Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GWASEIDD-DRA YMNTEILLDUWYR…

News
Cite
Share

GWASEIDD-DRA YMNTEILLDUWYR DOLGELLAU. Yn ein rhifyn diweddaf ft ein gohebydd Pwyll- og yn mlaen gyda'i gondemniadau ar sylwadau a wnaethom ar ymwneud esgenlus ein cyd-dref- wyr & "Deddf Newydd y Qi&ddfeydd Nïd yw allan o le i ni adgoffa y darllenydd mai yr un person yw Pwyllog a'r Wele faes ac wele fi, a ddaeth allan yn ddysgawdwr hunan-apwyntied- ig i ni ac eraill yn y DYDD am Hydref 24ain. Yn nechreu ei yagrif, dywed ein gohebydd ei fod am "gadw at y pwnc," gan wneyd ei oraf; heb ddywedyd yn eglur," i beri i'r darllenydd gasglu fod "y pwnc wedi ei adael genym ni yn ein herthygl flaenorol. Rhaid fod y neb a wel yn yr erthygl hono gymaint ag un sylw heb ei achlysuro a'i gyfreithloni gan Wele faes ae wel6 fi, yn ddyn galluog yn wir! Troed ein darllen- ydd yn ol, a gwel fod yr oil o'u sylwadau di- weddaf wedi eu hysgrifenu mewn atebiad i'n Gohebydd, yn y gobaith o'i ddwyn i weled yn well. Nid ydyw ein cyfaill Pwyllog (?) i fyned heibio mor rwydd i'r ddatganiaeth a wnaed, ac a gadarnhaed, parth natur a mesur hawl henaf- iaeth i barch. Dywedasom nad oedd bod yn hen, ynddo ei hun, yn hawlio ymlyniad-fod pechod yn hen, a diafol yn hyn fyth; ond na ddylid "ymlynu yn barchus, didwrw, a didram- gwydd" wrthynfc am eu bod yn hen. Ond "digon oateb,"yn marn ein gohebydd,yw 'ditto!' Pa nn ai rhy ddall i weled, ai rhy gnafaidd i gydnabod nerth a thegwch. yr ymresymiad yw Pwyllog1 nid ydym yn gwbl sicr. Ond nis gallir cadarnhau y syniad fod bod yn hen, ynddo ei hun, yn hawlio ymlyniad, er i'w ategwyr fod yn ddigon craff a dysgedig i ysgrifenu "ditto." Gwelsom ambell un mwy cyndyn na goleuedig, ar ol iddo ysgrifenu gair, yn dal ato-yn parhau i geisio sefyll fel cyw i&r yn cysgu-yn y tywyll- wch, ac ar ei untroed. Ond nid oes gan Pwyll- og, pan yn canu "ditto," gymaint ag untroed i aefyll arno. Un o'i resymau dros "ymlynu yn barchus, didwrw, a didrarngwydd wrth arferiad," ydyw ei bod yn hen; a phan ddywedir wrtho nad y dull a amddiffynir ganddo yw yr hynaf ar un llaw, ac nad yw bod yn hen, ynddo ei hun, yn hawlio parch ac ymlyniad^ ar y Haw arall; yn hytrach na rhoddi ei fympwy ffol i fyny, a dywedyd fel dyn gonest, "y seiliau a ddinystr- iwyd," try i fenthyca brawddeg o'n heiddo, fely peth agnsaf i law, a gwaedda "dittol" Ond yr hyn a ys^rifenwyd a ysgrifenwyd. Os nad oes gan y dull o gladdu a amddiffyna Pwyllog well hawl i ymlyniad na'i fod yn hen, nid ganddo ef y mae yr hawl gryfaf, gan y gwyddis am ddull hynach. Ac os nad yw bod yn hen, ynddo ei hun, yn hawlio ymlyniad, yr hyn y teimla Pwyll- og fod yn haws iddo waeddi "ditto" na'i brofi, nid yw y ffaith ddarfod i'r dull gael ei arfer yn "ein cymydogaethau er's oesoedd a chenedlaeth- au," yn un rheswm dros i breswylwyr Dolgellau heddyw ddewis trefn yr offrwm a'r gloch. Yr ydym yn protestio, wrth fyned heibio, yn erbyn gwaith ein Gohebydd yn son am "ras" a "hunanymwadiad," yn y cysylltiadau anachaidd a ddyry iddynt yn ei lythyrau. Y mae galw hunanwerthiad gwasaidd i gaethiwed^cyfeiliorn- adau, yn hunanymwadiai ac yn ras, yn annheil- wng o fodfedd o bapyr a dyferyn o inc, heb s"n am le yn ugholofuau newyddiadur sydd yn gwnead ei oreu i wasanaethu crefydd a rhinwedd. Gwneir defnydd annheg 0'0 sylwadau pan eir i son am "gladdu allan o'r plwyf," a'r cyffelyb. Ni ddywedasom na ellid, ac na ddylid cael Deddf y Oladdfeydd yn fwy gorphenedig. Am gladdedigaethau Ymneillduol yn Nolgellau yr oeddym yn ysgrifenu pan ddywedasom fod y Ddeddf Newýdd- yu agor y tfordd i't Ymneilldu- wyr gladdu eu meirw yn ol eu cydwybod. Y mae gan bawb sydd a "meddiant beddrod" yn mynwent Dolgellau, hawl i gael claddu yno yn ol trefniadau Deddf 1880, heb wasanaeth yr Eglwys. Mae yn wir y cyfyd offeiriaid culion a rhagfarnllyd wrthwynebiadau mynych a chyffroir y llwfr a'r gwasaidd gan y cyfryw. Ond cyfeirio yr a ydym uinid at yr hyn a wna Ymneillduwyr ein tref, ond at yr hyn y mae ganddynt hawl i'w wneud, a'r hyn a ddylent wneud. Y mae cy- mharu hawl sect i fynwent y plwyf i hawl di- nesydd i'w a'i gwpwrdd yn wirion o ffol! Mae yn ddiau mai adrodd syniad fel yna yr oedd ein gohebydd pan welodd "gareg filltir yn gwenu!" Yr oeddym wedi arfer edrych ar fyn- went y pJwyf fel eiddo cyfiawn y bob!, ac nid eiddo i un corff o grefydawyr. Ac anog Ym- neillduwyr tref a phlwyf Dolgellau i gtaddu eu meirw yn y tir oedd yn gladdfa iddynt fel plwyf. olion, yn ol eu cydwybod, yr ooddym pan gy- thruddodd ein gohebydd Pwyllog mor aruthr. Teimla Pwyllog fel un wedi cael ysglyfaeth lawer pan ddargaofyddcdd nad oedd cytnerad- wyaeth i'r passing bell aV offrwm yu y "namyn un deugain o erthyglau.' Ond bydded yn bwyllog. Y mae caniad clych eyMgredig, offrwm dros y meirw, a phurdan yu cael He yn nghredo ymarferol eglwys ag y gwyddom am dani; ac ofnwn fod credo yr h6no wedi ac yn lef- einio eglwysi ein gwi .d Aod Pwyllog i angladd yn Nolgellau, ac ofnwn y caiff weled yr hyn a elwir gan y gwyddfodolion yn "offrwm." Gwyl- ied yr angladd wrth borth y fynwent, a chaiif glywed y gloch! Bydd yn ddigon anhawdd iddo feddwl mai amcan hbno fydd galw y lluaws yn nghyd, a'r dyrfayn dysgwyl yn gryno o Aaen ei lygad; ac efallai y daw i'w gof hanes ambell offeiriad yn gwahardd gwasauaeth y clychau cyaegredig (?) i YmneiUduwyr. Gwnaed of hyn, a Safed ac ystyried ar yr hyn a wel ac a glyw; a chredwn y cairf yr hyn y cwynwn o'i herwydd yn llawer nes ato nag yr ymddengya iddo ddy- falu erioed. Galwed ef ni yn "rhai halogedig a diffydd"-nid yw cableiriau yn werth i'w hateb. Ond os yw bod yn Ymneillduwr trwyadl, cyson, hyd y diwedd yn halogrwydd, yr ydym yn falch o hono, ac yn ddiolchgar am dano. Pan yn bygwth peidio bod "yn drugarog wrth ein hanghyfiawnderau," a'r cyffelyb, ofnwn fod ein gohebydd yn gwneud defnydd poenus o annoeth o frawddegau ysgrythyrol, aoy mae yn dwyn i'n cof adeg y diagyu !<t tHlI llygad ar sypyn o bregethau ready made, haner coron y dwsin, a anfonwyd mewn camgymeriad i weinidog Ym- neillduol a adwaenom. Mae gofod ac amser heddyw yn [galw arnom roddi ein hysgrifell heibio, ond nid ydym wedi darfod a'r pwnc yn gwbl ac yn hollol.

, ,Y SKNEDD NOS FAWRTH.

Y TERFYSGOEDD YN BIRMINGHAM

BRWYDR YR ETHOLFRAINT.