Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
MYFYRIWR AM OFEREDD.
MYFYRIWR AM OFEREDD. MR. GOT.—Mynych y mae gan bob bachgen drwg esgus parod am ei fai, pan geryddir ef: fe ddywed mai yn ei anwybodaeth v pechodd, neu, ynte, mai rbyw fachgen hynach nag- ef a'i twyllodd i wneyd felly. Nid annhebyg wyf finnau, Mr. Gol. Ceryddwyd fi yn SER- EN CYMRU, Gorph. 8, ganun o'r enw "Myfyriwr." Ymddengvs i'r person uchod hollol gam-enwi ei hun, oblegill nid oes yr un arwydd o fyfyrdod yn ei waith anghysson wrth enllibio'r ychydig linellau o'm heiddo i'r Gwanwyn, yn y SEREN, Mehenn 10. Y mae ar y cyntaf yn dosturiol iawn, ac yn gresynu oblegid fy an- allu l'hyfedd, ynte, na buasai wiw ganddo i addysgu ychydig arnaf rhagilaw. Mae yn ofynol bob amser, cyn y gellir yn briodol geryddu nn am ddrwg, ddeall pwysigrwydd ei bechod, ac yna gellir ceryddu yn ol yr haeddiant mae cyfraith yn galw. Mae y Myfyriwr enwog yn ceryddu, end nid yw yn gwybod dim o natur y bai, nae ysywaeth yn gallu ei ddangos wrth ei enw. Mae yn amlwg felly mai nid earn fy llwydd a'm gwellliad y mae M., nac ychwaith yn chwennych dangos rhinweddau i'r oe-t a ddel, fel v soniai; ond cael y Fi fawr ar uchelfanau yn benaf ydyw ei bwnc mewn golwg. Mae hefyd yn am- mheiius genyf a all M. ganfod rhinwedd yn rbywle heb- law ynddo ei hunan. Priodol y dywed Salomon, Ffordd yrynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun." I ddod yn mlaen at y pwnc. Mae M. yn gorchymyn dal Pedair llinell 0')11 heiddo yn ngwyneb Drych Caled- fryn, a chelid gweled nad ydynt wrth y rheo). Beidd- iaf ofyn i Mr. M., a ddeil gweithion Caledfryn ei iiiin yn ngwyneb ei Ddrych? Gwaitb bach ywdwtyd wrth gyfaili, Bydd yn hernaith pan ddywed y cyfaill, Bydd dithau hefyd, byddwn yn fud. Y llinell flaenaf a nododd allan, a dyma hi,— Mae gwanwyn yma'n gwenu. Dichon mai y cyssylltiad n a ddyrysodd y Mi fj r v Beth amgen allai gael yn hon o'r grawn Awen ? Nid iawn i mi'r dinafrwr." CAIEDFRYN. Ac hefyd pe'l rhoddid fel hyn byddai'n waeth fyth yn ei olwg,— Mae'r gwanwyn yma'n gwenn." Os felly, beth wneir o'r llinell yma o eiddo Goronwy Owain o Fon,—- II Duw'r dedwyddwch di'n dad iddynt." Wele hefyd yr ail line]) a gondemniwyd,— Mae'r tyner wres yn taenu." Mae'n debyg mai y gydsain m a'i dyrysodd yn y llinell hon, trwy ei bod heb ei hateb. Beth a ddywed am yr r sydd yn y Hinel! yrna yr un modd, o eiddo'r prif- fardd,— AT un gair yn agoryd." R. AB G. DDU. Onid yw r yn gydsain mor anmhriodol ag m; llawer iawn o'r cyfryw a ellir nodi, pe bai o ryw leshad. Y drydedd etto,- 0 mae'r wyn yn mron rhynu." Pe buasai Myfyriwr yn gwybod rhyw fceth am gyng- hanedd, buasai yn dawelach am ei hannheilyngdod. Er ei foddloni, wele enghraifft,- 14 Yn y dref oer nad y rhai'n." CALEDFRYN. Am y bedwaredd linell a sonia Myfyriwr, nid yw yn ddigon o ysgolor i'w sillebu yn ei lie. Cynghorwn ef i ymofyn & rhai o blant yr ysgol nesaf ato, er mwyn cael cyfarwyddyd i lythyrenu y gair glwys yn ei le, ac i ddangos iddo y gwahaniaetli rbyngddo a'r gair glas; a dichon y geill ddod, ond myfyrio ychydig yn rhagor, i wybod y gwahaniaeth rhwrig glwys a glas. ° Mae cecraeth craclifeirdd fel y ni, Mr. Gol. wedi syrffeclu chwaeth y wlad er ys llawer dydd, ac yn gwaethygu llawer ar Jedaeniad y Cyhoeddiadau hefyd felly nid wyf ar fedr ymyryd llawer a'r trade. Os bydd Myfyriwr mor garedig a rhoddi gwell addysg i m'i y tro nesaf, mae'n debyg na fydd i mi ei anghofio. Ym- drechaf ganu ychydig yn ddireol, fe! y gallaf, iddo am ei ewyllys da. Mac oferwaith Myfyriwr—yn 4'weyd Nad ydyw'n feirniadwr; Wele vnfyd enbyd wr, Sythodd cyn bod yn-saethwr. Addysg wyf yn ei waeddi,-un difethr Nid ofer gaboli Di rinwedd im' bendroni, N eu gadw twrf gyda ti. Bydd iach, y celach cwia,— bydd lonwych, Bydd tawen a chana; Nid yw'n werth o nerth, na, na,— Myfyried am ei tara." BUffa, I. LLWYDTRYN.
G 0 H EBIA E T H A U.
G 0 H EBIA E T H A U. Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am farnau ein Gohebwyr.
GWELY-ANGEU Y DIACON.
GWELY-ANGEU Y DIACON. Boh Sabboth am chwe mlynedd yr arferwn ganfod yr hen ddiacon yn eistedd dan y pwlpid yn yr addoldy, a chydag ofn parchus yr edrychwn ar ei wynebpryd syml drwy ystod y weddi, y mawl, a'r bregeth. Wrth ddychwelyd adrefun tro i olygfeydd fy ieuenctyd, dyg- wyddais gyfarfod a'r gweinidog yn myned i weddio wrtli ochr ei wely-angeu; a chan v teimlwn awydd i uno ag ef, troais, a cbydymdeithiais gydag ef i dy galar. Ac yn awr, am y tro cyntaf, canfyddais fach- genyn bychan, oddentu deng inlwyddoed, yn cerdded wrth ochr y ceilyl, yr hwn a dailai edrychiad i fyny yn ainl ar y gweinidog, a'i lygaid yn lIawn o ddagrau. Canfyddais yn union yn mryd a gwedd yr un bach debygolnvydd mawr i'r hen ddiacon duwio!, yr hwn vn awr a orweddai ar ei wely-angeu. Gorfu iddynt anfon ei wyr bach drwy yr eira i'm cyrchu, er ieueng- ed ydyw," ebe y gweinidog, gan edrych yn lion ar y plentyn end cariad a wna y galon ieuanc yn wrol —ac y mne Un a dymhera y gwynt i'r oenig newydd ei gneifto." Fel y nesaem yn arafatyty, canfyddem, yn lied. edrych drwy y drws, frodyr a chwiorydd ein tforddwr ieuanc, pa rai a ddiflanasant yn fuan o'n golwg, a'u mam a ymddangosudd yn eu He, yn arddangos, trwy eu llygaid cyfodedig, a'i dwylaw plethedig ar ei myn- wes, y diolchgarwch a deimlai ei chalon wtth ganfody gweinidog yn nesu at yty. Ychydig eiriau oeddynt ddigonol er egluro pwy oedd y gtvr dycithr-a'r dyu claf, yn fy mendithio with fy enw, a estynai allan ei law oer a chrynedig i mi, fel arwydd o adnabyddiaeth. Cymmerais fy eis- teddle ychydig oddiwrth y gwely, gan adael lie i rai mwy anwyl i fyned yn mlaen. Y gweinidog a eis- teddodd yo agos i obenydd y diacon-ac yn achr y gwely, gan led orwedd arno, y safai y wraig dda, ei ferch-yn-nghyfraith—dynes dlos a dyddorawl yr olwg ami, harddwch cynhenid pa un oedd yn awr yn dra tarawiadol. Ond cref'ydd a ddaliai i'r lan yr hon oedd natur yn ddarostwng i lawr a deallais mai nid y tro hwn oedd yr unig un y dysgwyd hi i roddi y gwersi yma mewn ymarferiad, gan ei bod wedi ei gwisgo oil It galar-wisgoedd. Duw a fu drugarog iawn i mi, bechadur," ebe y dyn claf. Dros y deng mlynedd ar hugain y bum yn ddiacon yn eicli eglvvys, ni chollais gymmaint ag un Sabboth heb eistedd yno, Pany eymmerw yd mam fy mhlant oddiwrthyf— arddydd Mawrth y bufarw, ac ar ddydd Sadwrn y claddwyd hi-ar y Sabboth, cyd- unais yn ngwasanaeth cyhoeddus Duw—gorchyinyn- odd bi i mi wneuthnr hyny y noson cyn iddi yinadael. Nid allwn gyduno yn y mawl y Sabboth hwnw, eanys nid oedd llais fy anwyl Ellen yn mhlith y dorf. Ei bedd a gauwyd i fyny, a glasweilt a blodau a dyfant arni." Yr hen wr a dawodd a siarad-^a'i *yr, yr hwn oedd erbyn hyn yn alluog i sefyll yrolygfa, a symud- odd yn esmwyth tuag at fwrdd fechan, a chan ddwyn cwpan, yn mlia un yr oedd meddyglyn wedi ei gym- rnysgu, a'i cododd a'i ddwylaw bychain at enau eu dadcu. Wedi iddo yfed, dywedodd,—" Tyred yn nes ataf, Iforbach, a chusanati, er dy fwyndvjliuii, ac er rnwyh dy dad; ac fel yr hoff-wa/*j wef-, usau rhosynaidd at rai gwyinvel^t'gcfted&w/ y dagrau a gwympent ar draws gvvyneb yi4' wr,'a threiglent j lawr drachefn ar ben eurawg y V mltyn, yr hwn, o'r diwedd, a orweddai ar ei fy nwes. wifor, dydad sydd wedi dy anghofio yn dy ieuenctyd, t. minnau yn fy hen ddyddiau; ond, Ifor, na fydded iti anghofio dy dad na'th fam, cauys hyny, fel y gwyddost ac y teimli, yw gorchymynDuw." Ni allai y bachgenyn torcalonus roddi un atebiad. Ei fam yn awr oedd wedi gostwng ar ei gliniau, gan guddio ei gwyneb a'i ltaw. 0 pe byddai fy ngwr yrugwybod am hyn, ni fyddai iddo byth, byth adael ei dad yn oriau tnarw i" Darfu i mi ddeall vn awr fod y diacon yn gweddio ar ei vvely-angeu dros fab anufydd, gwrthnysig, ac annuwiol. Ar yr amser pwysigyma, y gweinidog a gymmerodd y Beibl tnavvr teuluaidd ar ei liniau, ae a ddywedodd, —" Gadewch i ni ganu, er mawl a gogoniant i Dduw, Than o'r bymthegfed 8alm;" a darilenodd mewn llais hygryn a thoredig, y penriillion a ganlyn :— Dywed i mi, pa ddyn a drig I'th lys, barcbedig Arglwydd ? A plnvy a erys ac a fydd_ Y n mynydd dy santeiadrwydd ? Yr hwn a rodia'n berffaith dda, Yr hwn a wna gynawnder Alr hwii a dractlit oli galon wir, A drig ar dir uchelder. Cyn bod y Salm drosodd, agorwyd y drws, a dyn tal, gJandeg yr ólwg, a ddaeth i mewn, ac ymddangosai fe) pe byddai mewn gofid a chythrybiedd ineddwl. Pel wedi ei gyffrôi a'i ddeiffigin y gerddoriaeth alarus a phruddaidd, eisteEdodd ar gadair, ac edrychai yn synedig tua gwely-angeu ei dad. Wedi diweddi y Salm. y diacon a ddywedodd, mewn llais dyfrif-ddwys, -11 Fy mab; daethost mewn prvd i dderbyn bendith dy dad. Bydded fod adgofiant o'r hyn a gymmer le 9 yn yr ystafell hon, cyn tywyniad gwawr y boreu etto, i dy ennill di o gyfeiliorni dy ffyrdd. Yr ydwyt yma j dystio trugaredd dy DJuw a'tii laehawdwr, yr hwn vdwyt wedi ei anghofio. Y gweinidog a edrychai, gyda gwynebprvd edliw- iedig, ar y gwr ieuanc, yrhwu nid oedd wedi ennill ei ymatlrodd, a dj wedodd,—" Ie, Dafydd, am y tair Mlynedd a aethant heibio, nidyw eich cysgod chwi wedi tywyllu drws Dduw. Y iLai hyny i,id arswydant wrth swn a rhuad y daran, a allant grynu wrth y llais dystaw main—yn awr yw yr nmser i edifarhau, fel y byddo i'ch tad ddwyn y newydd hyfrydlawn gydag ef i ardaloedd gwynfyd, fod pechadur edifeiriol wedi ei achub ar y ddaear." Y dyn ieuanc, drwy fawr ymdrech, ancsaod l nt y gwely, ac o'r diwedd a gafodd lais i ddywedyd,— •• 'Niiad, ni(I wyf yn amddifad o scrchiadau naturiol- darfu i mi frysio gartref y man y clywais fod y gwein- idog wedi ei weled yn marcliogaeth tua'n ty, Go- beithiwyf y byddi chwi wellaetto, ac os darfu i mi un amser eich gwnevd yn annedwydd, gofynwyf t'iell maddeuant; canys, er nad wyf yn csdweled arifaterion crefvdd, y niae genyf galon ddynol. 'Nhad, fe ddichon fy mod wedi bod yn angbariadus, ond nid wyf wedi bod yn greulawn. Evfyniwyf eich maddeuant." "Tyred yn nes ataf, Dafydd; penliniawrth ochr fy nwwely, a gadawer i'm Ilaw deimlo peit fy anwyl blent- c ■yn; canys y mae dallineb ar fy ngoddiweddyd. Tydi oeddyt fy nghyntaf-anedig, a thydi yw fy unig blenu yn sydd yn fyw. Dy boll frodyr a'th chwiorydd a or. weddant yn dnwel yn y fynwent, yn ymyl dy anwyl fam. Am hir amser y buosf. yn llawenydd fy nghalon — ie, yn ormodol felly, gan Dad oedd ddyn yn yr hoH wlad fel tydi yn fy ngolwg. OS) w dy galon wedi ei chyfnewid wedi hyny, gall Duw ei dwyn etto iV lie. Yr wyf wedi galaru yn ddwys o'th herwydd—Ve, Daf- ydd, pan nad oedd neb yn agos i mi—hyd y nod fel y galarodd Dafydd am Absalom-am danat ti, fy mab, I m fy mab!" Ochenaid drom yn unig oedd yr ateb ond yr oedd holl gorff y dyn yn gyffroedig, ac yr oedd yn hawdd canfod ei ddyoddefiadau, ei orbicrwydd, a'i gystudd ysbryd. Y gweinidog, gyda golwg sarugaidd, a ddy- t, wedodd,—" A wyddoch chwi Haw pwy syddyn gor- phwys yn awr ar eich pen gwrthryfelgar ?—ond pa beth a arwvdda y gair TAD i'r hwn sydd yngwadu Duw, ein Tad ni oil ?" 0 peidiwch gwasgu yn rhy galed arno," ebai ei wraig, mewn dagrau, gan ddyfod yn mlaen o ryw gornel tywyll o'r ystafell, lie yrym- drechai guddio ei hunan mewn gofid a chywilydd arbedweh arbedweli fy ngwr,-y mae wedl bod yn dirion iawn i mi erioedachyda hyny penliniodd yn ei ochr. Cerdd dithau hetyd, Ifor," meddai y diacon, a phenlinia yn ochr dy dad a'th fam, fel y gallwyf eich bendithio oil ar unwaith, a chydag un weddi gydymdeimladol." Gwnaeth y plentyn fel y gorchymynid iddo. "Gosodwch air Duw yn nwylaw fy mab, a bydded iddo ddarllen i glywedigaeth ei dad y 25ain, y 26ain, a'r 27ain adnodau o'r unfed bennod ar ddeg o'r ef- engyl yn ol loan." Y gweinidog a nesiiodd at y rhai a benlinient, a chyda llais tynerfwyn a chydym- deimladol, dywedodd,—"Yrr oedd amser Dafydd, pan nad allai neb ddarllen yr ysgrythyrau yn well ntichwi —aydywyn bosibl fod inab fy nghyfaill wedi ang- hofio gwersi ei ieuenctyd ?" Nid oedd wedi eu hanghofio-nid oedd anghen i'r pechadur edifeiriol godi ei olygon o ochr y gwely. Gvda llais crynedig dywedodd,—"Yrlesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd. A wyt ti yn credu hyn ? Dywedodd bithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd, yr wyf fi yn credu mai ti yw y Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r byd." Nid llais anghredwr yw hwna," ebai yr hen ddyn yn orfoleddus, ac nid oes genyt titliau, Dafydd, gal- on anghredinol. Dywed dy fod yn credu yn yr hyn a ddarllenaist, a bvdd dy dad farw yn ddedwydd." "Yr wyf yn credu ac fel y maddeuwch chwi i mi, hydded i'm Tad yr hwn sydd yn y nefoedd faddeu i mi hefyd." Y diacon a ymddangosai fel dyn wedi cael ail- fywyd. Ei lygaid diflanedig a gynneuent—ei wyn- ebpryd gwelw-las a wridiai—ei freichiau crynedig a gryfliaent—a'i lais oedd yn groyw fel llais gwr yn ei nerth. I'th ddwylaw di, O Dduw, y gorchymyrtaf fy ysbryd;" a chan ddywedyd felly, cwympodd yn es- mwyth yn ol ar ei obenydd; a meddyliais i mi glyw- ed ochenaid. Bu wedi hyny ddystawrwydd hir, a'r tad, a'r fam, a'r plentyn, a godasant oddiar en penlin- iau. Ein llygaid oil a drowyd tuag at wyneb llwyd- 11 aidd y gwr a orphwysai yn awr mewn tragwyddol wvn- fyd ac, heb alaru, oddieithr galar y galon ymrodd- edig, safasom o gylch GWELY-ANGEU Y DIACON. Cjxf. GWIL YM GLAN EDREN.
CERDDORIAETH.:
CERDDORIAETH. Anthem ar Esay xlii, 10, 8, 11, 12. Gan Alawydd; sef David Roberts, Cae'r Berllan, Bethesda. Dan olygiaeth y Parch. E. Stephens, Dwygyfylchi. Bala; .y Griffith Jones, 1852. YN CAEL El DADCJYSSODI, &C. Y GOLYGYDD ANMHLEIDGAROL. — Cvweirnod gwreiddiol y cyfansoddiadhwn yw C naturiol, Cyn- nwysir o mewn chwe symudiad (movement), sef Cydgan (chorus),yn yr amser cyffredin, o 16 ban—" Solo Bass," yn amgen, Bass Solo, yn amser o 22 ] .6 ban—Cydgan yn amser o 36 ban—Goreilig (Fugue) yn amser 0 25 ban—Cydgan yn amser 2 o 13 ban—a Goreilig, sef yr oreilig flaenorol, ac yn yr un amser, o 19 ban y cyfan yn gyfatebol i 131 1-6 ban. Y symudiad blaenaf. Ban 1.—Adran (Phrase), ar "cen-wch." Dau gord cynredin y tonydd (tonic, neu key-note) C, yn wreiddiol, ac yn yr un cyflead. Ban. au 2 a 3 -.—Adranreolaiddar cen wcli i'r ^4r-glwydd," Ban 2. Y ddau gord blaenaf sy ddau gord cyffredin y tonydd C, fel yn ban 1; y ddau yn wreiddiol, ac yn yr un cyflead. Y cord olaf sy fath o gord y seithfed llywydd. ol (dominant seventh), yn wreiddiol, ar C, llywydd y tonydd, neu y cyweirnod F, yn y ban dilynol. Ban 3. Dau gord cyffredin F, yn wreiddiol, ac yn yr un cyflead. Banau 4 a 5. Petit tebyg i Adran reolaidd ar cen- wch i'r'ylr-glwydd gan neiy-ydd." Ban 4. Y cord blaenaf, yr ail, a'r pedwerydd, sy gord cyffredin y ton- ydd C y blaenaf a'rpedwerydd, yn wreiddiol, a'r ail yn wrthddodiadol (inverted). sefgwrthddodiad blaenaf cord cyffredin y tonydd C. Y trydydd a'r pummed cord, sy gord cyffredin G y trydydd, yn wreiddiol, a'r pum- med cord, yn wrthddodiadol, sef, gwrthddodiad blaenaf cord cyffredin y llywydd G. Nodyn mynediad- ol (passing note), yw E, yn yr alon (soprano), yn y cord olaf o'r ban hwn. Ban 5. Y cord blaenaf, sy gord cyffredin F, yn wrthddodiadol. Yr ail gord, sydd anghydsain ysdynol gyfansawdd (compound dissonance by suspension), sef, anghydsain y ckwechfed a'r bed- werydd, ar y sawd G. A'r cord olaf, sy gord cyffredin G, yn wreiddiol. Dyma grynoad o'r cordiau yn y pum ban dan sylw :-Cord cyffredin, 13; Cord o seithfed llywyddol, I Anghydsain ysdynol, 1 Gwrthddodiad- au, 3. Er mwyn yr anghytarwydd yn elfenau a dan- soddion cynghanedd a chyfansoddiant, nid anfuddiot yr eglurad hwn :—Gwrthddodiad cord fydd pan drefnir ei drjtdydd, neu ei bummed, fel yn y cord cyffredin neu, ei drydydd, ei bummed, nen ynte ei seithfed lleiqf\ fel yn nghord y seithfed llywyddol, yn isaf ynddo. Arwyddir gwrthddodiad cyntaf y cord cyffredin, fel hyn—6, neu 3, a'i ail wrthddodiad, fel hyn — ac arwyddir gwrthddodiad blaenuf cord y seith fed llywyddo], fel hyn 6 6 —5, efail wrthddodiad, fel hyn--4, a'i drvdydd gwrth- 6 3 ddodiad, fellJyn-t j sef, y bydd cyfryngau y cord, yn 2 y gwrthddodiad, a chyfrif o'r nodyn isaf ynddo, tuag i fyny, yn y drefu rifebol yna. Anfynych yr arwyddir gwrtliddodiadau cordiau yn brtsennol: ond dyna eu trefn a'u psrthynas. Anghydsain ysdynol fydd pan ys- dynir neu barheircyfrwrig o'r cord bluenoi ol i'r cord di- lynol, o wahanol sawd (bass), fel yn y cyfalon (tenorj, yn yr ail gord, yn ban 5, o Anthem Alawydd, lie yr ys- dynir C, pummed y sawd F, yn y cord blaenaf, i'r cord dilynol. sef cord G. Wedi dadgyssodi cynnwysiad y pum ban blaenaf yn y dernyn hwn, rheidiol troi yn ol, i ad- olygu ei drefniant parth cynghanedd, cymesuriant (sym- metry), gwreiddiolrwydd (originality), &c. Btnl. Mae trefniad y gynghanedd, yn y ban hwn, yn undoniaethol (monotonous) li. y.,mae y ddau gord a gynnwysa yn drefniedig yn yr un cyflead a'r nodau, o ran eu hamseriad priodo), yn gyfartal: eithriry nod- yn olaf, o herwydd y safai (pause) sydd arno. Galles. id osgoi yr undoniaeth sydd yn y ban dan syhv, trwy drefnu yr adalon (alto) or G, a'r cyfalon ar E. Odd ei drefnu fel yna, buasai mwy o beroriaeth yn y lleis- iau, a'r gynghanedd yn fwy cynhyrfns a tharawiadol, ac yn gweddii yn well i'r testun fielyd, bernir: mac y safai ar y nodyn, neu y nodau, neu ynte, y cord olaf ynddo, yn waeth nag ynfydrwydd Heblaw ei fod yn eithaf anghydweddol a'r archiad .1 cenwch," pera, yn natganiad yr adran, orfanu y gair cen, wch yn cen- wch" gwrthuni! Yn hytrach na dau adfanig (min- im) a safai, gwell fuasai adfanig, gorfanig (crotchet), a gorphwysnod (rest) gorfanig, yn y ban hwn. FeJly, buasai y corfan yn eglur a rheolaidd, a chyfaledd (ana- logy) rhwng cymesuriant nodiannol y ban hwn a'r ban dilynol. Mae nodiant y ban hwnw, sef ban 2, ar yr un gair, sef cenwclt," yn rheolaidd parth corfan a nodiant: dylasai cynnwysiad ban 1 fod yn gyffelyb iddo. Dadgan- er ban 1 a 2. Yn gyntaf, dadganer nhw fel y maentyn wreiddiol, sef, yn ol trefniad ein hawdwr arnynt; acyii olaf, yn ol y trefniad diwygiedig yma ar ban 1, a sylw- er ar y gwahaniaetli! Ni ruswyf ddyweyd y cydolyga pob cerddor o ddysg, barn, a chwaeth, a myfi, body trefniad diwygiedig, er symled yw, yn amgen o'r ban- ner, yn mhob golygiad, na'r monotony diilas cyntefig. Gellir ysgrifo llawer ychwaneg ar y ban hwn, ond rliag meithder, gadewir o ar hyna. Ban 2 a 3 fydd dan sylw nesaf. Ond odid, Syr, na fydd ymyrwyr yn y mater hwn Cynghorwyf bob gwydd (goose) o honynt i beidio a rhytygn, onide, j GORTYNIAWC 0 ARVON.
! GAIR NEU DDAU AT Y GOLYGYDD.
GAIR NEU DDAU AT Y GOLYGYDD. ANWYL FRAWD,-OS ydych chwi yn barnu y bydd- ai ychwaneg o gwiblinariaeth enllibaidd y Cracatw o Essyllt o ryw fudd, neu ddyddordeb, i rai o dderbyn- wyr, neu ddarllenwyr SEltEN CYMRTJ, peidiwch a'i attal i ymddangos, a hyny yn mhob rhifyn o hyn i ben y fiwyddyn, os bydd yn teindo ysfa am hyny. Ni thalma ei haeriadau, na'i enllibiaeth y dim lleiaf arnaf fie Crafed ef eithafion annwn, os myn, am un arbrawf i mi dderbyn na gofyn erioed am dal na gobr- wy am -1 wyraw barn," bydd ei ewinedd wedi pylu cyn caeI gufael arni, ïe, hyd y nodgymmaint a rhith o sail i sefyll ami. Gan nad faint yw fy anghym- hwysder i'r swydd o fod yn FEIRNIAD ar ystyron er- 1 cili, ni fu, ac ni fydd, unrhyw duedd ynof i wyraw barn am dat na gobrwy a phe y ceisiasai, neu y ceis- iai, unrhyw gystadlenydd hyny genyf, edrychaswn, Ve, 1 ac edrychwn arno gyda'r dirmyg mwyaf a allasai, neu a ellai fy nghalon ei ddychyinmygu. Gini, yn wir! Ni byddai can mil o naddynt ond megys manlwch yn qhafol feirniadol Eich hen gyfaili, a'ch brawd, BRYCHAN.
Y MEIWYR (Militia).
Y MEIWYR (Militia). (O'r "London GazetteGwener, Gorph. 9.) Yn Llys Palas Buckingham, ar y 30ain o Fehefin, 1852, Presennol-Ei Mawrhydi y Frenines mewn Cynghor. Yn ol y weithred a basiwyd yn y Senedd, dan yr enw, Gweitlired i gydgorffori a diwygio y gyfraith berAiynol i'r Meiwyr yn Lloegr," penderfynwyd, yn mhlith pethau creill," ei bod yn gyfreithlawn i'w Mawrhydi, trwy gyfarwyddyd ci Dirgel Gynghor, i godi, ac o amser i amser, i gadw yn mlaen unrhyw nifer heb fod uwchlaw 80,000 o feiwyr, i wasanaethu dros yr amrywiol siroedd, a lleoedd s-reill gofynedig gan y gyfryw weithred, 50,000 o ha rai a ellir godi yn y fiwyddyn 1852, a 30.000 yn y flwyddyn 1853." Darperir hefyd, os dvgwydd na fydd i'r nifer cyf- lawh i gael eu codi yn y fhvydd.vn apwyntedig j hyny gael ei wneyd, gellir codi y nifer cyn gynted agy tybir yn addas." A darperir yn mhellach, ei bod yn gyfreithlawn i'w Mawrhydi, trwy gyfarwyddyd ei Dirgel Gynghor, yn ddioed, ar ol p isio y gyfraith ddywededig, ac yn gan- lynol o amser i amser, fel y byddo amgylcbiadau yn galw, i benodi nifer y meiwyr, pa rai, hyd y dewisir nifer penodol arall, a wasanaethnnt dros bob sir, &c.; a'r nifer a benodir f.1 y rhagddywedwyd a dros- glwyddir i raglaw y cyfrvw siroedd, &c., o amser i amser; a chyhoeddir hyshysiad or cyfryw yn y London Gazette, a'r rhifedi a benodir felly o amser i amser gan ei Mawrhydi a fydd y nifer penodol dros y sir- oedd, &c., hyd nes y dewisir nifer penodol dracbefn yn yr un modd. Yn awr mae ei Mawrhydi, tnvy gyfarwyddyd ci Dirgel, Gynghor, wrdi gweled yn dda i benodi nifer y meiwyr a wasanaethant, hyd oni benodir ar rai ereill yn eu lie, dros y gwahanol siroedd, llefydd, &c., yn 01 y rhifedi ar y gyf'res gydfynedol, yn cyrhaedd oil y nifer o 80,000 o wyr, a chyfarwydda ei Mawrhydi i ystyried y Gyfres hono fel rhan o'r gorchymyn hwn, ac fod v gorchymyn hwn, ynghyd a'r gyfres gydfyned. ol, i gael eu cyhoeddi yn y London Gazette, a chael eu trosglwyddo i raglawiaid y gwahanol siroedd, llefydd, &c., fel y byddo iddynt gario y cyfryw i weithrediad yn ol cyfarwyddiadau y Weithred Senedtlol rhagddy- wededig. W. L. BATIIURST-
Y GYFRES A GVFEIRIWYD ATI.
Y GYFRES A GVFEIRIWYD ATI. Nifer y Meiwyr a godir yn y gwahanol siroedd, Sfc., yn Lloegr a L'hymru. C Nifer a Nifer a Y Cyfan- Siroedd. godir godir f sWm a yn 1852. yw 1853. godir. LLOEGR. Bedford 345 210 555 Berks 483 295 778 Bucks •••• 466 283 749 Cambridge 520 316 836 Chester. 1,275 774 2,049 Cornwall, exclusive of the Stannaries 757 460 1,217 The Stannaries 225 137 352 Cumberland 535 331 876 Derby 851 516 1,367 Devon, exclusive of the Stan- naries 1,473 894 2,367 The Stannaries (see Corn- wall) Dorset 506 308 814 Durham 1,096 666 1,762 Essex 1,049 637 1,686 Gloucester 1,240 753 1,993 Hereford 335 203 528 Hertford 477 289 766 Huntingdon ] 84 112 296 Kent 1,618 982 2,600 Lancaster 5^28 3,418 Leicester 650 395 1,045 Lincoln 1,174 712 1,886 Middlesex (exclusive of the City of London and tI.-e Tower Hamkste" 3 197 1 g42 5^39 dty of London 'g0{) Tower Hamlets j 443 876 2 318 Monmoufli 467 283 750 Norfolk. J,224 744 1,968 Northampton (jOG 368 974 Northumberiand. 834 506 1340 Nottingham 761 4H2 1 223 Oxford 481 j 292 773 Rutland 68 41 109 ^loP 658 400 1,058 £ oirifset .1,211 735 1 946 Southampton 1,080 656 1,796 ^784 1,083 2,' 867 •••• 949 577 1,526 Surrey. ]>852 1>]25 2j9?7 S"ssex 945 573 1,518 VUrwick ••• 1,336 812 2,148 v> estmoreland 157 102 269 Wilts. 725 4411.166 Worcester 789 478 1.267 York, East Riding 608 309 977 York, North Riding and City 733 445 1.178 York, West Riding 3 76q 2,284 6,044 CYMRB, Mon. 159 97 226 Brychemiog 178 108 286 Caredigion jgy 114 ,.]()1 CaerfyrtUiJU 302 184 489 Caerriarlon 241 147 388 269 163 m Fflmt 197 119 316 Morganw^ m 4l0 ] 086. Memonydd no 66 m lrelaldwyn 194 1]8 SJ2. 239 145 11* Maesyfed 74 45 113 Cyfanswm 50,000 30,000 80,000