Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
--AGORIAD Y SENEDD.
News
Cite
Share
AGORIAD Y SENEDD. Agorwyd pedwerydd tymbor y Weinydd- taethbresenol ddydd lau, Chwefror 15fed, drwy Gomlsiwn Brenbinol, pa un oedd yn gyfansoddedig o'r Arglwydd Ganghellydd, Iarll Sydney, Iarll Cork, Arglwydd Carling- ford, ac Arglwydd Monson. Ychydig o ben- defigion oedd yn bresenol. Gwysiwyd Llefarydd ac aelodau Ty y Cyifredin at y bar. Wedi i nifer fawr o honynt gyrhaedd, dar- Henodd yr Arglwydd Ganghellydd
I ARAETH Y FRENHINES.
News
Cite
Share
I ARAETH Y FRENHINES. Fy ARGLWYDDI A BONEDDIEIOJF, Yr wyf wedi eich galw yn nghyd ar adeg sydd ychydig yn hwyrach na'n harfer gyffredin, o herwydd y tymhor maith, mewri cymhariaeth, y parhawyd eich llafur yn yr eisteddiäd diwedd- t af. Meddaf yr hyfrydwch o barhau ar y telerau Uwyaf cyfeillgar a chymydogol gyda'r holl allu- oedd tramor. Ar derfyn yr eisteddiad diweddaf, cefais yr hyfrydwch o ddadgan fy riolchgarwoh i'm llynges a'm byddin am ddarostwng y gwrthryfel Psryglus a gyfodasai yn yr Aipht, a gwneuthurs hyny gyda'r fath gyflymder ac mor llwyr. Er I pryd hwnw, y raae fcawelwch wadi ei adfera j t wlad hbno. Dangoswyd tiriondeb gan y uywodraethwr tuag at arweinwyr y gwrthryfel, ac y mae y gwaith o ddwyn y milwyr Prydeinig adref yn myned yn mlaen mor gyflym ag y bernir yn ddoeth, a thalu ystyriaeth ddyladwy 1 r holl amgylchiadau. Y mae adgyfansoddiad Ilywodraeth yr Aipht, ac ad-drefniad yr amgylchiadau o dan awdurdod y Rhaglaw, wedi eu cwblhau mewn rhan, a Pharhant i dderbyn fy ystyriaeth f wyaf difrifol. ™y ymdrech fydd sicrhau fod darpariaeth lawn yn cael ei wueud gogyfer a chad w trefn, cyn- rychioliad teg ar angenion a dymuniadau y bobl- ogaeth, a chadwraeth ymrwymiadau cydgenedl- aethol. J J J 6 Yr wyf eiaoes wedi gallu cyllawnl yr addewid a wnaethum i'r Sultan, ac i brif ailuoeddEwrop, y byddai i mi gyflwyno i'w hystyriaethau cyfeill- gar hwy y trefniadau a ymddangosent i mi y 1'hai mwyaf cyfaddas i sicrhau sefydlogrwydd Llywodraeth y Rhaglaw, llwyddiant a chysur pobl yr Aipht, diogelwch CamIae Suez,a heddwch Ewrop yn y Dwyrain. At yr amcanion hyn y cyfeiriais fy ngwladlywiaeth o'r dechreu, ac y parhafi wneud yn y dyfodol; ac yr wyf ynparhau hefyd i ymddibynu gyda hyder cryf ar gymerad- Wyaeth unol gwledydd eraill. Y mae cynadledd o'r Prif Alluoedd wedi ei galw yn nghyd yn Llundain, i yetyriod mesurau. tuag' at sicrhau rhyddid mordwyaeth yr afon Danube yn fwy diogel, yr hon sydd wedi ei gosod dan ei gofal, ac a ffurfia ranogyfraith gy- boeddua Ewrop. Cafodd sefyllfa Zululand, a'r posiblrwydd i derfysgoedd dori allan o'r newydd yno, fy aylw tawyaf difrifol, gyda'r amean o sicrhau cadwr- aeth yr heddwch ac iawndrefn. Yr wyf wedi peril lywodraethwr blaenorol y wlad hbno gael adferu i feddiant o'r rhan fwyaf o'r diriogaeth a feddianld ganddo cyn y rhyfel. Hyderus obeithiaf y bydd i'r cam hwn arwain i sefydliad } llywodraeth gadarnach, a maentumiad perthynaa- au da rhwng y genedl Zuluaidd a'r drefedigaeth Jjyfagos—Natal. Bydd papurau ar y mater llwn yn cael ou eyflwyno i chwi.
« ONEDDIGIOK Ty Y CYFTREDIN,
News
Cite
Share
« ONEDDIGIOK Ty Y CYFTREDIN, Y mae yr amcan-gyfrif cysylltiol 4'r gwasan- aeth cyhoeddus mewnystAod flaenllaw o barotoad, a byddant yn cael eu gosod *ger eich bron yn ddioed.
£ FX Arglwyddi A Boneddigion,
News
Cite
Share
£ FX Arglwyddi A Boneddigion, Da genyf allu hysbysu fod y gwelliant sydd Da. genyf allu hysbysu fod y gwelliant sydd Wedi cymeryd lie yn sefyllfa gymdeithasol yr Iwerddon, at yr hyn y cyfeiriaiayn misRhagfyr, yn parhau. Y mae troaeddau tirol wedi lleihau yn fawr, a'r gyfraith yn mhob man yn cael ei chynal i fyny. Ar yr un pryd, y mae y ffaith o lodolaeth cymdeithasau dirgelaidd yn Dublin, a rhanau eraill o'r wlad, yn galw am yr yni a'r gwyliadwriaeth mwyaf dyfal o du yr awdurdod- au gweinyddol. J.ø.,( Bydd mesurau yn cael eu gosod ger eich bron tuag, at gyd-gorffori cyfreithiau y troseddwyr, tuag at ffarfio llys o apeliadau ar droseddau, a thuag at wellhau a chadarnhau y cyfreithiau sydd yn dl-I perthynas & methdaliad a breinteb- au. Dygir .o'ch blaen yn gynar fesurau tuag at ddiddymu llygredigaethau mewn etholiadau, a thuag at wellhau cyfraith y Balot, a'i gwneud hefyd yn un barhaol. Yr wyf ar achlysuron blaenorol wedi cyfeirio at y pwysigrwydd o wneud diwygiadau yn liywodraethiad lleo] gwahanolranau o'r Deyrnas Gyfunol. Yn y lie cyntaf, bydd cynygion tuagat sicrhau gwell llywodraethiad ar y brifddinas yn cael eu cyflwyno i'ch sylw; ac os caniata amser, bydd y rhai hyn yn cael eu dilyn gan fesurau eraill yn dal perthynas 4 diwygiadau mewn liywodraeth- iad lleol mewn manau eraill. Gelwir eich sylw at fesurau yn ymwneud a chadwraeth afonydd ac ataliad llifogydd; yr heddlu yn Ysgotland; y prifysgolion yn y rhan hbno o'r deyrnas; ao kg addysg yn Nghymru. Hefyd, gwahoddir chwi i yetyried cynygiad i sicrhau yn fwy effeithiol ar fod tenantiaid yn Lloegr ac Ysgotland yn cael ad-daliad am y gwelliantau amaethyddol. Yr ydych yn y blynyddoedd diweddaf, trwy gysegru cyfran helaeth o'ch amser, wedi gwneuthur darpariaeth ar gyfer anghenion mwyaf gwaeddfawr yr Iwerddon. Bellach, bydd deddfwriaeth gyffredinol, a rhanau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, yn hawlio ystyriaeth deg oddiar eich llaw. Mi a hyderaf, er hyny, y byddwch yn alluog i ymdrin hyd yn oed yn ystod y flwyddyn hon â. rhai o anghenion deddf- wrol yr Iwerddon, ar gyfer pa rai nad oea eto ddarpariaeth wedi ei gwneud. Dibynaf ar eich gweithredladau, ac y bydd i chwi ddangos yni a doethineb; ac yn awr, fel bob amser, erfyniaf fendith yr Hollalluog Dduw ar eich llafur. Yna gohiriwyd y ddau Dy.
Ty YR ARGLWYDDI, Ddydd Iau.
News
Cite
Share
Ty YR ARGLWYDDI, Ddydd Iau. Am 4.15., ymgynullodd yr Arglwyddi drachefn, pryd y cymerodd yr Arglwydd Ganghellydd y llw a'i sedd fel Iarll Selbourno, a Syr Garnet Wolseley fal Arglwydd Wol- seley Cairo. Cynygiwyd yr Araett gan-Iarll Durham, a chefnogwyd hi gan Arglwydd Reay mewn areithiau byrion a phwrpasol. Yna traddod- odd Arglwydd Salisbary, blaenor yr Wrth- blaid, araeth faith yn yr lion y condemniat y Llywodraeth. Atsbwyd ef yn alluog ao effeithiol gan Arglwydd Granville. Priodolai Due Abercorn y gwellhad yn sefyllfa yr Iwerddon i'r modd gwrol y cariai Iarll Spencer yr awdurdod a ymddiriedwyd iddo gan y Senedd. Amddilfynodd Iarll Cowper wladlywiaeth Wyddelig y Llywodraeth. Wedi i Iarll Carlingford hysbysu y byddai i amryw fesuran Gwyddelig gael eu dwyn ger- bron vn ystod y tymhor, cytunwyd a'r Araeth, a gohiriwyd am 8.15.
Ty y CYFFREbIN, Ddydd Iau.
News
Cite
Share
Ty y CYFFREbIN, Ddydd Iau. Y mgyfarfyddodd y Ty am 4 o'r gloch. Yr oedd nifer fawr o'r aelodau yn bresenol. Cy- merodd y Llefarydd ei gadair am 4.15., a darllenodd lythyr oddiwrth Mr. Bradlaugb, yn yr hwn y bwriadai fod yn bresenol wrfch y bar, yn cael ei ddilyn gan ei gefnogwyr, i wneud yr hyn oedd yn angenrbeidiol er iddo gymeryd ei sedd. Gofynodd Mr. Labouchere cyd-aelod Mr. Bradlaugh, a oedd yn mwriad y Llywodraeth ddyfod a Mesur yn mlaen yn ymwneud â,'i dohos, pryd yr atebwyd ef yn y gadarnhaol gan Arglwydd Hartiagfcon. Syr R. Cross a hysbysodd y rhoddai ef ei holl wrcthwynebiad. i'r cyfryw fesur, Yna cymer- odd Iluaws o aelodau newyddion y llw a'u eeddau, yn mhlith y rhai yr oedd Syr Charles Diike, a Mr, Smith, Le'rpwl. Darllenodd y Llelarydd lythyr oddiwrth Arglwydd Brif Farnwr yr Iwerddon, yn rhoddi y rheswm am abaenoldeb yr aelod dros Wexford, Mr, Healy. Gwnaeth Mr. Parnell gais i godi dadi ar y pwnc hwn, a chynygiodd fod i'r peth gael ei osod yn nwylaw pwyllg< r. Cymerodd ym- raniad le ar hyn, a gwrthodwyd y cynygiad drwy fwyairif o 306, Rhoddwyd lluaws mawr o gynygion gan y gwahanol aelodau i ddyfod gerbron yn ystod y tymhor. Yna darllenwyd Araeth y Frenhines o'r Gadair. Cynygiwyd hi gan Mr. T. D. Acland, a che'- nogwyd hi gan Mr. Buchanan. Cymerwyd rhan yn y ddadl gan Mr. Alderman Fowler, Mr. Ashley, Syr Stafford Northcote, Arglwydd. Hartington, ArglwyddRandotph Churchill, Syr W. Lawson, Mr. Labouchere, Arglwydd Edmond Fitzmaurice. Ar gynygiad Mr. A. Balfour, gohiriodd y Ty ana bum' munyd wedi 12.
Ty YR ARGLWYDDI, Ddydd Gwener.
News
Cite
Share
Ty YR ARGLWYDDI, Ddydd Gwener. Ni chymerodd dim o bwys Ie. Gwnaeth Arglwydd Salisbury eglurhad n ryw eiriau a ddjfynwyd gan Arglwydd Granville. Cyf- lwynodd larll Stanhope fesur yn naciu taliad cyflogau mewn tafarndai. Darllenwyd ef y waith gyntaf. Gohiri wyd y Ty wedi bod yn eistedd am brin awr o amaer.
Ty y Cyffredin, DdyrJd Gwener.
News
Cite
Share
Ty y Cyffredin, DdyrJd Gwener. Ymgyfarfyddwyd am 4 o'r gloeb. Cyflwyn- wyd nifer fawr o ddeisebau, a rhoddodd llu- aws rybuddion o gynygion. Mewn atebiad i Arglwydd Claud Hamilton, hyabysodd Mr. Courtneyybyddai i'r papurau mewn perth- ynas i drosglwyddiad yr Irish Mail gael eu gosod ar y bwrdd yn gynar. Hysbysodd Mr. Trevelyan fod Mri. Davitt, Healy, a Quinn yn cael cymdeithasu 4'a gilydd yn rhydd yn ngharchar Richmond, ac yn cael dewis en hadeg eu hunain i fyned drwy yr ymarferiad. Mae y tri wedi amlygubodqhad a'r driniaetb. Wedi sylw ar achos Bradlaugh, dychwelwyd at y ddadl ar yr Araeth. Cymerodd dadi led fy wiog le mewn perthynas i bwnc yr Aipht, a thrwy Mr. Balfour, rhoddodd yr Wrthblaid welliant, yr bwn yn yr ymraniad a wrthod- wyd drwy fwyafrif o 35.
Ty YR ARGLWYDDI, Ddydd Llun.
News
Cite
Share
Ty YR ARGLWYDDI, Ddydd Llun. Y prif beth gafodd sylw eu harglwyddi yd- oedd Addysg yn y Werddon, a ddygwyd i sylw gall Iarll Longford, a rhybudd Iarll Granviile yn nghylch Meaurau newyddion. Awr a haner y buont ya eistedd.
Ty y CYFFREDIN, Ddydd Llun.
News
Cite
Share
Ty y CYFFREDIN, Ddydd Llun. Tystiolaeth Carey yn Dublin ddydd Sad- wrn gynyrchodd fwyaf o fywiogrwydd yn y Ty Leddyw, ar walth amryw yn ymholi ai yr un ydoedd y Sheridan y cyfeirid ato a'r un y cyfeiriai Gladstone ato yn Ebrill mewn perth- ynas i ryddhad rhai o'r carcharorion yn Kil- mainham yr adeg hono. Wedi oryn lawer o siarad cyffredinol, yn yr hwn y cafodd Local Option, Mesur Cau y Tafarndai, &c., sylw, dychwelwyd at y ddadl ohiriedig ar yr Araeth. Cymerwyd rhan ynddi gan Syr W. Barttelot, Mr Fowler, Mr. Goschen, Mf. Chaplin, Mr. Mundella, Mr. Lowther, a Iltiaws eraill. Wedi ei gohirio hyd dranoeth, aethpvYyd i bwyllgor ar y cynygiad i dd'od a Mesur Llwon Senedd- ol yn mlaen. Ymosodwyd yn llym arao gan amryw aelodau, a dywedent uaai dyfais ydoedd y cwbl i gael Bradlaugh i mewn. Ymranwyd, a chafwyd Dros y dprlleniad cyntaf. 184 Ynerbyn. 43 Mwyafrif 14i Mewn atebiad i Mr. Onslow, hysbysodd Hartington eu bod yn gobeitlno y gallai Mr. Cbilders yn fuan ruddi hysbysrwydd mewn perthynas i ddaliadau y fyotdin Indiaidd yn ystod yr ymgyroh diweddaf yn yr Aipht.