- herdJ yn nghapel y presbyteriaid. Llyw- yddwyd gan W. R. Davies, Ysw. (Jymer- wyd rhan ynddi gan amryw gyfeillion o wahanol enwadau. Yi oedd yr elw yn myned tuag at yr achos yn y lie.
EWYLLYS Y DIWEDDAR BARCH.…
EWYLLYS Y DIWEDDAR BARCH. HENRY ALLON. Y mae toll y cymunhrawf wedi ei dalu ar £27,556 fel gwerth ystad bersonol y Parch Henry Allon o Union Chapel, Islington, Llundain, yr hwn a fufa r w Ebrill 16 diweddaf, yn 74 oed, yr hwn yn ei ewyllys dyddiedig Rhagfyr 9, 1890, gyda "codicil" heb ei arwyddo, oedd yn cvmunroddi mewn ymddiriedaeth i'w ferched, Mary Gertrude ac Eliza Maud, yn 1 ycbwanegol at symiau eraill a adawyd yn flaenorol iddynt, JE500 bob un, ac i'w briod £300, ei ddodrefn, ei lyfrau, pamphledau, mapiau ac ysgrifau, ond gyda'r deisyfiad, nid i'w gymeryd fel rhwymedigaeth, iddi wneud detholiad o honynt i lyfrgell Coleg Lady Huntingdon yn Oheshunt. Bydd cynyrch ei lyfrau i fyued i Mrs. Allon yn ystod ei gtveddwdod, neu os dygwydd iddi ailbriodi telir iddi swm blynyddol o £ 100. Yr holl ystad i fyn3d 1 nt mewn symiau cyfartal ar el hoi.
CYNGHOR AMSEROu.
eraill, ac yn gwneud drwg Bydded i ni fod yn ofalus ac yn wyliadwrus ar ein tafodau. Yr wyf yn gobeithio n?d oes neb o'r ihai sydd o'm blaen vn arfpr iaith aflan. Fel yr wyf yn iuyned oddiamgyleh o orsaf i orsaf, md wyf am ddwevd am foment ein bod yn waeth yn Ngbymru nag ydynt yn Lloegr; ond yr wyf yn brawychu at y geiriau a ddefnyddir gan ddynion ieuaine yn y gorsafoedd a'r • yards,' ac rid yn anig at y geiriau a arfe«ant, ond at y dull hyf, digywilydd yn yr hwn yr ymfwynhant wrth roddi dynodiant i'r ymadroddion ffiaidd a gwaradwyddus hyn. Tarewch eich troed i lawr, a dywedwch na fynwch ddim i'w wneud a dynion o'r stamp hwn. Gosodweb eich holl galon i wneud yr all a fedrwch yn ei erbyn, a dywedwch y bydd- wch chwi mcgys nefoedd fechan mewn eymdeithas i gael gwared o'r pla mawr hwn sydd yn ein gwlad. Dywedir wrthyf ei fod ar gynydd mawr-y mae yn rhaid ei osod i lawr.