Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

BLWYDDYN NEWYDD DDA I'R 'DYDD.'

;P-ji. EISIEU GWYBOD.:

News
Cite
Share

P-j i. EISIEU GWYBOD. MR. GOL. Yn gymaint a bod rhyw gymeriad adnabyddus, yr hwn a ddymunai gael ei adnabod fel un anwybodus, wedi ymgymeryd mewn Haw ftg ysgrifenu ychydig linellau dan y ponawd uchod, a hyny i'ch newydd- iadur clodwiw tam Rhagfyr 29ain; yn y lIe cyntaf, dymunaf alw sylwy cyhoedd ato, fel un a ymddang- osodd ar faes y DYDD y tro hwn yn nghymeriad lleidr, neu ddyn wedi ymwisgo mewn croen dafad, ond oddimewn blaidd rheibus. Ffordd hollol ang- hymhwys yn wir i ddenu neb allan i'r maes i oleuo yr anwybodus, druan, trwy ateb y gofyniadau celfydd- ydol a ofynwyd ganddo. Gan hyny, pwy bynag a ddarllena y llythyr hwn, caiff weled yn eglur fod anwybodaeth yr anwybodus crybwylledig, wedi ymddangoa i'r cyhoeid mewn dwy ffordd; yn gyntaf, trwy gyfrwng ei ofyniadau; ac yn ail, trwy gyfrwng ei hyfdra digywilydd yn ymddangos oddi- tan fantell ffugenw un arall. Yn awr, os bu yr an- wybodus hwn yn ddarllenwr manwl a chyson o'r DYDD am yr wythnosau diweddaf, rhaid ei fod wedi gweled y ffugenw, ac os gwelodd ef, ac iddo ar ol hyny gymeryd mantais arno i'w osod odditan ei ysgrif anwybodus ei hun, y casgliad, gan hyny, yw, am i'r eyhoedd gredu mai Iago Leiaf oedd yn anwybodus, ac nid efe. Pwy ond dynion o'r fath yna Sydit yn berffaith deilwng o'r enw Phariseaid huoangyfiawn; mewn gwirionedd, dylid ar bob cvfrif eu halltudio o'r byd newyddiadurol, a goreu po gyntaf. Drachefn, os dywed yr anwybodus hwn na welodd efe erioed y ffugenw, yr hyn sydd yn amheus genyf, dyiasai fod yn fwy goehelgar, a darllen ychwaneg. Pe buasai wedi gwneuthur hyny, ni buasai yn cael ei gyhoeddi yn ffugiwr enw neb. Gan hyny, cynghorwn anwybodus, mewn dull caredig a maddeugar, i gadw mewn cof o hyq allan, yr hen ddiareb Gymreig hop, "Agor dy lygaid cyn agor dy geg," a ebofiel fod ffugio enwau wfedi arwain lIa wer, eyn hyn, iafaely profedigaetjiau llymaf, A chan fy mod wedi dethel y ffugenw a nodwyd pan nad oeddwn ond pedair ar ddeg oed, ae wedi arfer anfon ysgrifau byrion, yn awr ae eilwaith, i newyddiaduron a chyhoeddiadau misol, felly, cymhellwyd fi gan y cyfeillion sydd :yn gwybo i hyny, i anfoa gair o amddiffyniad i'r fftig- enw a etholais o flaen neb arall, yn y byd Cymrieig yr amser presenol, beth bynag. Ac nid yn unig hyny, eithr hefyd i argraffu ar feddwl darllenwyr lluosog y DTDD, mai nid mjfi, y gwir Iago Leiaf, a amcanodd ddyrchafu ei hun yn y wedd a nedwytjl, i fod yn inspector holiadol y DYDD am yr wythnos a enwyd. Corris. IAGO LEIAF. Yr oedd y Cadfridog Grant, diweddar Arlywydd I. yr America, yn Dublin ar y 3ydd cyflsol.

YMWELIAD A CHAERLLEON.

CORWEN.

Advertising

----BRYNCRUG.

LIXWM, GER TREFFYNON. ;

_________:''^ 'I* 01 ■ -_…