Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
; :Y RHYFEL.
News
Cite
Share
Y RHYFEL. Yrheswm na buasem yn rhoddi orynodeb o hanes y rhyfel Affghanaidd yn ein rhifynau diwedaaf ydoedd, nad oedd ei ddygwyddiad- au yn gyfryw ag a fuasent yn cynyrcbu dydd. Ordeb a chwilfrydedd yn; y darllenydd, gan fcad oedd dim o hwys yn cymeryd lie yn ei Sysylltiad ag ef y, naill wythnos ar ol y llall. Wedi i'r newydd gyrhaedd fod Shere Ali wedi I dianc i'r gwersyll Rwssiaidd, a Yakeob Khan Wedi esgyn i'r orsedd yn ei Ie, daelh fel rhyw &rweidd-dra dros y cyfan, yn gymhwys fel pe buasdi clefyd masnachol y wlad hon wedi gweithio ei ffordd draw i gilfachau a mynydd- au tiriogaeth Affghan-dim gwaith i'r milwyr, [ gan nad oedd yr un gelyn i ymladd yn ei erbyn. Ond erbyn hyn, y mae pethau yn dechreu gwisgo agwedd fwy bywiog; mae'r gelyn wedi dyfod i'r golwg, mae wedi dyfod i wrthdarawiad a dur-filwyr Prydain, ac, mewn canlyniad, mae gwaed wedi cael ei dywallt. Ar y 7fed cynfisol, wrth ganfod y gelyn wedi ymgasglu yn lluosocach na'r cyffredin, ym- osododd y Cadfridog Roberts arno gyda thair adran, a dybenodd y frwydr mewn buddug- oliaeth ardderchog iddo. Gwnael hafog dychiynllyd ar rengau y gelyn, a gorchfyg- wyd ef yn llwyr. Gwnaeth y meirch-filwvr Prydeinig orchestion mawr. Lladdwyd dros 300 o'r Affghaniaid, a chymerwyd dros 100 vn garcharorion. Pellebyr diweddarach a ddywed fod byddin y Cadfridog Stewart wedi cymeryd meddiant o Candahar, un o brif ddinasoedd Aflfghanistan, yn ddiwrthwyneb- iad. Meitbrinir gobaith mewn rhai -cylch- oedd swyddogol, y llwyddir i ddwyn y rhyfel gwastraffus hwn i derfyniad buan. Gwawried y dydd yn fuan.
FFRWYDRIAD ARALL MEWN GWAITH…
News
Cite
Share
FFRWYDRIAD ARALL MEWN GWAITH GLO YN Y DEHEUDIR. 60 WEDI EU CLADDU. Pellebra gohebydd o Gaerdydd,—'Cymer- odd ffrwydriad le neithiwr (nos Lun) yn ngwaith glo y Dinas, Dyffryn Rhondda, tra yr oedd y gweithwyr am y nos eto yn y pwll. Nid yw yn wybyddus eto pa faint o fywydau a gollwyd, ond bernir fod dros baner cant yn y pwll. Pellebyr diweddarach a ddywed,—'Cymer- odd y ffrwydriad yn ngwaith glo. y Mri. Coffin a'u Cwmni yn Pandy Rhondda le tua 10-30 neithiwr, ac yr oedd ei ffyrnigrwydd y fath, fel mai gobaith gwan a goleddir y llwydd- ir i achub y 58 sydd eto yn y pwll. Mae amryw wedi ceisio myned i mewn i'r pwll, ond gyrwyd hwy yn ol gan yr awyr anmhur. Dywedir fod nifeif y marwolaethau yn 60. Bu y pwll yn gweithio am ddeng mlynedd.
DOLGELLAU.
News
Cite
Share
DOLGELLAU. Caled y mae yr hin yn dal yma, fel pob man arall debyg gen i, y gwynt yn- "Brathu lie nad oes brethyn" yn fwy milain heddyw na'r un diwrnod eto eleni. Y flwyddyn newydd wedi dyfod i'n mysg yn ei gorchudd gwyn, ac awel lem o'r dwyrain yn rhewi pobpeth. Ond y gwynt 19 heddyw wedigsymud i!gyfeiriad y Cerist; y gwynt yma effeithiodd gymaint ar y ffermwr hwnw, nea iddo waeddi allan mewn anobaith- Gwynt caled y Cerist A laddodd fy nefaid i gyd! Gobeithio nad oes fawr o ddefaid o gwmpas Dolgellau yn cyfarfod &'r un amgylchiad, onide ni fydd defaid i'w cael, ac os na fydd defaid ni bydd cigyddion, ac os na fydd cigyddion fydd dim Iladd-dy, ac os na fydd lladd-dy, fydd dim Bwrdd LIeol! Gofaled y gwynt o ganlyniad, onide bydd canlyniadau dybryd yn dilyn. Cofied hefyd fod bodolaeth yr awdurdedau goruchel, (pleidwyr y LIadd-dy), yn dibynu ar ei ymddygiadau y dyddiau hyn. Oafwyd diwrnod ardderchog i gynal Eistedd- fod eleni, mewn hin a chynulliad y diwrnod fel un o ddiwrnodau siriol gwaawyn. Gresyn oedd i'r Corau mawr dyeithr golli y wobr, a cholli y tren hefyd. Garw oedd eu gweled yn cerdded heolydd ein tref, heb Ie i roi eu pen i lawr 'ar Special Trains o Dowyn i Abergynolwyn ac i'r Camaes Road a'r Dinas-yn gorfod myned yn ol heb ddim ond y gyrwr ar guard yn mhob un o honynt, tyrfa fawr yn Station Abergynelwyn yn dysgwyl y c6r adref ^yn fuddugoliaethwyr, ond fei siomwyd yn aruthrol. Dim o hancs y cor! Yna aed ifetio beth oedd yr achos iddynt golli y tren. Rhai a ddalient eu bod wedi enill y wobr a'u bod wedi penderfynu ei gwario CY. syflyd o Dolgellau, eraill drachefn a ddywedent eu bod wedi colli a'u bod wedi myned i ymladd a'r cor buddugol o herwydd eu bod wedi cael cam (?) a bod arnynt eisieu golchi eu gwyneb- au rhag i neb weled y cripiadau a'r llygaid duon oedd ganddynt, 3 to 1 oedd dros y syniad cyntaf a 10 to 1 oedd dres yr olaf, o ganlyniad y parti olaf enillodd. Lluaws drachefn yn ngorsaf Cemaea yn dysgwyl y cor yn ol yn fuddugoliaeth- us, ond ni ddaeth y cor na'r fuddugoliaeth chwaith, a mawr oedd y dyfalu be ddaeth o'r cor druan. Gobeithio y gofala y pwyllgor erbyn y tro nesaf am roddi y brif gyatadleuaeth gorawl naill ai yn y boreu neu un o'r pethau cyntaf y prydnawn. Clywsom fod y corau dyeithr wedi digio wrth Pwyllgor yr Eisteddfod, y dref, a phobpeth perthynol iddi, nid oedd neb i'w feio o gwbl am yr amgylchiad cas, o ganlyn- iad dylai y brodyr dyeithr faddeu am y tro, a phenderfynu enill y fuddugoliaeth y tro nesaf. Yn wir buom yn synu llawer na fuasai y cdrau dyeithr yn dweyd na waasnt gystadlu o gwbl, o herwydd cor yr Eisteddfod bron i gyd oedd yn cyfansoddi y cor buddugol, end ei fod dan arweinydd arall, a theg & brodyr dyeithr yw cyheeddi hyny, a bod hyny yn drosedd ar un o reolau y Pwyllgor. Yr oedd yn gam dybryd a'r corau eraill. Gobeithio na ddygwydd hyn eto. Clywsom, ar sail dda, fod yr Eisteddfod mewn ystyr arianol, above board fel y dywedir. Oarem ofyn yn garedig i'r Pwyllgor, Paham na newid- id y doniau bellaeh1 Dyna y cantwr ardderchog nad ydym wedi ei glywed er's llawer blwyddyn, -Mr Sauvage. Paham na cheir ef yma un- waith i'n Eisteddfod? Gobeithio na chymer y Pwyllgor ei droi gan deimlad personol, ond y gofala am foddio y cyhoedd ychydig bach, ac eraill heblaw ef y gallem eu henwi. Yr ydym yn credu fod y cyfnewidiad yn arweinwyr yr Eisteddfod yn gam yn yr iawn gyfeiriad; ac yr ydym yn llongyfarch y doniol Trevor am ei athrylith arweinyddol, a dy w edwn wrtho, ar ein cyfrifoldeb einhuo, Jy caiff fod eto. Nid oedd Serjeant druan mewn hwyl eleni; gobeithio y coda ychydig ar ei galon erbyn y tro nesaf, oherwydd gwna arweinydd iawn ond iddo dd'od a'i dalent allan, yr hon sydd yn orlawn o wit a humor. Y mae arferiad digrifol iawn yn codi yn Nelgellau, dyna yw, merchwd ieuaine yn myned i gnocio ffenestri eu cariadau rywbryd rhwng unardrteg a haner nos. Gobeithio y gofala y llanciau am fod ar eu traad, neu ynte ddweyd wrth y merched ieuainc am aros gartref hyd nes y deuant hwy yno i gnocio Os dygwy id yr un peth eto, cyhoeddir yr enwau yn wyneb haul a llygad goleuni. Arferiad ffol arall sydd ar gynydd yn eia tref yw. curo wrth ddrysau pobl barchus a diniwaid gan haid o fechgyn a merched haner anwaraidd. Os na pheidiant A'u chwareu gwirionffol, cyhoeddwn eu henwau yn ngoleu DYDD. Da genym ddeall fod gwaith Tynycoed, Arthog, heb ei lwyr adael. Clywsom, ar awdurdod uchel, fod pob un sydd yn byw yn Arthog i gael myned i weithio etoarostyngiad. Gobeithio ydaw y gwaith eto mor llewyrchus ag yr oedd o'r blaen. Y Calcdi.—Y mae ffeithiau newyddion yn dyfod i'n sylw bob dydd sydd yn profi yn amlwg iawn, fod tlodi yn fwy dwfn a chyftredinol yn ein tref nag y dycbymygodd neb; ond pa le y ime y barayr wythnos hon? Yn awr yw yr amseri'w r<.nu, ooide bydd yn rhy ddiweddar i lawer mae'n ofnus. Dygir ffeithiau galarus am farwolaethau, ae yr ofoir yn fawr eu bod wedi eu dwya oddiamgylch gan eisieu ymborth a |diffyg dillad cyfaddas, &c., i gyfarfod a'r oerfel. Gobeithio y gwna ein mawr- ion fel Job gynt, 'Y cwyn ni wyddwn, a chwiliwa allan.' Claddu.-Y mae yr arferiad o osod croesau ar eirch yn adfywio yn ein tref. Rhaid oedd i rywrai nid yn unig osod croes ar yr arch, ond myned i eith- afion i gario croes yn eu dwylaw wrth ddilyn y corff tua'r gladdfa yr wythnos hon. Yr ydym yn synu fod dyriion cytrifol yn rhoddi eu gwyneb gyda'r fath arferiad babanllyd.
[No title]
News
Cite
Share
'A fedri di ddweyd wrthyf beth oedd gwaith yr archoffeiriad dan yr hen oruchwyliaethr ebai athraw wrth un o'i ysgolheigien, bachgen hynod o arwynebol yr olwg arno. Synodd dipyn wrth glywed gofyniad mor syml, a dy. wedodd gyda gradd o ddiystyrwch yn ei lais, 0 'Oad gwneud eirch, yn siwrl'
Y GWYLIEDIDD, BETH AM Y NOS?
News
Cite
Share
mae genym bob ymddiried yn ei air, fod yn 1 anmhosibl iddi beidio bod yn nos tra y mae ( ein llywodraeth yn ymyryd yn ormodol A- amgylchiadau gwledydd eraill, pan y maent, drwy eu gweithredoedd dirgelaidd, tu cefn i'r trlgolion, yn darostwng ein gwlad yn ngolwg teyrnasoedd y byd. Y mae eu hawydd angerddol am ryfel er pan y maent mewn awdurdod, yn parlysu pob masnach yn ein gwlad. Y mae drwgdeimlad ein llyw- odraeth tuag at rai o deyrnasoedd Ewrop yn gwaiiychu llwyddiant masnachol ein gwlad. Fe gafwyd heddwch gydag an. rhydedd, mae'n wir, ond fe aeth heddwch ac anrhydedd i rywle o'r wlad hon, beth bymg, ac ni ddaw yn ol nes y caifl y Prifweinidog ei symud oddiwrth lywein gwlad. Os daeth heddwch ac anrhydedd i'n gwlad, y mae wedi ymadael orldiyma yn fuan iawn. Cawn ein llywodraeth yn gwthio trwy drais ryfel di- achos ar deyrnas haner barbaraidd. Y mae y wlad yma yn anrhydeddus iawn yn eu golwg, onid ydyw!! Gellid dysgwyl i deyrnas Gristionogol. fel Prydain achub cam y cyfryw, gan eu bod yu meddwl eu hunain yn amddiffynwyr y rhai a gânt eugormesu; ond yn lie hyny, dyma ein llywodraeth ni yn I cymeryd lie y gormesydd, ac yn ymosod arl drueiniaid yn hollol ddiaches. Anrhydedd Prydain pa le yr wyt? Ai tybed dy fod wedi symad oddiyma i drigo rhwng mynyddoedd oerion Affghanistan!. Byddai yn betn digon Jfhesymol, feddyliwn, i anfon Beaconsfield yno. i edrych a ddeuai a heddwch, yn nghydag anrhydedd, fel ag y daeth (?) a hwynt o Berlin. Y gwasanaath goreu a wneid i heddwch ac anrhydedd ein gwlad, fyddai ei osod yn n6d i ddianrhydedd rhai o Iwythau mynyddig, a gadael iddynt dynu hyny o heddwch ac anrhydedd sydd yn pres- 'yIlo yn ei gorpws luddewig, gan fod cy- toaaint o'r cyfryw rasusau yn drysoredig yaddo (1) os credir ei bleidwyr cibddall Ceir yr un teimladau gan wyliedyddion < eraiU, ond er bod mewn geiriau gwahanol, gwyliedydd iawn yw Mr. Forster, a Mr. Osborne Morgan yn gwylied dros Gymru, ac lin ardderchog ydyw. Dyna Arglwydd j Derby, drachefn, gwyliwr iawn ydyw yntau; dywed ef fod argoel y dnv boreu eto ar ol y llQS dywyll. Y mae yr etholiadau diweddaryn dangos pa fodd y mae y gwynt politicaidd yn 00 chwythu, ac hwyrach mai hyny oedd ganddo Eaewn golwg. Brysied y boreu dedwydd pan y bydd y nos wedi darfod, ac y bydd Rhydd- ftydwyr (pobl y dydd) wrth awenau y ■ wodraetb, a Gladstone, brenin y dydd, yn ben arnynt. Teimlad y gwyliedyddion yw, 7 daw yn ddydd yn bur fuan, yn ddydd ar gweithydd glo, chwarelydd, ariandai, a Ml ganghenau masnach ein gwlad, yn ddydd i'r gWiithiwr druan, yu ddydd i bawb yn ein gwIad. Gobeithi wn y tyr y wawr ylll wyddyn laon, ac na phery y nos ya hir iawn eto. tie 111 • '¡ "4