Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

AT IAGO LEIAF, CORRIS.

News
Cite
Share

AT IAGO LEIAF, CORRIS. GYFAILL,— Gwelais nodyn o'r eiddoch yn y DYDD am yr wythnos ddiweddaf, wedi ei gyfeirio ataf fi, ac y mae geayf air neu ddau i'w dweyd wrthych, os byddwch mor ostyngerfig a dal sylw arnynt. Dywedwch eich bod wedi ysgrifenu i'r DYDD yn ystoi yr wythnosau diweddaf dan yr enw 'bgo Leiaf,' neu, o'r hyn lleiaf fod yr enw wedi ymddangos yn gy- sylltiedig & rhywbeth; yr wyf yn 'ddarllenwr eyson a manwl' o'r newyddiadur hwn er ei gychwyniad, eithr ni ddisgynold fy Uygaid erioed ar y ffugenw uchod wrth ben na chynffon nac ysgrif nac arall. A ellwch chwi nodi y rhifyn, neu y rhifynau, y gwaaeth ei ymddangosiadP Nid wyf am fod yn ystyfnig, ao Did wyt ychwaith am fod yn rhy wlanenog. Dywedwch fy mod ya ddigywilydd o hyf, 'yn ymddangos odditan fantell Jfugenw un arall;' ond gan na welais y ffugenw yn cael ei ddefnyddio gan arall, 'does bosibl fy mod yn ofn- adwy o hyf a digywilydd, a cbaniatau fy mod yn anwybodus yn y peth hwn. Dywedwch fy mod wedi 'ymddangos ar faes y DYDD yn nghymeriad lleinrgalwedigaeth Heidr ydyw cymerrd o eiddo arall, tra yn gwybod mai arall a'i piau; yr slaf sydd yn ei wneud yn wir leidr, a chan nas gellir dweyd hyny am fy ngwaith i yn defoyddio y ffugenw 'lage Leiaf,' mae y cyhuddiaif yna eto yn syrthio i'r llawr. Dywedwch fod fy anwybodaeth yn d'od i'r golwg 'drwy gyfrwng fy ngofyniadau;' wrth gwrll, onide ni buaswn yn eu gofyn: ond gan mai Ag eraill yr bedd a fyno y gofyniadau, hwyrach y byddwch hynawsed a pheidio dodi eicti bys yn mrywes pobl eraill, a goddefwch i mi ddwyn ar gof i chwithau yr hen ddiareb Gymreig arall, 'Meinded pawb ei fusnes ei hun, Gallasech ddodi yr hyn oeddych am i'r byd ei wybod mewn llai o le nag a gymerasoch; cofiwch mai arwydj o wendid mawr ydyw difrio yr an- wybodus wrth geisio ei oleuo, ac mai gweinidogaeth aneffeithiol iawn ydyw 'pen pastwn' i guro dysg- eidiaeth i ben y diddysg. t:yd nes y byddoch wedi nodi ar ddalenau y DYDD yn mha rifynau o hono yr ymddangosodd y ffugenw a hdnwch yn eiddo i chwi, ni bydd i mi ei ddodi heibio; ond rhag na byddo dyryswcb, gan eich bod chwi wedi gweled ya dda roi ar ddeall i ni, fel darllenwyr, mai yn Nghorris y mae seren mor ddysglaer yn cartrefu, dymunaf finau gael fy adnabod o hyn hyd ddydd fy argy- hoeddiad, pa bryd bynag y daw, wrth yr enw Llanfairbrynmeurig. IAGO LEIAF.

TEGWYN, NAMOR ELLIS, A MAWDDWY…

LLITHIAU FRONDALIAN 0 DEIFI.…

ANNIBYNIAETH YN CAEL CAM YN…