Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

FFEWYDEIAD ECHRYDUS MEWN tGLO:FA…

News
Cite
Share

FFEWYDEIAD ECHRYDUS MEWN tGLO:FA YN TREDEGAR. COLLI AD 15 o FYWYDAU. Gohebydd o Tredegar a ddywed i ftrwydriad dychrynllyd gymeryd lie tua paner awr wedi naw nos Sadwrn yn nglofa ilocbin, Dyffryn Sirhowy, tua thair mill- dir c Tredegar, yr hon sydd yn perthyn i'r Tredegar Coal & Iron Company. Teimlwyd yr ergyd yn mhyllau Bedwell- ty, tua milldir o'r He; ac mor gynted ag y cyhoeddwyd y dygwyddiad, aeth amryw swyddogion i'r lie gyda'r rheilffordd, a phrysurai ugeiniau hyd y ffyrdd, o'r cym; ydogaethau cyfagos. Yr oedd yn hysbys ar y pryd fod 15 o ddynion yn y pwll yn gwella ychydig ar y ffyrdd, heblaw peirianydd oedd yn gweithio ar haner y ffordd i'r pwll. Clywyd ysgrechiadau yr olaf, ac yn mlien ychydig achubwyd ef gan y parti cyntaf aeth i lawr i geisio achub yr anffodusion. Yr oedd north y ffrwydriad wedi chwythu y peiriandy yn ddrylliau, a chwilfriwio amryw bethau eraill, gan eu taflu i gryn bellder. Tri chorff allodd yr ymchwilwyr gael gafael ynddynt y disgyniad cyntaf, o herwydd nid oedd i'w gael gan fod y fan wedi ei ei dystrywio. Nid oes ambeuaeth nad oedd y gweddill yn farw yn y pwll, gan fod yn anmhosibl iddynt fyw yno wedi y ffrwydr- iad. Cymerodd dygwyddiad poenus arall le yn mben rhyw ddwy awr wedi y dan- chwa. Gosodid rhaffau o amgylch genau y pwll i gadw yn ol y tyrfaoedd cyfeillion a pherthynasau oeidynt yn ymgasglu yno. Daifu i un o'r rbai hyn o'r enw Pugh, gynyg ei gynorthwy, ond ataliwyd ef rhag myned yn agos i enau y pwll gan y swyddogion, oblegid fod arwyddion arno ei fod dan ddylanwad y ddiod. Fodd bynag rhuthrodd yn mlaen, gallodd osgoi sylw y swyddogion, ac aeth yn rhy agos fel y syrthiodd i lawr i waelod y pwll. Caed ef yn ddilynol yn gorff marw. Mae canlyniad y trychineb wedi taflu prudd- der dros yr holl gylch. Gosodid ymddir- iedaeth gref yn niogelwch y lofa hon, gan fod y pyllau y rhai goreu am gael eu hawyro yn Neheudir Cymru. Pe dyg- wyddasai y ddamwain ganol dydd, neu ryw noson heblaw nos Sul, buasai yn fwy try chine bus o lawer, gan fod rhwng 300 a 400 o ddynion yno yn gweithio. Pellebyr diweddarach a ddywedai fod 43 o geffylau oeddynt yn gweithio yn y lie adeg y danch* a wedi eu lladd, a bod nifer fawr o ddynion yn gweithio i dori tvllau er eu claddu yn agos i'r pwll. Mae y parti sydd yn chwilio am y truein- iaid yn gallu gweithio yn rhagorol, a digon o awyr i'w gael iddynt. Nid oes un rheswm yn cael ei roddi pa fodd y dygwyddodd y trychineb, a thebyg yw yr erys yn ddirgelwch am ysbaid.

LLIFOGYDD YN SPAEN.I

! NEWYNU GWRAIG.I

TANAU DTNYSTRIOL YN AMERICA.

Y CHOLERA YN PARIS.

TANAU YN CASNEWYDD.

YMLADDFA FFYRNIG GYDA HERWHELWYR.

SAETHU PLENTYN.

PRAWF FITZGERALD.

CABLU Y DIWEDDAR FAJINWJt…

LLOFRUDDIAETHAU MAAMTASNA.