Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
I Y CYNWYSIAD.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
I Y CYNWYSIAD. ^"Wythnos 1 Llaneffro 2 AryDaith 3 y Senedd Ymerodrol 4 Jjlundain 5 Newyddion Oymreig 6 Barddoniaeth 7 Amcangyfrifon y Llynges 8 Itwssia yn Nyddiau Nicholas 9 Gohebiaethau 10,11 Marwolaethau 12 Hyabysiadau. 13-16
[No title]
News
Cite
Share
• Dygwyd y Parch. Mr. Dodwell gerbron y Ventral Criminal Court, dydd Gwener, i Befyll ei brawf ar y cyhuddiad o danio llaw- ddryll at Syr George J essel, Meistr y Rholiau, ,R.yda'r amcan o fyned a'i fywyd ymaith. Fodd bynag, bu y rheithwyr yn lied dyner • jWrtho, oblegid yr oeddynt yn barnu nad Pedd y liawddryll wedi ei lwytho a dim sunsai yn cymeryd ymaith fywyd, nac yn gwneud niwaid difrifol i'r corff. Profwyd ef, gan hyny, am ymosodiad cyffredin. Ar J cyntaf, dadleuai ei ddieuogrwydd; a phan yr aeth yn rhy ddiweddar, dymunai dynu hyny yn ol. Yn y diwedd cafodd y rheith- 1Vyr ef yn euog o ymosod, ond nad oedd efe yn gyfrifol am ei weithredoedd, yr hyn sydd yr an peth a dweyd ei fod yn ddieuog ar gyfrif gwallgofrwydd, a gorchymvnwyd iddo gael ei gadw mewn dalfa hyd nes y barnai ei Mawrhydi yn briodol ei ryddhau. Yr unig gwestiynau ar ba rai y gallasai y rheithwyr fod mewn ambeuaeth yd oedd, yn nghylch bwriad y sarcharor, a'i sefyllfa feddyliol. Am y cyntaf daethant i benderfyniad yn ei fiafr. Ni welwyd bwled nac 61 bwled yn agos i Lys y Rholiau, ac ni chaed dim o'r fath yn ei feddiant; fel y credid, yn unol a'i gyfaddefiad, nad oedd y liawddryll yn cynwys dim heblaw pylor a phapyr. Cawsant allan yn nesaf nad ydoedd yn gyfrifol am ei weith- redoedd— eifod wedi myned ynaberth i un o'r f tudoliaethau mwyaf cyffredin-i synied fod pawb yn ymgyngreirio mewn cydtwriad yn .ei erbyn. Yr oedd efe, druan, wedi bod yn auffortunus, ac nid ydoedd yn alluog i achub el hun oddiwrth y diweddglo fod ei holl anffodion yn dynodi penderfyniad, yn enwedig da y Barnwyr, i'w amddifadu ef o'i hawl- .nir, h.> <'■ P/X
[No title]
News
Cite
Share
Un o'r anhawsderau mwyaf difrifol yn uglyn a chwestiwn y Dwyrain y foment bresenol ydyw gwaith Rwssia yn gwrthod eaniataa i Groeg fyned i'r Gynadledd. Y oaae yr adroddiad hwn wedi dyfod o Athen, a gwneir ef yn y dull mwyaf penderfynol, ac nid Ydyw heb ryw fath o sail, fel y mae yo eglur oddiwrth y ffaith fod Canghellydd y Syllty, y noson o'r blaen yn y Ty, yn anallu- og i wada y peth yn benderfynol, ac y dymunai i'r cwestiwn gael ei ohjrio. Efallai y bydd i'r anhawsder a gyfodir gael el seilio ar y ffaith fod y gynadledd gynygiedig i fod yn gynadledd o'r Gallnoedd oedd wedi arwyddnodi Cytundeb 1856. Ond yn 1856 yr oedd anhawsder cyffelyb yn cael ei gyfodi gan Awstria 'mewn perthynas i oliyngiad Sardinia i'r gynadledd hdno; ond er gwaethaf y gwrthwynebiad, Sardinia a orfu, a gwyr yr holl fyd gyda pha ganlyniadau. Mynegir yn bresenol nad yw Rwssia yn gwrthwynebu Groeg yn hollol, neu yn ddiamodol, ond yn unig ar y tir y bydd Roumania a Servia yn cael en cau allan. Can belled ag y mae a fyno Lloegr, nid oes gaoddi hi un rheswm safadwy i wrthwynebu gollwng i fewn un o'r teyrnasoedd bychain y bydd a fynont i'r hyn a drafodir yno. Byddai Roumania a Servia yn ddiamheu yn llawen o gael caniatad i fyned i'r Gynadledd, a byddai presenoldeb y flaenaf yn gymaint o anghyfleuadra i Rwssia a phresenoldeb Groeg.
[No title]
News
Cite
Share
Ycbydig lonyddwch sydd i Mr. GladFtone y dyddiau hyn am na b'ai yn penderfynu dros ba le y saif efe fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Gwyr ein darllenwyr ei fod wedi rhoddi rhybudd prydlon i ymgilio o gynrych- jolaeth Greenwich, a rhyfedd gynifer o leoedd sydd yn awyddu am yr anrhydedd a'r fraint o'i gael i sefyll fel eu cynrychiolydd yn y dyfodol. Yn mblith y lluaws, y mae Leeds wedi ei llanw ag aiddgarwch pryderus ar y pen hwn. Cynaliwyd cyfarfod o'r Liberal Four Hundred yno nos Wener i wrando y chwech ymgeisydd oedd wedi eu henwi, ac i ethol un fel yr ail Ryddfrydwr dros y Fwrdeisdref yn yr etboliad nesaf. Cynyg- iodd Syr Andrew Fairbaim benderfyniad, yr hwn a eiliwyd gan y Maer, ac a gefnogid gan Alderman Tatbam, yr oil o ba rai ydynt ymgeiswyr, yn enwi yn unfrydol, ac yn ymwystlo i'r pwyllgor y cefnogid, y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone fel un o'r ddau ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad nesaf. Ymrwyment hefyd na cha'i yr ethol- iad ei daflu ef i unrhyw draul nac ymdrech personol; ac yn mbellacb, os derbyniai Mr. Gladstone yr eisteddle, na ddysgwylid iddo gyflawni unrhyw ddyledswyddau lleol. Pen- odwyd dirprwyaeth i ymweled a Mr. Glad- stone.
[No title]
News
Cite
Share
Cadarnhawyd y Cytundeb Heddweh gan Alexander, Ymerawdwr Rwssia, yn St. Peteraburgh, y Sul diweddaf. Mynega gohebydd y Daily News yn y brifddinas h6no, fod y newyddiaduron Rwssiaidd yn amlygu syndod fod y Weinyddiaeth Seisonig yn gallu dysgwyl cael hysbysrwydd am y telerau cyn hyn, y rhai na ddygwyd i St. Petersburg ei hun hyd ddydd Iau diweddaf. Tybia y papyrau hefyd eu bod yn gweled agwedd anghyfeillgar o du y Llywodraeth Seisonig pan yn cryfhau eu llynges yn nyfr- oedd Twrci, ac yn y darpariadau y dywedir eu bod ar waith er glanio byddinoedd yn Boulair; ac ychwanegir eu bod, o dan yr amgylchiadau hyn, yn amheu hawl Lleegr i gael hysbysrwydd llawn ar unwaith o'r telerau heddwch. Gallasai arddefod wahardd trosglwyddiad testun y Cytundeb i'n Llyw- odraeth ni, neu yr eiddo Awstria, hyd nes y buasai wedi ei osod gerbron Ymerawdwr Rwssia, ond pa ddaioni a all ddeilliaw o ym- gadw at ddefodau a sefyll ar ffurfiau awr yn h*y nag sydd angenrheidioll Y ffordd sicraf yn bresenol i sefydlu perthynasau cyfeillgar pur, neu o leiaf i ochel cyfnewidiad er gwaeth, ydyw prysuro i osod yr holl delerau hediwch gerbron y byd. Er pobpeth, os yw y Gynadledd i fod yn rhywbeth gwirioneddol, nl8 gellir lledgelu dim ynoj rhaid i Rwssia a Thwrci roddi o'r neilldu eu dirgelwch, a chydsynio i osod holl gyfamodau eu cytundeb getbron y Galluoedd a ymgynullant ynddi.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae engraifft etc wedi ei chael yn ein hymyl o'r anhawsderau sydd i'w cyfarfod yn barhaus mewn cysylltiad k chladdu yn- y myntwentydd plwyfol. Yn Abergele, sir Ddinbych, yr wytbnos ddiweddaf, yr oedd gweddillion gwraig dlawd i gael eu claddu. Darllenwyd cyfran o'r ysgrythyr ac offrym- wyd gweddi wrth y ty gan y Parch. W. Roberts, gweinidog y Trefnyidion Calfinaidd. Ond wedi i'r claddedigaeth gyrhaedd y fynwent, nid oedd yno nafioer na churad i wasanaethu ar yr achlysur. Wedi i'r cyfeillion fod yno yn dysgwyl am haner awr, a hyny yn ofer, rheddwyd y corff yn y bedd. Ymataliodd Mr. Roberts, gwein- idog y drancedig, rhag cyflaWti unrhyw wasanaeth yn mhellach, ond oflrymwyd gweddi, gan aelod o'r eglwys y perthynai yr hen chwaer iddi. Y mae yr ymddygiad wedi achlysaro llawer o siarad yn yr ardal, a dy- wedir ei fod yn bresenol yn destun ymchwil- iad yr esgob. Os mai camddealltwriaeth rhwng y ficer a'i gurad a barodd hyn, y mae yr ymneillduwyr yn edrych arno yn waradwydd a chywjlydd fod y gyfraith yn caniatau y posiblrwydd o'r fath beth. < '.1'.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y newyddion o America yn ein hyebyBu fod Mesur yr Arian wedi pasio trwy y Senedd yn ei ffurf ddiwygedig er Chwefror 16, trwy 48 o bleidleisiau yn erbyn 21; a phasiwyd ef yn yr un ffurf gan y Ty Chwefror 21, trwy 204 o bleidleisiau yn erbyn 72. An fonwyd ef at yr Arlywydd Chwefror 25, ac ar ol ymgynghori a'i Weinyddiaeth, y rhai y dywedir eu bod yn rhanedig yn eu barn ar y mesur, dychwelodd ef ar yr 2Sain, i'r Ty lie y cybwynwyd ef, gyda datganiad o'i resymau am ei arwyddnudiad. Yna pasiwyd ef yn union, heb ychwaneg o ddadleu, dros ben gwrtheb yr Arlywydd, trwy 196 yn erbyn 73, a throsglwyddwyd ef ar unwaith i'r Sen- edd.Me befyd y pasiwyd ettfWy 46 o bleidleis- iau yn erbyn 19. Yr oedd v mwyafrif yn fwy na'r ddwy ran ° dair gofynol, fel y mae y mesur bwn, yr ymdriniwyd cymaint arno, erbyn hyn yn gyfraith.