Hide Articles List

5 articles on this Page

EISTEDDFOD ME IRION, CALAN,…

.' .ABERMAW.

DOLGELLAU.

[No title]

NODION 0 LUNDAIN

News
Cite
Share

Cynaliwyd eyfarfod Cymreig yn nghapel Seion (Saisnig) "Whitechapel ar nos Lun, i-Rhagfyr 30ain. Rhoddwyd tê am haner awr wedi pump y prydnawn i oddeutu pum cant o Gymry tlodion Llundain—gweith- red ddyngirol a gwir garedig. Rhodd, wyr y te oeddynt Syr Watcyn W. Wynn- Barwnig, Wynnstay, a'r Arglwyddes Llan- ofer (Gwenynen Gwent), ac eraill; yr oedd y gweithrediadau o dan arolygiaeth Mr. Thomas, y Cenadwr Oymreig. Y eadeirydd ydaedd Dr. Hughes, Whitechapel Rhodd- odd anerchiad byr, ond pithy Yr oedd y cenadwyr canlynol yno-Mri James, Thomas, a Davies. CyfUwnodd y cyfeillion o Eglwys a5 Gymreig Kingsland Road eu rhan yn wir ganmoladwy yn y eyfarfod. Canodd Mr. D. Jones, 552 Commercial Road (yr hwn sydd yn chwareu ar yr harmonium yn Kingsland), g4n 'CTgain mlynedd' yn ardderchog, a'i fercb, Miss Ellin Jones, yn chwareu ar y pianoforte. Os caiff y ferch ieuano hon fywyd, bydd yn sier o ymgodi i enwogrwydd, a dwyn clod i'r genedl Gymreig yn Llundain. Yr ydwyf yn ei chofio yn chwareu ar y piano yn Albion Hall er ys dros dair blynedd yn ol, pan nad oedd yn naw mlwydd oed, a hyny mewn ardduU wir feistrolgar. Gwna i areithwyr o fri ac i feirdd cadeiriol deimlo vrth ei gwrando. Gem o fawr-bris yw hon. Canodd Mr. Lewis, 'Y mynydd, y mynydd i mi,' yn gampus. Canodd y c6r (Kingsland Road), 'Molwch yr Arglwydd,' ac 'Y mae gorphwysfa etc yn o! yn ddaiawn. Canodd Miss Maggie Jones, 4 Clifton St., Finsbury, 'The Missing Boat,' yn ganmoladwy; a chanodd Miss Griffiths, Kingsland Road, 'Close the shatters, Willie's dead/ nea toddi calonau pawb, caled neu beidio, llifo a wnai'r dagrau: hefyd can odd Miss Hughes, diweddar o Nan tile, ger Caernarfon, yr hon yn ddiweddar a basiodd arholiad yn Ngholeg Athrawol Abertawe, y 'Queen's Scholarships,' a'r wythnos nesaf bydd yn ymsefydlu er addysgu y genedl ieuanc mewn ysgol yn Barnes, Llundain, canodd 'Deigryn ar fedd fy mam,' yn swynol i'r pen. Y mae'r tair boneddiges ieuanc hyn yn anrhydedd i Gymru, ac ya meddu ar dalentau disglaer. Canodd Mr. D. Thomas 'Gelomen wen.' Aeth y e6r drwy y Requiem 'Wylwn! wylwn!' mewn arddull bryd- ferth. Cafwyd yno luaws o anerehiadau gan y Parch. Mr. Edwards, gweinidog y Saeson, Mr. Humphreys (W.), Mr. Jones, mab y Cenadwr Cymreig, Mr. Stephen George, Mr. W. Evans, gynt o Jewin St., tad Mr. W. Evans o Goleg y Bala. Cafwyd cyfarfod da o'r dechreu i'r diwedd, a rhoddwyd y goron ar ael Kiugsland Road. Bydcl yr enwog gadeirfardd Hwfa Mon yn traddodi darlith ar 'Goron Bywyd' yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd Nassau St., nos yfory (Gwener). Gwelir fod gan Hwfa lon'd ei gdb o w aith! Drwg genyf, a drwg gan filoedd yn mhob rhan o'r ddaear, fod yr angel pregethwrol Mr. Spurgeon yn wael iawn o ran ei iechyd. Meth- odd bregethu yn ei gapel mawr y Sabbath diweddaf er wedi addaw, gwnaeth y Sabbath blaenorel, ond yr oedd yn bur wan. Digon tebyg fod haul bywyd un o bregethwyr goreu y byd ar fachlud. Pity fyddal gosod Spurgeon yn ei fedd! Cymerais y tren yn Waterloo Station, a ffwrdd â. mi drwy Richmond a gorsafoedd eraill i Twickenham ar y London and South Western Railway. Lie tlws a barddonol yw Twickenham, yn sir fiodeuog Middlesex, pellder o ryw ddeg milldir o Lwndain. Telais ymweliad A York House, anedda y Rhyddfrydwr enwog Mount Stuart Duff, Yaw., AS., yma, boneddwr o'r iawn ryw—yn breaenol yn nghanolddydd bywyd —wedi cyrhaedd ardal yr haner cant oed. Yn y palas ardderchog hwn y ganwyd y Frcnhines Anne, y mae yr ystafell lie y cymerodd hyny le i'w gweled hyd heddyw. Bwriadaf ymweled & Chastell Windsor, palas Victoria, yr wythnos nesaf. Bu Dr. Pan Jones, Mostyn yma yn Llundain, ar ei ddychweliad o W lad Canaan. Gwelsom rai o'r cywreinbethau a ddygodd o Balestina, ac l.' yn eu plith gregin tlysion a gafodd ar lau Mor Galilea, Pa bryd y ceir 'darlith' Pan? Yr eiddoch yn serchog, D. 0. HARRIS (Oaeronwy). Llundain, Ionawr 3, 1879.