Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Ntwybbíon • (ttgffre&.tttoi.

News
Cite
Share

/r,Tm ■> *• 11 • a ■ ■— '—— Ntwybbíon (ttgffre&.tttoi. Gwelwyd 'loan Fedyddiwr' yn rhodio glanau yr Wnion y Sabbath diweddaf, ond nid i breg- ethu edifeirwch, nac i bysgota dynion. Agorwyd y Senedd, ddydd Iau, yn absenoldeb y Frenhines a Mr. Gladstone. Costiodd Etholiad Le'rpwl dros6,000 obunau bob un i Samuel Smith, Y" aelod llwyddianus, a Mr. A. B. Forwood. Bygythia gweithwyr y; Caledonian Railway sefyll allan eto. Bu y Tywysog Napoleon ar ymweliad A'r Dywysoges Eugenie yn Llundain yr wythnos ddiweddaf. Dywed boneddwr sydd yn gydnabyddus &'r Drefnewydd, fod cyfanswm yr holl fethdaliadau yno yn ddiweddar gydt).'u gilydd yn cyrhaedd dros £ 200,000. Bwriedir codi Eglwys genadol newydd yn Penisa'rwaen, Llanberi*. Gosodwyd y gareg sylfaen gan Mr. Assheton Smith, yr wythnos ddiweddaf. Parotoa Mr. Morgan Lloyd, A.S., fesur i'w gynyg o flaen y Senedd bresenol, yn ei gwneud yn anghyfreithlon cario llawddrylliau heb drwy- dded. Mae ffermwr ger Llansilin heb gael ei gyn- hauafi mewn eto. Yr ydoedd yr wythnos ddi- weddaf yn ei gario i fod yn ymborth i'w anifeil- iaid. Hysbysir fod clefyd y traed a'r genau wedi tori allan mewn amryw ffermydd yn Ngogledd Cymru, a bod yr awdurdodau yn gwneud pob ymdrech er atal ei ledaeniad. Y mae ynadon Abergele wedi cadarnhau gwaith yr heddgeidwaid yn anfon personau eraill i brynu nwyddau er mwyn eu 'hanalizio.' Dirwywyd amryw yn ddiweddar felly. Anrhegodd yr Anrhyd. W. 0. Stanley, Penrhot, y Stanley Sailors' Hospital Caergybi, & JE1000, yn ychwanegol at y swm o X3000 a roddodd yn flaenorol at yr un sefydliad. Ni chaniateid i ddim anifeiliaid ddyfod i ffair Dolgellau ddydd Mawrth diweddaf, o herwydd y clwyf. Hysbysir am lifogydd dinyatriol yn West Virginia, Illinois, a Pensylvania. Bu Mr. Osborne Morgan, A.S., yn anerch cyfarfod o Wyr leuainc yn Bath:yr wythnos ddi- weddaf. Bwriedir adeiladu Hotel fawr yn y He a elwir Penrhyn, gyferbyn Wr Ab.orwaw, a gwneud pont i groesi yr afon. Y mae diwygiad crefyddol wedi tori allan yn mhlith y Methodistiaid Calflnaidd yn y Dyffryn, athros ugain wedi eu hychwanegu at yr eglwysi. Y mae gwedd lewyrchus ar gymdeithas ddir- westol yr Eglwys Sefydledig yn Llandudno. Ai nid gwell fyddai fod cymdeithas ddirwestol yn perthyn i bob capel ar eu penau en hunain, a chael cyfarfod cyhoeddus difwegtol o'r holl gapeli yn awr ac eilwaith? Y mae Ryddin y Ruban Glas yn parhau yn fywiog, ac yn enill oryn ddylanwad, yn Ngwrecs- am. Bwriada Syr Wilfrid Lawaon alw sylw y Llywodraeth yn gynar yn yatod y tymhor pres- enol at Fetur y D«wiaiad Lleol, yr hwn sydd wedi ei gadarnhau ddwywaith yn y Ty. Y mae y Cocoa Rooms yn Llanelwy yn profi yn fendithiol iawn, ac yn cael cefnogaeth gyff- redinol. Cafwyd elw o 1:6 tuag atynt oddiwrth gyngherdd yn ddiweddar. Pa bryd y ca Dol- gellau un? Yn"Nghyrudeithas Lenyddol Salerii, Caernar- fon, nos Ftrcher diweddaf, rhoddodd y Parch. E. Htrber Evans, gweinidog, anerchiad godidog ar "Y Cymro: eianfanteiaion a'l ddyledswydd- au." Bwriada Byddin yr lachawdwriaeth godi i enwogrwydd;jynJR,hyl yn ystod yr haf dyfodol. Y mae Mr. Fanning Evans, Mona Lodge, Amlwch, wedi amlygu ei fwriad i gynyg am Bwrdeisdrefi Mon fel Rhyddfrydwr Annibynol yn yr Etholiad nesaf. Y mae boneddwr haelfrydig wedi cynyg pum' acer o dir at adeiladu y Coleg i Ogledd Cymru yn Ngwrecsam. Yn y Nineteenth Century, y mae gan Mr. W. Rathbone, yr A.S. dros Arfon, ddau bapyr ar 'Lywodraeth Gartrefol yn Lloegr a Ohymru.' Nos Fercher diweddaf, bu y Parch. D. Oliver, Treffynon, yn darlithio yn Nghaergybi, ar 11 'Ddiddymiad y fasnach mewn opium. Caed cy- nulliad da, a darlith ragorol. Bysbysir fod clefyd y traed a'r genau yn ym- ledaenu yn ddifrifol yn Nghernyw. Adroddir am doriad allan yr un clefyd yn Glasgow hefyd, a gwaharddir gwerthiad a glaniad pob math o anifeiliaid. Y mao Mr. Broadley, y cyfreithydd a amddi- ffynai Arabi Pasha yn ystod ei brawf, ar ei ffordd adref. Mae y bont rew islaw Rhaiadr Niagara, eleni yn fwy ardderchog na dim a welwyd yno o fewn cof neb. Mae y bont dros 100 troedfedd o drwch mewn manau. Teflir y rhew yn dalpiau mawrion ar y glanau, gan achosi dinyatr i dai ac eiddo, gwerth miloedd o ddoleri. Oes amhougar iawn yw yr oes hon. Bu dyn farw yn ddiweddar yn Australia, gan adael 7,000 o ddoleri yn ei ewyllys i'w gwario am was- anaeth yr offeren i waredu ei enaid o'r purdan. Mewn achosion cyffredin dilynir cyfarwyddiad- au'fel hvn yn fanwl; ond yn yr amgylchiad hwn gwrthododd y cymun-weinyddwr dalu i'r offeir- iad heb gael prawf cyfreithiol fod y fath le a'r purdan, a bod yr offeiriaid yn abl i waredu en- eidiau oddiyno. Mae yr achos i'w brofi mewn llys gwladol.

NEWYDDION CYMREIG.

BLAENAFON.

- ;.BALA.

GALWAD.

BIRMINGHAM.