Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
:u. Y DYSGEDYDD AM 1879 DAN OLYGIAKTH Y PARCH. ROBERT THOMAS, BALA. A'R PARCH. E. H. EVANS, CAERNARFON. PRIS PEDAIR CEINIOG. Cynwysiad Rhifyn Ionawr. Anerchiadau i Wyr Ieuainc-Y Dechreuad y n o Genesis a Gwyddoriaeth. Gan Herber. Esboniad—Pechod, Eiriolaeth, ac lawn. Gan y Parch. John Davies, Aberdar. Adgofion am Enwogioll-Glan Alun. Gan Gwalchmai. Adgofion am Ddiaconiaid Rhagorol-Y diwedd- ar Mr. E. Jones, Post Office, Rhufchyy. Gan y Parch. S. Evans, Llandegla, gyda llythyr oddiwrtb Hiaethog. Pa fath un ydyw y Diacon Llwyddianus? Gan y Parch. Alun Roberts, B.D., Caernarfon. Pregethwyr ac Areithwyr—Y Parch. W. H. M. H. Aitken. Gan Edmygwr. Y Beibl a darganfyddiadau diweddar. Gan y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug. Trydaniaeth a'r Goleuni Trydanol. Hynafiaethau. Gan Oyflin. Y Parch. John Williams, Caecoch. Gan y Parch. KiThomaa Roberts. Cynulleidfaolwyr Seisnig a Damcaniaethau di- weddar am Gosb Ddyfodol. Gan Dr. Kennedy. Cariad Pedr. NODIADAU MISOL:— Llys Morley. Blwyddyn Newydd Dda. Ffydd y Tywysog Bismark. Y Dywysogea Alice. Cyfarfodydd Chwarterol, &c. Bydd DYSGIDTDD Ionawr wyth tudalen yn yn fwy nag arter. Diolchwn am yr Archebion YN DDIOED, DYSGEDYDD Y PLAN T, AM 1879. PRIS CEINIOG Y MIS. Cynwysiad Rhifyn Ionawr. Breuddwydio a Gwsithio Pwy sydd yn wir Hoffus Y Teithiwr a'i Arweinydd Dalen y Plant Lleiaf (gyda Darluniau) Rhagluniaeth fel cymylau Dweyd Gormod "Gwna a'th holl egni" Llwch aur Tom Bore dydd Calan (gyda Darlun) Yr Anffyddiwr a'r Plentyn Pethau i'w Rhoddi a'u, Cadw Geiriau Caredig Calenig BI .vyddyn Newydd Dda Dr. Isaac Barrow Presenoldeb meddwl Eilunaddoliaeth yn yr India (gyda Darlun) ASGLODION:— Rhy hwyr yn Cychwyn Camgymeriad Digrifol Gweddi Hynod Y Dyn Croes BABDDONIAETH: Y Bachgen Iesu Pan ddaw'r nos Dywedwch y Gwir Y Gauaf a'r Gwanwyn TON:-Blwyddyn Newydd Dda Amryw Wobrwyon am ateb Cwestiynau CYFARFOD CHWARTEROL SWYDDI DINBYCH A FLINT. CYNELIR y nesaf yn Llangollen ar y 15fed \J a'r 16eg o Ionawr, 1879. Y gynadledd am o'r gloch y dydd cyntaf. Pregethir y nos a hrwy'r dydd dranoeth. E. T. DAVIES, YSIJ. WILLIAM GRIFFITH, COMMERCIAL ENQUIRY OFFICE, GLANAFON COTTAGE, DOLGELLEY, PUBLIC ACCOUNTANT, House, Estate, General Commission Agent, and Debt Collector. Agent for the Scottish Equitable Life Assurance Society; The North British and Mercantile Fire Insurance Company; and several Trade Protection Societies, &c. Yn awr yn barod, DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR am 1879. DAN OliYGlAETH Y PARCH. B. WILLIAMS, CANAAN; A'B PARCH. R.W. GRIFFITH, BEIHEL. Pris Is. 6c. a 6c. Y MAE yn cynwys y wybodaeth arferol, Y gydag ychwanegiadau a gwelliantau pwysig Yr archebion i'w hanfon i Mr. W. Hughes, Printer, Dolgelley. AT EIN GOHEBWYR. MORGRUGYN.-M wy gweddus i gyhoeddiad crefyddol. ABREC.-Gadewcb i arall Hdganu o'ch blaen, os yd- ych yn teilyngu hyny. YMHOLTDD.-Mae y DTSGEDTDD am Icnawr wyth tudalen yn helaethacli tla'i ragflaenoriaid. s. T. D.-Symol iawn, yn wir. DAR&UBNYDD.—Ymddangosa y benod gyntaf JTofel yn ein rhifyn nesaf. MEWS LLAW.—Porthmadog, Eisteddfod Abermaw, Rieiart Dafydd, At Dyfed Qwawdrydd, Luxum, ger TreBynon,&e.,&c.
ADGOFION Y FLWYDDYN.
News
Cite
Share
ADGOFION Y FLWYDDYN. DYWEDIR wrthym gan y prif-fatdd Shakes- peare, fod amser fel gwr y ty, yn ysgwyd liaw ei ymwelydd sydd yn ymadael, a chyda'i freich- iau ar led, fel pe am ehedeg, yn tynu yr ym- welydd dyeithr i mewn. Os ydyw amser yn ymddwyn fel hyn tuag at ddynion, nid yw dynion yn gyffredin yn ymddwyn felly tuag ato ef. Yr ydym i gyd yn fwy tueddol i edrych yn ol i'r gorphenol, nag i edrych yn mlaen i'r dyfodol; ac ycoddengys yn hynod o naturiol i ni, ar ddiwedd blwyddyn, daflu ein golygon yn ol, ac edrych beth y mae wedi ei wneud i ni ac i'r byd. Mae y flwyddyn sydd erbyn hyn wedi tynu tua'r terfyn wedi bod yn hynod yn ei hanesiaeth politicaidd. Nid yw yn hawdd penderfynu drwy ba ddygwyddiad y bydd yn fwvat tebygol o gael ei chofnodi mewn hanesyddiaetb. A adwaen- ir hi fel blwyddyn y Berlin Congress? A adnabyddir hi fel blwyddyn y rhyfel Affghan- aidd? I lawer, y mae yn ddiamheu mai ei hawl ben if i anrhydedd, fydd y ffaith mai hi ydoedd blwyddyn Arddangosfa fawr Paris. Bydd erailJ, gallwn fod yn sicr, yn meddwl am dani fel y flwyddyn y bu y Pab Pius ix., farwj era ill fel y flwyddyn weiadd farwolaeth Brenin cyntaf Italy. I ni yn y wlad yma, y mae wedi profi ei hun yn flwyddyn lawn iawn o bethau rhyfedd a dyeitbr. Anaml y gwelwyd cymaint o bethau anysgwyliadwy y n yn cael eu pentyru ger ein bron mewncyfnod mor fyr. Tybiwn fod ein gwladweinwyr galluog wedi gosod eu calonau ar ddarparu ar ein cyfer gyflawnder o gyfnewidiadau sydyn, teilwng o'r Arabian Nights, neu y Fairy Tale enwocaf yn nghasgliad Anderson neu Grimm. Decbreuasom gyda'r wýs oedd yn galw y Senedd i ymgyfarfod ar adeg anarferol o gynar; a therfynwyd y panorama gydag eisteddiad byr yn y gauaf. Digon naturioi a phriodol, medd rhywun; yr oedd yr amserau mor llawn o beryglon; yr oedd y bwgan rbyfelgar yn ymrodio ar hyd y ddaear y dyddiau hyny; beth yn well wnaethai Gwein- yddiaeth Gyfansoddiadol, fel eiddo Prydain, na galw y Senedd yn gynar, a'i dal i eistedd yn hwyr3 Ond yn y f<.n yma y mae neill- duolrwydd y flwyddyn yn ei pherthynas a gwladlywiaeth y Llywodraeth yn d'od i'r golwg, ac yn goglais ein teimlad braidd; oblegid er i'r Senedd gael ei galw fel hyn at ei gilydd, ni ymddangosodd yr un amcan penodol dros ei blino yn y modd yma ag eisteddiadau anghyflredin. Ni ofynodd y Weinyddiaeth eiioed gynghor y Senedd ar ddim. CymerWyd pjb cam pwysig yn ngwleidyddiaeth diamor y wlad heb yn wybod iddi, cea y tu ol i'w chefn. Y funyd yr ymwahana yr aelodau i gael sail bychan, dyna'r milwyr o India yn cael eu danfon i Malta. Y foment y gohiriwyd y Senedd, a y Llywodraeth yn mlaen i oresgyn Affghan- iSlan. Bargeinia y Llywodraeth â. Twrci 1 bydd iddi, os ca feddiant e Ynys Cyprus, gymeryd y cyfrifoldeb mwyaf ofnadwy arni ei hun gyda golwg ar amddiffyniad A-Ia Leiaf, a hysbysir y Senedd o byny ar ol i'r fargen gael ei setlo—dywedir wrthi mor oeraidd a digyffro fod y pefch wedi cael ei wneud, ac nad yw yn btsiblei ddadwneud. Dilynir yr ymadroddion cryfaf o enau y Llywodraeth, yn sicrhau fod pobpeth yn nglyn å,'n cysyllt, iadau tramor yn addaw 'heddwch ac anrhyd- edd/ yn uniongyrchol gan barotoadau i ryfel ac amcan-gyfrifon dyeithr. Canlynir y protestiadau mwyaf difrifol, fod y Cabinet yn berffaith unol ac unfrydol, gan ymddi. swyddiad uniongyrchol Arglwyddi Caernarfon a Derby. Ni chaniata gofod i ni ddilyn i fanylder holl gyfnewidiadau y flwyddyn a gladdwyd nos Fawrth yn swn chwibaniad y gwynt, nac hyd yn nod i gyffwrdd a rhai o hcnynt. Os am wybod ychwaneg o helyntion yr hen chwaer, cyfeiriwn y darllenydd at yr erthygl ar 'Y Flwyddyn 1878,' a welir yn y rhifyn preseiiol. Mae angau wedi bod wrthi yn brysur gyda'i gryman llym yn mysg y ddau ryw yn mhob safle, yn neillduol mewn cylchoedd o ddylanwad. Yr oedd y digwyddiad poenus o golli y Dywysoges Alice yn un o ddigwyddiadau olaf yr hen flwyddyn. Yr ydym eisoes wedi crybwyll wrth basio fod y flwyddyn wedi gweled cario y Pab Pio Nono a'r Brenin Victor Emmanuel, i'w bedd. Yr oedd rhywbeth yn hynod yn y ffaith fod marwolaethau y ddau wr hyn — dau elyn, mewn ystyr — yn cymeryd lie mor agos i'r un adeg. Gorweddant wrth borth angau gyda'u gilydd, y Brenin ar un ochr i'r Tibfer, a'r Pab ar yr ochr arall. Bu y Brenin George o Hanover farw; felly Christina, gynt Brenhines Spaen; ac tally y bu Brenhines arall ar Spaen, sef cymhares ieuane y Brenhin Alphonso, yr hon a briodwyd yn Ionawr, ac a gauwyd yn ei hareh yn Mehefin. Ysgydwai pobl ofergoelus eu penau, a mynent fod rhywbeth yn peri hyn, pryd y gallasai plentyn bychan o'r ysgol roi ar ddeall iddynt fod 'rhywbeth yu peri pobpeth.' Yma yn Mhrydain, terfynodd un o wladweinwyr penaf y deyrnas ei oes hirfaith a liafurus. Bu Iarll Russell farw yn Mai, yr olaf o'r gwladweinwyr a gysylltai ein hoes ni â. dyddiau y tanllyd Fox; ac hwyrach'mai efe oedd y Sais olaf a ymddyddanodd a Napoleon Fawr. Ond heb ymhelaethu, yr oedd y flwyddyn 1878 yn nodedig yn mysg blwyddi y genedlaeth bresenol ar gyfrif ei chynhyrfiadau gwleidyddol, creiyddol, a masnachol; ac y mae ei mantell wedi disgyn ar 1879, yr hon ddaw i mewn yu nghanol tywyllwch caddugol na chlirir mo hono am bethyabaid, beth by nag.