Hide Articles List

2 articles on this Page

- MAB YR ARLUNYDD.

News
Cite
Share

MAB YR ARLUNYDD. Period II. 'A'R BACHGEN A GYNYDDODD.' Yr oedd y boneddwr a ymgymerasai A gefal yr arian a g&sglesid i Henry, yn parhau i deimlo dyddordeb ynddo. Yr eedd yn adnabed ei dad yn dda. yn moreuddy-dd ei fywyd, a gwers anhawdd iddo ydoedd ceisio rhoi esboniad ar y paham a'r pa fedd y terwyd y cysylitied a ymddangosai oedd mor agos rbyngddynt. Fel brawd o'r un alwed- igaetb, parhaodd yngyfaill ac yn gydymaith iddo hyd nes y dygodd ei afiechyd ef « wyddfod y cyhoedd; ond teimlai y ddati nad oedd dim byd bellach yn gyffredin rbyng- ddynt, ac oblegid hyny, ni chynyddai en cyfeillgarwch. Proffesai Andrew Raven ddal tgolygiadan rhydd,' fel y galwai hwynt, mewn crefydd; yn fyr, galwai ei hunan yn ryddfeddyliwr; ac nis gall dau gydrodio heb eu bod yn cyd-dynu. Ceisiasai Walter fwy nag unwaith, yn dyner a doetb, bledio dros y gwirionedd, ond yn ofer; am byny, er ei fod yn parhau i ddal hoffder personol mawr tuag at Andrew, ac yn ei gyflwyno yn ami i Dad yr ygbrydoedd, gadawodd ei gwmni fel cyfaill a cbydymaith. Ba Nanny Brown 'yn troi y peth yn ei meddw! fel ag y dywedai, am rai wythaos- an, sef ei bod yn hen bryd i ofyn am help i anfon Henry i'r ysgol. Yr oedd wedi pasio y chwecbed flwydd o'i oedran, wedi llyncu er ys talon ei boll ddysgeidiaeth hi, ac er ei fod yn blentyn anwyl a sercbus fel rheol, yr oedd ya decbren myned yn afreolus, trwy ei fed yn cael ei adael gymaint iddo ei hun pan y byddai ei wyliedyddes yn brysur yn gweithio. Pa le i fyn'd oedd yn gwestiwn a'i dyrysai i raddao, end yn ffodus symudwyd ei phryderon i gyd gan ddyfodiad Mr. Raven— yr hwn a adgofiwyd am y bacbgen amddifad gan ddarlun o hono, a baeritiwyd gan Walter pan oeddynt yn gyfeillion mawr. 'Wei, Mrp. Browni Sut mae'r bacbgenl Ai dyma fel Mae wedi tyfo! Mae'n bryd meddwl am ysgol iddo.' Arwyddedd Nanny ei chydsyniad yn bur ddigaaisyniol, a chrybwyllodd am ysgol ddyddiol oedd yn agos, i as o ba un y gallai fyned heb ofni y byddai iddo ymgymyegu yn ormodol i'r becbgyn. 'Pa'm na ddylai ef gael ymgymysgu A bechgyn eraillf ebai Mr. Raven; "does arnoch chwi ddim eisieu gwneud merch fach o bono, mae'n sicr genyf!' 'Nac oes, syr,' meddai Nanny, yn berffaith ddiofn; 'end 'does arna' i ddim eisieu iddo fyned gyda becbgyn drwg.' 'Becbgyn drwg!' oedd vr atebiad; Inonsens! mae bechgyn i gyd yt un fath.' 'Wel, ya wir,' ebai Nanny, 'mae ganddynt galonau cyffely b, mi wn byny, ond po waethaf y byddon' nbw, g^aetha' i gyd ydyw iddyn' nhw hel at eu gilydd. Pa feddyliau drwg bynag all fod ganddo, nid yw wedi dysgu dim geiriau drwg eto, ac y mae'n biti iddo eu dysga uhw." 'Beth y'ch ch'i am wnead hon.1' gofynai Mr. Raven dan chwertbin. 'Mi wnaf fy ngoreo,' atebai hithau mewn moment, *i'w waeud yn union fel ei dad.' 'Yr oedd gan ei dad rai mympwywn go ryfedd yn ei ben,' ebai Mr. Rayen, yn ddystaw; 'er ei fod yn ben fachgen iawn ar y cyfan, ao yn hur glyfar.' 'Yr wyf yn gobeitbio y gwelaf y dydd,' ebai Nanny, yr hou oedd yn ddigon clust- deneu i glywed y sylw hwn, 'pryd y bydd Henry yn meddu yr on mywpwyon, a'r na mor dda; ts caiff fy", 'rwy'n siwr y bydd mor glyfar a'i dad;' a cban gymeryd allan o foes bychan rai o'i ymgeisiadau darluniadol, a wneid ganddo, hyd yn nod mor gynar a hyny, gyda chryn dalent a rhwyddineb, dfchreoodd udganu ei glod gyda llithrig- rwydd anarferol. 'Ië-felly,' dywedai Mr. Raven, yr hwn a ddifyrid yn fawr gyda'r darlaniau. "Does dim amheuaeth nad yw y plentyn yn etifeddu talent ei dad, ond rhaid i ni beidio a'i wneud yn baentiwr, Mrs. Brown; gwell fyddai iddo iod yn saer coed, neu ddysgu teilwra. Gall chwibanu aberie yr boll fyd os medr weitbio yn dda mewn galwedigaethau felly; gwell iddo fod yn labrwr nag yn arlunydd tlawd, Uwyd-wisg, haner-newynog, a chlafed- ig, yn cael ei wasgu i lawr yn is nag ef ei hun.' Ni atebodd Nanny; nid oedd ei ragolygon dyfodol yn pwyso cymaint ar ei meddwl bi ag oedd ei amgylchiadau presenol, ac es gallai gael caniatad i'w anfon i'r ysgol a grykwyllodd, yr oedd yn eitbaf parod i adael y pwynt arall hyd ryw <?ro eto. Yr oedd ganddi resymau eraill dros yr ysgol hon heblaw y rhai a adroddodd; cedwid hi gan wraig dduwiol, yr bon a osodai egwyddorion crefyddol yn sylfaen ei haddysg, ac eto, erei bod yn gareiig, cadwai ei dysgyblion dan rwymau moesol manwl a chaeth. Cydsyniodd Mr. Raven i'w dymuniad; ystyriai ef fed peb ysgol yn iebyg i'w gilydd, &'i fod wedi gwneud ei ddyledswydd drwy awgrymn y dylai Henry fyn'd i un o ryw fath; a gadawodd orchymyn ysgrifen- edig i'r yggolfeistres am iddi ddisgyn arno ef am y til. 'Gadewch i mi wybod yn achlysurol, Mrs. Brown, pa sot y bydd y plentyn yn myned yn ei flaen,' meddai, gan dynu ei law drwy ei wallt modrwyog. Gwyliai Nanny a llygad barcutan yr byn a elwid gan yr ysgolfeistres yn 'idadblygiad ei feddwl.' Beth a feddyliai hyny, ni wyddai yn iawn, ond casglai fod a fyno rywbeth a diwylliant. Nid oedd ilawenydd Syr Henry Rawlin- son, pan y gwnaeth ei ddarganfyddiad yn mbalssau Ninefeb, yn fwy na Ilawenydd Nanny Brown pan welodd gopi ysgrifenu cyntaf ei mabwysiedig fab. Y fath gynffon- au birion! y fath lytbyrenau braf! ni fedrai bron goelio ei synwyrau mai ei ddwylaw bychain ef a wnaeth y fath waitb. Yr oedd ei lyfr ffigyrau, yn cynwys colofnau anferth o chwecbaa, seithau, ac wythau, gyda llinellau prydferth wedi eu gwneud 11 inc cocb, a darlunian o eleirch a mwnciod yn dirwyn y cwbl i fyny, yn ei synu yn deg. A'i glywed yn dysgu ei werei y nos! ac yn eu hadrodd, i'w perffeitbio erbyny dydd caalynol! Gwersi birion mewn daearyddiaeth — yn cynwys enwau mor gelyd fel yr oedd y tuhwnt i'w bamgyffred hi i wybod sut yr oedd ei geg feahan yn medru eu dweyd mor gynted—ni chymerai ami ddatgan ei barn o berthynas i'w berfieithrwydd yn y pethau hyn, er ei bod yn myned drwy y ffurf e ddal y llytr. Und pan y decbreuai adrodd ei adnodau yn yr hen Lyfr, teimlai yn gartrefol, ac yn ami eaboniai mewn oaodd difrifol y rhai yr oedd yn fwyaf byddyeg ynddynt, gan ddweyd wrtbo pa fedd yr oeddynt wedi bed yn gysur i'w dad, ac yn golofa o dao a chwmwloniwl iddi bithau. Galwai ar Mr. Raven yn achlyaurol, gan gymeryd copi neu rywbeth arall yn ei llaw y troion cyntaf, ond gwelai ei fod yo rhy ddwfn mewn pethau eraill i dalu yr hyn a ystyriai hi yn sylw priodol i'r pwnc, a phenderfynodd na chymerai bethau y plentyn i gael 'eu haner- diystyru,' ys dywedai, mwyacb.

Sefgtriiafcau iBgltogsig.…