Hide Articles List

5 articles on this Page

NetopfcTuon €gmmg*

News
Cite
Share

NetopfcTuon €gmmg* Y GOGLEDD. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghaergybi dan nawdd Oymdeithas Ddirwestol Unedig Eglwys Loegr, yn mha un y cafwyd anerchiad galluog gan iJy Gwir Barch. Ddeon Bangor. Cymhellai un o'n haelodau Cymreig i dd'od a mesur i mewn i gau y Tafarndai yn Nghymru ar y Sabbath, fel y mae yn yr Iwerddon. Teimlai yn argyhoeddiadol fod y mwyafrif o etholwyr y gwahanol siroedd a'r bwrdeisdrefi yn ffafriol i hyny. Prydnawn dydd Iau, rhoddoddMaer Dinbych (Mr. Gee), yn ol ei haelioni arferol, de blasus i fwy na thfi chant o breawylwyr hynaf y dref. Anfonwyd gwahoddiad i dros bedwar cant o rai dros driugain oed ac uchod. Y mae masnach llechi sir Gaernarfon, yr ydym yn gobeithio yn fawr, wedi cyrhaedd ei man gwanaf, o herwydd marweidd-dra. y fasnach. Y mae rhybudd wedi ei roddi yn chwarelau Llanberis mai pedwar diwrnod a weithir o hyn allan yn lie chwech. Mae llawer o'r chwarelau amgylchynol naill ai wedi eu cau i fyny neu yn gweithio gyda haner y nifer arferol o weithwyr. Da genym ddeall fod pwyllgor wedi ei ffurfio yn y Wyddgrug i gario allan fesurau er mwyn cynorthwyo y tlodion sydd yn dyoddef yno o herwydd y wasgfa bresenol sydd ar fasnach yn y dref. Cafodd William Williams, masnachydd, Stryt Mostyn, Llandudno, ei ddirwyo i ugain swllt a'r costau ddydd Llun, am ymosod ar un o'r hedd- geidwaid yno. Y mae Mr. Pochin o Bwdnant Hall, Llan- dudno, wedi ei ddewis gan Ryddfrydwyr Stafford fel ymgeisydd am yr eisteddle yn yr etholiad eyffredinol nesaf. Drwg genym ddeall fod gweithwyr chwarel Ty'nycoed, Arthog, ger Dolgellau, wedi cael gorchymyn i ymadael (yr hyn a wnaethant ddydd Sadwrn dWeddaf) o herwydd marweidd- dra y fasnach. Gwastraff Bwrdd Ym- ddengys fod costau y cynghaws a gododd Bwrdd Gwarckeidiol Caernarfon yn erbyn Mr. Aasheton Smith, mewn perthynas i'r chwarelau, yn agos i bymtheg cant o bunau!! Well done, Bwrdd Gwareheidwaid Caernarfon, ydwyt frawd mewn gwirionedd i'r bwrdd yn Undeb Dolgell- au. Yr ydym yn deall fod Mr. Watkin Williams, yr aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Dinbych, ar 01 ygtyriaeth bwyllog, wedi datgan ei benderfyn- iad yn unol & chais y blaid Ryddfrydig yn ninas Southwark, i ymgais am yr eisteddle yn ;yr etholiad nesaf. Oynwysa ddwy fil arhugain o etholwyr, ac yn cael ei chynrychiol gan Dori penboeth, y Milwriad Baresford, a chan Rydd- frydwr mewn enw yn unig, sef Mr. Locke, eisteddle yr hwn yn Nhy y Oyffredin a ddylai fod wrth ochr Mr. Roebuck, o herwydd mae y ddau o'r un stamp. Drwg genym gofnodi marwolaeth Mr. Ellis James o Ty'nyllwyn, Llanddeiniolen. Cymer- wyd ef yn glaf ddydd Mawrth, a bu farw ddydd Iau gan ymosodiad o'r apoplexy. Perchid Mr. James gan bawb a'i hadwaenai. Bu am ddeugain mlynedd yu ysgrifenydd Cyfarfod Misol Arfon, yr hon swydd a lanwodd gyda medr a gallu anghyffredin. Gadawodd weddw a dau o blant i alaru eu colled ar ei ol. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol llewyrchus yn Brynrodyn dydd Nadolig, dan lywyddiaeth y Parch. John Jones, Groeslon. Cymerwyd rhan ynddo gan g6r Brynrodyn, dan arweiniad Mr. G. W. Hughes, Bryngwynedd. Gwasanaethid fel beirniad gan y Parch. D. Roberts, Ffestin- iog. Da genym ddeall fod y rheilffoHd a fwriedir ei gwneud o Ruthyn i Cerygydrudion i gael ei chychwyn yn ddioed. Y mae y 'contract' wedi ei lawnodi o bob ochr. Bydd yn gaffaeliad •aawr i Ruthyn a Cherygydrudion. Bu Llanrwst mewn helbul yr wythnos diwedd- af, o herwydd nad oedd dim nwy i'w gael, a'r dref o ganlyniad yn dywyllwch; ac oni I fod yno gyflenwad go dda o oil a chanwyllau, buasai 'w gystadlu a'r tywyllwch Aifftaidd. Da genym ddeall fod Maer Conwy (Mr. Albert Wood), a Mr. Llewelyn Mostyn, Gloddaeth, wedi rhanu, drwy y Vicar, ugain tunell o lo i dlodion y plwyf. Yr oedd pob un o honynt yn derbyn pum' cant Llawenyehwyd calonau oddeutu cant a thri ugain o honynt drwy y rhodd hon.

Y DEHEUDIR.

LLWYNGWRIL.

TROEDYRHIW, MERTHYR.

LERPWL.