Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
MAE Messrs ROBERTS & GRIFFITH Tailors, Hatters & Hosiers, Yn awyddus am hysbysu trigolion Dolgellau a'r Gymydogaeth eu bod wedi cymeryd i fyny y Ty a adnabyddir fel GLYNDWR HOUSE, GYDA PHIGION DEWISEDIG- 0 NWYDDAU NEWYDDION. Bydd y Tailoring & Cutting Department0 dan arolygiaeth bersonol Mr D. G. Roberts, gwybodaeth ymarferol a phrofiad yr hwn sydd yn ei alluogi i gario allan i foddlonrwydd bob eirchion y ffefrir hwy a hwynt. j '.rfi'i-* .y*- ■■• ""TW-1 111 T L NEWYOB GYRHAEOD ADRE "BENARTY, S.S." (Tr Acerlong ystilenydd)—o Ynys enwog Cnylon, 'gjda'i llwyth o DE gnreti y wl»d hono. I I'w gael, mewn Plwm neu yn rhydd,iyn Shop Newydd yn unig, am Is lOJ., 2s 4c., a 2s 10c. y pwys. Te Benarty yw Te goreu Ceylon. dafad"ddyeithr. Ar dir DERWAS, ger Dolgellau, y mae Dafad ddyeithr blwydd oed, a'r nodau canlynol— Tori blaen y dde, bwlch tri thoriad odditani, nod gwlan, gwegil coch. r Os na ddaw y perchenog i w hawlio, a thalu y costau, o hyn i Mehefin, 18fed, 1892, gwerthir hi i dalu y costau. JOHN VAUGHAN, j Nannat*, Dolgellau.
Ylt WYTHNOS.
Ylt WYTHNOS. YR oedd marwolaeth ddisymwth yLlyn- gesydd Mayne, A.S., dros fwrdeisdrefi Penbro, o dan y fath amgylchiadau, yn ddiwedd poenus i wleddoedd y Mansion House. Nid llawer cyn yr ymosodiad yr oedd y Llyngesydd gwrol wedi bod yn aneich y cynulliad mawrfrydig oedd yn cynrychioli Cymru mewn ystafell oedd yn enwog yn ei hanes. Nid oedd efe yn hen ddyn, dim ond 57 oed. Berbyniai dalwobr o JE150 y flwyddyn oblegid ei archolli, yn ychwanegol at daliad cyffredin llyngesydd wedi ymneillduo. Yr oedd yn aelod Ceid- wadol canmoladNY, ac yr oedd hefyd yn gyfarwyddwr i amrywiol gwmniau cy- hoeddus.
[No title]
Prydnawn ddydd Sadwrn, croesawodd Arglwydd Faer Llundain, yr hwn sydd frodor o Gymro, gynulliad lluosog o'i gyd- wladwyr i wledd yn y Mansion House, i osod enwogrwydd ar flwyddyn ei swydd- ogaeth. Yr oedd y gwahoddedigion yn rhifo oddeutu pedwar cant, yn cynwys aelodau seneddol Cymreig, maerod, cy- nghorwyr trefol, a chynrychiolwyr amryw- iol gyrff cyhoeddus Cymreig. Yr oedd Mr T. E. Ellis, Syr J. Puleston, a Mr Osborn Morgan, yn mhlith y siaradwyr ar y llwncdestynau. Dywedai yr Arglwydd Faer, wrth gynvg 'Oymru,' nad ymadrodd daearyddol yn unig ydoedd. Ei bod yn g^rtref pobl gyda'i orphenol yn llawn dyddordeb, ei bresenol yr. gyfoethog mewn addewid, a'i ddyfodol yn deilwng o'r hil- iogaeth.
CYNGHOR AMSEROu.
CYNGHOR AMSEROu. GwnaethEsgob Bangor sylwadau doeth 0 ac amserol yr wythnos o'r blaen gerbro 36 o ymgeiswyr a gyflwynent eu hunain n gael eu conffirmio yn Eglwys y Drindod Llandudno. Cyfeiriodd yr Esgob Lloyd' at yr arferiad o ddefnyddio iaith ddrwg oedd yn ffynu y dyddiau hyn. Dywedai ei argI wyddiaeth-"Mor fynych y mae geiriau gwirionftol yn archolli teimladau
[No title]
Yr oedd Syr W. Harcourt yn ei afiaeth ddydd Sad w rn yn Braintree. Y r oedd ei araeth yn orlawn o bethau da, ac nid y lleiaf digrifol ydoedd ei ddatguddiad o'i ewyllysgarwch i weithredu fel gohebydd neillduol y 'Times pan fyddai ihyfel car- trefol wedi tori allan yn Ulster. Gwneid rhan helaetb o'i araeth i fyny o gyteiriadau digrifol at wrthwynebwyr, a defoyddiodd yr achlysur i rOJdi allan un datguddiad pwysig. Dywedai, tia mai Ymreolaeth fyddai y prif fater o dan ystyriaeth y Llywodraeth Ryddfrydol, y telid sylw dyl- adwy i'r diwygiadau mawrion yr oejd amgylohiadau y bobl yn galw am danynt. Da fyddai tyiln sylw at hyn, oblegid y mae ymdrech yn cael ei wneut3 i berswad- io yr etholaethau fod y Gladsfcomaid a'u bryd ar Ymreolaeth a dim arall.
[No title]
Derbyniodd Mesur Dysgyblaeth y Cler- igwyr lawer o wrthwynebiad oddiwrth yr aelodau Cymreig. Ni ddarfu hyd yn nod presenoldeb Mr Gladstone yn y tan a'r lie frawychu y swp aelodau, y rhai a arterent bob ymdrech i wella ac igryfhau y mesur. 'Teimlent,' fel y dywedai un gohebydd, 'ryw anfoddlonrwydd at y cwrsafabwys- iedid gan yr arweinyd i Rhyddfrydol, a thra yn talu iddo yr ymostyngiad a'r parch mwyaf, teimlent ei bod yn angenrheidiol iddynt lynu wrth eu hannibyniaeth, a setyll wrth eu gwelliantau, yr hyn a wnaethant gyda'rfath allu a phenderfynol- rwydd ag a dynodd ganmoliaeth oddiwrth Mr Gladstor e.
[No title]
Ba Arglwydd Hosebery yr wythuos o'r blaen yn anerch torf fawr yn Neuadd Drefo) Birmingham. Dywedai fod Mr Joseph Chamberlain wedi llwyddo i drawsffurfio Birmingham o fod yn dref Ryddfrydol i fod yn llogell-fwrdeisdref Llywodraeth DorUidd. Ar ol beirniadu gwaith Mr Chamberlain yn Nhy y Cyffredin, aeth at y cwestiwn Gwyddelig, a chondemniai yma Idion diweddar Argl wydd Salisbury yn eu perthynas ag Ulrter fel rhai oedd yn waradwydd iddo ef fel Gweinidog. Gwadai fodyRhyddfrydwyryn dymuno gwerthu Ulster i gaethiwed. MJi yr oil oeddynt hwy yn ddymuno oedd lhoddi i Ulster gynrychiolaeth lawn a theg mewn Senedd Wyddelig yn Dublin. Gwrthwynebai fesur Llywodraeth Leol i'r Werddon, am nad ydoedd ynrhoddihawliau i'r Werddon cyfartal i'r rhai a fwynhtid gan Loegr ac Ysgotland,.nac hyd yn nod yn cyffwrdd 0 ag ymylwaith y cwestiwn Gwyddelig.
[No title]
Traddododd Mr Gladstone araeth ar- dderchog nos Lun yn y Memoripl Hall, Llun- 0 dain, i dorf fawr. NodoJd rai o'r cwestiyn- au oedd i gael sylw y Rhyddfrydwyr pan ddeuant i awdurdod, megys Seueddau byrion, gwastadhad trethiant, diwygiad deddfau y gwirodydd, c'adsefydliad yn Ysgotland a Chymru, pwnc mawr cofrestr aeth, yn cynwys yr hyn yn boblogaidd a etwir un dyn un bleidlais; taliad aelodau, cwestiwn mawr y llafurwyr amaethyddol, a diwygiad deddfau tirol; ond y prif fater a'r cyntaf i ddyfod dan sylw fydd Ym- reolaeth i'r Werddon. Safodd yn hir ar hawliau ac anghenion Llundain-Oriau Llafur—'Terfysg'vaith Gwleidyddol' Ar- glwydd Salisbury. Dyferodd ymadroddion dros ei wefusau oedd yn disgyn tel tan ar y ihai sydd yn perthyn i bobl Ulster, ac *yn eu hanog i gyfodi yn erbyn y Llywo lr- aeth.