Hide Articles List

2 articles on this Page

Y FLWYDDYN 1878.

News
Cite
Share

Y FLWYDDYN 1878. CYN ybydd y rbifyn presenol o'r DYDD allan o'r wasg, bydd y flwyddyn hynod '78 wedi tynu ei tbraed ati a mayw, a'r farwolaeth hono yn rhoddi bod i flwyddyn arall. Dywedasom mai blwyddyn hynod ydoedd, ac felly mae mewn llawer ystyr. Fe ddechreuodd y flwyddyn ei thaith fer yn nghanol cyffroadau gwladol, y byd trwyddo fel crochan berwedig, pob cenedl, a'i bysbryd rhyfelgar bron a'i dwyn i ymladdfa gyffredinol, nes bron gwneud ein byd yn Armagedon. Esgorwyd ar y flwyddyn '78 pan oedd cwmwl du bygythiol yn crogi uwchben y rhan fwyaf. o Ewrop. Bron na thybiem, fod y brophwydoliaeth a lefarodd Tywysog Tangnefedd yn cael ei chyflawni yn '78, 'Rhyfeloedd, a son am ryfeloedd a therfysgoedd,' Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, newyn a nodau, a daeargrynfaau mewn manau, ac y mae y pethau hyn wedi eu gwir- io yn ofnadwy yn y flwyddyn sydd wedi ein gadael. Ysbryd rhyfelgar wedi Ilanw mawr- ion gwahanol deyrnasoedd Ewrop, y teyrn- asoedd mwyaf goleuedig a Christionogol bron a myned yn y gwddf i'w gilydd bron trwy dewdwr torau tarianau y 'Public Opinion.' Ond diolch i Ragluniaeth ddoeth a da, fe chwalodd y cwmwl du, trwchus, daeth y mawrion, trwy ryw foddion neu gilydd, i allu siarad Au gilydd. Buont yn bwyllus uwch- ben cwestiynau dyrus ac anhawdd, a phender- fynwyd ar heddwch o ryw fatb, both bynag; ond nid oedd yr effeithiau hyny wedi darfod yn y gwahanol wledydd, ac fe wlawiodd y cwmwl hwnw ei gynwys yn ddibaid ar ein gwlad ni, ac nid yw wedi peidio gwlawio hyd yn hyn. Gwlawiodd dlodi ac angen i filoedd o deuluoedd yn ein gwlad; parlysodd bron bob gwaith, ysigodd fasnach mor drwm, fel y cymer flynyddoedd i'w hadgyweirio a'i chyfanu. Dygodd ganoedd yn ein gwlad i ymyl marw o eisieu, do, fe aeth canoedd yn ein gwlad heb wybod o'r lluaws i'r byd arall drwy borth cyfyng ac ofnadwy angenion corff- orol, a'n llywodraeth drachefn, fel y wraig hono yn Ilyfr y Datguddiad, wedi meddwi ar waed y saint. Nid oedd dim digon o waed dynol wedi ei golli gan ein llywodraeth ni yn y lhyfel anghyfiawn a diachos rhwng Twrci a Rwssia. Yr oedd yn rhaid iddi gael tynu brenin haner anwaraidd Afghanistan yn ei phen, er mwyn tywalit ychwaneg o waed dynol a thywal It gwaed coch Prydeiniaid i foddioei chwant uchelgcisiol. Y gwir yw, pe teyrn- asai ein llywodraeth Doriaidd am rhyw ddeg mlynedd eto, tebyg i '78, fuasai gogoniant Prydain Fawic ond peth a fu, mor wired ac mai hyny yw y ffaith am Rufain, Groeg, Persia, yr Aifft, &c. Yr ydym yn ofni fod mwy o wir yn nywediad yr hen bregethwr hwnw nag ydym yn barod i'w addef, Fod yr Anfeidrol wedi digio wrthym, onide, ni buasai yn rhoddi 'Mountebank' wrth lyw llywodraeth mor bwysig a llywodraeth Pryd- ain Fawr; ac nid oes gobaith am adfywiad hyd nes y dywed etholwyr rhyddion Prydain Fawr ag un lief, fel taran drwy y Deyrnas Gyfunol, 'Ni fynwn ni hkn i deyrnasu arnom.' Y ffaith anwadadwy yw, fod iseldep masnach yn dilyn gweinyddiaeth Doriaidd bob amser. Nid oes genym ond gobeithio fod amser gwell gerllaw, ac y daw dyn y bobl-W. E. Glad- stone, eto i deyrnasu, yna, daw maanach i'w gogoniant yn ol. Bydd ei throadau yn gyf- lymach nag erioed, bydd ymddiriedaeth y naill yn y llall yn fwy, yn lie fod y naill yn ofni y llall, fel y mae yn awr. Tywyna haul llwyddiant ar ein gwlad, sydd yn awr yn guddiedig dan gwmwl du angen, tlodi, nych- dod, a marwolaeth. Brysied y dyddiau, medd- af fi, y delo hyny i ben. Y mae ein darllenwyr yn cofio, yn ddiam- heu, am y wasgfa a'r caledi oedd ac sydd yn meddianu ein cydgenedl yn y Deheudir. Ni fu y fath wasgfa yno erioed er pan mae neb yn cofio; o leiaf, y gweithfeydd mawrion yn sefyll, gweithydd glo, haiarn, plwm, &c., fel eu gilydd yn cael eu cau i fyny, a rhai o honynt a dim gobaith am eu hagor byth. Y mae sefyllfa arianol ein gwlad wedi cael ergydion trymion yn ystod y flwyddyn sydd wedi pasio. Nid oedd yn bosibl cael ergyd drymach na chauad i fyny y City of Glasgow Bank. Fe bery effeithiau yr ergyd hono ar ein gwlad am flynyddoedd-y mae wedi din- ystrio amgylchiadau ugeiniau o deuluoedd parchus a chyfrifol, ac fe ddinystria amgylch- iadau rhai eto. Taflwyd miloedd 6 weithwyr da allan o waith, cauwyd melinau gweithfeydd llaw-weithfaol, a dygodd newyn ac eisieu i ganoedd o deuluoedd, a hyny o achos esgeul- usdra, lladrad, diofalwch, twyll, a diefligrwydd y prif swyddogion. Gwnaethant ddynion cyfoethog yn gardotwyr tlodion, dyfethasant wragedd gweddus a'u teuluoedd am byiih; ond ymaflodd cyfiawnder ynddynV a thaflodd hwynt i'r carchar, a gobeithio y cant gosb gydfynedol &'u trosedd, a dyweded yr holl bobl, 'Amen.' Pan oedd y son am y Bank heb ddystewi, dyma un arall eto yn ei ddilyn -y North of England Bank, nes gwneud masnach Deheudir Cymru yn waeth nag yd. oedd, os oedd modd yn y byd, Yr ydym yn gobeithio y gofala ein Seneddwyr am gyfraitb. i orfodi ein banciau i adael i ddynion cyfrifol, I diduedd, i archwilio eu llyfrau, a d'od a'u sefyllfa wirionedlol o flaen y cyhoedd, yn He gadael i'r swyddogion 'baentio' a lliwio eu hadroddiadi ormodedd, athrwy hyny, dwyllo miloedd. Blwyddyn i'w chofio fydd '78 mewn cysylltiad fig,ariandai y Deyrnas Gyf- unol. Bydd '78 yn flwyddyn fythgofladwy fel blwyddyn y damweiniau mawr yn nghanol blynyddoedd oes yr hen ddaear yma. Y mae eu rhif yn ddirifedi bron, ond y mae rhai o honynt fel Himalayas yn uwch na'r lleill o ran trychineb a Iluosogrwydd y bywydau a goll- wyd. Y mae meddwl ein darllenwyr wedi rhedeg o'n blaen at y ddamwain fawr ar y Tafwys, sef afon Llundain, lie y boddodd saith cant o eneidiau mewn ychydig o funyd- au; a chyn i gyrff y trueiniaid hyny gael eu dwyn i'r Iàn, dyma y newydd ar adenydd y fellten fod damwain ddychrynllyd wedi cy- meryd lie yn ngwaith glo Abercatn, lie y collodd dau gant a haner eu bywydau. Cladd- wyd hwynt yn fyw gan lifeiriant a than yn nghrobmil y ddaear, nes gadael canoedd ar ei gwyneb yn weddw ac amddifaid. Hyrddiodd y 'Moel Eilian' o Gaernarfon yr agerlong Germanaidd 'Pomerania,' a degau o'r teithwyr i feddrod llaith gwaelod a'r un modd y patket 'Gem' ar afon Le'rpwl. Agerlong arall drachefn yn suddo yn y Bosphorus bythgof- iadwy, a chant a haner yn cael dyfrllyd fedd yn ymyl Constantinople. Bu tanchwa ofn- adwy yn ngweithfa Haydock, a feddienid gan y Mri. Evans, lie y collodd canoedd eu bywydau. Gall y darllenydd weled nad yw wedi gadael byd y damweiniau eto, ond ei fod yn eu canol. Bu y flwyddyn ddiwedd- af yn flwyddyn o bryder a dychryn i benadur- iaid Ewrop. Amcanwyd ddwywaith at fywyd Ymerawdwr Germany o iewn ychydig ddiwi- nodau i'w gilydd. Ceisiwyd amddifadu Brenin Yspaen o'i fywyd, yr hwn, ychydig amser yn ol, a gollodd ei wraig yn ddeuna-v mlwydd oed. Ameanwyd at fywyd Brenin Italy ychydig ar ol hyny, a diamheu y buasai y llofrudd wedi cyrhaedd ei amcan dieflig oni b'ai gwroldeb a hunanfedd- iant ei brifweinidog Oairisli, yr hwn oedd yn dygwydd bod yn y cerbyd gyda'i Fawrhydij ac yn ddiweddaf oil, bygythiwyd bywyd ein Grasus^f Frenhines; ond darganfyddwyd yr would be assasin cyn rhoddi ei fwriad mewn gweithrediad. Fel yna y mae penau coronog Ewrop mewn pryder a braw parhaus am eu bywyd. Y mae angeu y flwyddyn hon eto wedi medi lluaws o wtr o n6d oddiar yr hen ddaear yma—y mae wedi ysgythru gwlad ac eglwys. Cwympo gwladweinwyr, a chwympo hefyd rai o 'gedyrn mynydd Duw.' Cafodd ein gwlad gollod yn marwolaeth yr hen foneddwr a'r gwladweinydd, Arglwydd John Russell wedi cyrhaedd hen ddyddiau. Pan oedd y flwyddyn bron a therfynu, nid oedd yn foddlon marw heb ddwyn hynodrwydd iddi ei hunan, trwy gymeryd trwy offerynol- iaeth angeu, fywyd y garuaidd a'r wylaidd Princess Alice, ail ferch ein Grasusaf Frenhines. Estynodd angeu ei law welw, a gafaelodd yn uehel, nes cyrhaedd gorsedd Prydain, a chymeryd oddiyno y blodeuyn prydferthaf a tagwyd ar aelwyd erioed,hi oedd nurse-tender y teulu breninol. Collodd crefydd luaws o'i meibion goreu. Yn mysg eraill, gallem enwi y Parch. R. Roberts, Llundain, gynt o'r Carneddi. Cafodd barddas golled fawr yn marwolaeth un o'i meib mwy- af athrylithgar, y bardd a'r pregethwr pur, Wm. Thomas (Islwyn); hefyd, y Parch. Dr. Charles, Aberdyfi; John Roberts, Abergyn- olwyn. Ffarwel 1878, derbyniasom di gyda breich- iau estynedig, gan obeithio y deuai gwawr gobaith gyda thi ar fasnach ein gwlad, a heddwch ein byd. Rhaid i ni ar derfyn d'einioes fèr, ddweyd ein bod wedi ein siomi, ohd nid arnat ti, 1878, yr oedd y bai i gyd; gwnaethost ti dy oreu, a diolch iti am ychyd- ig o dywyniadau yr haul trwy gymaint o gymylau duou oedd yn dy awyrgylch. Der- byniodd llawer di yn groesawgar gyda Ilawen- ydd, ond gorfu iddynt ymadael i thi mewn dagrau. Derbyniasan t di fel eu gwaredydd o gyfyngder; ond gorfu arnat ymadael 4 hwynt heb gyflawni eu dymaniad, fel cyn diwedd dy einioea f6r, yr oeddynt wedi blino arnat, ae wedi dy wrthed, ac yn estyn eu dymun- iadau a'u dysgwyliadau at dy olynydd, gan obeithio cael gwaredigaeth o'u cyni tan ei theyrnasiad. Gobeitbiwn na siomir hwynt fel y'u siomwyd ynot ti. Ni feiwn arnat, 1878, gwnaethost dy ran, gwlawiaist hyny o fendithion a ordeiniodd Rhagluniaeth i ti, a rhoddaist tithau hwynt yn ffyddlon. Buost ti ffyddlawn ar ychydig, a thrwy hyny, rhoddaist wers i ninau C, fod yr un fath, a pheidio grwgnach o herwydd bychander yr hyn sydd genym. Bu ychydig o lwyddiant ar grefydd o dan dy deyrnasiad, a diamheu y byddi yn fythgofladwy gan laweroedd. Ffar- wel i ti, deuwn ar dy ol cyn bo hir. Gadawn yr hen flwyddyn a'i thrafferthion gyda'r pethau a fu, a cheisiwn anghofio ei chroesau, a dyHQunwni holl ddarllenwyr y DYDD, Flwyddyn Newydd lJda.

BRYNSEION, CWMA.FON.