Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

IY CYNWYSIAD. f

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Mae cryn fyd bob amser yn ngbylch iechyd Arglwydd Beaconsfield. Pan y gosododd ei ymddiswyddiad yn Dwylaw y Frenhines dro yn ol, ymranodd y wasg yn ddwy farn ar ei achos—un a ddywedai yn bur galonogol y byddai yn fuan yn ei fedd; haerai y llall fod ei achos cystal ag y bu erioed dan y fath waith, ac mai y tebygolrwydd ydoedd, y eawsai weled y tu draw i ddechreuad yr ugeinfed ganrif. Yr oedd y frwydr mor boeth, fel y ba gormod i'r anrhydeddus foneddwr ei hun ddyfod i dawelu y pleidiau, a dywedodd yn onest nad oedd ei gyfansodd- iad mor gryf ag y mynai un blaid i'r byd gredu ei fod. Yr wythnos ddiweddaf, cafodd y gout eilwaith, ond nid oedd yr ymosodiad yn bwysig, gan na alwyd yt un meddyg i mewn. Eithr bu ei iechyd eto yn achlysur cryn lawer o ymddadleu. Taerai y newyddiadur- on Ceidwadol ei fod cynddrwg, fel yr ofnid y byddai y swydd o BrifWeinidog yn wag yn tuan; ond mynsi y papyrau Rhyddfrydol i'r gwrthwyneb, ei fod yn myned yn ieuangach bob dydd yn lie yn hynach. O'r diwedd, tawelwyd y ddwy ochr gan y newydd cysur- lawn fod yr larll poblogaidd wedi cael ym- wared llwyr oddiwrth yr hyn a'i blinai. Rhyfedd, onide, fod y ddau hen rivals wedi cael eu taro i lawr yr un adeg. Maent am y naenoriaethhyd yn nod mewn cystudd. Os cafodd larll Beaconsfield flwch. aur, cafodd Mr. Gladstone fwyell arian. Os ymaflodd y gout yn yr Iarll, gwnaeth yr anwyd yr un caredigrwydd a'i wrthwynebydd.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]