Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

EMYN 0 FAWL I DDUW AM EI AIR.

News
Cite
Share

EMYN 0 FAWL I DDUW AM EI AIR. Anfeidrol deilwng ydwyt, 0 Dduw, o'r mawl i gyd, Am roddi'th Air santeiddiol i ddynol farwol fyd Rhyw lythyr odiaeth ydyw oddiwrth y Llywydd mawr, Yn cynnwys pob daioni i lychod llymion llawr. Nis gall'sai pob gwybodaeth dynoliaeth oil yn llawn, Ac engyl y gogoniant, a'r sereiff mawr eu dawn, Gynllunio flordd i gadw pecliadur mawr yn fyw, Yn unol ag anrhydedd tragwyddol orsedd Daw. Er darllen holl gyfrolau y greadigaeth fawr, Nid oes un gair o gysur yn eu dalenau i lawr; Cynnwysant heirdd arluniau o weithrediadau lor, Ei allu a'i ddoethineb, o'r mynydd mawr i'r mor. Ni ddengys ser y nefoedd o'r braidd ond bysedd Duw, Yn nghysson rawd Rhagluniaeth, a'i throion o bob rhyw; Ond rhydd y Gair ddadleniad o'i ras a'i galon hael, Yn rboddi'r nef a'i nwyddau i gyd i bryfyn gwael. Er i ni syrthio'n Eden, a cholli delw Duw, A haeddu marw bythol, mae gobaith y cawn fyw Er maint yw ein crwydriadau, a'n beiau ffiaidd ffol, Mae'r Guir fel udgorn arian yn galw ar ein hoi. Mae'th eiriau fel ystorfa o wych drysorau'r nef, Neu dlVr yn llawn o arfau, rhag byddin uffern gref; Mae'n oleu-fynag fuddiol, mewn lleoedd enbyd iawn, Dy foli'n llwyr am danynt nis gall un ddynol ddawn. Ni gawsom lusern lesol, P'am byddwn bellach brudd? Hi dry lyn eysgod angeu o'n blaen yn oleu ddydd; Nid ydyw taith yr anial mor ddyrys yr awr hoa, Tra byddo genym oleu, a hefyd ffydd yn ffon. Os byth cyrhaeddwn adref i lys y nefoedd wen, Am roddi'th Air i'n harwain rho'wn goron ar dy ben Dweyd hanes taith yr anial bair synu'r engyl glan, Fe gryna'r oriel nefol gan rym santeiddiol gan. Waenfawr. John THOMAS.

EDIFEIRWCH A DYCHWELIAD Y…

ANERCHIAD FR BRAWD H. cgHOWELLS,…

---ENGLYN BYll-FYFYR,

MAN I ON.

.4-AM AETH YD DI AETH.

CHWILIAD AM SYR JOHN FRANKLIN.

[No title]