Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
---=. I ,Y CYNWYSIAD. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
-= Y CYNWYSIAD. n> ^Vythnos 1 y J 7 Gwyliedydd 2 j?-nedd Ymerodrol. 3 s'eddfod Genedlaethol Caernarfon 4 g?8ellau 5 j.^Tddion Cyffredinol 6 !arddoniaeth 7 e*yllfa Addysg yn Ngbymru a'r Ddirprwyaeth rp 8 f,aith Forawl Mr, Gladstone 9 j?Oaebiaethau 10 Amrywiol 11 j,riodasati, Marwolaethau 12 ysbyaiadau 12,16
[No title]
News
Cite
Share
Pasiodd Mesur helwriaeth y Llywodraeth ail ddarlleniad yn Nhy yr Arglwyddi, drwy ^yafrif o 48. Cawn fod y ddadl yn Nhy yr Arglwyddi wedi ei hynodi drwy araeth hYnod Arglwydd Beaconsfield, yr hon sydd Yn sicr o gynyrchu siarad brwd yn mysg ei a'i wrthwynebwyr. Darfu i'r ■Arglwyddi Toriaidd gyfarfod a'u gilydd nos Wener, a phenderfynwyd ganddynt i daflu y ?desur allan drwy fwyafrif mawr, yr hwn M2 "enderfyciad, pa fodd bynag, a wrthwyneb- ^yd gan Iarll Beaconsfield. Yr oedd ei ^aeth nos Lun yn hynod o gymhelliadol. ^•peliodd at repwm, teimlad, ac ofnau ei ■rglwyddiaeth, y gallai eu gwrthodiad o'r ¡U'l.esur fod yn fagl iddynt, i'w dal yn y weith- ted o wrthwynebu dylanwad y Ty arall, yr | hyn a fyddai yn y dyfodol yn sier o wanychu eu nerth a'u dylanwad. Yr oedd y siarad tnegys yn brophwydol, pan yr edrycbai draw ar yr ymaflyd codwm a fyddai cydrhwng y dQau Dy. Cafodd ei araeth ddylanwad hynod y Ty, a chariodd ef yn erbyn ei argyhoedd- ladau. Edrycha eraill ar yr araeth fel rhag- fynegiad o ymrafael dyfodol cydrhwng y ddau Dy. Yr oedd rhanau o honi yn heriadau Oglur i'r mwyafrif Rhyddfrydol yn y Ty Isaf. Nid ydynt hwy yn dymuno hyn; ond os daw hyn oddiamgylcb, nid oes dau feddwl pwy fydd y buddugwyr. Y mae tuedd yn Iarll Beacons- field i arwain Ty yr Arglwyddi i'r tir hwnw lla byddant yn cydnabod y Ty Isaf o gwbl, yr hyn, yn y diwedd, fydd yn sicr o ddinystrio y Ty U chaf fel sefydliad cyfansoddiadol. Yn yr ymraniad nos Lun, darfu i ugain o bendefig- ion Toriaidd gefnogi y Mesur, tra yr aeth deg ar hugain o honynt allan heb bleidleisio v 8yda Iarll Beaconsfield.
[No title]
News
Cite
Share
f Arglwydd Enfield ac nid larll Camperdown, sydd wedi ei benodi yn Is-ysgrifenydd Indisi, yn lie Ardalydd Lansdowne, yr hwn a ym- ddiswyddodd. Bu Arglwydd Enfield yn Ñgweinyddiaeth Mr. Gladstone o'r blaen yn 1868, ac yr oedd yn aelod o honi pan y ayrthiodd yn 1874. Yr oedd y pryd hwnw ya Is-ysgfifenvdd y Swyddfa Dramor. Yr Oedd yr ade* h6no yn Nby y Cyffredin, gan fod ei dad, Arglwydd Strafford yu fyw, ac yn y Ty Uchaf. „ (.¿.
[No title]
News
Cite
Share
Mae Arglwydd Spencer, Prif Arglwydd y Cynghor Addysg, wedi anfon llythyr at Arglwydd Aberdar, yn amlygu ei foddlon- rwydd ei fod wedi derbyn y swydd o lywydd y pwyllgor ar A.ddys<i Uwcbraddol yn Ngbymru. Ar ol ei hysbysu fod Arglwydd Emlyn, Canon Robinson, Mr. Henry Richard, Proffeswr Rbys, a Mr. Lewis Morris, yn ael- odau o'r pwyllgor, aiff ei Arglwyddiaeth yn mlaen i ddweyd fpd llawer o wybodaeth wedi ei gael at ei gilydd. Gwnaeth y ddirprwy- aeth yn 1866, gryn gynydd yn y wybodaetb; ac y roae yn meddiant y ddirprwyaeth rodd- awl ychwaneg o oleuni. Er hyn, caiff y Llywodraeth ar ddeall fod yr ysgolion uwch- raddol yn rhy anaml i gyfarfod angen y Dywysogaeth; ac hefyd, wedi eu cyfyngu gan rwymau sectaraidd. Dywedir fod y cronfeydd rhoddawl yn anghymhwysi gymeriad y boblog- aeth. Gwaith y pwyllgor fydd gwneud ymchwiliad a ydyw hyn yn nod. Wrth ganfod fod yr ysgolion presenol yn cael ea cyfyngu i gylch sectol, y maent i egluro pa fodd y gellir yn oreu wneud y diffygion i fyny, a beth fyddai y gost, ac a ellid gwneud y gost o'r gwaddoliadau sydd yn bodoll yn bresenol, ai ni ellir? Yn ddivvcddol y maent i wneud ymchwiliad a oes angen Prifysgol gyda gallu ganddi i roddi graddau, ac a wnelai y'fath sefydliad wasanaeth i Addysg Uwchraddol.
[No title]
News
Cite
Share
.-1 n Ar ol 33 mlynedd o lafur gweinidogaethol ffyddloD, y mae y Parch. Hugh Stowell Brown, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwytf yn Le'rpwl, wedi datgan ei ddymuniad i gael rhoddi ei weinidogaeth i fyny. Bu ei gysyllt- iad a'r eglwys yn ystod yr amser maith yn hynod hapus a dedwydd. Peiswadiodd y gwr parchedig ei hun i gymeryd y cam, am ei fod yn credu y byddai i'r achos lwyddo yn well os ceid gweiaidog ieuanc yno yn ei le. Heblaw hyny, bwriada y gwr parchedig weithio mewn cylch eangach nag y goddef y fugeiliaeth iddo wneud.
[No title]
News
Cite
Share
10 }; n Mae Mr. Gladstone wedi llwyr wella o'i afiechyd, ac y mae yn awr wedi myned ar daith ar y m6r, mewn agerlong ardderchog a roddwyd at ei wasanaeth gan y perchenog ilongau enwog y Meistri Donald Carrie a'i Gwmni. Talodd ymweliad a Dublin ddydd Sul, ac oddiyno i lanau pen uchaf Ysgotland. Bu y boneddwr yn ngolwg gianau Cymru unwaith; ond yr oedd y tywydd yn niwliog fel nas gallodd gael ond cipolwg ar y wlad sydd wedi dangos ymlyniad hynod wrtho ef a'r egwyddorion y dadleuai drostynt. • t u r
[No title]
News
Cite
Share
'1 Bu agos i'r hynod Bradlaugh gario gwell- iant ar un o adranau Mesur y Claddfeydd, yr byn fuasai yn thoddi hawl i gladdu ar y Sul, Gwener y Groglith, a Dydd Nadolig. Nid oedd y mwyafrif oedd yn erhyn ond tri; ac y mae yn amheus ai ni fydd i'r gwelliant basio eto. Mae y teimlad eyffredin yn y wlad yn erbyn y gwelliant; ac yn sicr, ni fyddai yn gaffaeliad am y byddai yn sicr o aflonyddu y gynulleidfa a ddygwydda fod yn yr eglwys ar y pryd.
[No title]
News
Cite
Share
Traddododd Mr. Watkin Williams, A.S., anetchiad gwresog wrth osod careg sylfaen capel newydd y Methodistiaid yn Llandwrog, ger Caernarfon. Yn ystod ei araeth, dywed- odd fod yr amser wedi bod, pan yr oedd y Llywodraeth Brydeinig yn ei weled yn ddoeth i orthrymu y genedl Gymreig, a cheisio dinystrio eu cenedlgarwch, a gwasgu allan yr ysbryd cenedlaethol sydd yn eu nodweddu. Ond beth fu y canlyniad1 Pobpeth yn hollol groes i'r hyn a ddysgwylid. Yn He gwasga allan eu teimladau cenedlgarol, y maent wedi ei ychwanegu yn ddirfawr. Fel eu hen fynyddoedd ardderchog yr oeddynt yn daleu gnfael yn gadarn yn yr hen Iaith Gymraeg, ac yn eu Beibl Cymraeg, yr hwn Lyfr oedd wedi gwneud mwy nag a ellir ddychymygu i ddyrchafu bywyd crefyddol yn y Dywysog- aeth. Pan y ceisiodd Eglwy. Loegr wasgu ei hathrawiaethau a'i flurfiau ar y genedl Gymreig, nis goddefodd yr hen ysbryd Cymreig iddi wneud hyny; ond ymadfyw. iodd yn rhyfedd, yn unig drwy ddal yn ffyddlon wrth y Beibl, yn hytrach na llyncu athrawiaethau amryw a dyeithr a gynygid iddynt gan ddynion bollol anwybodus o'u hanghenion. Darfa i'r Cymry ffurfio eu syniadau crefyddol eu hunain; ac yn y dydd- iau hyn, nid oes dim yn achoBi cymaint o syndod i'r ymwelwyr a'r nifer fawr o gapelau Cymreig a welir ar hyd y wlad, y rhai a gynelir, nid drwy gynorthwy y wladwriaetb, ond drwy roddion gwirfoddol cenedl weitbgar, egnïol, ac annibyno). Cn ameer, byddai y Sais yn dirmygu y teimladau crefyddol uchel oedd yn nodweddu y Cymry, ond y mae y teimlad hwnw erbyn hyn wedi llwyr ddiflsnu. Mae y Saeson yn awr yn parchu y Cymry fel pobl weddaidd, o ymddygiad da, a llawer gwaith y dymunwyd gan Saeson crefyddol weled yr un brwdfrydedd crefyddol yn medd- ianu eu cenedl hwy, fel ag y. nqdweddir y Cymry yn gyffiedinol. v.vns 'u'Ui. '( f
[No title]
News
Cite
Share
Mae gan yr hanesyddwr enwog Fronde erthygl hynod newydd ei chyhoeddt yn y Nineteenth Century, ar sefyllfa yr I werddon yn awr, yn nghyda'r hyn ydoedd o fewn i'r saith can' mlynedd diweddaf. Defnyddia iaith hynod gref i ddangos allan yr anghyf- iawnder a ddyoddefodd y Gwyddelod oddiar law eu gorchfygwyr. Dywed mai ar Loegr y mae y bai yn awr fod y Gwyddelod mor anhawdd eu trin. Dywed nad ydyw yr aflonyddwch yn naturiol ynddynt, ond mai ffrwyth ymddygiadau trahaus y gorchfygwr yw yr achos o hono. Nis gall gymeradwyo policy y Llywodraeth bresenol tuag at yr Iwerddon, a dadleua na ddylesid pasio Mesur Dadsefydliad yr Eglwys Wyddelig, a Mesur Tic 1870. ■ r