Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y PARCH. CANON LEWIS, DOLGELLAU,…

News
Cite
Share

Y PARCH. CANON LEWIS, DOL- GELLAU, YN GWRTHOD LLE I GOF- ADAIL YN MYNWENT Y PLWYF. Dysgwyliasom hyd yr wythnos bon am ryw atebiad i ofyniad 'Idris' rai wythnosau yn ol lkr,a eglurhad ar ymddygiad y Parch. Canon Lewis yn gwrthod ein cyd-drefwr parchus, 1Ir. Evan Morris, plasterer, o fe i gyfodi cof- • adail ar fedd ei fab yn mynwent y plwyf. ^naddangosai i ni yn anghredadwy y gallai Wieddwr mor anrhydeddus a'r Canon Lewis fod yn euog o ymddygiad mor greulawn. "Wedi caniatau lie beddred yno, pa reswm a allasai fod yn erbyn gosod cofadail i ddynodi y lie? Deallwn mai y rheswm a roddai y Canon parchedig dros wrthod i Mr. E. Morris y boddhad pruddaidd o osod cofadail ar y lIecyn cysegredig lie yr hunai ei anwyl fab Robert oedd, am na roddasai ddigon o rybudd o'i fwriad i'w osod. Mor seremoniol a diystyr ydyw y rheswm hwn i'n goiwg ni, fel nas c gallwn ei yetyried o gwbi fely gwir reswm dros yr ymddygiad dyeithriol hwn o eiddo ein parchus berigior. Nage, nage, pe llefarasai ei dafod wir deimlad ei galon, rhywbqth tebyg i'r hyn a ganlyn a fuasai ei atebiad:- 'We), Mr. Morris, i fod yn onest ac yn blaen Wrthych mewn atebiad i'r cais hwn, rhaid i mi yn gyntaf oil eich adgoffa. mai Ymneillduwr Ydych. Caniateais gaia cyffelyb yn rhwydd i tai eraill; ond Eglwyawyr oedd y rhai hyny. ^wyddoch am Fesitr Claddu anghyfiawn Mr. Oaborne Morgan. Mor anghyfiawn ydyw, fel y tr1&e yn llawn bryd i hull ofteiriaid a charedigion Yr Eghvys Swydledig ddeffro, ac ymfyddino i ^ddiffyn hawliau a meddianau cyfiawn ein *Teglwys, yn ngwyneb y fath gais beiddgar i'w ^yabeilio o honynt. Yr ydwyf yn benderfynol 0 ^hub pob cylle fel hyn i ddangos fy ngwrth- wynebiad i'r mesur cysegrysbeiliol hwnw, a dangos hefyd i holl Ymneillduwyr plwyf Dol- gellau pwy a bia y fynwent hon. Y mae y meddwl am orfod edrych ar eich pregethwyr Ymneillduol ch.vi wedi eu dyrchafu i'r un lefel, i'r un hawliau a ni, unig olynwyr yr apostolion, ac unig offeiriaid ordeiniedig Eglwys Crist yn y deyrnas hon, a'u traed anghysegredig yn sefyll ar y tir cysegredig hwn, y mae y fath feddwl yn annyoddefol i, mi. A gwaeth na'r cwbl, nis gallaf edrych ar Fesur Mr. Osborne Morgan yn ein hysbeilio o'n mynwentydd, ond fel yn rhoddi y cyn i mewn sydd a'i amcan yn y pendraw i ddadsefydlu yr Eglwys ei hun oddiwrth y Llywodraeth, a'i hysbeilio o'i holl feddianau; a pha beth a ddaw o'r Eglwys wedi colli braich y Llywodraeth a'i gwaddoliadau arianol ei hun i'w chynal i fyny? Y ffordd oreu i ni ydyw 'lladd y wiber yn yr *y' fel hyn, trwy ddangos i chwi, yr Ymneillduwyr, pwya bia y mynwent- ydd oddiallan. Y mae genyf bob parch i chwi yn bersonol, Mr. Morris, a phob cydymdeimlad &'ch cais am ganiatad i roddi cofadail ar fedd eich mab; ond rhaid i mi, fel offeiriad urddedig yn Eglwya y Llywodraeth, ddefnyddio y cyfle i ddangos i'r holl Ymneillduwyr y plwyf hwn fy ngely»iiaeth anghymodlawn yn erbyn amcanion dinystriol Mesur Claddu Mr. 0. Morgan i ysbeilio yr Eglwys o'i hawl cyfreithiol yn ei mynwentydd. Chwi a gredwch bellach mai genyf ti y mae, ac hyd y gallaf fi, genyf fi hefyd y bydd, pob awdurdod o fewn y tir cysegredig hwn. Dyma y gwir a'r unig reswm paham y rhaid i mi wrthod eich cais chwi yn y fynwent hon.

EISTEDDFOD GENUoLAETH-OL CAERNARFON.

Y BRIF GYSTADLEUAETH GOR.AWL,.

----YR EISTEDDFOD GENEDL-AFTHOL.…