Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YSBRYD PROPHWYDOLIAETH.

PEOR A'l OFYNIADAU.

| AT OLYGYDD " SEREN CYMRU."

TAFOLWR BEIRDD Y DEHEUBARTH.

News
Cite
Share

TAFOLWR BEIRDD Y DEHEUBARTH. AT OLYGYDD SEREN CYMRU. OLYQYDD PARCIEUS,—Y mae rhyw ddyn ag sydd yn galw ei hunan Dewi Wyn o Essyllt' yn chwareu y mountebank yn ofnadwy yn yr Amserau am yr wytlt- nosau diweddaf yina. Nid wyf fi yn gwybod pwy na pha beth yw y gwr boneddig hwn, amgen na fy mod wedi gweled ei enw ambell i waith mewn cyssylltiad a man eisteddfodau Gwent a Morganwg; ond yn awr y mae yn myned i dragywyddoli ei enw fel "Tafolwr Beirdd y Deheubarth," a diau y gwna orchest o honi bydd beirdd yr oesau dyfodol yn myned ar bererindod i Ddinas Powis, gan ddywedyd," Awn i'r ddinas fawr hono, er cofla enw y Cadeirfardd urddedig a dafolodd ein tadau ni. Y mae efe wedi dechreu ar y gwaith eisoes, a dyrna ei first class ef:—" 1. leuan Gwynedd; 2. Robert Ellis 3. loan Emlyn; 4. lago Emlyn." Y mae yn ddigon hawdd gweled drwy y taibliad yna, ac fe wel pawb drwyddo ug sydd wedi darllen hanes Eisteddfod Dowlais. loan Emlyn, yn y daflen uchod, yw prif fardd y Deheudir,—G-ogleddwyr yw Gwynedd a Mr. Ellis; ond v mae Dewi Wyn wedi maeddu loan yn Nowlais, ergo, Dewi yw prif fardd y Dcau Ond os logic fel yna yw eiddo Dewi, y mae gyda ni fatch iddo yntau hefyd. Yr oedd Dewi Wyn yn ail i Gwalehmai yn "Nerpwl," ond yr oedd Dewi Emlyn yn ail i Gvvalehmai yn Nhremadog, ergo, y mae Dewi Emlyn yn gystal bardd a Dewi Wyn. Y mae Essyllt yn fwy anlweus nag Eifion, canys cafodd Bardd Gwyn Eifion sefyll mewn mawredd awenyddol ar ei ben ei hunan. Os fel hyn y mae y tafoliad i gael ei berfleithio ofn- wyf mai taibliad anghywir iawn a fydd, ac onid yw yn dangos difiyg chwaeth ac ann'oethineb mawr i osod bardd mor ieuatic ag yw loan yn erbyn lago ;—nid yw loan ond cyw megys, ac nis gellir dywedyd etto faint a bwysa ef yn nhafol yr awen ond am lago, y mae efe yn hen geiliog, ac wedi canu liawer o ddarnau awenyddol; ac o'r braidd na ddywedem fod ei gym- meriad barddonol ef wedi ei sefydlu bellach gan nad beth am hyny, y mae lago Emlyn yn fardd mwy cyflawu na'r un o'r tri n restrir gan Dewi Wyn o'i flaen. Drachefn, y mae arnaf ofn nad yw y Dewi Wyn yma na Chymro na Sais, gan nad beth ydyw Yryd- ych chwi, Mr. Golygydd, yn un o'r ysgolheigion Cym- reig goreu a feddwn ni, ac y mae yn dda genyf eich bod yn myned i'n hanrhegu a cbyfres o lythyrau ar yr Iaith wcf," ond a welsoch chwi erioed ddeipyn yn dangos mwy o wybodaeth athronyddol am yr ben iaith na bwn Duw lwyd' hefyd, yn wir Slyfyr ti aethost yn llwyd yn awr; Uuw,'sydd gadaroair gwrrywaickl, a ansoddäir dynod- iadol o'r gersecll fynywaidd, os felly, beth yw ystyr lwyd?' dyma hermaphrodite, nas gall hyd yn nod Myfyr ei hun esponio ei natur; os lliw fcddylid wrth hvyd' dylasai fod yn llwyd,' neu os natur—glwydd ddylasai fod ya y cysyIliad uchod." Dewi Wyn eydd yn llefaru, cofiwch, neu yn ol rheol gramadegwr Dinas Powjs,—Dewi Gwyn, efallai. Nid yn unig y mac hyn yn bradychu anwybodaelh ra- inadegol, ond y mae yn dangos hefyd nad yw Dewi yn rhy hyddysg yn nghyfansoddiadau beirdd ei wlad, onide buasai yn gwybod fod Uinellau fel hyn yn eu britho :— "Pob modd a luniodd Duw lwyd. G. ab I. ad Ll. Fyckan. "Iddi draw o law Duw lwyd." "A gadd ei le gan Dduw iwyd." Lewis Marjs. "Bardd ElfHn. Dalieain lwyd." D. ab leuan Ddu. Ust ? yr hen Feirdd campus, "ansoddair o'r genedl fenywaidd" yw lwyd, meddai Dewi Wyn, ac hertna- phrodite yw eich Duw chwi. Hawyr anwyl! dyma gabledd ofnadwy. Rhag chwareu yn ysgafn ag enw y Bod mawr, gadawwn y Dewi yma yn ngogoniant ei anwybodaeth am yr enw priodol a rydd Myfyr i'w Greawdwr bendigedig, ac awnrhagom. Y mae hyna yn ddigon i ddangos nad yw Dewi Wyn yn Gymro; gwrandewcb arno etto, a bernwch a ydyw efe yn Sais:- Ardd-ddur' duryn i arddu ag ef medd Myfyr, nage medd- af flnau, ploughed land steel, yw ystyr hwna, pa debygolrwydd sydd rliwng ser tanlliw y nen-II. dur ? buasai mwy o synwyr mewn Ardd-aur nag ardd-ddur er nad oes lawer o synwyr yn yr un o honynt. Yr ydym ni yn foddlon i'w leayddiaeth er hyay. os nad yw yspryd Arfonwyson yn ceufigcnu wrtho." Ploughed land steel! I Johnson, cryma dy goryn, a chauetl pob Sais ei ben ond hyny, dyma fachgen yn ei deall hi I Y mae yn gampwr yn idioln y ddwy iaith, y mae yn gwybod faint o berthynas sydd rhwng y ferf jfeMdu" a'r enw ardd" yu y gair u ardd-ddur," ac wydyeh am wybod ei Seisneg, dyma fe, ploughland- steel! Yu ol yr un reol, mi warantay cawn ni ardd- wr" yn plaughlandman. Duryn i arddu ag ef" medd- ai Myfyr dyma fachgen yn deall iaith ei fam ardd- ddur,' ploughing steel. Ond, catwo pawb dyma'r bwei bo yn dyfod-dyma" ysbryd Arfonwyson" ar dy gefn di, Myfyr, fel hunlle, meddai Dewi Wyn Y mae Dewi yn bynod o ofergoelus, debygwn, a chan ei fod yn credu fod "ysbrydion yn cerdded," ys dywedai yr hen wrageddos yn Nyfed yma, gocheled ef rhag cael ei gariv ganddynt "trwy'r drain a'r drysu," a'i osod amsaitli mlynedd i gludo briwwydd at bair Ceridv/ea. Cymmaint a hyna yn bresennol, Mr. Golygydd, am wybodaeth ieithyddol "Tafolwr Beirdd y Deheubarth;" os byddwn byw ac iach, efallai y caniatewch i mi, mewn rhifyn dyfodol, i ymddangos etto fel amddifTyn- wr v Beirdd doniol yma, rhag anwybodaeth, cenfigen, ac uchelgais y pwyswr self-important o Ddinas Powis. Y GWIR YN ERBYN Y BYD." Dyled. TYDAIN.

LLYTHYRENIAETII Y GYMRAEG.

GYMMERIAD Y BAIN CHWERN.

GYMMERIAD Y SAIN YSGAFN.

[No title]

EDWARD RICHARDS, 0 YSTRADMEURIG.

ANERCHIAD AT WEITHWYR MYNWY…