Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

NetopfcTuon €gmmg*

Y DEHEUDIR.

News
Cite
Share

Y DEHEUDIR. Agorodd Cwmni Ariandy y London Provincial Bank ganghen yn Merthyr Tydvil. Yr arolyg- wr yw Mr. G. F. Stuckey, diweddar arolygwr ariandy y West of England Bank yn y dref hono. Derbyniwyd gyda'r pellebyr, genadwri oddi- wrth gwmni Lleyds o Libton, yn hysbysu fod yr agerlong Brydeinig, 'Ranger,' o Merthyr i Barcelona, wedi ei hollol ddryllio. Ni achub- wyd ond pedwar o'r dwylaw. Dygwyddodd amgylchiad pruddaidd yn Penarth yn ystod y lliwJ; darfu i Mr. Robert Hawker, peirianyddyragerlong Speldon, tra yn 9 1!1 myned a llythyrau i'r llythyrdy, gwympo dros y clawdd llanw a boddi cyn i neb allu ei achub. Yr oedd y trancedig yn 23 mlwydd oed ac yn enedigol o Stockton-on-tees. Cyflawnwyd lladrad beiddgar yn ywyl Mil- ford Maven gan ddau ddyn, ar ffarmwr o'r enw Phillips, yr hwn a amddifadasant o'i oriawr arian a haner cant o bunau, y rhai yr oedd wedi ei codi o'r ariandy y diwrnod hwnw. Nid yw y lladron wedi eu dal eto; ac y mae Phillips yn dyoddef oddiwrth archollion trymion a gafodd. Anrhegwyd Prif Gwnstabl Tenby, Mr. Henry Hodges, &g oriawr aur yn gydnabyddiaetli iddo am ei ffyddlondeb fel prif gwnstabl er pan ei penodwyd yn 1876. Y maer oedd yn ei rhoddi dros ustusiaid y fwrdeisdref. Gohebydd o Newport a ddywed, fod Mr. R. T. Crawshay, Cyfarthfa, wedi diogelu archeb fawr am ei 16, yr hyn fydd yn foddion i yru rhan o'i weithfeydd yn sefydlog am y flwyddyn nesaf beth bynag. Dyma newydd da yn nghanol y fath newyddion drwg a geir o bobman y dyddiau hyn. Dydd Llun cyhuddwyd un James Gunn, packman Ysgotaidd, o flaen ynadon Treherbert, o wneud ymosodiad cywilyddus ar hen Iuddew parchus o'r enw Abraham Stall, yr hwn a garia fasnach yn mlaen fel pawnbroker yn Treherbert. Gorfodwyd i'r cyhuddedig wneud ymddiheurad cyhceddus; talu costau y prawf, a rhoddi dwy bunt at ryw achos teilwng. Yr hyn a wnaed yn ddioed. Y mae lladrad beiddgar wedi -oymeryd lie eto yn Treforrest. Rhwng yr oriau chwech ac wyth nos Lun, fe dorodd rhywun i mewn i dy David John, cychwr, Rhydfelen, gan ladrata oddiyno aur oriawr, elusfcdiysau, a phethan eraill. Y mae cymydog o'r enw Evan Jenkins wedi ei gymeryd i fyny ar ddrwgdybiaeth. Dydd Llun cynaliodd Mr. E. B. Reese, Crwner, drengholiad yn Ely, ar igorff Daniel Williams, meistr gorsaf y Great Western, yr hwn a laddwyd yn y niwl ddydd Gwener gan gerbydres parcell. Rheithfarn, 'Marwolaeth ddam weiniol. t Nos Fawrth, dygwyddodd damwain erchyll ar reilffordd. y Great Western yn Mountain Ash i d&niwr tren nwyddau o'r enw Alfred Jay; gadawodd y peiriant am ychydig fynudau, ac wrth ddychwelyd cafodd ei daro i lawr a rhedeg drosfco gan beiriant a berthynai i gerbydres neilldnol oedd yn pasio ar y pryd. Rhaid fod marwolaeth yn uniongyrchol. Y mae y Parch. Alfred Thonias Hughes, Vicar, Cowbridge, wedi ei ap jvyntio yn ysgrif- enydd i Gymdeithas Genadal yr Eglwys dros Ddeheudir Cymru, yn lie y Parch. Lewis Price, Vicar, Llandilo, yr hwn sydd wedi ymddi- swyddo. Y mae Mr. Hughes yn enedigol o Rhymni. Y mae Mr. Evan Alban, o Aberaeron, yr hwn sydd wedi bod dan addysg am dair blyncdd yn Hospital St. Bartholomew, Llundain, wedi I pasio yr arholiad terfynol fel aelod o Gymdeithas y Meddygon Llundain.

LLWYNGWRIL.

TROEDYRHIW, MERTHYR.

LERPWL.