Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

- tfetogtofon ctaffrefctnoi.I

News
Cite
Share

tfetogtofon ctaffrefctnoi. Dygwyddodd damwain ofidus ar y Mersey, prydnawo Sadwrn. Mewn He cydrhwng Seacombe ac Egremont, rhedwyd cwch mawr o'r enw Petrel i lawr gan agerlong o'r enw Primrose, tra ar y ffordd o New Brighton i Liverpool. Pan ddigwyddodd hyn, yr oedd chwech o beraonau ar fwrdd y I'etrel. Lladd- wyd un o honynt o'r enw Cousins, ond achub- wyd y gweddill drwy i life buoys gael eu taflu iddynt o'r Primrose. Pellebyr o Kildysart, swydd Claid, a ddywed fod y pytatws yn y rhanbarth hwnw wedi eu niweidio yn fawr gan y pla. Torodd clwyf y gwartheg allan yn Dudles, yr wythnos ddiweddaf, a gorfu i un ffermwr ddinystrio chwech o'i wartheg yn uniongyrchol. Tra yr oedd omnibus yn myned drwy Edinburgh i Newhaven, collodd y gyriedydd y reins o'i ddwylaw, fel ag yr aeth y cerbyd i wrthdarawiad Ag adeilad, fel y taflwyd amryw o'r rhai oedd ar ben y cerbyd i lawr, ac y Uaddwyd y gyriedydd yn y fan. Bydd Mr. Gladstone yn myned am daith ar y m6r yn mhen ychydig ddiwrnodau. Bwriada yn awr fyned i Madeira, am ychydig amser. Dywed y Divitto, newyddiadur Italaidd, fod y Brenin Humbert wedi cynyg ei adeiladau brenhinol yn Capo di Monte, a Maro Chetti, at wasanaeth Mr. Gladstone, er mwyn iddo wella yn hollol yn awyrgylch glir Italy. Newyddiaduron Paris a ddywedant am ladiad beiddgar a gymerodd le yn mhreswylfod y Cadfridog Schramm, yn Courveoe, ger St. Denis. Aeth y lladron i yatafell wely y Cadfridog, a Uwyddasant i ddwyn ymaith werth pedair mil ar hugain o bunau, heb ddeflro y boneddwr. Ceir hanes am ddau ddyn yn lladd eu gilydd &'r un gyllell gerllaw Cologne, yr wythnos ddiweddaf. Mewn tafarndy yn Theincoven, darfu i ddau lafurwr ymrafaelio uwchben eu glasiad gwirod; o eiriau cryfion aeth yn ym- laddfa, ac yn yr ymladdfa tynodd un o honynt gyllell allan o'i boced, a tbrywanodd y llall ddwy waith yn ei goluddion. Llwyddodd y truan kwnw i ddwyn y gyllell oddiarno, a thynodd hi ar draws ei wddf nes ei dori yn llwyr. Yn mhen ychydig fynydau yr oedd y ddau yn gyrff ar y llawr. Y newyddion diweddar o berthynas i daith y Cadfridog Roberts, a ddywedant ei fod wedi pasio drwy Ghuzni yn ddiwrthwynebiad, ond fod byddinoedd Mahomed Jan, a Heshim Khan, yn gwthio yn mlaen i'r deheu o'r aswy iddo. Bwriada y Cadfridog Phayre anfon at y Cadfridog Roberts, pa fodd y mae byddin Ayoub Khan wedi ei gosod o flaen Candahar, fel y byddo iddynt eu dau wneud ymosodiad ami ar yr un pryd, a thori ei nerth yn llwyr. Bwriada Ayoub ymosod ar y ddinas cyn y daw y Cadfridog Roberts yn mlaen. Rhoddodd hwch enedigaeth i gymaint a deunaw 0* berchyll yn Merriott. y dydd o'r blaen. Dywedlr fod mwy yn cael ei wario am fygly. yn yr America, nag a delir am fara yno. Mae yr Argiwyddes Dufferin, gwraig y Llysgenadwr Prydeinig yn St. Petersburgh, yn beryglus glaf. Bu plentyn farw yn Cheltenham, y dydd o'r blaen, drwy sunstroke. Mae un o nodwyddau Cleopatra oedd yn Alexandra, yn yr Aipht, wedi cael ei chludo i'r America. Talwyd holl gostau y cludiad gan Mr. W. H. Vanderbilt o New York. Cymerodd tanchwa le.1n mhwll Redbury, ger Irvine, ddydd Llun, a lladdwyd dau oedd yn gweithio yno. Mae Arglwydd Roseberry wedi gorfod gwrthod y swydd o Is-ysgrifenydd India, yr hon aeth yn wag drwy ymneillduad Arglwydd Lansdowne, o herwydd sefyUfa anfoddhaol ei iechyd. Rhoddwyd ty ar dan yn Brighton yr wythnos ddiweddaf, drwy i lian bwrdd gyneu o herwydd gwres mawr pelydrau yr haul, y rhai a ddisgyn- ent ar y llian drwy wydr tew. Aeth gwr a gwraig i awyren yn Pittsburgh, Pa, America, er's mis yn ol, am drip, ond rywfodd neu gilydd darfu i'r awyren fyned yn drech na'r rhaffaur a rhuthrodd i fyny gyda chyflymder ofnadwy. Nid oes son am danynt yn y newyddion diweddaraf o'r America. Hwyrach eu bod wedi penderfynu aros i fyny. Mae y cwch ffrwydrol (torpedo boat) Rwssiaidd, a elwir Madine, yr hwn a groesodd y Werydd am daith, wedi myned yn ddrylliau tuallan i Aracate, ger llaw genau yr afon Jagnaribe, yn Brssil. Achubwyd yr holl ddwylaw. Mae mil o Indiaid o lwyth y Lonix, wedi rhoddieu hunain i fyny i lywodraeth yr Unol I^aleithiau, yn amddiffynfa Keogh, a dysgwylir mil yn ychwaneg i wneud yr un p3th. Dywedir fod ystonn fawr wedi pasio dros ranau o Texas, y 12fed o'r mis presenol, a dinystriodd dri chant o dai yn Brownsville, Texas, a chymaint a hyny yn Matamoyas, ar derfynlMexico. Drylliwyd amryw o agerlougau, a chollwyd amryw fywydau. Mae y niwad yn I werth miliwn o ddoleri. Dywedir fod y cholera wedi tori allan yn niysg milwyr Rwssiaidd, yn Saratok. Y mae ugeiniau yn dyoddef o dano yn bresenol. Dydd Mawrth, o flaen ynadcn Shaftesbury, cyhuddwyd Julia Denbligh o guddio genedig- aeth ei phlentyn anghyfreithlawn, ar y 19 o Gorphenaf. Dangosai y dystiolaeth ei bod yn cael ei drwgdybio o fod mewn sefyllfa anmhriod- ol, ond gwadai yn bendant. Ar ol iddi ymadaw o Lundam, darfu i'r heddgeidwaid ehwllio y ty lie y bu y garcharores yn lletya, a chawsant yn y closet ddarnau o lian a brethyn ac esgyrn bychain, y rhai a dystiai y meddyg oeddynt esgyrn plentyn newyddanedig. Cymerwyd hi i fyuy ar ddrwgdybiaeth, a chyfaddefodd iddi dori y corff yn ddarnau a'i guddio yn y closet. Yn foreu Llun diweddaf, cyfarfyddodd dyn ieuanc o'r enw Henry Evan Davies, 23 oed, mab George Davies, Saer maen,- Tredegar, & marwol- aeth hynod o ddychrynllyd. Yr oedd yn gweithio fel taniwr ar un 0 beirianau JIudw, (cinder engine), a thra yr oedd shuntio yn myned yn mlaen, aeth y truan cydrhwng dau dram haiarn. Gtfthiwyd ei galon a'i iau i'w enau, a hyny i'r fath raddau fel y gorfuwyd tori darn o'i iau er mwyn cau ei enau, iddo beidio ymddangos mor ddychrynllyd. Cafwyd darnau o'i esgyrn a'i gnawd drachefn o gwmpas. Torwyd un fraich ymaith yn llwyr, a churwyd y pen yn ofnadwy o gnmpas. Dydd Llun, cyhuddid Margaret Anne Davies, merch Thomas Davies, glowr, Llancaiach, o geisio cyflawni hunanladdiad ar linell y Great Western, islaw Llancaiach, ond a rwystrwyd gan Mr. Jones 0 Treharris, yr hwn a frysiodd i'w gwaredu cyn i'r gerbydres ddyfod. Ym- ddengys fod yr eneth wedi rhoddi llawer o boen i'w rhieni, ac iddi ffraeo y diwrnod hwnw gyda'i mam, a bygwth gwneud diwedd arni ei hun. Y mae yn awr ddeuddeg 0 beraonau yn ngharchar New York dan y cyhuddiad o lofruddio—mwy nag a fu erioed o'r blaen am y cyfryw drosedd. Mae pump o honynt yno am lofruddio benywod. Y mae unarddeg yn ngharchar Pittsburgh am yr un pechod, a gan fod llofruddiaeth arall wedi ei chytiawni yn Mhittaburgh nos Sadwrn diweddaf, tebyg y bydd I geaym yn faan gynifer o bobl yn aros eu prawf am lofruddiaethau ag sydd yn ninaa fawr New York.

YSGOLORIAETH BARHAOL I GYMRU…

BWLCHYVAN, LLANIDLOESU

LLITH AMRYWIOL.

OOVYNIAD IEUAN LLEYN.