Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
EISTEDDFOD ME IRION, CALAN,…
News
Cite
Share
EISTEDDFOD ME IRION, CALAN, 1879. CYFARFOD Y PRYDNAWN. 1. Canu penillion ar y delyn, gan Thomas Humphreys a Hugh Pugh, Dolgamedd. 2. Anerchiad gan y Llywydd. S Anerchiadau gan y Beirdd. 4 Goreu ar y tri penill i'r 'Sain bellebyr' T. E. Griffith, Alltddu, Pwllheli. 5 Goreu a'r ddatganu pedwarawd, 'Bngeiliaid Bethlehem' parti o Aberganolwyn. 6 Goreu ar y Traethawd 'Y Ddeddf Addysg at wasanaeth Rhieni,' y Parch. E. Jones, Pentrecelyn. 7 Goreu am Dateranu 'Yn Nyffryn Clivyd' Catherine Thomas, Abergynolwyn. 8. Goreu am Ddadganu ton 'Gwynedd,' Cor Tabernacl. 9 Goreu am y Map Drawing, 'England and Wales' M. E. Evans, Corris. 10 Cystadleuaeth y Fife and Drum Band, goreu Fife and Drum Dolgellau. 11 Garou ary Cyifeithiaol, 'Rhaniad Llafur,' J. P. Jones, Cwmtirmynach, Bala. 12 Goreu ar yr Awdl, 'Y Prophwyd Daniel, loan Glan Menai, Harlech. 13 Goreu ar y Brif Gystadleuaeth Gorawl; Anthem, 'Jerusalem, Jerusalem,' Cor Tabernacl, o dan arweiniad Mr. David Lewis.,
.' .ABERMAW.
News
Cite
Share
ABERMAW. Ba farw yn dra disymwth, Rhagfyr 29, yn 20 mlwydd oed, Gwen, merch Richard a Gwen Lewis, Froaoleu Terrace, ger Abermaw. Ych- ydig o ddyddiau yn ol y dychwelodd y 'j drengedig adref o ardal Ffestiniog, a thrwy ei bod yn un dalentog am ganu, ac yn aelod o'r C6r, yr oedd a'i bryd yn fawr am enill y gamp yn y Cyfarfod a gynaliwyd yma ddydd Nadolig, a chanodd yn hyfryd trwy y dydd, a dydd Iau dranoeth yr oedd gan aelodau y Capel Seisnig Dea party, a math o gyngherdd ar ol. Canodd y drengcedig yn beraidd yn hwnw. Er nad oedd yn feddianol ar gorph cryf, eto meddai ar ysbryd bywiog a deall cyflym; felly trwy ei llafur gyda'r canu a'r hin oer, aeth adref nos Iau, ac aeth i'w gwely fel arferol, ond tua 4 o'r gloch y bore dydd Gwener cymerwyd hi yn glaf iawn a thorodd allan yn convulsion fits, a rhei'ny a ddilynwyd gan ddirdyniadau mwyaf poenus, ac yn ebrwydd enynodd y Bronchitis ynddi,* ac felly rhwng y ddau afiechyd maluriwyd y babell bridd, a'i hysbryd a ehedodd i'r wlad bell er ei bod yn agos. Ni chafodd hapadden i ddweyd gair wrth neb gan bwysau a gwasgfeuon a thwrw pistylloedd yr lorddonen. Cafodd bassage rough i groesi, ond byr;a chariad a obeithia iddi arrivio yn y beautiful Harbourd. Yr oedd yn eneth ieuanc garedig a gwylaidd, a gallesid gobeithio trwy nad oedd ond fel blodeuyn yn dechreu ymagor y eawsai hi fel Ilawer eraill fwynhau llawer o bethau gwych yn Mai a Mehefin oea; ond aeth i'w bedd a'i henw, nid yw mwy. Dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, ymgasglodd tyrfa fawr, nid yn ami ei mwy, i weinyddu y- gymwynas olaf iddi. Dodwyd hi i orwedd yn mynwent Llanaber, a hyny yn nghanol llawer o dagrau, a chalonau toddedig, gan ddymuno heddwch i'w llwch hyd y bore y caiff ddringo grisiau y beddrod mewu anllygredigaeth a chyflwr llawer gwell.HEN. GBRPIWR. Cyfarfod Pregethu.—Fel arferol, cynaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfod blynyddol eleni dydd Oalan. Gwasanaethwyd gan y Parchedigion James Ifefyn; Nicholson, Le'rpw1; ac Evans, Caernarfon. Lluddiwyd Hwfa Mon i ddyfod gan afiechyd. Cafwyd Oedfeuon nerthol, ac arwyddion amlwg o breseiioldeb y Meistr Mawr yn yr oil o'r cyfarfodydd.—^GOHEBYDD.
DOLGELLAU.
News
Cite
Share
DOLGELLAU. Y Calan a?r Eisteddfod.—Erbyn hyn y mae y Calan a'r Eisteddfod wedi myned heibio, yr yr euillwyr yn llawen ac yr. cwbl foddlon, ar collwyr drachefn mewn tristwoh ac wedi cael cam of course, cafodd y creaduriad hyny oedd eisiaucysgu ychydig nos Calan, eu haflonyddu cyn bron cau eu llygaid, gan y Bands oedd yn cerdded ein tref i groesawi y flwyddyn newydd, y mae yn debyg eu bod wedi chwythu eu nerth yr amser hwnw, o herwydd ni chlywyd eu swn hyd brydnawn dranoeth, a hyny o bwrpas medd rhai i ddyrysu yr Eisteddfod. Dylai y Band druan (?) deimlo ei fod wedi myned yn isel iawn, i fyned dan Anathema arweinwyr yr Eisteddfod. Gobeithio y gwnant goflo y tro nesaf am gadw eu gwynt i wasanaethu yr Eisteddfod, p'run bynag a gant dal am hyny ai peidio, ond gadael ar honour yr Eisteddfoc, I I Boreu dydd Calan drachefn, cyn i swn y bands ddarfod, dyma ddechreu euro y drvsau o ddifrif gyda'r cvfarchiad cyaurua (?) 'Nghalenig i, Blwyddyn Newydd Dda;' ac os nad atebid hwynt, y drws druan gai y dial drwy ddyoddef cio neu ddau!! Ai tybed nad yw plant Dolgell- au ddim wedi dysgu manners eto yn nghanol y fath ysgolion? a'r trethdalwyr yn talu yn ddrud am iddynt gaelfeu dysgu; ond druain o'r treth. dalwyr, hwy gawsant weled y ffrwyth boreu dydd Calan!! Cafwyd Eisteddfod lewyrehus mewn ystyr arianol, ond sibrydir na fydd dim yn weddill. Ymddengys fod pawb ar ol gweled Uwyddiant yr Eisteddfod, am dynu hyny allan o'i chroen druan. Mae yn ymddangos fod arolygwyr y Market Hall wedi codi chwe' gini oddiar Bwyllgor yr Eisteddfod y flwyddyn ddiweddaf. A oes rheswm yn hyn? Caniateir menthyg yr ystafell ddydd Nadolig i'r Method- istiaid trwy'r dydd i yfed te, &c., ac y maent yn gwneud mwy o annhrefn o lawer na'r Eistedd- fod, ac eto rhyw buntan fach maent hwy yn gorfod dalu! Mae anghysondeb dybryd yn rhywle; ond dyi a yw'r arferiad, pan y ceir Eisteddfod dda mewn ystyr arianol, i ymosod ar ei phwrs, fel y mae yr eryr yn ymosod ar ei ysglyfaeth, ac ni adewir llonydd iddi nes y byddo heb ddim. Ai gwir w fod yr Eisteddfod yn myned i roddi h) sbysiad allan erbyn y tr. nesaf yn y papyrau newyddion na fydd yn gyfrifol am ddim gwinoedd, &c., a brynir yn ei henw gan rywrai yn dal perthynas a'r Eisteddfod. Y mae genym sylw neu ddau ar yr Eisteddfod eto, ond gadawn hwynt dan y tro nesaf. Gofalu am ytlodion.-Y mae yn dda genym weled ein tref yn dechreu dyfod i deimlo fod ganddi dlodion yn ei chanoi. Rhanwyd dau gant o 16 i oddeuta tri chant a haner o dlodion ein tref, ac hefyd hysbysir ni fod rhai eraill ao oedd ganddynt arian lawer yn y bank wedi cael peth, le, hyd yn oed fasnachwyr yn ein tref wedi bod mor ddigywilydd a'i gymeryd. Yr ydym yn credu fod llawer o wir dlodion heb ga.el peth etc, gobeithio nad oes. Yr wythnos hon drachefn, y maent wedi bod yn rhanu bara gwyn i'r tlodion (nid yn gosb am bechod neb cofier). Y mae y boneddwr haelfrydig o balas Bryntirion, Bontddu, wedi anfon haner cant o banau at eu gwasanaeth. Bendith ar ei ben; ond tueddir ni i ofyn, 'Pa le mae y naw? Pa le y mae y gwyr mawrion o gwmpas Dolgellau; ond dyma yr estron hwn (maddeued y boneddwr am i mi ei alw felly) yn dyfod yn ol i dalu diolch am ei gyfoeth a'i iechyd trwy gotio am y tlodion, 'Pa le mae y naw? Clywsom fod y tlodion i ga':}l Soup yn gyatal a bara, gobeithio eu bod, nid ydynt wedi ei gael eto beth bynag. Hwyrach eu bod yn methu cael lie cyfleus i'w wneud, onid dymunol fyddai cael benthyg y stove gan' punt fythgofiadwy yn y tlotdy i'w wneud gan mai arian y tlodion dalwyd am dani, (O! wastraff) dylai y tlodion gael ei gwasanaeth am ychydig feddyliwn i. Ai gwir a ddywedir fod siopwyr yn ein tref wedi gwrthod tocyn i dlodion i gael bara am nad oeddynt yn arfer prynu eu nwyddau yno? Os gwir yw, gwir caled iawn. Ai gwir yw fod rhai wedi cael torthau a chanddynt sachaid oflawdynyty? „ Da genym ddeall fod y brodyr Wesleyaidd yn myned i adeiladu eu capel newydd yn ddioed. Y mae y contract wedi ei osod i Mr. James James, Mason. Bydd yr adeilad yn wellianti'n tref.
[No title]
News
Cite
Share
Dywed papyr Americanaidd fod yr hwn sydd yn meddwl llwyddo gyda masnach heb advertisi0 ei nwyddau, yn debyg i un yn rhoddi amnaid tviitk) yn y tywyllwoh. i
NODION 0 LUNDAIN
News
Cite
Share
Cynaliwyd eyfarfod Cymreig yn nghapel Seion (Saisnig) "Whitechapel ar nos Lun, i-Rhagfyr 30ain. Rhoddwyd tê am haner awr wedi pump y prydnawn i oddeutu pum cant o Gymry tlodion Llundain—gweith- red ddyngirol a gwir garedig. Rhodd, wyr y te oeddynt Syr Watcyn W. Wynn- Barwnig, Wynnstay, a'r Arglwyddes Llan- ofer (Gwenynen Gwent), ac eraill; yr oedd y gweithrediadau o dan arolygiaeth Mr. Thomas, y Cenadwr Oymreig. Y eadeirydd ydaedd Dr. Hughes, Whitechapel Rhodd- odd anerchiad byr, ond pithy Yr oedd y cenadwyr canlynol yno-Mri James, Thomas, a Davies. CyfUwnodd y cyfeillion o Eglwys a5 Gymreig Kingsland Road eu rhan yn wir ganmoladwy yn y eyfarfod. Canodd Mr. D. Jones, 552 Commercial Road (yr hwn sydd yn chwareu ar yr harmonium yn Kingsland), g4n 'CTgain mlynedd' yn ardderchog, a'i fercb, Miss Ellin Jones, yn chwareu ar y pianoforte. Os caiff y ferch ieuano hon fywyd, bydd yn sier o ymgodi i enwogrwydd, a dwyn clod i'r genedl Gymreig yn Llundain. Yr ydwyf yn ei chofio yn chwareu ar y piano yn Albion Hall er ys dros dair blynedd yn ol, pan nad oedd yn naw mlwydd oed, a hyny mewn ardduU wir feistrolgar. Gwna i areithwyr o fri ac i feirdd cadeiriol deimlo vrth ei gwrando. Gem o fawr-bris yw hon. Canodd Mr. Lewis, 'Y mynydd, y mynydd i mi,' yn gampus. Canodd y c6r (Kingsland Road), 'Molwch yr Arglwydd,' ac 'Y mae gorphwysfa etc yn o! yn ddaiawn. Canodd Miss Maggie Jones, 4 Clifton St., Finsbury, 'The Missing Boat,' yn ganmoladwy; a chanodd Miss Griffiths, Kingsland Road, 'Close the shatters, Willie's dead/ nea toddi calonau pawb, caled neu beidio, llifo a wnai'r dagrau: hefyd can odd Miss Hughes, diweddar o Nan tile, ger Caernarfon, yr hon yn ddiweddar a basiodd arholiad yn Ngholeg Athrawol Abertawe, y 'Queen's Scholarships,' a'r wythnos nesaf bydd yn ymsefydlu er addysgu y genedl ieuanc mewn ysgol yn Barnes, Llundain, canodd 'Deigryn ar fedd fy mam,' yn swynol i'r pen. Y mae'r tair boneddiges ieuanc hyn yn anrhydedd i Gymru, ac ya meddu ar dalentau disglaer. Canodd Mr. D. Thomas 'Gelomen wen.' Aeth y e6r drwy y Requiem 'Wylwn! wylwn!' mewn arddull bryd- ferth. Cafwyd yno luaws o anerehiadau gan y Parch. Mr. Edwards, gweinidog y Saeson, Mr. Humphreys (W.), Mr. Jones, mab y Cenadwr Cymreig, Mr. Stephen George, Mr. W. Evans, gynt o Jewin St., tad Mr. W. Evans o Goleg y Bala. Cafwyd cyfarfod da o'r dechreu i'r diwedd, a rhoddwyd y goron ar ael Kiugsland Road. Bydcl yr enwog gadeirfardd Hwfa Mon yn traddodi darlith ar 'Goron Bywyd' yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd Nassau St., nos yfory (Gwener). Gwelir fod gan Hwfa lon'd ei gdb o w aith! Drwg genyf, a drwg gan filoedd yn mhob rhan o'r ddaear, fod yr angel pregethwrol Mr. Spurgeon yn wael iawn o ran ei iechyd. Meth- odd bregethu yn ei gapel mawr y Sabbath diweddaf er wedi addaw, gwnaeth y Sabbath blaenorel, ond yr oedd yn bur wan. Digon tebyg fod haul bywyd un o bregethwyr goreu y byd ar fachlud. Pity fyddal gosod Spurgeon yn ei fedd! Cymerais y tren yn Waterloo Station, a ffwrdd â. mi drwy Richmond a gorsafoedd eraill i Twickenham ar y London and South Western Railway. Lie tlws a barddonol yw Twickenham, yn sir fiodeuog Middlesex, pellder o ryw ddeg milldir o Lwndain. Telais ymweliad A York House, anedda y Rhyddfrydwr enwog Mount Stuart Duff, Yaw., AS., yma, boneddwr o'r iawn ryw—yn breaenol yn nghanolddydd bywyd —wedi cyrhaedd ardal yr haner cant oed. Yn y palas ardderchog hwn y ganwyd y Frcnhines Anne, y mae yr ystafell lie y cymerodd hyny le i'w gweled hyd heddyw. Bwriadaf ymweled & Chastell Windsor, palas Victoria, yr wythnos nesaf. Bu Dr. Pan Jones, Mostyn yma yn Llundain, ar ei ddychweliad o W lad Canaan. Gwelsom rai o'r cywreinbethau a ddygodd o Balestina, ac l.' yn eu plith gregin tlysion a gafodd ar lau Mor Galilea, Pa bryd y ceir 'darlith' Pan? Yr eiddoch yn serchog, D. 0. HARRIS (Oaeronwy). Llundain, Ionawr 3, 1879.