Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

TRAWSFYNYDD.

Marwolaeth Charles Edwards,…

News
Cite
Share

Marwolaeth Charles Edwards, Ysw., Y.H., Dolserau. Cyrhaeddodd y newydd i'r dref ddiwedd yr wythnos ddiweddaf am farwolaeth y boneddwr o Dolserau yn dra sydyn yn Nice, ar y Cyfandir,drwy ymosodiad o'r apoplexy. Yr ydoedd yn 63 mlwydd oed. Efe adeiladodd y palasdy a nodwyd, ac yr ydoedd ugain mlynedi yn ol yn cymeryd rhan flaenllaw mewn gwleidyddiaeth. Yr ydoedd yn Rhyddfrydwr da yr adeg hono, a gwnaeth wasanaeth i'r blaid. Bu yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros Windsor am beth amser. Yn ganlynol ymgeisiodd am gynrychiolaeth Caergaint ddwy waith, ond yn aflwyddianus. Bu ar yr adeg y cyfeir- iwyd ato yn hynod boblogaidd yn y dref a'r gymydogaeth, ac nid anghofir rhai o'i weithredoedd daionus am hir amser. Yn y blynyddoedd diweddaf ni chymerai ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth, er y dangosai yn eglur ei gydymdeijnlad a'r blaid Undebol a Cheidwadol. Teimliryn chwithig ar ei ol yn yr ardal; a chydym- deimlir at teulu yn y brofedigaeth fawr o'i golli mewo gwlad estronol. Mae yn aros ar ei ol weddw, dadau fab, Mr Munro a Mr Lloyd;, a thair merch, pa rai ydynt briod, sef Mrs. Willis, Mrs. Dodd, a Mrs. w Stokes. Claddwyd ef yn Nice ddydd Llun diweddaf. s

Advertising

DOLGELLAU

LLYS YR YNADON. I

LLWYDDIANT A THROFAOL.

AUR.

Y FRAWDLYS.

Y TEMLWYR DA.

Family Notices

Advertising