Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y LLOFRUDDIAETH YN BANNER…

PRIODAS IARLL CAERNARFON.i

GAUAF CALED.

Y NEUADD GYHOEDDUS, ABERMAW.

BRYNSEION, DOWLAIS.

E1 s t eITdfo d meirion, ,…

Y GOLOFN DDU.'

News
Cite
Share

edig hyd oni welai ei Mawrhydi yn dda. Ar ol cael ei gollwng, derbyniwyd y druanes adref i fynwes ei theulu. Y mae llofruddiaeth ofnadwy wedi cymeryd lie yn agos i Melbourne, Awstralia. Y rbai a loftuddiwyd oed iynt, Sergeant Kennedy, a dau heddgeidwad o'r enw Scanlon a Lonargan. Y llofruddion oeddynt goed wig wyr, dau frawd o'r enw Kelly, y rhai oeddynt wedi cyflawni Iladrad beiddgar, ac yr oedd y rhai a lofrudd- iwyd wedi eu hanfon igeisio eu dal, saethwyd hwy mewn gwaed oer, a buwyd am beth amser cyn cael hyd i gorff Sergeant Kennedy, a phan ei cafwyd, yr oedd wedi ei otchuddio bron gan fwledau. Y mae y fath farba- eidd-dra, a'r fath bwyll a gyeaerasant i gyf- lawni eu hamcan dieflig, wedi achosi teimlad angherddol drwy'r drefedigaetb. Y mae y Llywodraeth yno wedi cynyg gwobrau mawr i'r rhai a ddeuant a byd i'r brodyr Kelly yn fyw neu yn farw. Yn ffortunus y mae gobaith y delir hwy yn gynt na phe buasent wedi diaac i'r mynyddoedd, o herwydd ym- ddengys eu bod wedi gwneud drosodd i Murray, gyda'r bwriad o groesi i Ddeheudir Cymru Newydd. Cafwyd cenadwri o Chiltern fod Kelly a thri eraill wedi codi dyn o'r enw Neil Christian yn Bungowanab, cyn dydd a cbawsant ddarpariaeth ar gyfer eu cyrff ganddo. Bygytbiodd Kelly saethu Christian os rhoddai bysbysrwydd; ac y mae yr heddgeidwaid yno wedi anfon i Melbourne am adgyfnerthiad i chwilio y wlad o gwmpas Bungowanah am danynt. • Y mae'dygwyddiad gofidus i'r eithaf wedi cymeryd IlIe yn Newchurch-in-Rossendale Ymddengys fod. Mr. Susfield, meddyg Bookfold, wedi bod yn afiach am rai wyth- nosau, ac aeth i'w wely nos Wener, ond ni fedrai gysgo. Haner awr wedi pedwar y boreu fe gododd ef a'i wraig, aeth yn ei flaen i'r surgery, gan adael ei wraig yn yr ystafell giniaw; yn fuan dychwelodd, a gwaeddodd, 'Yr wyf yn ddyn marw'; ac ar yr un pryd dangosai botel iddi o baun yroedd wedi bod yn yfed, yr oedd y botel yn cynwys yr hyn a elwir aconite liniment, yr hwn oedd wenwyn o'r fath fwyaf marwol. Dymunodd ar ei wraig i anfon am Dr. Wilson, ei gymydog- Yn y cyfamser fe yfai yn hael o ddiod. m wstard a dwfr, ond yr oedd yn parhau i fyned yn waeth-waeth, a bu farw mewn awr ar ol ei gymeryd, cyn dyfodiad y meddyg. Cafwyd allan fod potel o win 'sherry'yn, nesaf i'r gwenwyn, a bod y naill yn debyg iawn ei liw i'r Hall; ac felly, tebygol yw ei fod wedi yfed y gwenwyn mewn camgymer- iad yn lle'r gwin. Cyflawnid llofruddiaeth ddyblyg a hunan- laddiad yn Paris, na chlywir am eu cyffelyb ond anaml. Cyflawnwyd hwynt yn un o ystrydoedd mwyaf parchus Paris, Er's chwe mis yn ol, daeth M. Filliette, yr hwn oedd ysgrifenydd mewn swyddfa newidiwr arian, i fyw i rhif 9 ya yr heol grybwylledig, ac yno y daethant i gydnabyddiaeth a gwr ieuanc, oedd yn aros yn swyddfa'r heddgeidwaid, yr hvru a dalai ymweliad mynych a hwynt. Eorea Sadwrn cyn y diweddaf aeth M. Filliette '\t. y gwr y byddai arferol o fwyta yno, a gofyn-dd am ei 'nl.' Dywedodd hwnw nad oedd dim thyS, y gwnai y tro ddiwrnod arall. Dywedodd ynttu y byddai yn rhy hwyr ddiwrnol arall. Talodd y 'bill,' aeth i fyny i'w dy, ac ar o]|h fny ni welwyd efna'i wraig yn fyw. Ar ol myned i'r ty drwy drais gwelwyd golygfa dorcalonus i'r eiihaf. Caf- -w ai wraig heb ond ychydig am dani, yn ym( tynedig ar lawr, a'i gwr hefyd yn farw wrth ei hochr, y ddau wedi eu claddu mewn gwaed. Daliai ef yn ei law yn angeu, lav ddryll chwe ergyd, yr oil o'r ergydioa wedi eu saethu allan. Mewn ystafell arall caed y gwr ieiunc crybwylledig yn gorwedd ar yr ystol oedd yn ymyl y 'piano,' a phelen yn ei fynwes, ac un arall yn ei wddf. Tybir fod y gwr wedi gwylied y wraig a'r dyn ieuanc, ac ymddangos iddynt yn ddiarwybod, a'u saethu yn y fan; ac ar ol hyny i fyned i dalu ei 'fil/ ac yna myned yn ei ol, a saethu ei hun. Yr oedd ef yn 35 oed, a'i wraig yn 28.