Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
ARTHOG.
News
Cite
Share
ARTHOG. Pur farwaidd ydyw-iyr, ardal hon byth wedi i chwarel Ty'nycoed aefyll. Yr ydym yn deall fod Mr. D. Dilvies, Ty'nycoed, yn bur wael, ac yr ydym yn aicr fod yn bur ddrwg gan bawb aydd ynei adnabod L'ddeall hyn, oblegid y mae ef yn un o'r boneddigion mwyaf rhinweddol, crefyddol, ac haelionua, ac un sydd a pharch dwfn iddo yn mynwesau miloedd; gwnaeth lawer iawn o ddaioni yn yr ardal hon, a llawer o ardal oedd eraill, gobeithio y caniata Awdwr Mawr rhagluniaeth arbediad bywyd ac iechyd iddo i wneuthur llawer o ddaioni eto. Gwaith Gyfanedd.- Y maentyn y gwaith hwn wrth chwilio am fwn plwm, wedi taro i faen llechi lied fawr, ac y mae yma argoelion am waith mawr rhyw adeg yn y dyfodol; gobeithio mai felly y bydd. Gwaith yr Henddol.—Y mae yn y gwaith hwn ua or meini Ilechi goraf yn Sir Feirionydd, oa j lad, goraf, ond ei bod yn lied gul, ond y mae yn ymddangos yn lledu fel y mae yn myned i'r mynydd. Y mae yn dda. genym ddeall fod y gwaith hwn yn troi elw i'r meistradoedd er's rhai misoedd bellach: llwyddiant iddynt. Priodas.-Cymerodd priodas le yn yr ardal hon yr wythnos ddiweddaf rhwng Mr. W. Jones, Murneuadd, & Miss Laura Lewis, Bwlchgwyn. Dyma fel yr ymfflamychodd un o feirdd y gywydogaeth ar yr achlysur. Mae rbywrai'n myn'd, yn myn'd o hyd Mewn serch at allor Hymen, Tr., yr hayi lantiau'n barnu i gyd Fod dully byd 'n anniben; Dywedantiol rhywrai'n rhy hen A rhywrai yn remp o ieuainc, Ond tra maent bwy 'a dylyfu gfin Mae harddwch byd yn dianc. Mae'r merched glana'n myn'd o hyd Yn mreichiau'r meibion goreu, A'r rhai cethina ai ot i gyd Yo gwylio yr hen lanciau; I ddjn gael meiowen hardd ei moes A harddwcti ar ei bochau, Rhaid iddo'i cheisio'n moreu'i oes Tra gwdda'i harddwch jutau. Aeth William Jones a'i Laura Ion At allor serch yn for tu, Tra gwenai rhiowedd ar eu bron A harddwch ar eo bochau; A gwenu by I do 'rhai'n o byd Tra yma ar eu gyifa, Nes y cymerir hwynt o'r byd I w&Lu'nharddweh gwylfa. UN O'B LLB.
BIRMINGHAM.
News
Cite
Share
BIRMINGHAM. Y Gymdeithas DdirwestoZ. Y mae y gym. deithas uchod wedi ei aefydlu bellach er's chwe' blynedd, y mae rhif yr aelodau y flwydd- yn hon yn llai na'r blynyddoedd. blaenorol, a hyny am amryw resymau; yn gyntaf, y mae pob symudiad newydd yn enill oefnogwyr, nid am fod llawer o'r cyfryw yn credu yn yr egwyddor- ion a bleidir gan gychwynwyr yr achos, ond yn hytrach en hawydd i wybod y modd y cerir y cyfarfod yn mlaen. Cymerarit yr ymrwymiad ao ymddangosant ar y dechreu fel yn ymgofleid- io dirweat, ond cyn hir, fe welir y dosbarth yna yn amlach 0 gwmpastai yowpan meddwol na'r neuaddau ddirwestol; y mae y gymdeithas hon wedi colli y dosbarth yma yn llwyr erbyn hyn. Dosbarth arall y mae y gymdeithas wedi golli, ydyw y gwtr ieuaino difrifol hyny sydd wedi d'od drosodd o Gymru, hawdd ganddynt ar- dystio, a hawddach na hyny yw ganddynt ei dort; nid yw gwneud Ilw yn bwysig yn eu golwg o gwbl, y maent yn edrychar y cwbl fel cell wair. Y mae nifer o'r cyfryw wedi gadael y gymdeithas yn yatod y tymhor hwn, fel nad oes yn aros yn aelodau o'r gymdeithas ond dirwestwyr eg- wyddorol, yn foddlawn ymdrechu ac aberthu amser ac arian er mwyn gwneud eu goreu ya ol eu gallu a'u cyfleusdra tuag at sobreiddio eu cydgenedl yn y dref. Dydd Llun, Tachwedd 3ydd, fegyDaliodd y gymdeithas ei chyfarfod blynyddol, yn addoldy Wheeler St. Yr oedd te wedieibarotoiyn yryagoldyar gyfer y plant sydd yn aelodau o'r gymdeithas, ac eraill a ddewisent gydgyfranogi â. hwynt, cariwyd gweithrediadau yr adran yma yn mlaen yn drefnua o dan arolygiaeth fedrus Mri. Robert Jervis (Gwynonwy), a J. Leeke (loan Llynau.) Yn yr hwyr, caed araeth ar Ddirwest gan y Parch. W. Rees (A.), Llechryd, swydd Aber- teifi. Y Parch. J. Lewis, llywydd y.fyhideithas, yh y gadair. Ni raid i mi ddweyd fawr am Mr. Rees fel areithiwr a phleidiwr dirwest, y mae llawer o'ch darllenwyr wedi ei glywed, a'r oil o honynt, mi gredaf, wedi darllen ei lyfrau rhagorol at y 'Oloi,' ac ar 'Ddirwest,' mewn gwahanol agweddau. Cafodd Oymry Birming- ham eu llwyr foddloni yn Mr. Rees. Can- wyd yn ystod y cyfarfod gan Mr. a Miss Pritch- ard, Burbury St., pa rai sydd bob amser yn barod i wneud eu goreu gyda'r achos dirwestol, a jchan gor o blant, o dan arweiniad Mr. John Edwards, H03pital St. Ar ol cael gair gan y Parchn. W. Williams (M.O.), T. Hughes (W.), a Mr. J. Hughes Ellis (B.), terfynwyd trwy dalu diolchgarwch i Mr. Rees am ei araoth beni- gamp. Pregethodd Mr. Rees ddwywaith yn Wheeler St. y Sul blaenorol. GOHEBYDD.
GANLLWYD, GER DOLGELLAU.
News
Cite
Share
GANLLWYD, GER DOLGELLAU. Dyddiau Mawrth a Mercher, 4ydd a'r 5ed cyfisol, cynaliwyd cyfarfod yn y lie uchod i'r dyben o neillduo Mr. J. O. Griffiths, o Goleg Annibynol y Bala, i gyflawn waith y weinidog aeth yn eglwysi Cynulleidfaol Ganllwyd a Llan- fachreth. Y noson gyntaf pregethodd y Parchn. T. T. Phillips, B.D., Bala, a David Griffiths, Dolgellau; yr un adeg yn Llanfachreth, prea- ethwyd gan Proff. M. D. Jones, Bala, a'r Parch. R. Williams (Hwfa Mon). Dechreuwyd y gwas- aflaeth boreu dranoeth gan y Parch. W. H. Edwards, jSardis, athraddodwyd araeth ar Natur Eglwys gan Proff. M. D. Jones. Holwyd y gofyniadau ganAy Parch. Jones, gynt o Llan- dderfel, a chafwyd atebion boddhaol iawn. Wedi cael arwydd gan y gweinidog a'r eglwysi, eu bod yn dewis eu gilydd, gweddiwyd yn effeithiol gan y Parch. D. Griffiths am fendith ar yr Undeb, ynarpregethwyd ar Ddyledswydd y Gweinidog gan Hwfa Mon. Am ddau, dechreu- wyd gan y Parch. Howell Edwards, Dderwenlas. Rhoddwyd stars i'r eglwysi gan y Parch. T. T. Phillips; a phregethodd Parch. H. Ellis, Llan- gwm. Dechreuwyd am chwech gan Mr. S. Evans, Abermaw, a phregethodd y Parchn. T. T. Phillips, a Hwfa Mon, yr un amaeryn Llan- fachreth, pregethwyd gan y Parchn. Owen John Owen, Corwen, a W. R. Edwards, Sardis. Yr oedd amryw o weinidogioo a phregethwyr eraill yn bresenol, ac er fod y tywydd braidd yn an- ffafriol, daeth cynulliad mawr yn nghyd. Caf- wyd cyfarfod llewyrchusiawn, yr oedd y genad- wri yn cael ei thraddodi yn rymus ac sffeithiol, a'r gwrandawyr yn astud a difrifol, ac arwyddion fod llawer yn ymborthi ar air y bywyd. Dy- munwn i Mr. Griffiths hir oes i fod yn ddefn- yddiol yn ein plith, hyderwn nad yw yr hyn a brofasom o'i lafur, ond ernes o'rjhyn a ddorbyn- iwn yn y dyfodol. G. PRICE.
TYLORSTOWN.
News
Cite
Share
TYLORSTOWN. Nos Fercher, y bad cyfisol, anrhegwyd Mr. Seth Phillips gan gantorion y lie hwn a'r Ileoedd cylchynol a chyngherdd ardderchog, am ei barod- rwydd i ddysgu gwahanol bersonau i chwareu offerynau cerddorol, pryd y gwasanxethodd y personau canlynol ar yr achlysur:—Mri. Mills & Jenkins, ar y delyn a'r berdoneg, Miss R. James, Mr. John John, Miss Phillips, Mr. T. Reea, Eos Dar, Mr. D. Owen, Mr. W. Jenkins, Miss Lawrence, merch fechan 12 oed, yr hon a wasanaethodd yn ardderchog, yr oedd pawb ar eu goreu. Gwasanaethwyd yn y gadair gan Mr. D. Mathews, Ysw., Tylorstown; arweinydd, Mr. S. H. Williams; cyfeilydd, Mr. W. Mills, Pontypridd; telynor, Mr. W. Jenkins, Ponty- pridd. GOHUBTDD.
ABERTAWE.:
News
Cite
Share
ABERTAWE. Cynalioddeglwys Ebenezer ei chyfarfod blyn- yddol, y Sabbath a'r nos Lun, Tachwedd 2il a'r 3ydd. Pregethwyd gan Dr. Thomas, Le'rpwl, a J. P. Williams, Llanelli. Er fod yr hin yn anffafriol y Sabbath, cafwyd cynulliadau da, a'r hen Efengyl mewn bias. Yr oedd y Dr. yn nod- edig o gryf, a thynerwch neillduol yn ei breg- ethau.
MARWOLAETK Y PARCH. JOHN THOMAS,…
News
Cite
Share
MARWOLAETK Y PARCH. JOHN THOMAS, ABERTAWE. Mae genym y gorchwyl prudd o gofaodi marwolaeth y gweinidog parchus uchod, yr hyn gymerodd le yn ei bteswylfody Russell St., Abeitawe, boreu Mercher diweddaf. Bu Mr. Thomas yn gweinidogaetbu yn eglwya Annibynol Fleet St. gyda llwyddiant mawr am hir amser, ac enillodd serch ac edmygedd pawb a'i hadwaenwi. Yr oedd iechyd Mr. Thomas yn gwaelu er's amryw fisoedd, ond daliodd at ei ddyledswyddau gweinidpgaethol hyd nes y gorfodwyd ef igymeryd gorphwys- dra am ychydig. Bu am bytbeft os yn Ba|<h, ond ni chafodd hyny yr effaith arno addys- gwyLd mor bryderus gan ei luaws oyfeillion. Ganwyd of yn Eglwysfach, Aberteifi, a threuliodd ei ddyddiau boreuol ya Mach- ynlleth. Cymerodd y claddedigaeth ley ddydd Llun diweddaf.
UNDEB EGLWYSI ANNIBYNOL CYMREIG…
News
Cite
Share
UNDEB EGLWYSI ANNIBYNOL CYM- REIG LIVERPOOL, MANCHESTER, A'R AMGYLOHOEDD. Cynaliwyd cynadledd yn ngtyn &'r Undeb uchod yn Queen's-ruad, Manchester, dydd Mer- cher, FTydref 22aia^ y Parch.W. Nicholson yn y gadair. Yr oedd hefyd luawa o weinidogion a diaconiaid yn bresenol. Darllenwyd cofnodion y cyfarfcd diweddaf, a chadarnhawyd hwynt. Hyabysodd yr yagrifenodd yr ymdrafodaeth fu yn nglyn a gwerthiant y capel haiarn yn Whiatoi), a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r try&orydd a'r ysgrifenydd am eu gwasanaeth yn dwyn yr achos hwn i derfyniad mor lwydd- ianus. p Etholwyd y personau canlynol i weithredu fel swyddogion yr Undeb am 1855:-Cadairydd, Mr. Ellis Pugh, Manchester; trysorydd, Mr. John Edwards, ieu.; ysgrifenyddion, Mri. Josiah Thomas a David Davies; is-bwyllgor arianol, Mri. T. Owens, W. Jonea, W. Chaloner, J. Kirkham, a M. Jones. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. J. Edwards yn dymuno ar i'r oyfarfod ei ryddhau o fod yn drysorydd, a phasiwyd y panderfyniad canlynol: — Fod y cyfarfod hwn yn dymuno datgan ei ddiolchgarwch llwyraf i Mr. John. Edwards am ei wasanaeth gwerthfawr fel trysorydd yr Undeb hwn o'i gychwyniad, ac yn awr, pan yn ymrydd- hau o'i swydd, yn hyderu y caiff flynyddoedd lawer o nerth ac iechyd i barhau yn ffyddion yu ngwaaanaeth ei Arglwydd. Penderfynwjd fod y grants canlynol, oedd wedi eu cymeradwyo. gan Bwyllgor Trysorfa y Jiwbili, i gael eu rhoddi i'r eglwysi a ganlyn: JE25 er lleihau y ddyled sydd yn aros ar gapel Whiston; X25 i eglwys Kingsland-road; Llun- dain; JE25 i eglwys Widnes; JE50 ieglwys Clifton- road, Birkenhad; jElO y cant i eglwys Queen's- road, Manchester, ar y swm a delir o'r ddyled erbyn diwedd Mawrth nesaf. Cafwyd cyfrif arianol o Befyllfa yr Undeb- wedi ei darparu hyd adeg y cyfartod, yn dangos mewn llaw JB218 7a. 8ic. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf yn mis Ionawr i gael ei gynal yn Grove-st., Liverpool, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r swydd- ogion am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn. Am 7 o'r gloch yn yr un lie, pregethwyd gan y Parchn. Hugh Jones a D. M. Jenkins. Dech- reuwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Davies Widnes. JOSIAH THOMAS, Yag.
Advertising
Advertising
Cite
Share
THROAT IRRITATION & COUGH.—Soreness & dryj neas, tickllnn & irritation,inducing cough and affect. ing voice. For these symptoms use Epps's Glycerine Jujubes In contact with the glands at the moment they are excited by the act of sucking, the Glycerine in these agreeable confections beoomes actively heal- ing. Sold only in boxes, 7id.,tms Is. labelled ''JAMBS EPPS & Co., Homoeopathic Gheuaists, Loudon." A letter received: '•Gentlemen,—It may, perhaps, interest) ou to know that after an extend- ed trial, I have found your Glycerine Jujubes of considerable benefit (with or without medical treatment) in almost all forms of throat disease. They soften and clear the voice.—Yours faithfully GORDON. HOLMES M.D., Senior Physician to the Municipal Throat and Ear Infirmary.'