Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

-,-.-........,.--..-------HANESION…

News
Cite
Share

HANESION CYFFREDINOL. GWYRTH PABAIDD ARALL.—Yr hanes canlynol a ymddangosa yn Newyddiaduron coelgrefyddol yr Iwerddon, dan y pen "GWVUTH:"—" Cymmerodd dygwyddiadieyn Nghapel Nenagh, ar nos Fawrth diweddaf, am yr hwn y mae llawer o son, a chyfaddefa Pawb ei fod yn bcrfldWi wir. Ileti wraig dlawd, yr hon oedd yn hynod o grefyddol, a'r hon oedd wedi bod yn liollol dclall er ys chwech mlynedd yn ol, a gafodd ei golwg wedi adferu iddi, yn mhresennoldeb llawer o dystion, yn y Capel hwnw, ar yr liwyr cry- hwylledig. Yr oedd darlun hardd o'r Wyryf Fendig- aid yn y Capel, yr hwn oedd i gael ei werthu er cyn- novthwyo y tlodion dan ofal y Chwiorydd Trugaredd yn Birr, a'r hen wraig grybwylleùig; enw yr hon yw Margaret Clifford, a geiaiodd gan ei chydymmaith i'w harwain hi at y darlun. Yna hi a ymgrymodd ger- bron y darlun, ac a gusanodd wyneb y Wyryf mewn modd parchus iawn dros ainryw fynydan; ac wedi gorphen, hi a godcdd i fyny, ac a waeddodd allan fod Duw, trwy gyfryngdod ci lendigedig Fam, wedi gwel- ed yn dda mewn n)od<! grasol i adferu iddi ei golwg. Mae hyn ynymddaugos yn hynod, ond y mae pawh yn cydnabod gwirionedd y wyrth, gan eu bod yn ei hadnabod er ys blynyddoedd, ac yn arfer ei gweled yn dyfod i'r Capel yn ddali bob dydd. Pan y mae yr hen wraig yn awr yn myned aJlan, y mae yn cael ei haingyichynu gan liaws o bobl, i ba rai y mae yn ad- rodd y modd gwyrthiol y mae Duw wedi adferu ei golwg iddi." Dyma yr banes a rodda y Pabyddion i ni am gyfiawniad yr hyn a alwant yn wyrth; ond y mae lie i gredu fod y bobl cfergoelus hyn yn llawer mwy dall nag y bu yr hen wraig crioed, gan fod yn hawdd canfod mai twyll yw y cwbl oil, wedi cael ei ddyfeisio a'i osod mewn gweithrediad gan yr Offeir- iaid Pabaidd a'r hen wraig. BRWYDH Y GWENYN.—Amgylchiad hynod lawn a gymmerodd le yn ddiweddar yn Guillcville, Eure-et- Loire, yn Ffrainc. Yr oedd gan ffermwr bychan, mewn cae vn ymyl ei dy, tua 250 o lestri o wenyn, y rhai a gynnwysent nifer afrifed o'r creaduriaid def- nyddiol a diwyd hyny. Ar un diwrnod tesog, efe a anfonodd ei ddyn, gyda chart, a phutn ceffyl, i gywain pridd oddiwrth y mur yn gyfagos i'r gwenyn; ond wedi mynsd yno, goffu iddo ddychwelyd yn ol i'r tyi ,.p' gyrchu rhyw offeryn, a cbylymodd y ceffylau wrth goeden yn y clawdd. Yn ddioed lluoedd o'r gwenyn a ruthrasant allan o'u cychau, wedi eu cynhyrfu trwy symud y pridd, neu gan y trydan oedd ynllanwyr awyr ar y pryd, ac a ymosodasant ar y ceffylau yn y modd mwyaf ffyrnig. Mewn mynydyn gorchuddiwyd y ceffylau yn hollol a gwenyn o'u penau i'w traed, ac hyd y nod eu ffroenau a lanwyd a hwynt; a phan ddychwelodd y cartwr yn ol, cafodd un ceffyl yn gor- wedd yn farw ar yJlawr, a'r rhai ereill yn ymdreiglo oddiamgylch yn y poenau mwyaf. Bloeddiodd y dyn allan, a daeth amryw i'w gynnorthwyo gwnaeth un o honynt gynnyg i yru y gwenyn ymaith, ond liwy a ymosodasant a mo yntau hefyd, a gorfu arno ffoi i lyn cyfagos, ac hyd y nod gosod ei ben dan y dwfr cyn cael gwarcd o honynt. Offeiriad y plwyf a ddaeth i'r He, ond gorfu arno yntau ffoi, a lliaws o golynau o amgylch ei glustiau. Yna dygwyd dau ddwfr beiriant i'r lie, a tbaflwyd y dwfr yn gawodydd ar draws y ceffylau, y gwenyn a'r cychod, ac felly y cafwyd y fuddugoliaeth ar y creaduriaid bychain. Pa fodd bynag, yr oedd y ceffylau wedi cael eu niweidio gym- maint, fel y trigasant cyn pen awr. Cyfrifid fod y gwenyn a ddyfethwyd yn werth 1,500 o ffranciau, a'r ceffylau yn werth 2,500 o ffranciair Ychydig ddydd- iau yn flaenorol, yr oedd yr un gwenyn wedi lladd 17 o wyddau ieuainc, y rhai a aethant i bori yn rhy acoa atynt. FFRAETHINEB GWYHDEL.—Pan gynnygiwyd bon- eddig yn aelod Seneddol dros swydd Somerset, yr oedd terfysg a bloeddio mawr yn mhlith y lliaws ag oedd yn bresennol, ac yn en pJith yr oedd Gwydd- el, newydd gael ei drosglwyddo o'r Iwerddon, yrhwn a gymmerai ran helaeth yn y bloeddio a'r terfysg. Rhyw foneddig ag oedd yn y lie, gan feddwl gosod taw ar y Gwyddel, a fioeddiodd allan gan graffu ar y Gwyddel, Dos at y diafol, Pat." Pat a edrychodd ar y boneddig yn dra Hawen, ac yn ddioed a atebodd, Diolch yn fawr i'ch anrhydedd, yr wyf wedi bod yn y wlad hon dros chwech mis, a chwi yw y boneddig cyntaf a'm gwahoddodd i weled ei dad." EFFAITII Y LLEUAD AR BLAHIGION.—Gohebvdd yn y Gardener's Chronicle a rodda i ni vr hanes hyn- od a ganlyna:—Yn y flwyddyn 1736, Antonio de Ulloa, boneddig Yspaenaidd, a anfonwyd i Ddeheu- barth America ar genadwri gelfyddydol. Pan gyr- haeddodd Quito, yn mhlith llawer o gywrein-bethau ereill, daeth dnn ei sylw fath o gorsen, yr hon sydd yn tyfu hyd 50 troedfedd o uchder, ac y mae yn 6 modfedd o dryfesur; a dyweda fod y gorsen hon, yr holl amser y mae yn tyfu, yn cynnwys mwy neu lai o ddwfr, yn ol fel y byddo oed y Lleuad. Pan fyddo y Lleuad yn Hawn, mae y gorsen hefyd yn llawn o ddwfr, ac fel y byddo y Lleuad yn cilio y mae y dwfr yn disgyn yn y gorsen, hyd oni fyddo yn agos yn wag ar y newid yna y mae y dwfr yn cynnyddu ac yn es- gyn gyda chynnydd y Lleuad, hyd oni fyddo y gorsen yn llawn ar y llawn Lleuad. Ac heblaw hyny, pan fyddo y dwfr ar ei godiad ac hefyd yn llawn, y mae inor lleidiog a phlwca fel nad yw dda at ddim. Yr oedd y teithiwr wedi tori y corseni hyn ar bob amser o oed y lleuad, ac wedi cael prawf perffaith o'r effaitii hwn o eiddo y Lleuad. Nid oes ammheuaeth nad yw y Lleuad yn cael cryn effaitii ar lysiau a phlanig- ion yn ein gwlad oin hunain hefyd, a byddai yn werth i naturiaethwyr wneyd mwy o ymchwiliad' i'r peth hwn. GWALL ninniF WRTH BRIODI Ychydig ddydd- iau yn ol, enghraifft hynod o absennoldeb meddwl a dflygwyddodd mewn Eglwys nid can milltir o Stoke Damerel. Yr oedd offeiriad y phvyfwedi myned trwy y seremoni o uno par dedwydd mewn glan briodas, a phan acthallt i'r wisg-gcll i law-nodi y llyfr, daeth y lawforwyn yn mlaen, ac er eu syndod oil, dywed odd, Syr, nid ydynt etto wedi priodi." "0, ydynt," ebai yr offeiriad, "y mae pob peth wedi ei gyflawni," Nac ydvw, yn wir, dywedotld y lawforwyn, "yr yd- yeh wedi angliofio y fodrwy." Daeth yr offeiriad i'w gofyn awr, a dcchreuodd eu dwrdio ani beidio dy- wedyd wrtho yn gynt; yna efe a aetli yn ol i'r Eglwys, a chyflawnwyd y seremoni drachefn, a gosodwyd y fodrwy ar fys y tro hwn, er boddhad mawr i'r pleidiau oil. CAUIAD MAM AT EI PULENTYN.-YChydig ddydd- iac yn ol, cynnaliwyd trengholiad yn Marylebone, Llundain, argorffMary Mead, gwraig i bobydd cyf- rifol o'r lie hwnw. Oddeutu chwech mis yn ol, y wraig hon a gladdodd blentyn, yr hwn oedd yn anwyl iawn ganddi, ac ni fyuai ei chysuro ar ei ol. Yr oedd yn myned bob dydd i Giaddle Kensal Green, yn taflu ei hunan ar fedd ei phleutvn, lley wylai dros oriau. Yna hi a gasglai y blod'au a dyfent ar y bedd aca'udyg. ai adref yn ofalus, ac a'n gosodai mewn llestr a dwfr ac wedi iddynt wywo, hi a'u bwytai. Un diwrnod' wedi bod yn ymweled a bedd ei phlentyn, fel arferol] hi a ddywedodd wrth ei gwr, ei phlant, a'i chyfeiUion, Had oedd ganddi ond ychydig iawn o ddyddiau i fyw gorchymynodd i'r galar-wisgoedd gael eu gwneyd i'r plant, y rhai oeddynt i wisgo ar ei hoi hi, ac wedi cy- larwyddo ei gwr i fynu cnulio y gloch ar ci hoi, hi a wrthododd gymmeryd cynnorthwy meddygol, nacym- borth, na chysur; ac wedi eistedd yn ei chadairo ddydd Mawrth hyd ddydd Gwener, hi a syrthiodd i'r llawr yn gorff marw. Barnodd y meddyg ei bod wedi marw o anechyd y galon, yr hwn a ddvgodd yn mlaen gan ornicd galar a'r rheithwyr a ddygasant y rheith- farn yn gyfatebol. Coi/FCIAD IhwYD TUWV FOODT.—Ar hwyr dydd Sabboth wythnos i'r diweddaf, oddeutu naw o'r gloch, cymmerodd dygwyddiad le ar afon Llundain, yn a^os' i Bont Blackfriars, trwy yr hyn y collodd tri o ber- sonau eu bywydau yn ngolwg eu cyd-ddvnion, pa rai ni alient estyn un cynnorthwy iddynt. Mae yn deb- yg i naw o bersonau fyned ar yr afon yn y boreu er difyru eu hunain mewn bad cil. Acthant gydalr llaiiiv, mor bell a Greenwich, ac wedi avos ychvdig oriau yno, dychwelasant drachefn gyda'r llanw. Wedi idd. ynt gyrhaedd Pont Blackfriars, a phan oeddynt oddeutu banner y pedwerydd bwa, daeth ager-fad i fYI1Y, gan gyfeirio atynt. Gwaeddodd y dynfon yn y bad ar y cad ben i droi llyiv yr ager-fad, yr hyn a wnaeth ond yn anffodus, cododd y menywod yn y bad bach i fyny yn eu dychryn, yr hyn, ynghyd a'r ymchwydd a achoswyd gan yr nger-fad, a ddyinchwel- odd y bad bychan. Taflwyd y dynion a'r menywod yn y bad i'r afon, ac am ychvdig amser, gwelwyd hwynt yn ymdrabaeddu ac yn gafaelyd un yn y Hall yn y dwfr, pan yr oedd ysgrechfeydd yr edrvchwyryn. tori yr awyr. Anfonwyd bywyd-fad allan yn ddioed, er eu cynnorthwvo. Wedi dyfod wrth ochr yr ager- fad, cafwyd dau ddyn yn gafaelyd wrth ran o hono, ae ereill yn gafaelyd wrth ddillad y cyfryw. Trwy ym- drech caled, llwyddwyd i achub chwech o honynt. Cafodd un o'r dynion, o'r enw George Williams, ei niweidio yn fawr trwy fyned mewn cyssylltiad 'a'r ager-fad. Collodd ei wraig ei bywyd. Enwau y rhai a foddasant oedd Ann Willinms, Thomas Weston ac Emma Bates. Ni achubwyd ond on fenyw,

FFRAINC.

----. YR YSPAEN.

YR ALMAEN A'R EIDAL.

,RWSSIA.

RHUF AIN.

ALGERIA.

AMERICA,

INDIA DDWYREINIOL.

!RHYFEL CAFFRARIA.