Hide Articles List

8 articles on this Page

CAERNARFON.

News
Cite
Share

CAERNARFON. Cymdeithtis Lenyddol Salem.-Nos Iau diweddaf, cynaliwyd cyfarfod adloniadol a chystadleuol, mewn cysylltiad A'r gymdeithas uchod yn yr ystafell o dan yr addoldy, tan lywyddiaeth y Parch E. Herber Evans-Itywydd y gymdeithas. Wedi cael araeth ganddo ef, galwyd ar y beirdd i anerch; un bardd a ddaeth yn mlaen, sef Mr R. Hughes, Shirehall St. Yn nesaf, caed can, 'Y Bwthyn Bach To Gwellt,' gan un o'r aelodau. Adroddiadau barddonol gan Mri R. Men Williams, D. Rhaiadr Davies, a Robert Hughes, ydoedd y peth nesaf. Diiynwyd hyn a eMn, 'ST Baban diwrnod oed,' gan aelod o'r gym- deithas. Yna, cystadleuaeth ar areithio difyfyr; testun, y G'ust a'r Llygad; goreu, Mr. W. G. Thomas, North Road; ail, Mr D. R. Davies. Yn nesai, caed can, 'Gwroniaid Gwlad y GAo,' gan Mr Evan Williams, o swyddfa'r Genedl Gymreig, yn ddaiawn. Diiynwyd efgydag adroddiad barddonol, 'Bod yn ormod cyn bod yn ddigon,' gan Eiflonydd. Yn nesaf, cafwyd beirniadaeth Eifionydd ar y tri phenill wyth llinell goreu i addoldy adgyweiriedig Salem. Daeth unarddeg o gyfansoddiadau i law; goreu, Mr D. Rhaiadr Davies, swyddfa'r Herald Cymraeg; gwobr, llyfr gwerth pedwar swllt. Rhodd- odd y llywydd 2s. i'r ail oreu, sef Mr Robart Wil- liams, London Hoase. Addawodd Mr Evans y byddai ef yn gyfrifol am werth deg swllt o lyfrau yn wobrwyon erbyn y cyfarfod nesaf a gynelir yn Mawrth. Dygwyd y cyfarfod dyddorol hwn i der- fyniad trwy ganu emyn a gweddi. Ail agoriad Sal,m. -Ar y dyddiaa Sul a Llun olaf yn Rhagfyr, cynaliwyd eyfarfodydd progethu yn ngltn åg ail agoriad y capel uchod. Gwa°anaethai y Parchn. D. Roberts, Wrexham; W. Nicholson, Liverpool; Job Miles, Aberystwyth, ac 0. R. Owen, Glandwr, ar yr achlysur. Cafwyd cyfarfodydd bendithiol, \c amlygiad helaeth o bresenoldeb yr Arglwydd yn y lie. Bydded i'r had da a hauwyd gael dyfnder daear. Pan agorwyd y capel gyntaf yn 1862, yr oedd dyled o dros XSOOO ar garedigion yr achos yn y lie. Y pryd byny, yr oedd Mr John Hughes, Watchmaker, Pool-street, enw yr hwn a fynwesir gan luaws o weinidogion Cymru hyd y dydd hwn, yn un o'r colofnau cadarnaf i'r achos yn y He. John Evans, Chandler, dyn oedd yntau yn llawn o weithgarwch crefyddol; a bu yn weitbiwr da i lesu Grist yn y tie. Ni raid dweyd,pe gallasem, faint llafur y honeddigion hyn gyda'r achos; ond tra buont yma, dilynwyd eu llafur a llwyddiant amlwg. Maent erbyn heddyw yn mwynhau eu gwobr yn y nefoedd. Am ffynyddau drachefo, bu Griffith Pritchard, Canwyllwr, yn ddyn da, gweithgar, a gofalus am flynyddau, a William Barma, yntau wasanaethodd ei Arglwydd yn ffyddlawn ar hyd ei oes. Maent hwythau wedi eu symud ymaith, a'r arch wedi ei gosod ar ysgwyddau eraill, trwy ym- drech y rhai ymadawedig uchod. Parch i gofFadwr- iaeth yr egtwys. ac yn enwedig ygweinidog Ilafur- us, Mr Evans, llwyddwyd idalu yr oil »'r ddyled, a chafwyi cyfarfod juwbili. tua dwy flynedd yn ol. Gan na wnaed dim i'r capel er dydd ei agoriad, yr oedd, o angenrheidrwydd. yn edrych yn salw ac yn aunheilwng o'r eelwys a'f gweinidog. Penderfyn- tryd yn unfrydol i roddi ihyw 700 o goat arno i'w adgyweirio yn drwyadl. Gwnaed ynddo amryw gyfnewldiadau, megys esgynlawr hardd yn 119 y pulpud blaenorol. Tynwyd ymaith yr hen oleuadau, a rhai eraill heirdd a drudfawr ya ei lie, cafodd y rhanau mewaol a<5 allanol tyned dan oruchwyliaeth y brwsh paent, &e. Cafwyd harmonium newydd gwerth £ 200 ya rhodd i'r eglwys, gan Mr Evan Williams, Swyddfi'r Genedl, harmonydd presenol y capel. Rkoddodd boneddigesau y capel garpedau ar yr areithfa a'r set fawr; a'r gwyr ieuainc a ddyg- asant eu hanrhegion, sef Beiblaa costfawr, un Saes- onaeg ac un Cymraeg, yn nghvda Llyfr Emynau Stephen a Jones. Cafwyd yn' rhodd gan Mr Robert Williams, cyhoeddwr y Genedl Gymreig, 60 o lyfrau emynau at wasanaeth dyeitbriad—dyna'r oil am wyf yn gofio. Mae y capel Ý 0 awr yn brydferth- wch byw, yn gysurus i wraniaw ynddo, ac yn hollol hylaw i leraru. Casglwyd ar ddydd ei agor- iad y swm o £142, a daeth jES arall i law un o'r nosweithiau canlynol. Mae yr eglwys, o ran ei ohyflwr ysbrydol, yn hynod galonogol.. Ds'byn- iwyd 17 i'r cymundeb y Sabbath cynaf y daeth yr eglwys yn ol i'r capel, ac mae y saint yn cael eu hadeiladu a'u maethu a gwirioneddau pur a syml yr efengyl, trwy weinidogaeth ein hanwyl fugail. Bydded nawdd Duw drosto ef a'i bobl, fel y byddoat yn ddychryn i annuwioldeb y dref. Yr wythnos weddio.-Mae Annibynwyr y dref hon wedi arfer gweithredu yn unol â,1 awgrymiad y cynghrair efengylaidd, trwy dreulio yr wythnos gyntaf yn y flwyddyn yn wythnos weddio; felly eleni, eynelid y cyfarfodydd bob nos trwy yr wythnos, yn Salem a Phendref bob yn ail. Wedi yr holl weddio, tybed nad ellir dysgwyl bendith; dyna yw'n dymaniad. Penny Readings.- Y n neuadd y dref, nos Iau di- weddaf, cynaliwyd math o 'Penny Readings,' neu gyngherdd. Llywyddai Maer y dref ar yr achlysur. Gwasanaethid gan Miss Williams (Eos Eryri), Mri J. LI. Williams, J. H. Hope, W. W. Thomas, a W. Chenery, Post Office; Mr W. Hayden ya gyfeilyddf Elai yr elw i dlodion y dref. Teneu ydoedd y cy- nulliad; ond cafwyd cyfarfod da. Soup Kitchen.— Yn ngwyneb y tlodi a'r angen sydd yn bodoli yn mhlith lluaws o drigolion y dref hon yn herwydd marweiid dra masnach, a'r tywydd oer, mae nifer o foneddigion wedi agor Oegin-Grawl er darparu ar gyfer yr angen; gellir prynu bara am haner y pris, a rhoddir cawl yo rhad i'r rhai gwir anghenus. Mae hwn yn gaffaeliad daionus iawn, a dylai y beneddigion a gymerasaut y cyfrifoldeb o'i ddygiad yn mlaen, gael cydweithrediad pob dyn- garwr yn y dref. Taled yr Arglwydd iddynt.— Glan Sbiont.

PORTHMADOG.

ABERMAW.

^ATDDONTAETFI.

Y TODDAID BUDDUGOL

[No title]

Advertising

LERPWL.