Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

'"AR BEN CRAIG YR HWCH.

News
Cite
Share

AR BEN CRAIG YR HWCH. MR. GOL. Saif y graig uchod yn mhlwyf Celynin, gerllaw pentref Arthog, mewn He cyfleus i ganfod a chlywed y gwahanol ddygwyddiadau a gymer le yn y pentref a'r gwastadedd gerllaw. Ac yr wyf yn dymuno hyabysu trwy gyfrwng y DYDD, y byddaf yno ar adegau, yn edrych a gwrando p' fodd y bydd pethau yn myned yn mlaen tua godre'r graig. Yr wyf wedi bod yno yn trefnu fy eisteddfa, a chofied y bobl sy Id yn arfer cymeryd meddiant o'r graig ar adeg priodasau, ac felly yn y blaen, at saethu eannons, y bydd yn ihai J iddynt ymadael o'r graig pan fyddo y nos yn casglu ei leni yn nghyd, er Inwyn i mi gael hamdden i wrando ar y gwabanol ddosbarthiadau fydd yn ymgyfarfod a u gilydd yn yr hwyr i drafod gwahaool achosion y dydd blaen- orol. Ac er mwyn cadarnhau fy mod wedi bod ar ben y graig yn edrych y lie fel man am newyddion di a drwg, dyma fi yn rhoddi y pethau a glywais gan rywrai wrth dd'od adref o gyfarfod lleoyddol Abermaw y Nadolig diweddaf, fel prawf o fy mod- olaeth ar y graig. Dyna oedd y pwnc oedd gan- ddynt dan sylw, Mr. Gol., sef fod aelodau y pwyll- gor yn ymgystadlu ar y gwahanol destynau; ac yn wir, yr oeJd rhai o honynt yn defnyddio y wialen yn greulon ar y pwyllgor. Ac yn wir, yr wyf finau a'r graig yma yr un farn a hwy yn hollol ar y pwnc; tro gwael; ie, tro llai na dynion arnynt, fel pwyll- gor, ydyw gwneud y fath beth. Ac yr wyf yn cydweled yn hollol a'r cyfaill kwnwoedd yn dy- 'Wedyd wrth ymddyddan am y peth, os nad oedd ganddynt yn Abermaw neb yn gallu ehedeg yn uwch na.'r cyffredin, am iddynt anfon i Arthog amryw ddynion yn meddu ar alluoedd Annibynol, fel y caffo Y wlad chwareu tegyn y cyfarfod. Wel, gobeithio "-Y cymer yr Abermawiaid hyn at eu hystyriaeth erbyn eu cyfarfod nesaf, ac y ceir diwygiad yn y path. Dim ond hyn y tro yma; ond byddaf yn &arod at yr alwad. Yr eiddoch, &c., UN AB BEN Y GRAIG.

I'R DDALLHUAN.

Advertising

CYMDEITHAS DDADLEUOL BETHANIA,…

EISTEDDFOD ABERMAW, DYDD NADOLIG,…

ADULAM, MERTHTR.

Advertising

ANNIBYNIAETH YN CAEL CAM YN…