Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Newydd ei Gyhoeddi, pris Datt Swllt, TATOL Y BEIRDD; SEF TRAETHAWD Yn egluro Deddfau Mydryddol Barddoniaeth Gymreig- o'r Cynoesoedd hyd yn awr: A C yn amlygu Ansawdd a Gwerth y Pedwar Mesur ar Ugain Cerdd Dafod, yn pi Egwyddorion hen Ddos- parth Beirdd Y DYS Prydain. At yr hum y chwanegwyd AWDL AR YR ADCYFODIAD, GAN ROBERT ELLIS. a Gyda RHAGDRAITH, gan ANEURIN JONES. Llangollen: Argraffwyd yn Argraffdy y Bedyddwyr, gan W. Williams. 1852. Cynnwysa y DAFOL 140 o dudalenau, 8vo. Demy. Gellir cael y nifer a fynero bonynt gan y Cyhoddwyr," Mr. Aneurin Jones, Gelligroes, near Blackwood, Newport, ■v> Mon. neu gan "Mr. H. Ellis, Sirhowy, near Tredegar." D.S.—GeHir anfon 6 copi o'r Dafol" gyda'r post am chwe cheiniog; ac os una pedwar nea bump i anfon arian gyda'u gilydd at un o'r Cyhoeddwyr, anfonir sypyn iddynt yn ddidraul. CYMDEITHAS LENYDDOL ABERYSTWYTH. RHODDIR GWOBR O UGAIN GINI 1 Am y BRYDDEST oren er Coffadwriaeth am yr En- wogion a fuont feirw yn ystod y flwyddyn hon, sef, Y PARCH. EVAN JONES (Ieuan Gwynedd), Y PARCH. MORGAN HOWELL, Y PARCH. DAVID RHYS STEPHEN, A'R PARCH. JOHN JONES (Tegid). Anfoner y Cyfansoddiadau i mewn erbyn y dydd cyntaf o FAWRTH nesaf, wedieucyteirio i Ysgrifenydd y Gym- deithas, sef J. Jones, 8, Princess Street, Aberys- tength," gydaffug enwau yr Awdwyr, a'r enwau priod- 01 dan seL BEIRNIAD,—Y Parch. W. Williams (Caledfryn). Bydd y Cyfansoddiad Buddugol yn eiddo y Gymdeithas. YMFUDIAETH I AUSTRALIA!! YDYW testun ymddyddan y dyddiau presennol, a lliaws o'n cydwladwyr agyrchanti'r MWNGLODDIAU AUR. Llaw- er ydyw y parotoadau gogyfer & sefydlu yn y Gartrefle Newydd," heb feddwl ond ychydig am yr hirfaith fordaith fawr, na'r cyf- newidiad yr A eu cyfansoddiad dano wrth forio, newid hiusawdd, gan hyny, dyledswydd pob ymfudnr ydyw cymmeryd gydag ef y feddyginiaeth hono a geidw draw afiechyd yr amgvlchiad, ac a sefyd'.a yr Iechyd i ymgyminervd a'r climate hwnw. Tystiolaetha yr Ymfudwyr hyny a wiaethant brawf o BELENI JONES, TREMADOG, Eu bod yu cjflawni y swyddi uchod drwy lanhau y rhwystriadau yp yr ystumog a's afu, ag sydd yn dechieu cymmaint o anhwyl- derau marwol y gwledydd poethion. Cynghorir ymtudwyr, er eu cysur Wu hiechyd, i gymmeryd stock dda o'r, leni Cymreig" hyn gyda hwynt i'r fordaith, pa rai a allant bwr> isu gau bob Druggist, yn mhob tref drwy y Deymas.mewn Bfjchau Is. Iqc., is. tich., a 4s. 6ch. (yr olaf yw y rhataf i Ymfudwyr.) U.S.—Ceir cyfarwyddyd i'w ddefnyddio wedi ei lapio am y Blychau. RHYBYDD FR PRYNWYR. Tuag at gael y gwir BelenaU, edrychwch am eu bod mewn blweh ei amgylchynu íi phapyr ]g-rdd, a sfil y perch- <•7/ 'j..6aya t 1 -ysgrif ROF.ZUT "ia iittwy) y Llywodraeth o amgylt^ P0^ B- Wch; Sylwer ar y Dystiolaet owysig a ganlyn,— Oddiwrth Mr. Griffith Roberts, Morwr, Nq. 4, Denby Street, Liverpool. gyr, Ystyriaf yn ddyledswydd arnaf eich hysbysu chwi a'r cy- hoedd am ddaioni eich Pelenau. Byddwu bob amser yn sal pan yn bwylio ar led i wledydd poethion; yn teimlo poen yn fy stuin- og a'm coluddion, a tbwymyn drom. Y tro diweddaf yr aetbum allan, cymmerais rai o Belenau Jones, Tremadog" gyda mi, a mWlJnheais berffaith iechyd ar hyd, fy mordaith i Calcutta oe yn ol, er syndod i bawb ar fwrdd y Hong; pan ydoedd fy nghyd- forwyr i gyd yu.seilion. if eiddoch, GRIFFITH ROBERTS, »,* Os bydd anhawsder i gael y Pelenau hyn mewn ardal, anfoner 14, 33, neu 60 o stamps llythyrau at c. R. 1, Jones, Cambrian Pill Depot, Tremadoc, North Wales," a chant FIwch Is. lie., 2s. 6ch., neu 4s. 6ch., yn ol gyda throad y post yn ddidraul. LYFRAU NEWYDDioN.—Yr ydym yn cyieirio sylw ein darllenyddion at lyfrau JVIrsT. Gee, Dinbych, a hys- bysir ar dudalen flaenaf y Rhifyn hwn a dywedwn yn ddibetrul^rod y rhes yn cynnwys amryw o'r llyfrau mwyaf buddiol a dyddorol a ellir gael yn y Dywysogaeth. Mae y Gwyddoniadur Cymreig yn deilwng o sylw, ac nid oes aramheuaeth na vww^Mr. Gee waith campus arno. Am Uncle Tom's Cabin, m%»tW^d llyfr erioed fel hwnw yn ySaesnaeg; ae y mae lTanes-Australia a'r Cloddfeydd Aur vodra buddiol i ymfudwyr, ac yn ddyddorol i bawb ereilf. Am Eiriadur y Parch. D. Silvan Evans, yr ydym wedi dweyd ein barn lawer gwaith o'r blaen mewn gwir- ionedd, nid oes mo'i fath mewn bodoliaeth. Esboniad Barnes sydd mor uchel ei glod, fel nad oes anghen i ni roddi un ganmoliaeth iddo: a'r llyfrau ereill oil ydynt yn deilwng o sylw ein eydwladwyr. Mae y clod mwyaf yn ddyledus i Mr. Gee, am ei ymdrech i gyhoeddi llyfrau mor ddyddorol. TANAU YN LLUNDAIN.-Ar foreu dydd Sul, yr 21ain o'r mis diweddaf, torodd tan allan yn ngweithdy Mr. Carpenter, gwneuthur'vr Argraffweisg Columb- iaidd, Rhif 10, Heol Finsbury, yr hwn a wnaeth lawer lawn o niwed cyn y llwyddwyd i'w ddiffodd. Yn ffodus yr oedd y gweithdy a'i gynnwysiad wedi eu di- pgelu; a dywedir na fydd i'r dygwyddiad attal y gwaith i gael ei gario yn mlaen fet arfero!.—Ar foreu dydd Mawrth caiilynol, torodd tânallan yn ngweithdai Mr. L"yser, yn agos i Hen Eglwys Berniondsey, adifaodd yr holl adeilad ^'i gynnwysiad. Yr oedd y meddian- iftau hyn hefyd w ^di eu diogeln.-Ar yr un diwrnod, torodd tan attan yn nb9 Mr. James, siopwr, yn Heol Vtiterloo, Lambeth, a gwnaeth gryn lawer o golled; ond yu ffodus, yr oedd y meddiannau hyn hefyd wedi eu diogelu.—Cymmerodd tanau ereill le yr un wyth- nos yn Lftnibetb, Heol Aldersgate, Whitechapel, ac yn nghymmydogaeth Vauxhall, a gwnaed mwy neulai o golled$n tahob un o'r Iteoedd hyny. Yr oedd yr wythnos hon yn dra bynod am golledion trwy dan yn y brif-diiinas. DYfiWYDDlAD AJLSWTDt'S.-r'tl yr oedd dyn yn myned yn ddiweddar i felin Kingussie, yn yr Alban, i edrych ar ol ceirch ag oedd ganddo i'w falu, efe a rtiggyrtlfiodd oddiar astel) i dwlc y itioch a chyn i neb tTdygwydd myned yno, yr oedd y moch wedi dryllio ei gorff, ac banner ci fwyta! Meddylir iddo gael ei syfrdanu gan y eodwm, fel nas geilai ntiddiffyn ei hun, na gwaeddu allan am gynnorthwy. /r oeud y dyn yn henadnr yn yr Zglwjs, aeyn dra phaLchus yn y gymmyuogueth. GOrthywynwydsaethu y Qi >cb yn udiattreg. AT Y DEItBYNWYR. ?!* Teimlwn yn dd'olchgar i'r cyfrywo'n derbynwyr ag nad ydynt wedi anfon eu taliadau i ni am y chwarter hwn, am wneyd hyny y cyfle cyntaf. lw Cafodd ein Hargraffnodau eu hattal ar y Rheil- ffordd y tro hwn etto; ond y mae y Cyhoeddwr wedi cymmeradwyo mesuran i rywystro y cyfryw beth i ddgwydd yn ol Haw. OW Mae amryw ohebiaethau yn y Swyddfa; cant ein sylw erbyn y Rhifyn nesaf. CZ- Mae yr Ainlen Felen yn cael ei defnyddio er mwyn hysbysn pa bryd y mae y Chwarter ar ben ond gan fod rhai wedi blaen-dalu ychydig cyn hyny, dymunwn ar y cyfryw beidiocymmeryd sylw o honi, os derbyniant hi. TALIADAU. Ein derbyniadau oddiar ein cyhoeddiad diweddaf, ydynt,—J.M., Builth, J.T., Towyn, J.R., Aberystwyth, J.D., Dowlais, G.J., Penmachno, R.V., Penmachno, W. J., Solva, J.M., Llangollen, E.E., Bala, T.E., Glanyraf- on, D.M. Llundain, W.O. Llangristiolus, R.H., Maes- teg, H.W., Dowlais, D.D., Llandybie, G.F., Tregwy, J. L., Tregaron, J.D., Llynlleifijid, H.P., Tredegar, J.J. Tondu, D.W., Salem, J.M., Llandyfeilog, J.H., Tre- lerh. W.O.J., Abertawy, B.E., Parke, D.D., Ddol, T.J., Pantyfen-ucha, T.P., Llanelli, T.P., Lhvynliendy, M, E., Llanelli. AMMODAU. Cyhoeddir "SEREN CYMRU" bob pythefnos, a' pbris yw, am dri mis, Is. 6ch., i'w dalu yn mlaen, neu Is. 9c. ol-dal. Gwneler pob archebion, (Post Office Orders.) yn daledig i TVilliam Morgan Ðcans, SerenCymru Office, Carmarthen. Anfoner Postage Stamps am sym- iau dan 5s., ac Areiiebion am symiau uwchlaw hyny. Anfoner y gohebiaethau i ofal Samuel Evans, y Gol- ygydd.
CAERFYRDDIN, RHAGFYR 9, 1852.
CAERFYRDDIN, RHAGFYR 9, 1852. CYNNYG MR. VILLIERS. Canfyddir, yn ein Hanesion Seneddol, fod Mr. Villiers wedi dwyn ei benderfyniadau mewn pertbynas i Ryddfasgnach, gerbron y Cyff- redin. Traddododd un o'r areithiau mwy- af godidog ar yr achlysur hwn, a glywwyd er- ioed yn cael eu traddodi o fewn muriau St. Stephen, a'i amcan oedd profi fod y mesur o Ryddfasgnach "yn ddoeth, yn gyfiawn, ac yn llesol," a chael gan y Ty i gadarnhau hyny, fel ag i rwystro pob cynnyg a wnelai y Gwein- idogion i roddi iawn i un blaid ar draul pleid" iau ereill, yr hyn a addefai y GweirAuogion eu bod yn bwriadu wneyd, er eu bod, yn eu cyf- yngder, wedi tystio, os caffent lonydd yn eu swyddi, y byddai iddynt gario Rhyddfasgnach yn mlaen yn ffyddlawn a dihoced. Nid oedd dim ynhynodi y ddadl a gymmer- odd le ar y cynnyg hwn, ond twyll, a dichell- ion, ac ystranciau, a chamddarluniadau ar du y Gweinidogion a'u pleidwyr, y rhai oeddynt yn gorfod cyfaddef fod Rhyddfasgnach wedi gwneuthur y daioni mwyaf i'r wlad, ond etto yn gwrthod addef fod y mesur hwnw "yn ddoeth, yn gyfiawn, ac yn llesol," yn ol y cyn- nygiad ac y mae yn ymddangos i ni fod y Toriaid yn ofni gwneyd defnydd o'r gair Jthydd- fasgnach, rliag iddo lynu yn en gyddfau a'u tagu; canys yr oeddynt yn defnyddio geiriau ereill yn ei Ie, fel yr oeddynt wedi gwneuthur hefyd yn Araeth ei Mawrhydi. Mae yn hawdd deall i gynnyg Mr. Villiers Jdychrynu y Toriaid yn ddirfawr, aeoid oedd- ynt yn gweled un ffordd i ddianc rhag y can- lyniad, sef rhoddi eu swyddi i fyny; ond yn ffodus iddy-it hwy, (laeth eu hen gyfaill, Argl. Palmerston, yn mlaen i'w hachub, a bu mor llwyddiannus a'u gwaredu o'u perygl y tro hwn etto. Rbaid ini gyfaddef fod ymddygiad Argl. Palmerston yn hollol annealladwy i ni. Cyf- adoefodd,folyr Araeth oddiar yr orsedd mor dywyll, fel yr oedd anghenrheidrwydd i ddwyn y penderfyniadau hyn gerbron y Tk, er mwyn cadarnhau yr egwyddor ar ba un yr oedd llyw- odyddiaeth fasgnachol y wlad wedi ei sylfaenu. Ie, aeth mor bell a chyfaddef fod y mesur o Ryddfasgnach mor gyfiawn a doeth, ag oedd wedi profi yn llesol i'r wlad; ond wedi y cwbl, dywedodd fod yn well ganddo ef y diwygiad, yn yr hwn yr oedd cyfiawnder, doethineb, a lles- oldeb Rhyddfasgnach yn cael eu cadw o'r golwg yn bwrpasol; ac yn ei ffalsrwydd neu ei wir- iondeb, daeth yn mlaen a diwygiad aralJ, yr hwn a wasanaethai i foddloni y ddwy blaid, sef y Toriaid a'r Rhyddfasgnachwyr Peelaidd, a gadael y Gweinidogion yn rhydd. rhag addef cyfiawnder a doethineb y mesur, na rhoddi eu swyddi i fyny. Mae gwrthddywediijJ.au Argl. Palmerston mor eglur ac bynod, fl,, f mae amrywo Newydd- iaduron y deyrnas ;¡¡"cdi gwada ei ddiragrith- rwydd yn gyfangvV- a gofynant yn wawdus pa un a yw wedi myned i gytundeb Toriaid, neu ynte ei fod wedi penderfynu gwneyd yr oil aallo i afionydtK ein trefniant Rbyddfasgnacb- •ol, drygu a niw;idio hawliau cyfreithlawn masg- nach, Ueihau cysuron y crefftwr, y celfyddyd- wr, a'r dyn gweitbgar, ac fe allai peryglu ded- wyddwch ft diogelwch y wlad, a hyny yn unig > t o'r ';v.T er mwyn cadw y Gweinidogion yn eu swydd, a rhwystro Argl. John Russell a'i gymdeithion rhag cael eu galw i ffurfio Gweinidogaeth new- ydd. Mae yn eglur i bob dyn, y buasai Mr. Vil- liers wedi cario ei gynnyg, ac y buasai y Wein- idogaeth bresennol wedi ei thori i fyny, oni fu- asai i Argl. Palmerston, yr hwn a elwir yn awr yn Fammaeth y Weiniclogaeth Doriaidd, ddy- feisio y ffordd, trwy yr ystranc grybwylledig, i uno y Diffyn-dollwyr Toriaidd a'r Peeliaid Toriaidd Rhyddfasgnachol a'u gilydd, trwy yr hyn y collwyd cynnyg Mr. Villiers gan 80 o fwyrif. Nid yw hyn yn un prawf fod Diffyn- dollwyr yn drech yn y Ty na'r Rhyddfasgnach- wyr, canys y mae y Toriaid penaf wedi addef yn y gwrthwyneb a chanfyddir yn awr, fod Rhyddfasgnach yn sefyll ar seiliau llawer mwy sefydlog a diogel nag o'r blaen. Pa fodd bynag am hyny, y mae yn dda gen- ym, ar rai golygiadau, fod y peth hwn wedi troi allan fel y gwnaeth canys pe buasai cynnyg Mr. Villiers wedi cael ei ennill, buasai y Wein- idogaeth ar ben, a chawsem ein hamddifadu o'r Budget, neu Drethiad y Wlad, ag oedd Mr. Disraeli, wedi barotoi am yr hwn y llefarwn yn ol llaw.
TRETHIAD Y WLAD.
TRETHIAD Y WLAD. Yr ydym yn awr wedi cael yr hyfrydwch o weled Budget newydd Mr. Disraeli, neu ei gynllun o Drethiad y WIad am yr amser dy- fodol, am yr hwn yr oedd cymmaint o ddys- gwyl gan bawb yn gyffredinol. Dywedai y Canghellydd, yn ei Etholiad dros swydd Buck- inghamshire gynt, fod rhywbeth yn ymrithio t) yn y dyfodiant," ond gwrthododd ddywedyd pa beth ydoedd, na pha olwg oedd arno ond y mae y ddrychioliaeth yn awr wedi dyfod i'r amlwg, a phob peth wedi cael ei egluro yn drwyadl, yn araeth ragorol Canghellydd y Trysorlys, yr hon a dderbyniwyd gan y Ty gyda chymmeradwyaeth mawr ac yr oedd hyd y nod ei wrthwynebwyr yn gorfodcyfaddef ei fod wedi myned trwy ei orchwyl mewn modd tra meistrolgar. Y pwnc hwn a eglurwyd i'r Ty ar nos Wener, y 3ydd o'r mis presennol, ac felly daeth yr hanes i'n llaw yn rhy ddiweddar i ni ei gyfleu yn ein Hanesion Seneddol; ond ymdrechwn osod gerbron ein darllenyddion gynnwysiad y cyfnewidiadau a fwriedir eu g" neyd yn Nhrethiad y Wlad gan Ganghellydd y Trysorlys, os bydd mor llwyddiannus b der- byn cefnogneth. Ymddengys i ni fod y pleidiau yn y Senedd mewn sefvllfa hynod yn bresennol; mae y Toriaid wedi troi yn Rhyddgarwyr, ac yn gwneyd pob ymdrech i gymmeryd lie y Whig- iaid, y rhai oeddynt wedi aros yn eu diwygiad- au, ac felly wedi siomi y wlad i raddait pell iawn. Mae cynnyg presennol Canghellydd y Trysorlys yn brawf o hyn, canys y mae wedi cynnyg Ilawer o bethau ag y bnasai yn an- obeithiol i'r Whigiaid eu cario trwy y Ty, er y dichon fod eu dymuniadau yn dda i wasanaethu y bobl. Nid ydym ni erioed wedi rhwymo ein hunain wrth un blaid, ac i ymroddi i ganmawl mesur- au hono, pa un ai drwg ai da a fyddont; ac nis gallwn weled ei fod o un pwys i'r wlad oddi- wrth ba blaid y daw mesurau llesol i'r bobl yn gyffredin, ond eu cael. Os ysgafllheir beichiau y wlad, pa wahaniaeth pa un ai y Weinidog- aeth bresennol, neu ynte rywun arall a wnant hyny ? A chan fod y Toriaid wedi cymmeryd eu sefyllfa bresennol, y mae yn debyg, trwy eu dylanwad a'u grjlu, y bydd iddynt wneyd Ilaw- er o les, pe bai ondo fic i'r Whigiaid, er mwyn rhagori arnynt, a'u cadw allan o swyddi; ac y mae lie crvf i feddwl mai dyna yw amcan Dis- raeli a'i gyd-Weinidogion yny mesurau ag y maent wedi gynnyg yn bresennol. Decbreuodd Mr. Disraeli ei araeth trwy ddy- wedyd fod tair sefyllfa o bobl wedi cael eu ni- weidio yn fawr trwy y cyfreithiau a wnaed yn ddiweddar, sef y perchenogion llongau, y cod- wyr sugr, a'r amaethwyr ac y byddai iddo gadw hyny mewn golwg yn y cynllun o Dreth- iad y Wlad a fwriadai ei osod gerbron y Ty, Ynacrybwylloddfodmesurall yn cael eu paro- toi er ysgafnhau beichiau y ddwy radd gyntaf,, ac aeth yn mlaen i ddarlunio y cyfnewidiadau ereill a fwriedid eu gwneyd, y rhai oeddynt fel y ;anlyna:— Fod y Dreth ar Frag i gael ei gostwng i'r hanner, sef o 2s. 7 åc. y pwysel, i Is. 3fc., a 4 bod i hyn i ddyfod i weithrediad ar y lOfed o Ilydref nesaf. fyfrifai y byddai i hyn gyn- nyddu gwr teithiad haidd, a bod o les mawr i amaethwyr yn gyffredinol, y rhai oeddynt wedi cael eu colledi trwy Ryddfasgnaeh. Yn nesaf, cymmerodd dan sylw Dreth y Tea, yr hon sydd yn awr yn 2s. 2Jc. y pwys ar bob tea fel eu gilydd, a chynnygiodd fod i'r 11 Dreth hon gael ei gostwng i Is. y pwys, yn mhen chwech mlynedd, sef 4ic. y pwys y flwyddyn gyntaf, a 2g. y pwys bob blwyddyn ar ol hyny, hyd oni ddeuai i lawr i Is. y pwys, lie y mae i aros. Diau y bydd hyn o les mawr i bobl y deyrnas oil, canys y mae yn agos pawb yn awr yn defnyddio tea Bgallwn hefyd fod y Dreth ar Hopys i gael ei neu ei dileu ond ni roddir i niun egl^jp^r y. pen hwnw. Felly, trwy y mesurau hyn byddai i | f deyrnas gael ei lleiliau o'r swm o ^2,50( yn Nhreth y Brag, ^900,000 yn Nhreth yi Tea,, a ^300,000 yn Nhreth yr Hopvs, yr hyn a wnelai £ 3,700,000 o leihad'y is y cwbl. j I wneyd y colled hwn i fyny, cynnygiaii Canghellydd y Trysorlys foci v Dreth ar Fedd-1 Yi Canghellydd y Trysorlys fod ) Dreth ar Fedd- iant a'r Dreth ar Dderbyniadau (Income Tax) i i fod yn gyffredinol; a bod y flaenaf i gyr-ft haedd yr arian yn Nhrysorfeydd cyhoeddus y W y Wlad, a bod yr olaf i gael ei hestyn at gyflog-, ï au yn yr Iwerddon ond fod gwahaniaeth i pel i ei wneyd rhwng Derbyniadau sefydlog a rhai ansicr. Fod y Dreth ar Dderbyniadau oddi..¡ i wrth ddiwydrwydd y bobl i ddechreu uwchlBW « £ 100 y flwyddyn, a'r Dreth ar FeddianiiaU sefydlog i ddechreu uwchlaw R50 y flwyddyn Y Dreth ar Feddiant i fod yn saith ceiniog 1 bunt, fel o'r blaen a'r Dreth ar Dderbyniad- au ansicr i fod yn bum ceiniog a ffyrlling 1 bunt. Ond y peth mwyaf pwysfawr yn y cyfnewid' iadau a gynnygiwyd, oedd ail Drefniad y Dreth ar Dai; a thra fu Canghellydd y Trysorlys yn traddodi y rhan hon o'i gynllun, yr oedd 1 j dystawrwydd mwyaf yn ffynu trwy yr holl Df, J a'r holl aelodau yn gwrandaw yn astud. Dy* wedodd nad oedd yn bwriadu codi treth new- ydd, na throi at drethiad anuniongyrchol; ond yn unig yn ail-drefnu ac ychwanegu treth ag oedd eisoes mewn bod. Cynnygiai fod pob ty o .£ 1 ° o rent ac uchod, i dalu Is. y bunt, am siopau a masgnachdai, a Is. 6ch. y bunt am dai annedd yn unig, yr hyn a fyddai yn X2,500,000 o gynnydd yn nghyllid y wlad, i wneyd i fyny y colled yn y trethi ereill, a dwyn traul amddiffynfeydd y deyrnas, fel y bwriedid gwneyd. Yr oedd Canghellydd y Trysorlys yn gadael y pethau hyn dan sylw y Ty, ac os cymmerad- wyid hwynt, byddai iddo gyflwyno ysgrifau i mewn er eu gosod mewn gweithrediad. Canfyddir fod y cynnygiadau hyn yn ffafriol iawn i'r bobl gyffredin, y rhai a gcint laweT o les oddiwrth y trethi aostyngir, tra nadyw yr ychwanegiadau a wneir yn cyffwrdd nemawr ] liwynt. Ond prif amcan Canghellydd y Trys- 1 orlys, fel yr addefai yn ej araeth, oedd Ileshau yr amaethwyr; ac y mae yn gwneyd hyny yn effeithiol yn y cynllun hwn, trwy osod y rhan fwyaf o'r ychwanegiadau ar ysgwyddau pres- wylwyr y trefi, gan arbed pobl y wlad. Mae Disraeli wedi ymdrechu am boblog- rwydd yn y cynnygiadau hyn, ac y mae yn eg- lur canfod y caiff glod y bobl weithgar; ondl am y graddau canol a'r graddau uchaf mewn cyindeithas, nid ydym yn meddwl y byddant hwy yn teimlo yn foddhttol iawn. Y nom ofn fod y cynllun hwn yn rhy dda i fyned yn ddiangol trwy y Senedd, er nad oes un gwrthwynebiad o bwys wedi cael ei ddangos iddo hyd yn hyn. Cawn gyfleusdra i wneyd sylwadau helaethach arno, pan gymmera y ddadl yn ei gylch le yn Nhy y Cyffredin.
HANESION CARTREFOL. 'j
HANESION CARTREFOL. DEHEUBARTH. r FFERMWYR SWYDD GAERFYRDDIN. Y, ydvm yn deall fod amryw gyfarfodydd wedi cael eu cynnal yn y dref hon yr wythnos diweddaf, gan y ffermwyr cymmydogaethol, i sefydlu pwysau Gwenith, Haidd, a Cheirch a werthir ganddyHt hwy. Ni chlywson pa. fodd y dygwyd pethau yn mlaen yn y cyfarfodydd hyn, ond deallwn fod penderfyniadau wedi cael eu cynimeradwyo fod pob Winchester i fod felycanlyna: —Gwenith, 60 pwys, yn lie 64 Haidd, 51 pwys, yn lie 53; Ceitch, 38 pwys, yn He 40. Deallwn fod y mudiad hwn wedi cael ei ddwyn yn mlaen gan rai ffermwyr a dalant renti yn ol pris yr yd, ac felly meddyliant ennill rhywbeth wrth leihau pris a phwys. au y pwyseli; ond am bawb ereill nis gallant ennill dim, gan na rodda y prynwyr ond pris cyfatebol i'r pwysau, yr hyn y mae rhai o honynt wedi gael allan ar 01 hyny, wrth gynnyg eu hyd ar werth i'r bragwyr a'r masgnachwyr, MARCHNAD FISOL CAERFYRDDIN. — Y Farchnad hon a gynnaliwyd ar ddydd Mercher y cyntaf o'r mis. hwn, ac yr oedd y dangosiad o anifeiliaid tewion yn hytrach yn fach, ac nid oedd galw mawr am danynt o ba herwydd yr oedd y prisiau yn isel. Yr oedd cryn alw am wartheg a lloi, yn ol y prisiau diweddar; a'r moch yn parhau i werthu am tua 4c. y pWySt cyfan, nid oedd y Farchnad lion cystal a'r rliai* blaen- orol. DllYLLIAD Y LLONG BETSEY.—CrybwyllaSom vn ein Rhifyn diweddaf, fod y llong hon, a berthvnai i'r Meistriaid Lewis a Thomas, o'r dref hon wedi soddi ar fSr Caerfyrddin, a bod corff dau o'r morwyr wedi eu cael; golchwyd y llall i dir wedi hyny, ar draeth LW stephan, ac y mae yn awr wedi ei gladdu. DYGWyDDlAD ANGEUOL. Ychvddio-' n yn ol, Mr. Rhys Davies, y Hythyr-gludydd ^hwne Caerfyrdddin a Llanstephan a gyfarfu g dygwyddi J anffodus, yr hwn a drodd allan yn ano-euol Ym ddengys iddo syrthio mewn rhyw f0d°d, w^h dor] gwair i w geffyl, a drj liodd asgwrn ei forddwyd: caf- odd gynnorthwy meddygol yn ddioed, ond dihoenodd dros ychydig ddyddiau, ac yna bu farw. Yr oedd y trengedig yn 67 mlwydd oed. AUR o AWSTRALIA -Mae Mr. Thomas, o'r Glou. cester Arms yn y dref hon, wedi derbyn llythvr oddi W, gjfaill yn Awstralia, J, o aur. Cynnwysa y llytbyr y darluniadau mwyaf an- nogaethol am y c oddiadau yn y wlad hafio ac adH. awa yr ysgrifenydd anfon dernyn inwy/gwerthfawr i'w atay mwnmelyn. YSEETMAD YN LTANFAIRMIRALLT.Cyminerod(l 18- peiliad Ie yn ddivieddar yr, y lie hwn, ac y mae yo dda I genym weled fod yr yspeiliwr wedi cael ei ddala a? anfon l garchar. Oddiwrth y dystiolaejh a ddyjr'wvd yn mlaen gerbon yr Ynad, ymddengys i dv Mr Williams yr tarn »ydd yi b,„ g « #