Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

PORTHMADOG.,

-I ., J NADOLIG YN MAWDDWY.…

News
Cite
Share

-I J NADOLIG YN MAWDDWY. 4 J' • wvii Dyma un dydd Nadolig eto wedi ein gidael, ae wedi ei restru gyda'r pethau a fu; a gobeithio eich bod all tua'r swyndfa yna wedi gwneuthur cyfiawn- der ag ef. Credaf na phechwn lawer yn erbyn y ffydd Gatholig,' pe galwn Nadotig 'seventy eight,' yn Nadolig 'hen ffasiwnj" oblegid daeth yn lifrai Nadolig yr 'hen bobl.' Yr oedd yr eira wedi gor- chuddio pob dol a bryn A'i fantell wen arianaidd; a'r rhew werii gwydro pob ffos ddwr a llyn. A chan ei fod wedi cl'od mor 'hen ffaaiwn' fe allai nad anny- ddorol genych chwi a darllenwyr eich newyddia ttir, fyddai bras ddarluniad o daith 'Namor a Modlan Ellis, o Fin-y-mor,"iDdinas Mawddwy (sef dau hen greadur hen ffasiwn yn myned i dreulio Nadolig hen ffasiwn,' yn ol defod y ffasiwfia,u diweddaraf), Boreu dydd Llun, 23ain o Ragfyr, codais gyda'r wawr, a gwisgais y dillad goreu feddwn, a gwaeddais —'Dere n mliten Median, m&e'r tren vn dyfod.'—Oh! aros foment ebre hithau, a dal dy 'gadach poced' tn allan i'r ffenestr YIla. (dyna ein drych ni, cofiwch), gaeli mi wel'd pa fodd yr wyf yn edrych. 'Oh! first class, ebrwn inau. A dyma hi i'r drws; ae yn wir- ionedi i, fel mai byw bran, yr oedd, ,hi yn edrych fel hogen dair ar ddeg oed, yn ei 'gown newydd o sidau India, chwe'cheiniog J llath; a'Setfa 'choryn hir,' yn ol yr hen ddull (yroll 0 'Catrin Rohdol,' arch deilwres ,Brenhinesr-(A%^ani8tau'). A ffwrdd a ni i'r orsaf, ac am docyn, ac i r tren, ao ymaith a r tren nerth ei garnau trwy "j 'twnels, a throi y pontydd fel y gwynt. Ond yn chwap dyma efyn stoppo, ac erbyn i ni graffu, yr oeddym yn Machynlletb. A dyma glamp o ddyn mewn dillad lifra i mewn atom, a gwaeddai, 'Tickets please.' I Mawddwy yr ydym ni yn myned, ebrwn inau. 'Never mind, show your tickets.' Ond dyma Modlan yn dechreu gwylltio, ac yn dechreu siarad ugain yn y dwsin; a dychrynodd y dyn, ac allan ag ef- Ond ni ba trwch asgell gwybedyn rhyngddi a myned yn ystorm ofnadwy rhwng Modlan ag yntau. Ond ymaith a'r trên, a dyma ni yn Cemmes Road yn chwap, ac allan a ni, ac am 'drea bach Mawddwy.' Ac ymaitha ni fel y fellten am Fawddwy; achyia fy mod wedi tanio y cetyn du, dyma ni yn Minllyn, neu Mawddwy Station. Ac O'r olwgfawreddog oedd ar hen fryniau talgryfion Mawddwy wedi eu gwisgo megys â mantell o arian. Wedi holi 'pawb am 'Fwth Shan Owen' (canys yno yr oedd ein cyhoadd- iad), o'r diwedd eyrbaeddasoin y bwthyn, a chawsora dderbyniad tywysogaidd ganddi; ac ar ol cael ein gwala hyd weddill odea bara beunyddiol, ac adrodd ein profiadau y naill i'r llall, aeth Modlan a minau gyda, 'brenin y bwthyn' i addoldy'r Annibynwyr i wrando ar y Parch. W. Roberts, Penybontfiwr (brodor o Ddinas Mawddwy ydyw ef), a chawsom gyflawn dal am fyned. Er mor oer, pregethodd gyda hwyl anarferol. Ar ol y bregeth, cefais y fraint o siglo llaw a'r Parch. E.Williams; a da oedd genyf ei weled yn edrych mor dda, er cymaint o guro sydd wedi bod arno yn y dyddiau diweddaf hyn. Ar ol myned yn ol i'r bwthyn, a chael swper, hunasom oil yn dawel yn mreichiau Morpheus hyd fereu dydd Mawrth. Ac ar ol codi a chael boreufwyd, rhoddais Modlan o dan ofal Shan Owen, ac aethym allan am dro i edrych am fy hen *gyfeillion. Yn yr hwyr, aethom un ac oil i addoldy y T.C. (y noson hon yr oedd Cwrdd Blynyddol Undebol Ymneilldawyr Mawddwy yn dechreu), a chawsom bregeth ragorol gan y Parch. D. Jones (T.C.), Machynlleth. Am ddeg boreu Nadolig, yn yr un addoldy, cawsom bregeth yn llawn o'r hen d&n Cymroaidd gah y Parch. E. Evans (W.), Dolgellau. Am ddau hwyl- iasom i addoldy y Wesleyaid, a chawsom bregeth yn llawn o d&n ac athrylith yr aw en Gymreig, gan y bardd poblogaidd a'r pregethwr doniol, y Parch. J. Ossian Davies (A,), Llanelli; ac ar ei ol pregethodd y Parch. E. Evans (W.) Am chwech yn addoldy'r Annibynwyr, pregethoddy Parcha. D. Jones (M.C.); a J, Ossian Davies, yn rhagorol. Tra yn llongyfarch YmneUlduwyr Mawddwy am ddewis cewri mor rhagorol i'w cwrdd, caraswn i holl eglwysi Cymru glywed y bregeth a draddodwy.i am ddau gan y Parch. J. Ossian Davies, oddiar Esay Iii. 1., 'Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion'. NOs Iau, traddododd y Parch. J. C'ssian Davies ddarlith yn addoldy'r Annibynwyr, ar y Bwyatfil o Rufain. Mae hon eto yn werth i'r holl fyd i dalu dau swllt am ei chlywed. Terfynaf fy llith gyda dywedyd, mai pur ryw dlawd oedd hi ar yr hen Fam Eglwys y Nadolig hwn. Y mae hi yn amddifad byth er y dydd y bu farw ei bugail, y Parch. J. J. Brown; a gellir dywedyd, 'Y dydd y claddwyd y bugail, claddwyd cail a charolau Mallwyd.' Yd wyf, ar dramp, Min-y-Mor. NAMOR ELLIS. "i "o'

33arotipniaetf)^ .;, .r\r4^-"—t…

'PLANHIGION WNIuN,'

";,OFNUSRWYDD!

ADERYN YN CANUDDYDD NADOLIG.

LLINELLAU '..'

ENEIDIAU AR WERTH.

[No title]