Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
Y CYNWYSIAD..I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNWYSIAD. .I °_ Yr Wythnos 1 Agweddau Anffyddiaeth 2 Amrywion 3 lwerddon 4 Marwolaeth Mr. Wm. G. Williams, Lancashire Collage 5 Newyddion Cyffredinol 6 Barddoniaetb 7 Forster yn erlyn Parnell 8 Dolgellau 9 Gohebiaetbau 10 Trallwm 11 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 12 Hysbysiadau 12,16
[No title]
News
Cite
Share
Wele fis Chwefrar wedi ein gadael eto, a Mawrth wedi cymeryd ei Ie. Er mai efe ydyw y mis hynaf, Did yn fynych y gadawa ni heb adael ar ei ol adgofion a barbant am hir amser. Mae wedi bod felly eleni, yn llawn o ddygwyddiadau pwysig. Diau mai prawf y cydfradwyr llofruddiog yn Ninas Dublin ydoedd y peth pwysicaf gymerodd'Ie. Yr oedd y dadleniadau cyffrous a synfawr wedi taraw pawb a braw, fel yr oedd yn anmhosibl bron bod yn dawel heb ddysgwyl clywed rbyw newydd yn eu cylcb. Mynych yr anrhydeddir mis Ghwefrorjt'r dygwyddiad oll-bwysig, sef agoriad y Senedd, Bu felly J eleni. Dyna y ddau beth a geidw Chwefror, 1883, ar gof a chadw am hir amser. Croes- awn Mawrth i mewn, gan obeitbio y daw i'w ganlyn newyddion o gysur ac adloniant i bawb. I
[No title]
News
Cite
Share
Araeth Mr. Forster yn y Senedd nos Iau I sydd wedi taflu pob dygwyddiad arall i'r sysgod yr wythnos hon. "Ni thraddodwyd araeth mor lym ac eglur yn Nby y Cyffredin erioed o'r blaen, ac ystyriai Mr. Forster ei hunan fod ei gyhuddiadau yn erbyn Mr. Parnell, fel prif gefnâgyddy Cynghrair Tirol, a'i, gymdeithion yn ddifrifol i'r eithaf. Y cwestiwn Gwyddelig ydoedd dan sylw yn y ddadl ar yr Araeth, yn nglyn a gwelliant Mr. Gorst i adael allau y rhan gyfeiriai ynddi at sefyllfa yr Iwerddon, a rhoddi sylwadau eraill yn eu He yn datgan anghymeradwyaeth Ð Wladlywiaeth y Llywodraeth. Dysgwylid yn fawr i Mr. Forster a Mr. Parnell i gymer- yd rhan yn y ddadl. Wedi hir ddysgwyl am Mr. Pariiell, cod odd Mr. Forster nos lau, a thraddododd araeth = gondemniol ar y Cy- nghrair Tirol a'i aelodau, ac o'u cysylltiad A'r ysgelerderau yn yr Iwerddon. Cysylltai hwy yn eglur iawn, nid yn weithredol, mae'n wir, &'r holl droseddau, a heriai hwynt i withbrofi ei gyhuddiadau. Siaradodd am ddwy awr o amser, yn nghanol Ty llawn, a derbyniai gymeradwyaeth galonog yn barhaus oddiwrth yr Wrthblaid a'r Rhyddfrydwyr, tra yr oedd yr aelodau Gwyddelig wedi eu llanw a braw a dychryn, a dangosasant ea hanghymeradwy- aeth o hono drwy ysgrechiadau aflafar ac anweddus.
[No title]
News
Cite
Share
Pryderid yn fawr am nos Wener, gan mai Mr. Parnell gynygiodd obiriad y ddadl nos lau, ac felly mai efe g'ai siarad yn gyntaf. Ym- gynullodd lluaws rcawr i'r Ty, o aelodau a dyeithriaid. Dysgwylid y byddnii Mr. Parnell roddi atebiad liawn i gyhuddiadau difrifol yr aelod dros Bradford. Byr ydoedd ei araeth, a byr lawn hefyd o roddi un boddlonrwydd i'r cyhuddiadau i'w erbyn. Ni wnaeth un ym- gals o gwbl i glirio ei hun oddiwrthynt, ond yn unig luchio rhyw saethau gweiuiaidatMr. Forster. Erys y cyhuddiadau i'w erbyn eto, a diau ei fod ef a'i gyfeillion mewn argyfwng difrifolach nag y buont erioed. Credai y wlad er's talm eu bod hwy yn cefnogi ysgogiadau y cymdeithasau dirgelaidd; ond ni feddlenid neb a digon o wroldeb i'w cyhuddo wyneb yn wyneb. Ond wele y cymhwysaf i'r gwaith hwnw wedi dyfod i'r maes yn wrol, ac wedi rboddi 'vent' i'r syniadau a goleddir yn bur gyffredinol am yr arweinwyr Gwyddelig.
[No title]
News
Cite
Share
Tawedog a diwaith iawn y mae aelodau Ty yr Arglwyddi wedi bod er adeg yr agoriad. Ryw awr a haner y mae yr eigteddiad hwyaf wedi ei gyrhaecWganddynt. Arddengys newyddion dydd Llun eu bod yn dechreu teimlo eu diogi, ac awyddant am gael Mesur neu ddau i'w drafod. G well genym ydyw eu gweled yn methu cael gwaith na'u gweled yn llurgunio Mesurau y bydd y Llywodraeth wedi cael poen a thrafferth i'w pasio drwy y wir ddeddfwrfa. Hwyrach pe teflid gryn dipyn o waith i ddwylaw eu Harglwyddï y teimlent lai o awydd dyfod i wrthdarawiad &'r Ty Isaf. Dysgwyliwn na cheir gweled hyny y tymhor presenol, oblegid dilys genym y bydd yn gam mawr i addfedu y syniad cyhoeddus i vpneud i ffwrdd â'r Ty anghy- nrychioledig bwu.
[No title]
News
Cite
Share
Tawel a digytfro, mewn cymhariaeth, ydyw newyddion yr wythnos hon o'r Iwerddon. Gwnaed cais dieflig i amddifadu larll Spencer o'i fywyd, drwy anfon sypyn yn cynwys 'dynamite' iddo drwy y llythyrdy. Cafodd y postfeistr, yn rhagluniaethol, ar ddeall mai hyny gynwysai, a rhoddwyd y peth yn llaw yr awdurdodau. Nid oes neb hyd yn byn wedi ei gymeryd i'r ddalfa. Am y cydfradwyr llofruddiog, nid oes dim penodol wedi dygwydd; ond y mae yr ystoriau yn gyflawnder i'-v cael, fel gydag anhawsder y geJlir penderfynu pa beth sydd wir. Tebygol ydyw nad ydys wedi clywed y diwedd yn eu cyloh, gan fod pob lie i gredu gan yr awdurdodau y ceir dadleniadau cyffrotis fawn eto. Nid ydys wedi cael hyd i No. 1. eto, ond crediryn sicr fod gan yr awdurdodau sicrwydd pwy ydyw, a pha le y triga.
[No title]
News
Cite
Share
Da genym fod Mesur i ddyfod gerbron y Senedd yn bur fuan, dan reolaeth Syr Charles Dilke, yn ymwneud a Deddf y Tugel. Cynwysa ral rheolau nad ydynt yn awr mewn grym, y rhai a groesawir yn gyftredinol, yn ddiau. Hyd yn awr, yr arferiad gyflredin ydyw, pan na byddo y marciau pleidleiaiol wedi eu gosod yn eu lleoedd priodol, eu bod yn cael eu taflu befbio. fel rJhai diwertb. Os pasir y gwelliant cynygiedig, yn y dyfo.dol ni bydd i un papyr pleidleiaiol gael ei wrthod o gwbl, os bydd yn ddigon eglnroddiwrtho drog bwy y bwriada yr etholydd bleidleisio. Wrth gwrs, bydd h/n yn gwneud swydd y returning officer' yn un o gyfrifoldeb mawr, ond sicr- heir drwy hyny fwy o degwch i'r ymgeiswyr seneddol.
[No title]
News
Cite
Share
Daw newyddion lied gyffrous o'r Cyfandir yr wythnos hon. Gymerodd ffrwydriad J 'dynamite' le mewn pentref cyfagos i Brussels, ac y mae dau oeddynt gyfranog yn yr helynt yn y ddalfa, a nifer o bapyrau wedi dyfod o hyd iddynt gan yr awdurdodau. Dywedir fod y eyfryw yn datguddio bodolaeth cydfwriad yn erbyn Belgium a thaleithiau eraill. Yr un adeg hefyd, daw y newydd o Madrid am fodolaeth cymdeithasau dirgelaidd yn Anda- lusa. Pellebyr o Cracow hefyd a adrodda fod nifer o efrydwyr prifysgol yno wedi eu cymeryd i fyny ar y cyhuddiad o gyfranogiad mewn ystrywiau Socialaidd.
[No title]
News
Cite
Share
Diau y derbynir y newydd am etholiad Newcastle gyda ilawenvdd gan bawb. Dych- welwyd yr ymgeisydd Rhyddfrydig, Mr. John Morley, drwy y mwyafrif o 2,256 ar ei > wrthwynebydd Torlaidd. Mae'r fuddugol- iaeth hon ynllefaru yn gryfyn mhlaid purdeb egwyddorion Iihvddfrydol yr etholwyr, ac yn ddangoseg i'r aelod arall, Mr. Joseph Cowen, eu bod yn teimlo angen am Ryddfrydwr cadarn a diwyro i'w cynrychioli. M'ae. cymhwysderau Mr. Morley fel aelod senedd- ol yn hysbys i bawb. Mae yn ddyn o argy- boeddiadau dyfnion, ac yn un nad yw am hoelio ei farn ar unrhyw gysylltiadau person- ol. Mae yn gefnogydd cydwybodol i'r Llyw- odraeth Ryddfrydig, a gwna aelod rhagorol e Dy y Cyffredin fel cynrychiolydd Newcastle.
[No title]
News
Cite
Share
•Ddydd lau diweddaf, ymwelodd dirprwy- aeth a Mr. Childers, Canghellydd y Tryaor- lys, yn gosed o'i flaen ddyinuniad am i'r dreth ar d6, coffi, cocoa, a ffrwythau sychion, gael ei diddymu. Gwnelai hyn frecwaat y gweithiwr yn bur rhad. Mae y dymuniad hwn yn addfedu yn fawr y blynyddoedd hyn, fel y mae egwyddorioQ Masnach Rydd yn ymledu. Addefir yn gyftredinol y byddai y cam hwn yn fendithiol iawn; ond y cwestiwn ydyw, ar ba both y rhoddir treth ychwanegoler gwneud y. golled i fyny. Awgrymid y dylidychwanegu y dreth ar yr h yny gwna y cyfoethogion y defnydd mwyaf 0 hono,gan mai annheg ydyw i'r tlawd dalu cymaint o dreth ar ei nwyddau angenrheidiola hwy. Addawodd Mr. Childers y caffai y pwnopwysig hwn ei sylw dyladwy ganddo, ac os gwelai ei ffordd^yn glir, y cariai y dymuniad allan.