Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

I Y CYNWYSIAD.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Cadarnhawyd y Cytundeb Heddweh gan Alexander, Ymerawdwr Rwssia, yn St. Peteraburgh, y Sul diweddaf. Mynega gohebydd y Daily News yn y brifddinas h6no, fod y newyddiaduron Rwssiaidd yn amlygu syndod fod y Weinyddiaeth Seisonig yn gallu dysgwyl cael hysbysrwydd am y telerau cyn hyn, y rhai na ddygwyd i St. Petersburg ei hun hyd ddydd Iau diweddaf. Tybia y papyrau hefyd eu bod yn gweled agwedd anghyfeillgar o du y Llywodraeth Seisonig pan yn cryfhau eu llynges yn nyfr- oedd Twrci, ac yn y darpariadau y dywedir eu bod ar waith er glanio byddinoedd yn Boulair; ac ychwanegir eu bod, o dan yr amgylchiadau hyn, yn amheu hawl Lleegr i gael hysbysrwydd llawn ar unwaith o'r telerau heddwch. Gallasai arddefod wahardd trosglwyddiad testun y Cytundeb i'n Llyw- odraeth ni, neu yr eiddo Awstria, hyd nes y buasai wedi ei osod gerbron Ymerawdwr Rwssia, ond pa ddaioni a all ddeilliaw o ym- gadw at ddefodau a sefyll ar ffurfiau awr yn h*y nag sydd angenrheidioll Y ffordd sicraf yn bresenol i sefydlu perthynasau cyfeillgar pur, neu o leiaf i ochel cyfnewidiad er gwaeth, ydyw prysuro i osod yr holl delerau hediwch gerbron y byd. Er pobpeth, os yw y Gynadledd i fod yn rhywbeth gwirioneddol, nl8 gellir lledgelu dim ynoj rhaid i Rwssia a Thwrci roddi o'r neilldu eu dirgelwch, a chydsynio i osod holl gyfamodau eu cytundeb getbron y Galluoedd a ymgynullant ynddi.

[No title]

[No title]