Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Hide Articles List
11 articles on this Page
Y CYNWYSIA D. \
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CYNWYSIA D. Yr Wythpos 1 Agweddan Anffyddiaeth 2 Anvywion 3 Iwerddon 4 Dinas Le'rpwl 5 Newyddion Cyffredinol 6 Barddoniaeth „ 7 Dats;udddio'r Dirgelwch 8 Dolgellau .n 9 Gohebiaetbaa 10 j Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. 12 Hysbysiadau 12,16
:Yr: SiHgtfjttoss.
News
Cite
Share
Yr: SiHgtfjttoss. Cyn y bydd y rhifyn presenol yn nwylaw tawyafrif ein darllenwyr, bydd Senedd Prydain Fawr wedi agor, a'r aelodau, ydynt bellach wedi treulio gwyliau Bed dda, wedi ymgycull i ddecbreu ar waith pwysig, sef trafod Mesurau diwygladol a ystyrir yn angenrheidiol. Ceir gwybod yn y nesaf pa Fesurau fwriada y Llywodraeth ddwyn ger- bron, a dilys ydyw fod pryder mawr yn cael ei deimlo yn mhob cylch mewn perthynas lddynt. Ar hyn o bryd, mae yn amwys *n pa lwybr a gymerir yn Araeth y *renhines.
[No title]
News
Cite
Share
Erbyn hyn, y mae hysbysrwydd swyddogol ^edi ei wneud na bydd Mr. Gladstone yn bi'esenol ar yr agoriad. Gofidia pawb o Wwydd hyny, yn ddiamheu. Y mae wedi penderfynu gohirio ei arosiad yn Cannes, lie y mae wedi derbyn adnewyddiad cryf anarfer- 01 i'w iechyd, am ychydig amser eto. Bydd iddo aros yno hyd nes y cyflawn adferir ef gynefin iechyd. Fodd bynag, bydd i'r wniaw arfarol i'w gyd-weinidogion gael ei *oddi y prydnawn blaenorcl i'r agoriad yn ei DTeswylfod swyddogol, gydag Arglwydd Wartiogton yn llywydd. Mae un neu ddau ? Gyfrin-gyngborau wedi eu cynal, a'r Gwein- jdogion oil, oddigerth ef ac larll Spencer; yn bresenol. Er y teimlir yn ddwfn y bydd He yr arwr anrbydeddua yn wag, mae yn gysur Meddwl fod ganddo ddigon o gefnogwyr galluog i gario y gwaith yn mlaen gyda medr.
[No title]
News
Cite
Share
Nodwedd fwyaf neillduol ymgyfarfyddiad y yr Arglwyddi fydd presenoldeb nifer fawr o aelodau newyddioD. Yn eu plith, ceir arwr Tel-el-Kebir, Syr Garnet Wolseley, neu fel y Mae i'w adwaen o hyn allan, Arglwydd wolseley, ae Arglwydd Alcester, y rhai sydd 1 eu dyrchafu i'r bendefigaeth o herwydd eu gwrhydri yn rhyfel yr Aipht. Hefyd, cem Aaill Harrowby, larll Stamford, larll W emyss, o eraxll yno. Bydd gan y blaid Ryddfrydol awy bleidlais ychwanegol, ac nid yn unig aat ynddynt gefnogwyr aiddgar, ond yn giwydd Woiseley cant slaradwr da lawn, ao 7 mae yn deall gwleidyddiaeth i'r dim. Dublin sydd eto yn gyrchfan sylw pawb, a'r dygwyddiadall yno sydd yn cael y lie amlycaf yn yr boll newyddiaduron. Parhant i greu y dyddordeb dyfnaf, ac y ir-ae y wlad yn awchu am glywed pob newydd oddiyno. Y mae y telmlad yn uchel, a'r pryder yn fawr a cbyffredinol. Prin y cyfarfyddir §. neb na bydd iddynt ymholi yn ngbylch'pefchau yn Dublin, a dyna ydyw braidd yr holl destun siarad. Yr oedd beiddgarwch eithafol a bwriad melldigedig y carcharorion yn gyfryw ag sydd yn sicr o wneud yr amgylcbiadau yn bynod am amser maitb.
[No title]
News
Cite
Share
Ddydd Sadwrn y cafwyd v dadleniadau mwyaf cyffrous efco. Y prif dyst ydoedd Michael K&vanagh, yr hwn gredid ydoedd gyriedydd y cerbyd ddiangodd gyda'r llofrudd- ion ynddo o fan y gyflafan ofnadwy. Oadarn- heid ei dystiolaeth gan dystion annibynol eraill, a dysgwylir y tro nesaf y ceir ychwaneg eto i'w cadarnhau. Aeth ef gyda cherbyd yn cynwys Joe Brady, Tim Kelly, Patrick Delaney, ac un arall, i'r Park ar y 6ed o Mai. Darfu iddynt ddisgyn, a'i orchymyn ef i fyned yn mhellacb. Daeth cerbyd arall yno gyda nifer o ddynion dan ofal Fitzharris, un sydd yn y ddalfa erbyn hyn, ac oedd yn y doc ddydd Sadwrn. Darfu i Carey neu Delaney chwifio cadach poced fel arwydd ar eu cymdeithion fod y 'dyn tkV (sef Mr. Burke) yn dyfod. Aeth cerbyd Kavanagh yn mbeIl- ach, ac yn mhen ychydig rhedodd y dynion i'r cerbyd, a gyrwyd ymaith mor gyflym ag oedd ddichonadwy wedi cyflawni y weithred fwyaf ysgeler gromclwyd yn hanes yr Iwerddon.
[No title]
News
Cite
Share
Cyfeiriai ei dystiolaeth hefyd at yr yraosod- iad ar Mr. Field. Efe ydoedd y gyriedydd ddiangodd gyda'r ymosodwyr o'r gornel y soniai yr eneth fechan am dani y Sadwrn blaenorol. Brady, Kelly, Hanlon, a Delaney ydoedd ei gymdeithion yn Hardwick St., ac arosai ef hwynt yn y gornel i ddyfod o'u lieges, sef eu gweithred felldigedig, o'r pen arall i'r heol. Collodd Kelly ei het, a gyrodd ef Brady ac yntau ymaith mor gyflym ag oedd bosibl, a chafwyd het iddo yn y man. Aeth- ant at y Basin, ger y gwaith nwy, a thaflodd ef a Brady y cyllyll oedd ganddynt yno, Gwneir archwiliad yn awr am danynt yno, ond hyd yn hyn nid ydys wedi eu cael. Mae y gweithrediadau hyn o eiddo yr awdurdodau yn peri i ni obeithio yn hyderus y coronir eu hymdrecbion gyda mwy o lwyddiant eto, ac y ceir gwared ar ellyllon a gynllwynant am fywydau eu cyd-ddynion.
[No title]
News
Cite
Share
Tra y mae y wlad yn gydfredinal yn cael tynu ei sylw at y dadleniadau dycbrynllyd yna yn Dublin, dyddorol ydyw cael clywed beth ydyw sefyllfa gyffredinol y wlad. Y mae cyn-aelod seneddol Gwyddelig, yr hwn sydd wedi bod mewn mantais ragorol i chwilio allan i'r achos, yn dweyd fod oyfnewidiad rhyfedd wedi cymeryd He yn mhlith y flfermwyr. Dywed eu bod yn teimlo effeithiau daionus y deddfwriaethau diweddar, ac yn awyddus am barhad y manteisiou y maent yn awr yn fwynhau. Y mae dylanwad y cynhyrfwyr dros y fferrawyr byn bron wedi ei lwyr ddifodf. Diau fod hyn i'w briodoli i ofn arweinwyr y cymdeitbasau dirgelaidd barhau eu gweith- rediadau. Creda yr aelod hwn y bydd y cyfryw wedi Uwyr ddiflanu cyn bo hir. ■
[No title]
News
Cite
Share
Mae Ffrainc yn parhau mewn helbul o hyd. Nid oes ond yr annysgwyliadwy i'wddysgwyl oddiyno, ac nid oes fawr ryfedd am hyny. Mae y Weinyddfaeth bresenol wedi ymdrechu cario Mesur yn mlaen yu ymwneud & bwriad ymaith yr hawlwyr ydynt mor lluoaog yn y wlad. Gwrthodwyd ef yn y ffurf y cynyg- iwyd ef, a bwriedir d'od a Mesur yn mlsen. eto i'r perwyl y bwrir allan bobhawliwr ddechreut godi gwaedd yn y wlad, ac fod et achos i'w benderfynu mewn brawdlys neu yn y Senate. Diau fod y cyfwng presenol yn gyfryw ag y rhaid iddynt wneud rhy wbath. Mae y Werin- iaetb mewn perygl, tra y dangosir y fath elyniaeth at y blaid Bonapartaidd sydd mor gryf, cyfoethog, a dylanwadol yn y wlad.
[No title]
News
Cite
Share
Y newyddion diweddaf o Ffrainc ydynt fod y Weinyddiaeth wedi cyflwyno ei hytpddi- swyddiad i M. Grery. Yr achos o hyn ydyw eu hanallu i basio Mesur yn ymwneud ag alltudiaeth yr hawlwyr. Gwaith hawdd ydyw cael gan Weinyddiaeth ymddiswyddo, ond anhawdd ydyw cael gan neb i ymgymeryd i ffurfio un newydd. Nid oes gan un gwleid- yddwr ymddiried yn y llall, fel ag i ddysgwyl ei gefnogaeth, Mae sefyllfa pethau yn awr yn bygwth cymeryd gwedd ddifrifol.
[No title]
News
Cite
Share
OfnJr y ceir clywed cryn dipyn yn nechreu y Senedd-dymhor yn nghylch helynt Brad- laugh. Mae y si ar led y bydd gan y Llywodr- aeth gyfeiriad at ei acbos yn yr Araeth. Ond fodd bynag am hyny, os na bydd, mae Bradlaugh yn benderfynol o fyned at y bwrdd, a bydd ganddo luaws o gefoogwyr gyda deiseb yn erfyn am iddo gael ei dderbyn, dan yr ystyriaeth fod rhyddid etholwyr North- ampton yn cael ei sarhau. Mae yn sicr fod gan Bradlaugh yr un hawl a Wilkea igymer- yn ei eisteddle, ac ni wnaeth neb un cais i'w atal ef. Ty o wleidyddwyr, ac nid crefyddwyr ydyw Ty y Cyffredin. Ar yr un pryd,gwell genym fuasai gweled rhai yn cael eu nod- weddu a syniadau crefyddol yn eisteid yno; ond y mae rhai can waethed a Bradlaugb yno eisoes, a phaham y goddefir hwy1
[No title]
News
Cite
Share
CynaHodd Herr Most, Hartmann, a thrl Nihiliaid eraill, gynadledd yn Philadelphia, a phenderfynwyd pa fodd i weithredu er rhwyso tro coroniad yCzar yn Mai nesaf. Dywed Most y gwneir cais amfyw/d yr Ymerawdwr.